Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Mewnol a oedd yn nodi ei gynllun archwilio ar gyfer blwyddyn archwilio 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Rhoddodd Rachel Freitag, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru drosolwg o’r archwiliad arfaethedig o ddatganiadau ariannol ar gyfer 2024/25 yn cynnwys lefelau perthnasedd, risgiau archwilio ariannol sylweddol a’r ymateb arfaethedig. Amlygwyd yr amserlen archwilio a chyflawniadau gyda’r nod o allu cyhoeddi barn yr archwilydd ac ardystio’r cyfrifon erbyn diwedd Hydref 2025, fis yn gynharach na’r flwyddyn flaenorol fel rhan o’r uchelgais i adfer yr amserlen archwilio a oedd yn bodoli cyn y pandemig.
Amlinellodd Carwyn Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru y gwaith archwilio perfformiad arfaethedig sy’n canolbwyntio ar adolygu trefniadau’r Cyngor ar gyfer sicrhau gwerth am arian a chydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Eglurodd sail y ffioedd archwilio ar gyfer y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad ar gyfer 2024/25.
Codwyd y materion uchod gan aelodau’r pwyllgor yn gysylltiedig â’r cynllun archwilio allanol -
· Roedd y ffi archwilio yn cael ei ystyried yn uchel a awgrymwyd y gellid dod o hyd i bris mwy cystadleuol pe byddai’r Cyngor yn cael mynd allan i’r farchnad. Argymhellwyd bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Aelod Portffolio Cyllid yn trafod y ffi gyda’r archwilwyr.
· Holodd aelodau’r pwyllgor p’un a oes cydweithrediad rhwng archwilio mewnol ac allanol wrth ddatblygu eu cynlluniau unigol a nodwyd bod dyblygu’n bosib yn gysylltiedig â TG.
· Holwyd ynglyn â’r gwaith archwilio perfformiad o ran cydymffurfiaeth y Cyngor â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi mynegi ei siomedigaeth gyda’r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru o dan y Ddeddf ac mae wedi gofyn am adolygiad gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd felly bod y gwaith hwn yn gynamserol ac y dylid ei ohirio hyd nes y bydd yr adolygiad hwn wedi cael ei gynnal.
· Mynegwyd pryder hefyd ynglyn â chosbau Llywodraeth Cymru ar gyfer methu â chwrdd â’r targedau ailgylchu. Amlygwyd y dylai cynghorau sydd wedi dioddef blynyddoedd o lymder allu cadw eu hadnoddau yn enwedig, fel yn achos y Cyngor hwn, os yw eu cyfraddau ailgylchu’n agos at y targed. Awgrymwyd y dylai’r aelod portffolio ystyried codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru.
· Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw un o’r asesiadau yn gysylltiedig â gwerth am arian yn mesur cynhyrchiant.
Fe wnaeth yr archwilwyr ymateb i’r materion a godwyd fel a ganlyn -
· Bod cyfle i roi barn ar y ffi archwilio a’r gwaith cysylltiedig yn flynyddol. Mae Archwilio Cymru’n gosod ei ffioedd yn unol â ffioedd ei gymheiriaid yn Lloegr lle mae diffyg capasiti yn y farchnad wedi gohirio’r gwaith o archwilio cyfrifon ac mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y ffioedd. Yn y gorffennol mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi comisiynu gwaith i gwmnïau sector preifat. Mae’r ffioedd yn cael eu goruchwylio gan fwrdd er mwyn rhoi sicrwydd i’r Archwilydd Cyffredinol bod y gwaith yn sicrhau gwerth am arian.
· Cadarnhawyd bod archwilio allanol wedi ymgynghori ag adran TG y Cyngor ynglyn â’r gwaith arfaethedig. Mae’n rhaid i rai elfennau yn gysylltiedig â’r gwaith archwilio ariannol, megis archwilio systemau, gael eu cynnal yn flynyddol yn unol â’r safonau archwilio. Cynhaliwyd cyfarfod gyda swyddogion TG i drafod y pwysau o ran yr amserlen ac i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynllunio fel bod yr amserlen yn gyfleus i bawb. Gwnaed pob ymdrech i gwrdd ag anghenion y Cyngor yn gysylltiedig â’r amserlen a chwmpas y gwaith.
· Bod y crynodeb o’r adolygiad arfaethedig yn gysylltiedig ag ailgylchu a rheoli gwastraff o fewn y Cyngor yn nodi’r ffactorau a all gynyddu’r risg o fethu â sicrhau gwerth am arian. Mae’n bosib y bydd yr archwiliad manwl, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, yn nodi canlyniadau positif yn gysylltiedig â gwasanaethau ailgylchu a rheoli gwastraff y Cyngor.
· Bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymri) 2015 yn mynnu bod yr Archwilydd Cyffredinol yn adolygu cyrff cyhoeddus o leiaf unwaith o fewn cyfnod penodol er mwyn asesu eu cydymffurfiaeth â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd yr archwilwyr hefyd yn ystyried p’un yw’r Cyngor yn rhoi dull hir dymor ac ataliol ar waith wrth asesu ei drefniadau gwerth am arian.
· Mai cyfrifoldeb yr archwilwyr yw sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau ar waith i sicrhau gwerth am arian, yn benodol ei fod yn cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd gyda’r adnoddau a ddyrannwyd ac yn nodi unrhyw rwystrau. Er nad yw cynhyrchiant yn rhan o’r fframwaith gwerth am arian ar hyn o bryd, os ydi’r pwyllgor o’r farn ei fod yn fesurydd pwysig, efallai byddai’n well ei fesur drwy’r cerdyn sgorio cytbwys.
Penderfynwyd nodi cynllun archwilio manwl yr archwilwyr allanol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025.
Dogfennau ategol: