Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg : 2024/2025 - Mesur Cynnydd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg mai pwrpas yr adroddiad yw darparu diweddariad blynyddol ar y cynnydd yn gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.  Nododd bod Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg yn mesur effeithlonrwydd y Cynllun o ran cwrdd â’r 7 Deilliant.   Mae’r adroddiad ar gyfer 2024/2025 yn nodi bod Deilliant 1, 2, 3, 5, a 6 yn sefydlog ond bod Deilliant 4 a 7 wedi dirywio.  

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at Ddeilliant 4 sy’n nodi bod gostyngiad wedi bod yng nghanran y disgyblion sy’n astudio’r cymhwyster TGAU Cymraeg iaith gyntaf a bod mwy’n cofrestru ar y cwrs ail iaith.  Cyfeiriwyd hefyd at Ddeilliant 7 sy’n nodi bod dirywiad wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg ac athrawon a all ddysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.   Holwyd a oes rheswm dros y tueddiadau hyn.  Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg mai’r ffocws yw helpu disgyblion i gyrraedd eu potensial.  Nododd bod y cwrs TGAU iaith gyntaf ac ail iaith ar gael i ddisgyblion ar hyn o bryd.   Fodd bynnag, bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno yn ystod y ddwy flynedd nesaf a bydd yr arholiadau Iaith a Llenyddiaeth yn cael eu cyfuno i greu un cymhwyster TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Bydd y cwrs TGAU ail iaith yn cael ei ddileu a bydd cwrs TGAU newydd yn cael ei greu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion Saesneg.  Aeth ymlaen i ddweud bod recriwtio staff dysgu yn her genedlaethol a bod camau penodol wedi cael eu cymryd i weithio’n agos â Phrifysgol Bangor i amlygu’r cyfleoedd posib yn y sector addysg.   Dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod cyfarfodydd strategol rheolaidd yn cael eu cynnal gyda swyddogion recriwtio o Brifysgol Bangor a chynrychiolydd o’r Ysgol Addysg a’r Ysgol Seicoleg.  Mae gwaith ar y cyd yn digwydd gyda CaBan, sef partneriaeth rhwng ysgolion a Phrifysgol Bangor.

·         Holwyd pa gefnogaeth ychwanegol fydd ar gael i Ysgol Uwchradd Caergybi i’w helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol o ddod yn Ysgol Categori 3 erbyn mis Medi 2029.   Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod y Gwasanaeth Dysgu’n rhan ganolog o’r gwaith i ddarparu cymorth ehangach i Ysgol Uwchradd Caergybi.   Sefydlwyd Grŵp Prosiect WESP ym mis Mai 2024, sy’n canolbwyntio’n benodol ar sefydlu dosbarth blwyddyn 7 Categori 3, canolfan iaith sydd hefyd yn cefnogi dysgu’r Dyniaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a rhaglen benodol i gefnogi’r staff dysgu.  Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg bod y Panel Sgriwtini Addysg wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn ddiweddar a’u bod wedi gweld pa mor barod yw’r ysgol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Roedd siaradwyr Cymraeg hyderus ym mlwyddyn 7 a’r gobaith yw y bydd hynny’n parhau ym Mlwyddyn 8.  

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod 3 ysgol yn nalgylch Caergybi wedi gofyn am gymorth ychwanegol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.  Holwyd ynglŷn â’r meini prawf ar gyfer ysgolion eraill ar yr ynys o ran cael cymorth ychwanegol gyda’r Gymraeg gan fod nifer o ddisgyblion yn dod o aelwydydd Saesneg.   Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod y Gwasanaeth Dysgu’n gweithio’n agos gydag ysgolion i lunio blaenoriaethau blynyddol.  Mae’r Gwasanaeth Dysgu’n sicrhau bod darpariaeth briodol ar waith i gefnogi ysgolion unigol.     Mae gwaith ar y gweill gyda Swyddog Siarter Iaith Gwynedd a Môn i fynd i’r afael â blaenoriaethau ysgolion unigol.  

·         Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod hi’n ymddangos bod llai o Gymraeg yn cael ei siarad yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ôl blwyddyn 8.   Holwyd sut y gallai’r Gwasanaeth Dysgu fynd i’r afael â’r tueddiadau hyn.   Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod hi’n hanfodol bwysig rhoi cyfle i bobl ifanc siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol.    Dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod aelod staff o’r Ganolfan Iaith yn gweithio yn yr ysgol ac yn dysgu’r Dyniaethau er mwyn cynyddu’r capasiti dysgu yn yr ysgol.   Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn ag ystyried darparu cymorth gyda’r Gymraeg mewn dalgylchoedd eraill yn ogystal gan y gallai’r Gymraeg ddirywio yn yr ardaloedd hyn hefyd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod modd i aelod o’r Ganolfan iaith ymweld ag unrhyw ysgol sydd angen cymorth.  Nododd bod y Siarter Iaith yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac y tu allan i’r ysgol.   Yn ddiweddar derbyniodd Ysgol David Hughes Achrediad Siarter Iaith a bydd ysgolion eraill hefyd yn ceisio ennill yr achrediad hwn yn y dyfodol.   Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei bod hi’n bwysig nodi mai ysgolion unigol sy’n gyfrifol am ddatblygu’r Gymraeg a chynnig yr addysg orau bosib.   Holwyd a oes problemau tebyg yn gysylltiedig â’r Gymraeg yn y 4 ysgol uwchradd arall ar yr Ynys o ran trosglwyddo plant o ysgolion cynradd.    Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd nad oes unrhyw broblemau penodol wedi cael eu codi yn ystod trafodaethau â’r 4 ysgol  uwchradd arall ond y bydd y mater yn cael ei godi yn ystod fforymau strategol.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Gwasanaeth Dysgu’n defnyddio’r Grant Addysg Llywodraeth Leol dan yr is-bennawd Grant Cymraeg 2050 i gefnogi’r canolfannau iaith a’i fod yn defnyddio cyllid grant i gynyddu’r ddarpariaeth i ymgysylltu ag ysgolion uwchradd.  Holwyd ynglyn â’r risgiau cysylltiedig pe byddai unrhyw newid i’r grant ar ôl 2025.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod y Grant Addysg Llywodraeth Leol yn grant blynyddol ac y byddai’n fanteisiol pe byddai’n darparu sicrwydd am gyfnod o dair blynedd fel y gellid blaen gynllunio darpariaeth y Canolfannau Iaith.  

·         Holwyd ynglyn â’r amser aros ar gyfer anfon disgyblion i’r Canolfannau Iaith a’r gost yn gysylltiedig â chludo disgyblion i’r canolfannau hyn.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod 40 disgybl ar y rhestr aros yn barhaus a bod 96 disgybl yn mynychu’r Canolfannau Iaith yn flynyddol.  Nododd bod y Ganolfan Iaith ar gael i blant sy’n symud i fyw i’r Ynys.  Mae staff y Canolfannau Iaith yn mynd i’r ysgol cyn ac ar ôl i’r plentyn fynychu’r Ganolfan Iaith.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod danfon disgyblion i’r Ganolfan Iaith yn gostus a bod yr adran yn ceisio ymestyn y ddarpariaeth i leihau costau teithio. 

·         Nodwyd y dylai staff dysgu fod yn ymwybodol o’r Sesiynau Ymwybyddiaeth iaith i’w galluogi i ddysgu am hanes yr iaith a diwylliant Cymru.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd ei fod yn ddiolchgar o gefnogaeth y Fforwm Iaith ac y gellid gwella’r sesiynau ymwybyddiaeth i staff dysgu. 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad yn amlygu risg i gapasiti ysgolion o ran parhau i drochi ac integreiddio disgyblion sy’n newydd i’r Gymraeg yn effeithiol yn y prif lif.  Holwyd a oes data ar gael i ddeall y sefyllfa’n well.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod 40 disgybl yn aros i fynd i’r Ganolfan Iaith.  Mae staff y Canolfannau Iaith wedi bod yn cefnogi pob ysgol yn ystod y tymor hwn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg Ynys Môn: data 2024/2025

 

GWEITHRED: Gwneud cais i Lywodraeth Cymru ystyried darparu’r Grant Addysg Llywodraeth Leol am gyfnod o dair blynedd fel y gallir blaen gynllunio darpariaeth y Canolfannau Iaith.

 

Dogfennau ategol: