Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2024-2025

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg er mwyn i’r Pwyllgor  ei ystyried a chyflwyno sylwadau i’r Aelod Portffolio cyn iddo gael ei gymeradwyo ganddo dan bwerau dirprwyedig a’i gyhoeddi. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg bod rhaid i’r Cyngor baratoi Adroddiad Blynyddol ar ei gydymffurfiaeth â’r Safonau yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg 2015.  Dywedodd bod mwy o staff wedi derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn a bod y Cyngor wedi derbyn cefnogaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod hi’n galonogol bod cynnydd o 200% yn nifer y Swyddogion ac Aelodau etholedig sydd wedi derbyn hyfforddiant i wella eu sgiliau iaith Gymraeg.   Yn ddiweddar cafodd sesiwn ymwybyddiaeth newydd ar gyfer dysgwyr a siaradwyr hyfedr ei beilota gan Iaith Cyf. Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol cael adborth yn dilyn y sesiynau hyn a holwyd a fyddai sesiynau pellach ar gael maes o law.   Nodwyd hefyd y dylid gwahodd Aelodau Etholedig i’r sesiynau hyn i ddathlu ymdrechion dysgwyr. Mewn ymateb  dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod yr adborth yn dilyn y Sesiwn Hyfforddiant hwn wedi bod yn galonogol a bod y rheiny a fynychodd wedi gwerthfawrogi’r cyfle.  Nododd bod Tîm Hyfforddi’r Adran Adnoddau Dynol yn ystyried cynnal sesiwn tebyg yn y dyfodol.   Mae’r sesiynau i ddathlu ymdrechion dysgwyr yn rhoi cyfle i gefnogi dysgwyr i ymarfer a siarad Cymraeg mewn amgylchedd mwy naturiol yn hytrach na lleoliad ffurfiol.  Mae’r Tiwtoriaid yn gosod tasg i’r dysgwyr megis trefnu gweithgareddau ac ymarfer eu sgiliau iaith Gymraeg.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod cyfle i Aelodau Etholedig a Staff fynychu sesiynau cyffredinol i wella sgiliau iaith o fewn y Cyngor. 

·         Holwyd i ba raddau mae’r Cyngor yn colli cyfle drwy ganolbwyntio ar recriwtio staff sydd eisoes yn medru’r Gymraeg, yn hytrach nag ystyried ymgeiswyr sydd methu siarad Cymraeg neu ddysgwyr, a allai elwa o’r hyfforddiant iaith sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor.  Holwyd hefyd ynglŷn â’r gost ariannol o ail-hysbysebu rolau am y trydydd tro am nad ydi’r gofynion iaith wedi cael eu bodloni.   Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod y Cyngor yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i staff sy’n siaradwyr Cymraeg dihyder.   Mae’r 5 maen prawf sy’n mesur y gofynion iaith ar gyfer ymgeisio am swyddi o fewn y Cyngor yn ddibynnol ar ofynion iaith a chyfrifoldebau’r swydd  ynghyd â’r angen i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd yn eu hiaith ddewisol.   Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid nad oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag ail-hysbysebu swyddi o fewn yr Awdurdod gan fod swyddi’n cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor.  

·         Holwyd sut mae’r Cyngor yn gwerthuso’r gofynion iaith ar gyfer swyddi a p’un a yw’r cymhwyster TGAU Cymraeg yn cael ei fesur.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod y lefel iaith yn cael ei asesu ar gyfer y rôl yn seiliedig ar y dyletswyddau.   Mae’r polisi recriwtio’n nodi’r disgwyliadau’n glir ar gyfer pob rôl ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddisgrifio ei sgiliau iaith Gymraeg ar y ffurflen gais.  Caiff gallu ieithyddol ei asesu yn ystod y broses gyfweld. 

·         Cyfeiriwyd at y ‘data recriwtio’ yn yr adroddiad sy’n nodi’r swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn yn ôl gofynion iaith.  Holwyd a yw’r ‘data recriwtio’ yn seiliedig ar hunanasesiad gan staff o’u gallu ieithyddol gan nad yw’n ofynnol cael cymhwyster TGAU ar gyfer swyddi o fewn y Cyngor.   Mewn ymateb eglurodd y Prif Weithredwr bod rhaid i ymgeiswyr ddarparu copi o’u tystysgrifau TGAU cyn cael cyfweliad i ddangos eu bod yn gymwys.   Mae’r broses gyfweld yn cadarnhau sgiliau iaith ymgeiswyr yn y Gymraeg a’r Saesneg ynghyd ag unrhyw gymwysterau eraill ar gyfer rolau unigol y fewn y Cyngor.   Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod y ‘data recriwtio’ yn dangos na chafodd unrhyw swyddi eu hysbysebu lle nad oedd angen unrhyw sgiliau iaith Gymraeg.   Holwyd pe byddai modd hysbysebu swyddi fel swyddi Cymraeg hanfodol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod modd i reolwyr nodi’r gofynion iaith Gymraeg wrth hysbysebu swyddi o fewn y Cyngor.  Aeth ymlaen i ddweud bod y Cyngor yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i staff o bob gallu, fodd bynnag, mae hynny’n ddibynnol ar y rôl. 

·         Holwyd i ba raddau mae’r polisi iaith Gymraeg yn berthnasol i ddefnydd mewnol ymysg staff.   Dywedodd y Prif weithredwr mai’r ymrwymiad personol yw’r peth pwysicaf wrth ddysgu’r Gymraeg.   Mae dysgu Cymraeg yn cael ei weld fel rhywbeth cadarnhaol o fewn y Cyngor ac o’r herwydd mae mwy o staff yn dewis cymryd rhan yn y cyrsiau hyfforddi sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.   Holwyd hefyd ynglŷn â’r disgwyliadau ar staff i ymateb i e-byst a gohebiaeth yn iaith ddewisol yr unigolyn.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod y Polisi Iaith Gymraeg yn cyfeirio ar weinyddiaeth fewnol y Cyngor a’i fod yn berthnasol i bob aelod o’r staff ac y dylid ymateb i ohebiaeth fewnol yn iaith ddewisol yr unigolyn.  

·         Holwyd i ba raddau y gellid cynnwys gwybodaeth fanylach yn yr adroddiad er mwyn cymharu lefelau sgiliau o’r naill flwyddyn i’r llall ynghyd â sgiliau iaith Gymraeg pob adran.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gynnwys cymariaethau ychwanegol o un flwyddyn i’r llall o ran sgiliau Cymraeg ei staff gan ei fod yn dymuno bod yn Awdurdod sy’n cael ei lywio gan ddata ac mae dashfwrdd wedi cael ei greu i fonitro patrymau a thueddiadau.  

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi bod 3% o staff y Cyngor heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg.  Holwyd p’un a yw’r rhain yn weithwyr newydd a oedd heb gael cyfle i fynychu cyrsiau iaith eto neu a oedd wedi dewis peidio cymryd mantais ar y cyrsiau iaith sy’n cael eu cynnig gan y Cyngor.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod % y staff sydd wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw sgiliau iaith Gymraeg yn seiliedig ar hunanasesiad a bod gan y rhan fwyaf o’r staff sgiliau iaith Gymraeg sylfaenol.   Aeth ymlaen i ddweud y bydd y gwaith sy’n cael ei gwblhau gan y Tîm Hyfforddi i gael gwell trosolwg o sgiliau iaith Gymraeg a chynnydd y staff yn darparu dadansoddiad mwy cynhwysfawr mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol. 

·         Holwyd a yw’r arfer dda gan y Cyngor o ran hyrwyddo’r Gymraeg yn cael ei rannu â chyrff eraill a sefydliadau trydydd sector.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod Grŵp Prosiect wedi cael ei sefydlu gan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n cydnabod sefydliadau a all gefnogi, rhannu a hyrwyddo’r Gymraeg gyda sefydliadau eraill.  

·         Holwyd pam nad yw’r gwasanaeth cyfieithu dogfennau ar gael i Aelodau Etholedig.  Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr nad oes gan dîm cyfieithu’r Gwasanaethau Democrataidd gapasiti i dderbyn llwyth gwaith ychwanegol gan fod galw mawr am wasanaeth cyfieithu tesun a chyfieithu ar y pryd o fewn y Cyngor.   Nododd y gallai’r datblygiadau ym maes Deallusrwydd Artiffisial fod yn arf yn y dyfodol.   Roedd aelodau’r Pwyllgor yn dymuno diolch i’r Tîm Cyfieithu am ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o safon uchel yn ystod cyfarfodydd a gwasanaeth cyfieithu dogfennau i Bwyllgorau’r Cyngor.  

·         Holwyd i ba raddau mae’r gofynion iaith Gymraeg yn ystod y broses recriwtio yn effeithio ar safon yr ymgeiswyr.  Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg ei fod o’r farn bod yr Awdurdod yn llwyddo i ddenu unigolion i ymgeisio am swyddi gyda’r Cyngor oherwydd eu bod yn gallu gweithio mewn amgylchedd Gymraeg a chael cyfle i wella eu sgiliau iaith Cymraeg drwy fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi.

·         Cyfeiriwyd at yr adroddiad a’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg yn y Cynllun Strategol Caffael.   Holwyd a yw’r flaenoriaeth a roddir i’r Gymraeg yn y Strategaeth Caffael yn wendid.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod disgwyliad i gefnogi darparwyr lleol gan eu bod yn deall y cyd-destun ieithyddol lleol ac yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg - 2024 i 2025

·         Nodi ei gynnwys ac anfon sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini at yr Aelod Portffolio cyn iddo gael ei gymeradwyo ganddo dan bwerau dirprwyedig  a’i gyhoeddi.

 

Dogfennau ategol: