Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad fel un o adroddiadau mwyaf allweddol y flwyddyn, gan roi ei barn ar briodoldeb ac effeithlonrwydd fframwaith lywodraethu’r Cyngor, sut mae’n rheoli risg a rheolaeth yn ystod y flwyddyn. Roedd gan y Cyngor, yn ei barn hi, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer y meysydd hyn yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025. Er nad oedd yn credu bod unrhyw feysydd o bryder corfforaethol sylweddol, mae angen cyflwyno neu wella rheolaethau mewnol mewn rhai meysydd i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni, a’u bod yn cael eu monitro. Nid oes unrhyw amodau ar y farn hon.
Nododd y Pennaeth Archwilio a Risg bod ei hasesiad yn seiliedig ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yr adolygiad o risgiau strategol y Cyngor. Mae’r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi cwrdd â’i nod, sef archwilio 80% o’r risgiau strategol coch ac ambr yn ystod cylch dwy flynedd gan adolygu wyth risg yn 2024/25 ynghyd â deuddeg maes allweddol arall o weithgareddau’r Cyngor. Cyflawnodd y gwasanaeth Archwilio Mewnol bump o’i chwe tharged perfformiad blynyddol yn cynnwys adolygu risgiau strategol. Cydymffurfiodd y gwasanaeth Archwilio Mewnol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ogystal, ac eithrio ym maes mapio sicrwydd. Ers 1 Ebrill 2025 mae’r PSIAS wedi cael eu disodli gan Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y DU (GIAS) sy’n berthnasol i sefydliadau llywodraeth leol yn cynnwys y Cyngor, o 2025/26 ymlaen.
Codwyd y cwestiynau a ganlyn yn gysylltiedig â’r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol gan aelodau’r pwyllgor -
· Nododd y pwyllgor bod gan y Cyngor, ym marn y Pennaeth Archwilio a Risg, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risg a rheolaeth fewnol. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd bod pen draw i allu’r fframwaith hon ac mai’r rheolwyr sy’n bennaf gyfrifol am gynnal rheolaethau mewnol cadarn. Felly, mae effeithlonrwydd y system hon yn ddibynnol ar bobl yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n briodol. O’r herwydd, awgrymwyd bod y sefydliad yn gadarn cyn belled nad oes unrhyw wendidau yn y gadwyn. Holwyd p’un a yw’r Pennaeth Archwilio a Risg yn hyderus bod y fframwaith yn gadarn ac yn gallu nodi gwendidau cyn unrhyw fethiant.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod ei barn yn seiliedig ar y gwaith archwilio mewnol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys adolygu 80% o risgiau strategol y Cyngor. Yn amodol ar y gwelliannau a nodwyd, sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd, cadarnhaodd ei bod yn fodlon wrth ddarparu lefel resymol o sicrwydd ynglŷn â rheolaeth fewnol, llywodraethiant a fframwaith rheoli mewnol y Cyngor.
· Cyfeiriwyd at yr ail adolygiad Adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Mân Ddyledion a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ac at waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gysylltiedig â’r fenter twyll. Nodwyd bod aelodau’n ymwybodol bod unigolion yn osgoi talu’r premiwm ail gartrefi drwy honni mai eu hail gartref yw eu prif gartref. O ganlyniad, holodd y pwyllgor a oes modd i’r gwasanaeth Archwilio Mewnol gynnal adolygiad i weld sut mae tystiolaeth ffug yn cael ei chyflwyno i osgoi talu ac argymell mesurau i gau unrhyw fylchau/meysydd gwan.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn adolygu’r maes hwn yn rheolaidd gan ddefnyddio’r wybodaeth a gyflwynir drwy’r offeryn adrodd am dwyll ar-lein. Mae hefyd yn cydweithio â’r Swyddog Cydymffurfiaeth Treth yn y Tîm Refeniw a Budd-daliadau i rannu gwybodaeth berthnasol er mwyn cynnal ymchwiliad pellach.
· Cyfeiriwyd at y sicrwydd cyfyngedig a roddwyd yn dilyn yr adolygiad o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r sicrwydd cyfyngedig a roddwyd yn ystod yr adolygiad dilyn i fyny. Nodwyd bod y maes Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn tanberfformio’n gyson, a bod hyn wedi’i adlewyrchu yn y cerdyn sgorio chwarterol. Er bod camau gweithredu wedi cael eu cynnig i wella perfformiad y dangosydd hwn, awgrymwyd ei bod hi’n bwysig bod Archwilio Mewnol yn amlygu’r mater hwn yn ogystal.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg y bydd ail adolygiad dilyn i fyny o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei gynnal yn ystod 2025/26 ac y bydd adroddiad y cael ei gyflwyno i’r pwyllgor.
Ar ôl ystyried yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer 2024/25 a barn y Pennaeth Archwilio a Risg, penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y crynodeb o’r gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn a’r sicrwydd a ddarparwyd
· Y farn gyffredinol, a
· Pherfformiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol, yn benodol ei gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Dogfennau ategol: