Eitem Rhaglen

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg - Adeiladu Ysgol Uwchradd Newydd Posib yn Ardal Caergybi

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn gofyn am farn y pwyllgor ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed a chynnal ymgynghoriad statudol i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad a'r cynnig fel persbectif cyffrous i Gaergybi a'r Ynys.  Tynnodd sylw at gyflwr adeilad Ysgol Uwchradd Caergybi. Er ei fod yn weithredol, mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig. Mae’r ffaith bod RAAC mewn llawer o adeiladau'r ysgol yn golygu bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr. Er bod gwaith adfer wedi'i wneud i sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel, mae datrysiad hirdymor yn hanfodol. Mae'r papur cynnig yn cyflwyno canlyniadau’r gwaith a wnaed i edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi ac mae wedi’i ysgrifennu yn unol â disgwyliadau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (011/2018).  O ystyried bod y gofynion ar ysgolion wedi datblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ystyrir mai’r cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd yw’r ateb mwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgol. Felly, gofynnir i'r pwyllgor gefnogi'r cynnig a dechrau ymgynghoriad statudol ar y mater.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc drosolwg o'r papur cynnig gan gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i wella ysgolion a chreu amgylcheddau dysgu modern sy'n cefnogi cymunedau a'r Gymraeg. Mae'r cynnig yn cynnwys adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i ysgol newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr rhwng 11-18 oed gyda lle i 900 o ddisgyblion. Wrth ddatblygu'r cynnig, ystyriodd y Cyngor nifer o ffactorau fel yr amlinellir yn y papur a'r prif ffactor sy’n sbarduno’r cynnig yw cyflwr yr adeilad presennol - wedi'i ddosbarthu fel Gradd C (gweithredol ond mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig). Mae'r costau cynnal a chadw presennol a'r rhai a ragwelir ar gyfer adeilad presennol yr ysgol yn y dyfodol yn dod i swm o bron £29m. Er bod amrywiaeth o opsiynau eraill ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi wedi'u hystyried, fel y manylir yn adran 6 o'r adroddiad, adleoli dysgwyr yr ysgol i ysgol bwrpasol newydd ar gyfer plant 11-18 oed yw'r opsiwn a ffefrir. Mae'r goblygiadau o ran cost wedi'u nodi yn adran 7 o'r adroddiad.

 

Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y cynnig fel cyfle i sefydlu ysgol fodern, addas i'r diben gan fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Ysgol Uwchradd Caergybi, yn enwedig problem RAAC. Yn ogystal â hyn, mae gan y cynnig y potensial i sicrhau arbedion hirdymor o ran costau atgyweirio a chynnal a chadw dros y 25 mlynedd nesaf. Mae hefyd yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Amlinellol Strategol. O dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig, ystyrir adleoli ysgol i safle mwy na milltir i ffwrdd o'r safle presennol yn newid rheoledig. Mae hyn yn gofyn am broses statudol i gasglu ac ystyried barn dysgwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad terfynol. Gofynnir i'r pwyllgor gefnogi'r cam arfaethedig hwn.

Croesawodd y pwyllgor yr adeilad newydd arfaethedig ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi fel datblygiad cyffrous ac yn y drafodaeth ddilynol ar y papur cynnig codwyd y materion canlynol –

 

·      Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod y papur cynnig yn cydymffurfio'n llawn â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (011/208).

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglenni Corfforaethol fod y papur cynnig wedi'i ddrafftio yn unol â gofynion y Cod sy'n nodi'n glir ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnwys a dywedodd ei fod yn hyderus ei fod yn cydymffurfio. Yn ogystal â hyn, mae'r papur cynnig wedi cael ei adolygu gan gynghorwyr cyfreithiol allanol ac mae eu mewnbwn yn cael ei adlewyrchu yn y ddogfen derfynol.

 

·      Holodd yr Aelodau am yr heriau a'r risgiau posibl o beidio â gweithredu'r cynnig ac a yw Swyddogion yn fodlon ei fod yn bodloni anghenion addysg uwchradd yn awr ac yn y dyfodol yn ardal Caergybi. Y gobaith oedd y gallai'r cynllun gael ei gwblhau cyn 2030, pe bai'n cael ei gymeradwyo.

 

Cydnabu Arweinydd y Cyngor mai un o'r prif heriau oedd cwblhau'r dogfennau yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig a gofynion Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd bwysigrwydd sefydlu ysgol uwchradd o ansawdd uchel i Gaergybi a sicrhaodd y pwyllgor, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys demograffeg a data cofrestru disgyblion ysgolion cynradd, fod y Pwyllgor Gwaith yn hyderus bod y cynnig yn diwallu anghenion addysg uwchradd yn awr ac yn y dyfodol yng Nghaergybi. Cadarnhaodd hefyd fod y gwaith sy'n sail i'r cynnig yn gadarn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y gwaith paratoi wedi bod yn drylwyr. Nododd, er bod Arweinydd y Cyngor wedi trafod y posibilrwydd o fyrhau'r broses gyda'r Gweinidog Addysg, nid oedd hyn yn ymarferol. Sicrhaodd y pwyllgor fod y Cyngor yn symud ymlaen mor gyflym â phosibl o fewn y canllawiau - nid yn unig i gyflymu'r broses ond hefyd i leihau'r risg y bydd yr ysgol yn dirywio ymhellach, er gwaethaf y gwaith sylweddol a wnaed i sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel. 

 

·      Ceisiodd yr aelodau sicrwydd fod hwn yn gynnig yn fforddiadwy a holwyd a oedd cyllideb wrth gefn pe nai’r broses yn para mwy na'r pum mlynedd a ragwelir. Hefyd holwyd ynghylch caffael tir a hyder y Cyngor o ran diogelu'r safle a nodwyd.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau parhaus i gaffael y tir, gan nodi bod sawl safle yn cael eu hystyried i ymateb i'r her o sicrhau’r tir sydd ei angen ar gyfer ysgol uwchradd newydd (19 erw yn fras). Eglurodd mai £65.9m yw cost y cynnig heb gynnwys caffael tir. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod amcangyfrifon costau yn cyd-fynd â chanllawiau a ffigurau Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys cronfeydd wrth gefn. Mae'r costau'n dibynnu p’un ai a yw'r cynllun yn dilyn y llwybr cyllido cyfalaf neu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) lle mae partneriaid preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r partner preifat, a fydd yn talu am gost adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu’r prosiect. Ar ddiwedd y contract mae'r ased yn trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus. O dan MIM, byddai'r Cyngor yn talu ffi sefydlog i'r partner preifat am ddefnyddio'r ysgol dros 25 mlynedd, a thrwy hynny’n symud y risgiau o ran cost i'r partner preifat. O safbwynt fforddiadwyedd, cydnabu Swyddog Adran 151 fod y cynnig yn fuddsoddiad mawr. Mae'r ddau lwybr cyllido yn golygu y bydd costau ychwanegol – tua £1m bob blwyddyn ar gyfer MIM a swm tebyg ar gyfer ad-dalu benthyciad o dan gyllid cyfalaf. Mae gwahaniaeth rhyngddynt o ran y cyfnodau ad-dalu: 25 mlynedd ar gyfer y contract MIM a 60 mlynedd ar gyfer benthyciad cyfalaf. Pe bai'r Cyngor yn penderfynu cynnal y status quo, byddai adnewyddu adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi yn gofyn am fuddsoddiad o tua £30m, a fyddai’n cael ei fenthyca dros dymor byrrach o 20 mlynedd oherwydd oed yr adeilad, sy'n costio rhwng £1.4m a £2.3m y flwyddyn. Fodd bynnag, byddai ysgol newydd yn lleihau costau cynnal a chadw a gallai ddenu disgyblion a fyddai fel arall yn dewis mynychu ysgolion ar y tir mawr. Byddai hyn yn arwain at well setliad cyllido i'r Cyngor a fyddai'n helpu i gyfrannu at y costau ychwanegol. At hyn, cadarnhaodd Swyddog Adran 151 ymhellach nad yw cyfraniad cylliold Llywodraeth Cymru yn cynnwys costau caffael tir ar gyfer ysgolion newydd.

 

·      Cododd yr aelodau bryderon am effaith bosibl safle mor fawr ar ddarpariaeth arall y gallai fod angen ei ariannu yn y dyfodol ar safle arall.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gofyniad o ran tir yn cyd-fynd â'r canllawiau ar gyfer maint yr ysgol arfaethedig. Er bod cyfleoedd i integreiddio yn bosibl, mae angen asesiad pellach i bennu dichonoldeb, manteision a chostau sy'n debygol o ychwanegu at y gost gyffredinol.  Nid yw'r cynnig yn golygu unrhyw ostyngiad mewn lefel gwasanaeth neu ddarpariaeth.

 

·      Gofynnodd aelodau p’un ai a oedd costau ailddatblygu ar gyfer y safle ysgol presennol wedi'u hystyried ac a ellid ei ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod y safle yn werth oddeutu £700k a fyddai'n cyfrannu tuag at gost adeiladu'r ysgol newydd. O dan brotocol y Cyngor, mae adeiladau ysgol a gaiff eu dadgomisiynu yn cael eu trosglwyddo i'r Adran Eiddo a'u cynnig i adrannau eraill y Cyngor i ddechrau. Byddai'r Gwasanaeth Tai yn asesu a yw’n addas ar gyfer tai cymdeithasol yn seiliedig ar yr angen lleol am safle o'r maint hwnnw. Os nad oes unrhyw adran yn mynegi diddordeb, byddai'r safle yn cael ei roi ar y farchnad. Nododd y Prif Weithredwr, os yw'r broses ymgynghori statudol yn arwain at ysgol newydd, mae'r amserlen bum mlynedd yn caniatáu i ddyfodol y safle gael ei werthuso fel rhan o lunio cynllun datblygu lleol newydd, gan asesu'r anghenion tai yng Nghaergybi a dosbarthu'r safle dros y deng mlynedd ar hugain nesaf.

 

·      Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y bydd y cynnig yn helpu'r Cyngor i gyflawni'r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg.

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod adran 4 o'r papur cynnig yn amlinellu sut mae'r cynnig yn mynd i'r afael â gwahanol agweddau strategol. Byddai gweithredu'r cynnig yn cefnogi'r duedd barhaus o welliant yn erbyn canlyniadau 3 i 7 o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau pellach am gapasiti, roedd yn hyderus, ar sail y dadansoddiad o’r duedd ddemograffig a wnaed, y gall maint yr ysgol arfaethedig fodloni'r galw hyd yn oed os yw mwy na'r ganran bresennol o 57.5% o ddisgyblion y dalgylch yn dymuno mynychu.

 

·      Cwestiynodd aelodau a fyddai'r ysgol uwchradd newydd arfaethedig yn cael effaith ar ysgolion uwchradd eraill.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y cynnig yn golygu adleoli adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd yn hytrach na sefydlu ysgol newydd. Er y gall rhieni ddewis ysgol eu plentyn, mae derbyn disgyblion yn dibynnu ar feini prawf a niferoedd y plant a dderbynnir gan bob ysgol.

 

·      Holodd aelodau hefyd am effaith safle arfaethedig yr ysgol ar drafnidiaeth.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod trefniadau teithio wedi’u cynnwys yn adran 4.12 o'r papur cynnig. Os derbynnir y cynnig, bydd cynlluniau teithio llesol yn cael eu hadolygu a'u paratoi yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 unwaith y bydd y safle newydd wedi'i ddewis.

 

·      Cododd Aelodau Lleol bryderon ynglŷn â dyfodol caeau chwarae Millbank pe bai Ysgol Uwchradd Caergybi yn symud i safle newydd. Holwyd hefyd a ellid neilltuo rhan o safle presennol yr ysgol i wella cyfleusterau parcio yn Ysgol Cybi.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall bod safle Ysgol Uwchradd Caergybi yn cynnwys y tir lle mae adeilad yr ysgol wedi'i leoli a'r cae chwarae a bod yr olaf yn cael ei ddiogelu gan gyfamod sy'n gofyn am broses gyfreithiol ar wahân a chyfiawnhad am unrhyw newidiadau. Os caiff y cynnig ei weithredu, bydd angen mynd i'r afael â chynaliadwyedd hirdymor y cae chwarae, naill ai gyda chyfranogiad y Cyngor neu drwy grŵp buddiannau cymunedol neu fenter gymdeithasol annibynnol. Pwysleisiodd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynglŷn â'r defnydd o safle presennol yr ysgol a'r cae chwarae yn y dyfodol. Mae'r cynnig yn canolbwyntio'n unig ar y bwriad i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd ar safle arall, gydag unrhyw gynlluniau ar gyfer y safle presennol yn amodol ar broses benderfynu ar wahân ac ystyriaethau o ran defnydd tir.

 

Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben gan bwysleisio bod addysg a lles plant a phobl ifanc yn hollbwysig. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cael barn a safbwyntiau rhieni, disgyblion ac ysgolion ac yn gweithio ar y cyd â nhw i sicrhau canlyniad llwyddiannus.

 

Ar ôl adolygu’r papur cynnig yn fanwl a chynnal trafodaeth gynhwysfawr, ac ar ôl derbyn y sicrwydd a ddarparwyd ar y materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y papur cynnig a'r cynnig canlynol i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo –

 

·         "Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed", ac

·         Awdurdodi Swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad statudol angenrheidiol.

 

Dogfennau ategol: