12.1 VAR/2025/18 – Uned 2a Gwasanaethau Herron, Glanhwfa Road, Llangefni
12.2 VAR/2024/35 – Y Tithe Barn, Llangristiolus
12.3 FPL/2023/81 – Shire Hall, Ffordd Glanhwfa, Llangefni
12.4 FPL/2025/84 – Adeilad Terfynell Morol, Porth Amlwch, Amlwch
Cofnodion:
12.1 VAR/2025/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (amod 13) yn y caniatâd gwreiddiol cyfeirnod 34C72Q/ECON) yn nodi ‘Bydd yr unedau a ganiateir yma yn cael eu defnyddio i werthu nwyddau nad ydynt yn fwyd yn unig ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd arall a nodir ar gyfer unedau Dosbarth Defnydd A1’. O edrych ar ganiatâd cynllunio 34C72Q/ECON gwelir bod y cais gwreiddiol yn gysylltiedig â’r unedau manwerthu yn ymwneud yn benodol â gwerthu nwyddau ‘difwyd’, ac mae’n debyg bod yr amod sy’n cyfyngu’r defnydd wedi’i roi yn seiliedig ar ofynion yr ymgeisydd gan nad yw adroddiad y swyddog yn rhoi unrhyw gyfiawnhad cynllunio dros gyfyngu’r defnydd i werthu nwyddau difwyd yn unig. O ystyried y ffaith nad oes unrhyw newid sylweddol mewn defnydd yn cael ei gynnig ystyrir ei bod yn dderbyniol diwygio amod (2) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 i ganiatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a. Mae Garej Herron wrth ymyl y cais arfaethedig yn gwerthu bwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ynglŷn â'r cynnig ac ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd ac nid ydynt wedi lleisio unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol fod sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r Cyngor Tref yn awgrymu bod gormod o lefydd bwyd cyflym a siopau trin gwallt yn Llangefni. Dywedodd fod problem eisoes gyda sbwriel o'r lle bwyd cyflym Subway yng Ngarej Herron a byddai cymeradwyo'r cais hwn yn cynyddu'r problemau sbwriel. At hyn, dywedodd fod llawer iawn o draffig yn mynd i mewn i garej Herron eisoes a byddai'r cais hwn yn cynyddu traffig ar Ffordd Glanhwfa. Cynigiodd y Cynghorydd Bebb eu bod yn gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan ei fod yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw hwn yn gais newid defnydd ac mae'n dal i fod yn ddiffiniad Dosbarth A1. Roedd o'r farn bod digon o le parcio ar gael o flaen yr Unedau ar y safle a'i fod o fewn ffin datblygu Llangefni ac o fewn pellter cerdded o ganol y dref. Ar ben hyn, dywedodd nad oedd o'r farn y bydd cynnydd mewn traffig sy'n cyfiawnhau gwrthod y cais ac nid oedd o'r farn bod y cynnig yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod sbwriel tecawê/bwyd cyflym yn cael ei daflu i'r briffordd a'r tu allan i'r adeiladau hyn. Holodd a fyddai modd gosod amod ar lefydd bwyd cyflym i sicrhau eu bod yn cyfrannu at glirio'r sbwriel gan fod enw'r llefydd bwyd cyflym ar y sbwriel.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio na fyddai’n bosibl gosod amod ar siopau bwyd cyflym. Nododd na fydd unrhyw ardal eistedd yn yr uned, ac roedd o'r farn na fydd cwsmeriaid yn bwyta ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod yr unedau gwreiddiol ar y safle wedi'u cymeradwyo ar gyfer gwerthu nwyddau nad ydynt yn fwyd a bod y cais hwn ar gyfer amrywio amod (02) (gwerthu nwyddau nad ydynt yn fwyd yn unig). Dywedodd ei bod yn ymddangos bod cynnydd mewn ceisiadau am amrywio amodau mewn perthynas â'r mathau hyn o fusnesau. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oes cyfiawnhad dros gael uned bwyd cyflym arall yn Llangefni. Eiliodd y cynnig i wrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis fod busnesau ar y safle arfaethedig hwn ar hyn o bryd a chynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y cynnig i’w gymeradwyo.
Yn dilyn y bleidlais roedd 6 yn erbyn y cais a 4 o’i blaid.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisïau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).
12.2 VAR/2024/35 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) caniatâd rhif FPL/2022/134 (Cais llawn i addasu adeilad allanol yn llety gwyliau 2 ystafell wely yn) er mwyn diwygio'r dyluniad yn The Tithe Barn, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud o dan Adran 73 i amrywio caniatâd a roddwyd yn wreiddiol gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Hefyd, galwyd y cais i mewn gan Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol ynghyd â phryderon ynghylch gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw'r cais arfaethedig yn ceisio newid y defnydd y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer a dim ond yn ceisio diwygio dyluniad yr adeilad. Felly mae egwyddor y datblygiad eisoes wedi'i dderbyn ac ni chaiff ei drafod fel rhan o'r cais hwn. Prif ystyriaethau’r cynllun yw p’un ai a yw’r dyluniad diwygiedig yn dderbyniol o ran effaith weledol a'r effaith ar gymeriad yr Adeilad Rhestredig. Mae'r strwythur wedi'i leoli o fewn cwrtil Adeilad Rhestredig ac felly mae dyluniad y cynllun yn ystyriaeth graidd er mwyn gwarchod cymeriad a natur unigryw'r ased. Bydd adfeilion cerrig yr adeilad yn cael eu cadw a’u hail-bwyntio fydd yn ymddangos fel cladin, gan ddefnyddio cladin tywyll a lleiniau ar gyfer y strwythurau newydd. Roedd swyddog treftadaeth yr awdurdod lleol o’r farn bod y dyluniad yn dderbyniol ac yn dilyn yr un dyluniad cyffredinol a gymeradwywyd gan y pwyllgor ar gyfer y cynllun gwreiddiol. Credir bod yr addasiadau i’r cynllun yn fân addasiadau, ac ni fyddent yn newid derbynioldeb y cynllun o ran dyluniad, neu ei effaith ar yr Adeilad Rhestredig.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, er bod pryderon lleol ynglŷn â'r gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal, mae hyn yn welliant o ran dyluniad y llety gwyliau. Cynigiodd y Cynghorydd Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
12.3 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cwblhau a llofnodi cytundeb Adran 106. Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y cais yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2024.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygwr wedi gofyn i'r cais gael ei ohirio er mwyn caniatáu mwy o amser i fwrw ymlaen â'r cytundeb cyfreithiol S106. Nododd y gellir ystyried gohirio'r cais tan y cyfarfod nesaf ond os nad oes cynnydd, bydd yn rhaid cyfeirio’r cais at y Pwyllgor i'w adolygu.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio'r cais tan y cyfarfod nesaf. Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig i’w ohirio.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol Adran 106.
12.4 FPL/2025/84 – Cais i wneud gwaith adnewyddu ac addasu, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig, yn yr hen Derfynfa Forol, Porth Amlwch.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys adnewyddu Adeilad y Derfynfa Forol sef gweithdy deulawr, storfeydd a swyddfa ar ochr Ddeheuol Porth Amlwch i’r de o’r Doc Sych, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, ac i’r dwyrain o’r Llofft Hwyliau, sydd hefyd yn adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi’i leoli mewn lleoliad arfordirol ym Mhorth Amlwch. Mae’r cynnig yn cynnwys adnewyddu ac ymestyn yr adeilad, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig a gwelliannau bioamrywiaeth. Nid yw’r bwriad yn cynnwys newid sylweddol i’r defnydd a wneir o’r adeilad. Bydd y cynnig yn gwneud gwelliannau gweledol ac amgylcheddol sylweddol i'r adeilad a'r safle ac felly ystyrir ei fod yn dderbyniol o ran cynllun, dyluniad ac edrychiad a fydd yn ategu, cadw a gwella cymeriad ac edrychiad y safle. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol, fod y cynnig yn dderbyniol ac y bydd yn gwella'r adeilad.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: