Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai hwn yw’r pumed diweddariad i’r Pwyllgor a’i fod yn amlinellu’r cynnydd o ran cyflawni’r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Caergybi gyda chyllid Llywodraeth y DU.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Holwyd ynglyn â’r swyddi a grëwyd gan y rhaglen. Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod 52 swydd lawn amser wedi cael ei chytuno fel rhan o’r rhaglen gyda Llywodraeth y DU ac y bydd nifer y swyddi a grëwyd yn dod yn amlwg pan fydd y cynllun yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2026. Nododd bod y contractwyr a benodwyd i gwblhau’r gwaith wedi cyflogi gweithwyr ychwanegol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod 12 swydd lawn amser wedi cael ei chreu fel rhan o’r Rhaglen.
· Holwyd ynglyn â’r costau cynyddol, effaith hynny ar ddeilliannau, p’un a yw’r deilliannau’n dal i fod yn gyraeddadwy a p’un a yw’r risg hwn wedi cael ei godi’n ffurfiol gyda Llywodraeth y DU. Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod y risg yn gysylltiedig â chostau cynyddol yn sgil chwyddiant yn effeithio ar bris deunyddiau a bod hynny wedi’i nodi fel risg gan y Bwrdd Rhaglen ar ddechrau’r broses. Nododd bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda phartneriaid cyflawni a bod rhai elfennau yn gysylltiedig â’r prosiect wedi cael eu dileu oherwydd costau.
· Holwyd p’un a oedd busnesau’n barod i feddiannu’r unedau sydd wedi cael eu hadeiladu fel rhan o’r rhaglen a ariannwyd gyda chyllid Llywodraeth y DU. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod busnesau wedi ymgeisio drwy broses agored ac y bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal gyda’r busnesau sydd wedi dangos diddordeb. Bydd y busnesau llwyddiannus yn cael prydlesu’r unedau am flwyddyn yn fwy na thebyg. Holwyd p’un a yw blwyddyn o brydles yn ddigonol a p’un a fydd yn rhaid i’r busnesau ail-dendro am yr unedau a p’un a yw’r brydles tymor byr wedi effeithio ar nifer y busnesau a ymgeisiodd. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen y bydd y busnesau llwyddiannus yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn ac yna’n cael cynnig ymestyn y brydles. Nododd nad oedd y cynnig o flwyddyn o brydles wedi effeithio ar y diddordeb yn yr unedau hyn a bod nifer o fusnesau wedi dangos diddordeb.
· Holwyd pa sicrwydd y gellir ei roi na fydd costau’n effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth, a p’un a oes digon o adnoddau ariannol i reoli’r cynnydd mewn costau. Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd ei fod yn Aelod o’r Bwrdd Rhaglen a bod y Bwrdd yn sicrhau bod ansawdd y gwaith yn diwallu gofynion y Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU.
· Holwyd p’un a yw’r tân diweddar yn Eglwys Cybi Sant yn peri risg ariannol a p’un a fydd yn effeithio ar amserlen y prosiect. Mewn Ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad yw’r tân diweddar wedi effeithio ar Eglwys Cybi Sant ond bod rhywfaint o ddifrod i’r Wal Rufeinig, ond ni fydd hyn yn effeithio ar y cyllid ar gyfer y prosiect.
· Holwyd p’un a oes bwriad i gynnal rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus yn y dyfodol. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen y bydd digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus yn cael ei gynnal tuag at ddiwedd y flwyddyn i adrodd ar y gwaith yn gysylltiedig â’r prosiectau.
· Holwyd i ba raddau mae Esgobaeth Bangor wedi cyfrannu at y gwaith yn Eglwys Cybi Sant a p’un a fyddant yn parhau i gyfrannu at y costau cynnal a chadw yn y dyfodol. Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod Esgobaeth Bangor yn bartner ac wedi cyfrannu 22% o’r gost. Yn sgil y cynnydd mewn costau mae eu cyfraniad wedi cynyddu i 24% yn ddiweddar. Bydd Esgobaeth Bangor yn cyfrannu at y costau cynnal a chadw yn y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi holi yn ystod Sesiwn Briffio yn ddiweddar fel rhan o’r Rhaglen a Ariennir gan Lywodraeth y DU p’un a yw’r Swyddogion yn fodlon bod gan yr Eglwys yng Nghymru’r llywodraethiant gofynnol gan fod adroddiadau o ddiffyg llywodraethiant o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn y wasg yn ddiweddar. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod yr heriau a wynebir gan Esgobaeth Bangor wedi cael eu hystyried. Nododd bod gan yr Esgobaeth Dîm Rheoli fel rhan o’r prosiect ar gyfer Eglwys Cybi Sant a bod nifer o’r materion a godwyd wedi cael eu datrys.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r cynnydd o ran darparu’r Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi.
· Nodi bod y Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi yn cael ei gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;
· Cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran cefnogi Partneriaid Darparu’r Rhaglen.
Dogfennau ategol: