Cofnodion:
7.1 VAR/2025/18 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni.
Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, 2025 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y cais yn mynd yn groes i bolisïau MAN 3 a 7 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod polisi cynllunio MAN 3 yn ymwneud â masnachu y tu allan i ganol trefni dynodedig ond o fewn ffiniau datblygu. Mae’r polisi’n ceisio diogelu siopau manwerth A1 presennol rhag newid defnydd i ddefnydd arall a datblygu siopau manwerthu A1 newydd. Dywedodd, fel y cafodd ei egluro yn y cyfarfod diwethaf, nid oes newid defnydd materion wedi’i gynnid dan y cais cyfredol, a byddai’r uned yn parhau i gael ei gweithredu dan ddosbarth masnach A1, ac felly ni ystyrir bod y polisi cynllunio MAN 3 yn berthnasol i’r cynnig. Gwelir bod y cais gwreiddiol yn gysylltiedig â’r unedau manwerthu yn ymwneud yn benodol â gwerthu nwyddau difwyd, ac nid yw adroddiad y swyddog yn rhoi unrhyw gyfiawnhad cynllunio dros gyfyngu’r defnydd i werthu nwyddau difwyd yn unig, felly ymddengys y gweithredwyd yr amod ar sail manyleb gwreiddiol yr ymgeisydd. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at bolisi cynllunio MAN 7 oedd yn ymwneud â defnydd tecawê bwyd poeth. Mae tecawês bwyd poeth yn disgyn dan ddosbarth A3. Mae Greggs yn cael ei ddiffinio fel becws dan ddosbarth A1 uned fasnach. Oherwydd hyn, nid yw polisi cynllunio MAN 7 yn berthnasol i’r cynnig. Dywedodd fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno crynodeb o’r buddion maen nhw’n eu cynnig i’r gymuned. Greggs yw prif fanwerthwr bwyd becws yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 2,000 o siopau a 20,000 o weithwyr. Mae'n cefnogi dros 890 o Glybiau Brecwast ysgol, gan ddarparu mwy na 62,000 o brydau bwyd am ddim bob diwrnod ysgol i blant ledled Prydain. Mae'n rhoi bwyd heb ei werthu i dros 950 o elusennau lleol, yn rhedeg siopau am bris gostyngol mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn cyfrannu 1% o elw cyn treth i Sefydliad Greggs, sy'n cefnogi teuluoedd mewn caledi a phrosiectau iechyd cymunedol. Mae Greggs hefyd yn defnyddio ffynonellau cyfrifol, yn lleihau gwastraff bwyd, a defnyddio 97% o drydan adnewyddadwy. Mae Greggs hefyd yn cydnabod a pharchu diwylliant a threftadaeth Cymru, yn darparu arwyddion dwyieithog yn eu siopau, ac yn recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn dderbyniol ac yn cydymffurfio efo polisiau cynllunio datblygu lleol, ac os gwrthodwyd y cais, mae risg o fynd i apêl a wynebu costau. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.
Ategodd y Cynghorydd Geraint Bebb a’r Aelod Lleol eu gwrthwynebiad yn erbyn y cais. Cyfeiriodd at bolisi cynllunio MAN 3 sy’n nodi y gall datblygiad o’r fath effeithio ar ganol trefi. Mewn perthynas â MAN 7, roedd o’r farn y byddai problemau ysbwriel ac arogleuon o’r siop, ac ers agor allfa bwyd cyflym Subway yn Garej Herron, mae cynnydd wedi bod mewn ysbwriel yn yr ardal. Dywedodd nad oedd yn cytuno a’r datganiad na fyddai mwy o draffig yn yr ardal oherwydd roedd o’r farn na fyddai pobl yn cerdded yno, ac y bydd mwy o draffig ar safle Garej Herron. Roedd hefyd o’r farn y bydd y cais yn cael effaith negyddol ar dref Llangefni. Ategodd y Cynghorydd Bebb ei fod yn gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i wrthod.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod polisi cynllunio MAN 3 ar gyfer diogelu unedau defnydd A1. Dywedodd fod y cynnig hwn eisoes yn ddefnydd A1, ac os gwrthodir y cais, bydd risg sylweddol o wynebu costau ynghlwm ag unrhyw broses apeliadau. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd y cais ar gyfer uned defnydd A1.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod o’r farn nad oedd rhesymau digonol i wrthod y cais a bod risg sylweddol o wynebu costau ynghlwm ag apêl. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid lleoli Greggs yn nhref Llangefni. Dywedodd fod amod ar y caniatâd blaenorol ar gyfer yr unedau ar y safle sy’n eu cyfyngu i werthu nwyddau difwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw adroddiad y swyddog, sy’n argymell cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, yn rhoi unrhyw gyfiawnhad cynllunio dros gyfyngu’r defnydd i werthu nwyddau difwyd yn unig, felly ymddengys y gweithredwyd yr amod ar sail manyleb gwreiddiol yr ymgeisydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: