7.1 HHP/2024/169 - The Old Crown, Moelfre
7.2 HHP/2025/7 - 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi
7.3 FPL/2024/360 - Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Cofnodion:
7.1 HHP/2024/169 – Cais llawn ar gyfer codi anecs atodol yn The Old Crown, Moelfre
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, gan ei bod o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith weledol negyddol. Yn ei gyfarfod ar 7 Mai, 2025 penderfynodd y pwyllgor gynnal ymweliad safle, ac fe’i cynhaliwyd ar 21 Mai, 2025.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr annedd bresennol yn eiddo teras deulawr wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Moelfre a’i fod hefyd wedi'i leoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r cynnig yn cynnwys codi anecs atodol y tu ôl i’r annedd bresennol. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle, mae gan y safle lefelau topograffig gwahanol, felly mae'r safle ar raddiant i fyny o'r brif ffordd, a bydd yr anecs wedi'i leoli mewn safle uwch ger Lôn Tŷ Powdwr sy'n edrych dros arfordir Moelfre. Mae yna eisoes ganiatâd i godi tŷ ar yr un ôl troed â'r anecs
arfaethedig, sydd wedi ei warchod trwy gais cynllunio defnydd cyfreithlon yn 2023. Bydd yr anecs yn llai o ran maint na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae'r datblygiad arfaethedig yn dangos dyluniad o ansawdd uchel ac mae’n ategu ac yn gwella cymeriad ac edrychiad y safle. Nid yw'n cael ei ystyried y bydd y cynnig yn niweidio nodweddion arbennig y dirwedd, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, nac unrhyw eiddo cyfagos. Mae'r caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ar gyfer annedd yn cael mwy o effaith weledol ar y dirwedd o'i gymharu â'r anecs arfaethedig. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am i drefniadau parcio gael eu sicrhau oherwydd bod bwriad cael tair ystafell wely yn yr anecs. Yn sgil yr ystafelloedd gwely hyn, byddai gofyn creu tri llecyn parcio arall, yn ychwanegol at y tri presennol sydd ar gyfer y tŷ presennol a'r llety gwyliau sy'n gysylltiedig â'r safle. Er gallu dangos bod digon o le i barcio yng nghwrtil y safle, gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â defnyddioldeb y llecynnau. Cyflwynwyd dadansoddiad o symudiadau troi ceir ar y safle er mwyn lleddfu pryderon yr Awdurdod Priffyrdd, ac roedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn y dadansoddiad yn dderbyniol.
Mae Dŵr Cymru wedi gofyn am amod yn datgan na chaniateir i unrhyw ddŵr wyneb ddraenio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Yn ogystal â'r amod hwn, bydd amod arall yn cael ei weithredu fel rhan o'r penderfyniad sy'n nodi cyn dechrau'r gwaith ar y safle, bydd manylion llawn am sut y bydd dŵr wyneb yn cael ei ollwng yn y safle yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo. Nododd ymhellach mai cyfrifoldeb SAB yw materion dŵr wyneb fel arfer, fodd bynnag, gan fod Dŵr Cymru wedi gofyn yn benodol nad yw'r dŵr wyneb yn cysylltu â'r brif garthffos, mae amod wedi’i osod cyn y gellir cymeradwyo'r cais i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyflwyno cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. Er mai SAB sy’n gyfrifol am hyn, mae dŵr wyneb yn dal i fod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Ystyrir bod dyluniad cyffredinol y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â'r polisïau cynllunio perthnasol a'r argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Euryn Morris, Aelod Lleol, y byddai'n darllen sylwadau ei gyd-Aelod Lleol, y Cynghorydd Margaret M Roberts gan nad oedd hi'n gallu bod yn y cyfarfod a gan mai hi oedd yr Aelod a alwodd y cais i mewn i’r Pwyllgor ei ystyried ar ran y Cyngor Cymuned gan ei bod o'r farn y byddai'r cynnig yn cael effaith negyddol ar bentref Moelfre. Cyfeiriodd y datganiad at y ffaith bod yr adeiladau a'r Old Crown yn edrych dros y môr a'i fod yn lleoliad eiconig. Mae'n bryder bod y Cyngor yn anwybyddu pwysigrwydd adeiladau hanesyddol. Bydd yr anecs yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Mae Polisi Cynllunio AMG3, paragraff 6.5.1.3 yn berthnasol mewn perthynas â'r cais hwn. Nodwyd bod y ffyrdd sy'n arwain at y datblygiad yn gul a bydd deunyddiau adeiladu y bydd angen eu cludo i'r safle yn cael effaith negyddol ar drigolion cyfagos a byddant yn niweidio'r ffyrdd sy'n peri pryder. Mae'r Old Crown wastad wedi bod yn annedd gwyliau ac mae angen ystyried pam fod angen ail annedd ar y safle. Mae gan Foelfre ddwysedd uchel o lety gwyliau ar osod yn yr ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts i'r Pwyllgor wrthod y cais.
Wrth gyflwyno ei sylwadau ei hun, dywedodd y Cynghorydd Morris y bydd y cynnig hwn yn cael effaith sylweddol ar Lôn Tŷ Powdr sy'n anaddas ar gyfer cerbydau mawr ynghyd â symudiadau traffig ychwanegol a fydd yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol mewn perthynas â llygredd sŵn a materion yn ymwneud â diogelwch y briffordd. Nid yw’r ffordd yn ddigon llydan ar gyfer mannau pasio nac ar gyfer diogelwch cerddwyr. Roedd o'r farn bod y cynnig yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 4 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a Meini Prawf 7 polisi cynllunio PCYFF 2.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi ar gyfer annedd ar y tir, felly mae'r egwyddor o ddatblygu ar y safle wedi'i warchod. Bydd uchder canopi’r to ar yr anecs arfaethedig yn llai ac ystyrir bod y cynnig yn welliant o'r hyn sydd wedi'i gymeradwyo yn flaenorol, ac ystyrir bod y dyluniad a'r edrychiad diwygiedig yn dderbyniol o ystyried bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r safle a'r amgylchedd adeiledig. Nododd yn ystod yr ymweliad â'r safle ei bod yn amlwg bod Lôn Tŷ Powdr sy’n mynd am y safle yn ffordd gul a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i'r Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â threfniadau parcio a llefydd troi; roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am Gynllun Rheoli Adeiladu gydag amod fel rhan o'r penderfyniad i sicrhau bod cerbydau adeiladu a chludo yn cydymffurfio â'r cynllun yn effeithiol yn sgil diogelwch priffyrdd. O ystyried y gwaith adeiladu a chludo’n gysylltiedig â’r datblygiad, mae'r Awdurdod Priffyrdd o'r farn mai bach iawn fyddai’r effaith ar y ffordd gul ac mai dros dro fyddai hynny yn ystod y gwaith adeiladu. Cyfeiriodd at y sylwadau ynghylch y ffaith y bydd yr annedd ar gyfer defnydd gwyliau a nododd nad yw'n ystyriaeth gynllunio gan fod yr annedd yn ddefnydd C3 nes bod y Cyngor hwn yn mabwysiadu Erthygl 4.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, wedi galw'r cais i mewn i'w ystyried gan y Pwyllgor oherwydd pryderon Cyngor Cymuned Llanallgo. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi nad oedd unrhyw sylwadau gan y Cyngor Cymuned. Dywedodd fod angen i bob Cyngor Tref / Cymuned fod yn ymwybodol bod ganddynt hawl i wneud sylwadau ar unrhyw gais cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan fod caniatâd cynllunio ar y safle eisoes.
Eiliodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y cynnig i gymeradwyo'r cais.
7.2 HHP/2025/7 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi balconi yn 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon am yr effaith ar amwynder preswyl a'i fod yn tarfu ar breifatrwydd i eiddo cyfagos. Yn ei gyfarfod ar 7 Mai, 2025 penderfynodd y pwyllgor gynnal ymweliad safle, ac fe’i cynhaliwyd ar 21 Mai, 2025.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r estyniad deulawr gyda tho fflat a balconi ar ddrychiad cefn yr estyniad. Yn wreiddiol, roedd bwriad i osod gwydr aneglur 1.8m o uchder i sicrhau preifatrwydd rhyngddo ag eiddo cyfagos 40 Parc Tyddyn Bach. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig sy’n cynnwys gwydr aneglur ar flaen y balconi a ffens bren newydd 1.8m o uchder ar hyd y ffin gefn a phaneli rhwng ffin yr annedd bresennol ac eiddo cyfagos 40 Parc Tyddyn Bach. Tra bod y cynnig yn cydymffurfio â'r pellteroedd sy'n ofynnol yn y Canllawiau Cynllunio Atodol, mae'r cynlluniau diwygiedig yn cael eu hystyried yn welliant ac yn mynd i'r afael â phryderon yr Aelodau pan ymwelwyd â'r safle. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes, Aelod Lleol ei fod yn dal o'r farn ei fod yn tarfu ar breifatrwydd yr eiddo cyfagos. Mae trafodaethau wedi'u cynnal rhwng y ddau barti dan sylw mewn perthynas â'r balconi ac mae'r ymgeisydd wedi cytuno i osod gwydr aneglur ar flaen y balconi. Dywedodd y byddai'n ymatal rhag pleidleisio ar y cais.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi mynd i'r afael â phryderon perchennog yr eiddo cyfagos trwy osod gwydr aneglur ar flaen y balconi ynghyd â chodi uchder y ffens i 1.8m., sy'n cael ei ystyried yn welliant.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Aelod Lleol ei fod o'r farn y bydd y cais hwn yn tarfu ar yr eiddo cyfagos. Cynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Ni chafodd y cynnig hwn ei eilio.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i’w gymeradwyo.
Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ymatal rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
7.3 FPL/2024/360 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol a chodi annedd newydd yn ei le ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol, gosod cyfleuster trin carthion a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa
(Bu i’r Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a gan fod y Cyngor yn gyfrifol am y lôn fynediad sy'n arwain o'r B4422 i'r safle. Yn ei gyfarfod ar 7 Mai, 2025 penderfynodd y pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais oedd bod y dyluniad arfaethedig yn llai o ran graddfa na'r cais a wrthodwyd yn flaenorol ac y byddai’n integreiddio i'r ardal gyfagos a byddai'n fwy buddiol dymchwel yr eiddo nac adfer hen dŷ a’i godi i safonau heddiw a byddai'r annedd arfaethedig yn darparu cartref i deulu lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Meini Prawf 7 polisi cynllunio TAI 13 yn nodi - y tu allan i ffiniau datblygu, dylai gosodiad a dyluniad y datblygiad newydd cyfan fod o faint a graddfa debyg ac ni ddylai greu effaith weledol sy’n sylweddol fwy na’r adeilad presennol, fel y gall ymdoddi neu integreiddio’n ddigonol i mewn i’r
dirwedd. Mae paragraff 14.2 o'r Canllawiau Cynllunio Atodol yn nodi na ddylai anheddau newydd fod yn fwy na 20% o arwynebedd llawr yr uned wreiddiol, fodd bynnag, gwerthfawrogir mai canllaw yw’r ffigur hwn, a bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cymeradwyo a cholli apeliadau ar gyfer anheddau mwy. Roedd y cais a wrthodwyd gan y Pwyllgor hwn ym mis Chwefror 2024 yn cynnig cynnydd o 295% mewn arwynebedd llawr, tra bod y cais hwn yn cynnig cynnydd o 198.6% mewn arwynebedd llawr. Er ei fod yn llai o faint na’r cais a wrthodwyd yn flaenorol, mae’n dal yn gynnydd sylweddol i arwynebedd y llawr ac yn cael ei ystyried yn ddyhead am dŷ mwy. Byddai'r annedd newydd hefyd yn hirach, lletach ac uwch o lawer na’r adeilad presennol. Mae gan yr adeilad presennol ddyluniad syml, yn cynnwys to crib a waliau wedi’u chwipio â gro ac nid yw’n nodwedd amlwg o’r dirwedd. Gyda chynnydd o rhwng 1.8m a 2.8m mewn uchder ynghyd â’r cynnydd mewn hyd a lled bydd maint a graddfa’r adeilad newydd yn fwy o lawer na’r adeilad presennol. Mae gorffeniad arfaethedig yr adeilad yn cynnwys cladin carreg leol, drysau a ffenestri
du a chladin metel ar y waliau a’r to. Mae’r cynnydd ym maint yr adeilad a’i ddyluniad amlwg yn golygu na fydd yn diogelu ei leoliad mewn ardal wledig agored, yn groes i bolisi PCYFF 3. Er y gellir codi annedd mwy modern a chynaliadwy wrth godi annedd newydd, rhaid i’r ymgeisydd ddangos nad oes posib cadw’r adeilad presennol drwy ei adnewyddu neu ei ymestyn a/neu nad yw atgyweirio'r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd. Nododd ei fod wedi esbonio yn y cyfarfod diwethaf nad yw'n ymddangos bod unrhyw gymhariaeth rhwng yr adroddiad strwythurol a gyflwynwyd a'r costau adeiladu. Dylai’r adroddiad strwythurol gynnwys argymhellion, a dylai’r gymhariaeth costau gynnwys y gost o
gyflawni’r argymhellion hynny. Ystyrir nad oes digon o dystiolaeth wedi'i darparu i ddangos nad yw'r annedd bresennol yn gallu cael ei chadw trwy adnewyddu a chodi estyniad, ac nid yw wedi cael ei ddangos nad yw atgyweirio'r adeilad presennol yn economaidd ymarferol. Felly, ystyrir bod y cynnig yn groes i feini prawf 4 polisi cynllunio TAI 13.
At hyn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw darparu cartref i deulu lleol yn ystyriaeth cynllunio o bwys. Y brif ystyriaeth gynllunio ar gyfer y cais hwn yw nad yw'r annedd newydd yn dderbyniol o ran graddfa a dyluniad ac nad yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAI 13. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais gan ei fod yn groes i feini prawf 4 a 7 o TAI 13.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol, mai cais yw hwn ar gyfer dymchwel hen ffermdy nad oes ganddo werth pensaernïol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion y teulu sy'n dymuno byw yn lleol yn eu cymuned a defnyddio gwasanaethau yn y cyffiniau yr oedd hi'n eu hystyried yn ystyriaethau perthnasol gan y bydd o fudd i'r ardal yn economaidd gan fod y teulu wedi cyflogi pobl leol ers blynyddoedd yn y busnes teuluol. Bwriad yr ymgeiswyr yw defnyddio cwmni a busnesau lleol i adeiladu'r annedd arfaethedig. Cyfeiriodd at y Canllawiau Cynllunio Atodol sy'n nodi na ddylai anheddau newydd fod yn fwy na 20% o arwynebedd llawr yr uned wreiddiol, fodd bynnag, rhaid ystyried mai canllaw yw’r ffigur hwn, ac mae'r Awdurdod Cynllunio wedi argymell cymeradwyo rhai ceisiadau sy'n fwy na'r meini prawf penodedig yn y gorffennol. Mae'r ymgeiswyr wedi cael trafodaeth gyda'r Swyddog Cynllunio i ddod i gyfaddawd er mwyn iddynt allu adeiladu cartref i'w teulu, ond ni ddaethpwyd i gytundeb hyd yn hyn, er bod maint yr annedd arfaethedig wedi gostwng o 295% i 198% yn fwy na'r annedd wreiddiol. Mae'r annedd newydd arfaethedig yn dŷ pedair ystafell wely a dim ond 9m yn fwy na'r annedd bresennol sydd, yn ei barn hi, yn dderbyniol ac yn hanfodol ar gyfer eiddo modern. Nododd ei bod yn ymddangos bod graddfa'r eiddo yn rhwystr i Swyddogion gynnig bod y cais yn cael ei gymeradwyo, ond cafodd cais tebyg ei gymeradwyo trwy apêl, yn Nhraeth Coch lle’r oedd yr eiddo 460% yn fwy o ran maint na'r annedd wreiddiol. Cyfeiriodd ymhellach at annedd tri llawr arall yn Nhynygongl, wedi'i lleoli 100m o'r briffordd ac yn edrych dros eiddo cyfagos - darllenodd y rhesymau dros ei gymeradwyo yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor. Dywedodd fod y cynnig hwn yn 900m o unrhyw safle gweledol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y cais yng Nghae Graham, Pentraeth a oedd wedi'i leoli o fewn Ardal o Harddwch Eithriadol a gymeradwywyd yn dilyn apêl - darllenodd y rhesymau dros gymeradwyo’r cais ar apêl i'r Pwyllgor. Mae Tŷ Coch wedi'i amgylchynu gan anheddau o wahanol ddyluniadau a meintiau yn Rhostrehwfa gyda dau dŷ i'w gweld o wahanol leoliadau, roedd un eiddo yn arfer bod yn fwthyn bach yn wreiddiol a chafodd ganiatâd cynllunio i’w droi’n annedd deulawr mawr.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i'r materion a godwyd a dywedodd y byddai ystyried cymeradwyo cais ar sail eu bod yn bobl leol yn gallu gosod cynsail ac y dylid ystyried ceisiadau ar sail eu nodweddion cynllunio. Roedd yn gwerthfawrogi mai canllaw a geir ym Mharagraff 14.2 o'r Canllawiau Cynllunio Atodol - na ddylai anheddau newydd fod yn fwy na 20% o arwynebedd llawr yr uned wreiddiol, ond mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn cyfeirio at yr effaith weledol ar y dirwedd a sut mae'n cael ei asesu oherwydd graddfa eiddo. Er bod yr ymgeisydd wedi gostwng graddfa'r annedd arfaethedig i 198% yn fwy na'r tŷ gwreiddiol, rhaid nodi ei bod 10 gwaith yn fwy ac yn faint sylweddol ar gyfer tŷ pedair ystafell wely. Er ei fod yn gwerthfawrogi bod ceisiadau wedi'u cymeradwyo ar apêl, fodd bynnag, mae gan y cais hwn lwybr troed cyhoeddus drwy'r safle. Cyfeiriodd at y sylwadau am anheddau eraill yn Rhostrehwfa sydd ar raddfa sylweddol, ond cymeradwywyd yr eiddo hwn cyn i'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod. Nododd hefyd fod y Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd yn cyfeirio at y ffaith na ddylid cymharu ag eiddo eraill wrth ddelio â cheisiadau cynllunio a bod angen cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cynllunio wrth ddelio â cheisiadau o'r fath.
Ychwanegodd y Cynghorydd Geraint Bebb, ac Aelod Lleol at ddatganiad ei gyd-Aelod Lleol gan ddweud mai'r rhwystr yn erbyn cymeradwyo'r cais hwn yw gwahaniaeth barn Swyddogion ac nad yw'r achos busnes yr ymgeisydd yn cyd-fynd â'u dehongliad. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno adroddiad cynaliadwyedd y Syrfëwr Meintiau, ond mae Syrfëwr Siarter yr Awdurdod wedi cwestiynu'r adroddiad. Nodwyd bod rôl y Syrfëwr Meintiau yn benodol i reoli costau'r prosiect ac mai rôl y Syrfëwr Siartredig yw rheoli adeiladau tir a seilwaith y datblygiad. Yr heriau sy'n wynebu'r ymgeisydd yw bod manylion yn adroddiad y Syrfëwr Siartredig wedi'u dileu cyn rhannu'r ddogfen gyda'r ymgeiswyr. Mae'r ffigurau yn adroddiad y Syrfëwr Meintiau yn unol â safonau BCS sy'n darparu gwybodaeth am gostau a phrisiau ar gyfer adeiladu ac mae'r adroddiad wedi cyfeirio at brisio ar sail chwe lefel wahanol. Mae'r ymgeiswyr wedi defnyddio'r chwartel isel i ganolig wrth brisio costau adeiladu'r annedd arfaethedig tra bydd yn cael ei adeiladu gan yr ymgeiswyr eu hunain. Mae'r Syrfëwr Meintiau wedi ymweld â safle Tŷ Coch tra nad yw Syrfëwr Siartredig yr Awdurdod wedi ymweld â'r safle. Dywedodd ymhellach nad yw adnewyddu'r annedd bresennol yn hyfyw, a bod yr ymgeiswyr wedi nodi bod y dyluniad o ansawdd uchel a’u bod wedi mynd i'r afael â ffactorau lliniarol. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad o fewn y gymuned i'r datblygiad yn ystod y cyfnod ymgynghori. Dywedodd y Cynghorydd Bebb ei fod yn ailadrodd ei sylwadau yn y cyfarfod diwethaf a chynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i'r sylwadau a wnaed a dywedodd nad yw’n arferol rhannu adroddiad y Syrfëwr Siartredig gydag ymgeiswyr, fodd bynnag, rhannwyd crynodeb o'r adroddiad. Roedd y Syrfëwr Siartredig o'r farn bod y ffigurau BCS a roddwyd yn ymddangos yn isel oherwydd graddfa a dyluniad yr annedd arfaethedig. Dywedodd fod Adroddiadau Strwythurol yn nodi unrhyw ddiffygion mewn unrhyw adeilad ac wedi hynny mae cymhariaeth costau ar sail costau adnewyddu a dymchwel/ailadeiladu annedd newydd. Nid oedd yr Adroddiad Strwythurol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn nodi'r cymariaethau costau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei bod yn ymddangos bod gwahaniaeth barn rhwng y Swyddog ac Aelodau'r Pwyllgor o ran graddfa'r annedd arfaethedig ac na fyddai'n cael effaith weledol negyddol ar y dirwedd. Dywedodd ei fod yn anghytuno â'r sylwadau yn yr adroddiad nad yw cynnig gan bobl leol yn ystyriaeth o bwys. Rhaid i ymgeiswyr anheddau fforddiadwy brofi bod angen lleol. Eiliodd y Cynghorydd Hughes y cynnig i gymeradwyo'r cais.
Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y polisi cartrefi fforddiadwy yn hollol wahanol i gais am eiddo preifat.
Ailadroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei sylwadau yn y cyfarfod diwethaf bod yn rhaid cael adroddiad hyfywedd ariannol o ran costau adnewyddu'r annedd bresennol ac adeiladu eiddo newydd. Nododd gan nad yw'r gymhariaeth gost wedi’i chynnwys gan yr ymgeisydd, argymhellodd y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y cynnig i wrthod y cais.
Holodd y Cynghorydd Jackie Lewis pam nad yw dyluniad yr annedd arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai graddfa'r annedd arfaethedig yn cael effaith weledol o'i gymharu â'r annedd bresennol ar y safle. Mae'r annedd bresennol yn Nhŷ Coch yn ffermdy traddodiadol a bydd datblygu annedd fodern ar raddfa fawr yn arwain at effaith weledol.
Yn dilyn y bleidlais, roedd 5 yn erbyn y cynnig a 5 o’i blaid, gwrthodwyd y cais yn sgil pleidlais fwrw’r Cadeirydd.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dogfennau ategol: