Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – OP/2025/3 – Ty’n Llain, Malltraeth

OP/2025/3

 

12.2 – FPL/2025/97 - Ponta Delgada, Stad Ravens Point, Bae Trearddur

FPL/2025/97

 

12.3 – FPL/2024/362 – 48 Ffordd Lligwy, Moelfre

FPL/2024/362

 

12.4 – VAR/2025/17 – Clwb Golff Llangefni, Llangefni

VAR/2025/17

 

Cofnodion:

 

12.1  OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Ifan Jones a’r Aelod Lleol am ymweliad safle.  Dywedodd mai argymhelliad y Swyddog oedd i wrthod y cais am ei fod mewn parth llifogydd.  Gofynnodd i aelodau ymweld â’r giatiau llifogydd a lleoliadau eraill yn yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2  FPL/2025/97 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle yn Ponta Delgada, Ystâd Ravens Point, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnod y Cynghorydd Keith Roberts, Aelod Lleol, ac ymweliad safle oherwydd pryderon o fewn yr ardal leol am y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 FPL/2024/362 – Cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i’r cwrtil a chadw mynedfa newydd i gerbydau a thramwyfa yn 48 Ffordd Lligwy, Moelfre.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod llain welededd o’r fynedfa i gerbydau’n croesi rhan bychan o ardd 91 Ffordd Lligwy, sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais cynllunio yn ôl-weithredol ar gyfer cadw’r estyniad i’r cwrtil preswyl a chadw mynedfa gerbydau newydd ar thramwyfa.  Mae’r estyniad i’r cwrtil wedi’i leoli i gyfeiriad de ddwyrain yr annedd bresennol, a chyn hynny, roedd yn arfer bod yn ddarn bach o ardal gwyrdd rhwng 48 Ffordd Lligwy a 91 Ffordd Lligwy.  Mae’r newid i ddefnydd y tir o fewn y cwrtil preswyl yn rhif 48 eisoes wedi’i gwblhau ar y safle, gyda rhan o’r tir bellach wedi’i droi yn dramwy a mynedfa gerbydau i Ffordd Lligwy.  Mae’r ardal yn mesur oddeutu 95 medr sgwâr gyda hanner y tir wedi’i amgylchynu gan wal isel, a’r hanner arall yn y cefn wedi’i amgylchynu gan ffens bren.  Ystyrir bod yr estyniad i’r cwrtil yn dderbyniol, gan ei fod wedi’i leoli drws nesaf i wal dalcen yr eiddo a’r ardd flaen bresennol. Mae ardal o dir gwyrdd sy’n agored i’r cyhoedd i gerdded arno rhwng rhif 48 a 91, er mwyn cael mynediad i gefn y tai, ac nid yw’r wal isel na’r ffens bren yn cael effaith andwyol ar yr annedd bresennol, anheddau cyfagos na’r ardal leol.  Mae’r fynedfa a thramwyfa newydd i gerbydau eisoes wedi’u hadeiladu ar y safle.  Mae’r fynedfa yn mesur 4.7m o hyd, yn cynnwys wal ffiniol sy’n 1m o uchder, ardal barcio gyda cherrig mân yn mesur 8.3m o hyd a 5.6m o led.  Mae’r cynllun ar gyfer y llain welededd gyda’r cais cynllunio’n dangos bod mwy na 50m o lain gwelededd i gyfeiriad y gogledd a’r de o’r fynedfa i gerbydau.  Mae’r llain welededd i’r de, a welir ar y cynllun llain welededd, yn croesi dros ddarn bach o ardd rhif 91 Ffordd Lligwy, gyda wal ardd yr eiddo hwn yn mesur llai na 1m o uchder, ac mae ar lefel is na thramwyfa safle’r cais.  Ymgynghorwyd â’r Adran Briffyrdd fel rhan o’r cais, ac nid yw wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r fynedfa gerbydau na’r dramwyfa, ac mae wedi gofyn fod y dramwyfa yn cael ei gorffen yn ôl y terfyn am y 5m cyntaf yn ôl o’r ffordd fawr, a bod dŵr arwyneb oddi ar y dramwyfa yn cael ei gasglu a’i waredu ar wahân, fel nad yw’n cael ei rhyddhau i’r briffordd gydag amod yn cael ei osod os cymeradwyir y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cadw’r estyniad yn y cwrtil preswyl, cadw’r fynedfa gerbydau a’r tramwyfa yn dderbyniol gan na fyddai’n cael unrhyw effaith negyddol ar y safle, eiddo na’r ardal gyfagos bresennol, a gellir gosod amod i leihau unrhyw effaith negyddol er mwyn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio.  Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol i ddatgan ei fod yn Aelod Portffolio Cyllid a’r Gwasanaethau Tai, ond nid yw wedi trafod y cais gydag unrhyw Swyddog arall yn yr Awdurdod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

12.4 VAR/2025/17 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2022/85 (Cais llawn am estyniad i’r cwrs golff presennol i greu cwrs pytio 'Putt Stroke' ynghyd â chodi adeilad clwb, adeilad bar a lluniaeth, adeilad lluniaeth ‘ty hanner ffordd’, bloc toiledau a datblygiad cysylltiedig) er mwyn diwygio gosodiad a dyluniad yr adeiladau arfaethedig yng Nghlwb Golff Llangefni.

 

Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir sy’n berchen ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (09) (Cynlluniau a gymeradwywyd) cais cynllunio FPL/2022/85.  Mae’r addasiadau arfaethedig yn cynnwys newid lleoliad yr adeilad tŷ hanner ffordd 4.5m o’r de; cynyddu hyd y bar/ adeilad lluniaeth o 4m, sef o 8m i 12m; addasiadau i ddyluniad y tri adeilad a gymeradwywyd o doeau crib i doeau fflat a mân addasiadau i ddyluniad y cwrs.  Ystyrir bod yr addasiadau o natur eithaf bychan na fyddai’n newid y datblygiad gymeradwy yn sylweddol nac yn faterol, ac felly ystyrir ei fod yn dderbyn yn ôl y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: