Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 i'w ystyried gan y pwyllgor. Nodwyd bod y ffigurau heb eu harchwilio ac felly y gallant newid. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ar ôl cwblhau'r archwiliad allanol.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Archwilio Cymru wedi cyhoeddi amserlen archwilio ddiwygiedig ond gan nad yw'r dyddiadau cau diwygiedig hyn wedi'u cynnwys yn y rheoliadau, rhaid i bob cyngor gyhoeddi hysbysiad yn tynnu sylw at yr oedi wrth gyhoeddi a'r rhesymau dros hynny. Llofnodwyd y Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2024/25 gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor – y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar 30 Mehefin 2025 a dechreuodd yr archwiliad allanol ar 1 Gorffennaf gyda'r nod o gymeradwyo’r cyfrifon terfynol erbyn 31 Hydref 2025. Diolchodd y Swyddog Adran 151 i dîm Gwasanaethau Cyfrifyddu'r Cyngor am ei waith caled i gwblhau'r cyfrifon drafft erbyn 30 Mehefin.
Tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw’r pwyllgor at newid yn y modd yr ymdrinnir ag asedau ar brydles yn dilyn adolygiad o'r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol. Mae angen cyfrif am brydlesi bellach fel pe baent yn cael eu hariannu trwy fenthyca, sydd â goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Fantolen ac ar gyfer ffigurau benthyca a adroddir gan y Cyngor. Darparodd grynodeb o'r prif ddatganiadau ariannol sydd yn y cyfrifon. Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) yn dangos cyfanswm yr incwm a'r gwariant ar gyfer y flwyddyn ar draws yr holl wasanaethau, yn seiliedig ar safonau cyfrifyddu ac mae'n cynnwys eitemau technegol fel dibrisiant a chostau pensiwn gwasanaethau presennol ac yn y gorffennol nad ydynt yn cael eu hariannu gan grantiau na threthiant lleol. Mae'r CIES yn dangos gwarged cyfrifyddu net o £45m am y flwyddyn. Ar ôl i'r addasiadau gael eu cymhwyso fel y manylir yn Nhabl 1 yr adroddiad a Nodyn 6 o'r cyfrifon, mae'r gwarged, sy'n cael ei ychwanegu i gronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor, yn gostwng i £3.741m. Mae'r CIES a'r addasiadau yn Nodyn 6 wedi'u dwyn ynghyd yn y Datganiad Symudiad yn y Cronfeydd wrth Gefn i ddangos balansau’r Cyngor ar 31 Mawrth 2025. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 drosolwg o'r nodiadau i'r datganiadau ariannol hefyd a phwysleisiodd y rhai a allai fod yn ddefnyddiol i’r pwyllgor wrth adolygu'r cyfrifon gan gynnwys cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, gwariant cyfalaf a chyllid, darpariaethau, gwariant ac incwm a ddadansoddir, incwm grantiau, pensiynau, atebolrwydd amodol ac asedau, a thrafodion partïon cysylltiedig.
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y pwyllgor, rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 eglurhad pellach fel a ganlyn –
· Mae'r ddarpariaeth ar gyfer Safle Gwastraff Penhesgyn yn ymwneud ag ôl-ofal yr ardaloedd o'r safle a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer tirlenwi a chynnal a chadw'r cylfat o dan y safle. Mae'n cynnwys costau posibl a allai godi pe bai’r cylfat yn ddiffygiol. Mae arolygiad arbenigol blynyddol yn asesu'r risgiau, y costau posibl a pha mor ddigonol yw’r ddarpariaeth.
· Mae'r taliad o £5.7m i Gyngor Gwynedd o dan Bartïon Cysylltiedig yn cynnwys taliad am wasanaethau o dan gytundebau ar y cyd, yn enwedig ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
· Mae'r £67.607m ar gyfer incwm y Dreth Gyngor (Nodyn 12) yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a chynghorau tref a chymuned ac mae'n adlewyrchu'r debyd a godwyd yn hytrach na'r swm a gyllidebwyd. Mae'r gyllideb yn seiliedig ar y sylfaen dreth sy'n is i gyfrif am newidiadau yn ystod y flwyddyn a dyled heb ei gasglu. Mae'r cynnydd o £59m yn 2023/talu premiwm y Dreth Gyngor. Derbyniwyd incwm ychwanegol yn hwyr yn 2024/25 ar ôl ailddosbarthu tua 200 - 250 o eiddo hunanarlwyo o ardrethi busnes i'r dreth gyngor safonol oherwydd newidiadau yn y trothwyon cymhwyso gan ddod yn atebol hefyd am dalu’r premiwm. Cafodd rhai eiddo a drosglwyddwyd eu hôl-ddyddio i Ebrill 2023. Cyfrannodd hyn at y cynnydd o 13% yn incwm y Dreth Gyngor yn 2024/25.
· Mewn perthynas â Nodyn 39 (y Dreth Gyngor) a'r gymhareb rhwng pobl ac eiddo, mae cyfanswm nifer yr eiddo ar Ynys Môn oddeutu 35,000, ac mae dros 2,500 ohonynt yn ail gartrefi heb breswylwyr parhaol. Heb gyfri’r rhain, mae’n dod i gyfanswm o 32,500. Yn ogystal â hyn, mae 11,000 -12,500 o aelwydydd yn hawlio gostyngiad person sengl sy'n adlewyrchu cynnydd mewn aelwydydd person sengl. O ran dysgu o'r data hwn neu ei feincnodi gyda chynghorau eraill sydd â phroffil tebyg i Ynys Môn, defnyddir cyfran cyfwerth â Band D i gymharu cyfraddau’r dreth gyngor ar draws awdurdodau. Fodd bynnag, mae gan rai cynghorau, yn enwedig yn Ne Cymru, gyfraddau treth gyngor Band D uwch nag Ynys Môn oherwydd nifer uwch o eiddo Band A a B. Gall yr achosion o ail gartrefi hefyd ystumio’r gymhariaeth.
· O ran cynllun pensiwn Llywodraeth Leol, er bod y gronfa bensiynau yn dangos sefyllfa asedau net o £139m (ac eithrio buddion heb eu hariannu), mae rheolau cyfrifyddu yn ein hatal rhag cydnabod y gwarged hwn ar y fantolen oherwydd na all y Cyngor ei ddefnyddio na'i wario. Felly, mae uchafswm asedau o £139m wedi'i gymhwyso gan leihau'r ased i sero ar y fantolen. Yn ogystal â hyn, ni ellir gwrthbwyso rhwymedigaethau pensiwn heb eu hariannu yn erbyn yr ased pensiwn net sy'n arwain at rwymedigaeth pensiwn net o £9m er gwaethaf perfformiad cadarnhaol gan y gronfa bensiynau yn 2024/25.
Cwestiynodd y pwyllgor werth y Datganiad Cyfrifon o ran rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd yn ehangach am wariant y Cyngor. Er enghraifft, cyfeiriwyd at y datganiad llif arian sy'n dangos gwarged net o £38m ar ddarparu gwasanaethau – cynnydd o £12m yn 2023/24 a nodwyd oedd yn anodd ei gysoni â phwysau gwasanaethau parhaus a'r argyfwng costau byw. Awgrymwyd y dylid cyflwyno gwybodaeth allweddol o'r cyfrifon ar ffurf gryno, haws i’r cyhoedd ei deall.
Cydnabu'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad yn ddogfen gymhleth a thechnegol sy'n cael ei pharatoi yn unol â rheoliadau cyfrifyddu ac sy'n anodd i'r cyhoedd ei dehongli. I’r gwrthwyneb, mae'r adroddiadau trosolwg rheolaidd o’r gyllideb i'r Pwyllgor Gwaith yn haws eu deall ac yn fwy effeithiol wrth helpu'r cyhoedd i fonitro perfformiad ariannol a gwasanaethau'r Cyngor.
Wrth gloi'r drafodaeth, dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed gan staff y gwasanaeth Cyfrifyddu i sicrhau bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau’n brydlon.
Penderfynwyd nodi'r prif ddatganiadau ariannol drafft heb eu harchwilio ar gyfer 2024/25.
Dogfennau ategol: