Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai yr adroddiad gan nodi bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged a gynlluniwyd o £8,369k. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf gros ar gyfer 2024/25 oedd £29,573k, a thrwy £10,578 o gyllid grant a £509k o gronfa wrth gefn a glustnodwyd bu modd gostwng y gyllideb net i £18,485k. Rhoddodd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu ddiffyg arfaethedig o £10,116k, yr oedd £7,011k ohono i gael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT, gyda'r gweddill o £3,105k i'w ariannu gan fenthyciadau allanol.
Ar ddiwedd Chwarter 4, dangosodd cyfrif refeniw y CRT danwariant o £543k o'i gymharu â'r gyllideb. Roedd y gwariant cyfalaf £2,105k yn is na'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd incwm grant £6,623k yn uwch na’r disgwyl ac roedd derbyniadau cyfalaf £632k yn uwch na'r gyllideb. Y diffyg ar ddiwedd y flwyddyn yn sgil cyfuno refeniw a chyfalaf oedd £214k, sef £9,902k yn llai na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer. Gostyngiad yn y diffyg cyfalaf sydd i gyfri yn bennaf am hyn, fel yr esbonnir yn Adran 9 isod.
Roedd balans agoriadol cronfa y CRT yn £8.189k. Roedd y gyllideb yn darparu ar gyfer defnyddio £7,011k o’r balans hwn, gan adael yr isafswm balans o £1,177k yn unol â Chynllun Busnes y CRT. Fodd bynnag, dim ond £214k oedd ei angen i ariannu'r diffyg refeniw a chyfalaf cyfunol yn y flwyddyn, oedd yn golygu bod balans cronfa wrth gefn y CRT yn £7,975k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod y CRT wedi'i neilltuo sy'n golygu na ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i'r Gronfa Gyffredinol na defnyddio cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol i ariannu'r CRT.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai'r bwriad gwreiddiol oedd lleihau cronfa wrth gefn y CRT i lefel sy'n cyfateb i 5% o'r gyllideb incwm, sef tua £1.6m. Oherwydd tanwariant ac yn fwy arwyddocaol, cyllid grant ychwanegol a oedd i gyfri am gyfran fawr o wariant cyfalaf, mae balans wrth gefn y CRT yn parhau i fod yn sylweddol uwch na'r disgwyl ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf yn 2025/26, a thrwy hynny, lleihau'r balans wrth gefn ac osgoi benthyca allanol a'r costau cysylltiedig. Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at Atodiad C o'r adroddiad a oedd yn manylu ar y gyllideb datblygu tai ar gyfer 2024/25 a'r cynlluniau yr oedd wedi’u cefnogi. Roedd rhai o'r cynlluniau hyn bellach wedi'u cwblhau a thenantiaid yn byw ynddynt.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y buddsoddiad mewn datblygiadau newydd a'r tai mawr eu hangen a ddarparwyd ganddynt, gan gydnabod hefyd yr heriau sydd o'n blaenau, yn enwedig i fodloni gofynion Safonau Ansawdd Tai newydd Cymru 2023 a'r costau y byddai hyn yn ei olygu. Cytunodd yr Aelodau fod cyflawni'r safonau hyn yn bwysig er mwyn gwella ansawdd tai a sicrhau lles tenantiaid, ond y byddai angen cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwneud hynny. Fe’u calonogwyd gan ganfyddiadau arolwg diweddar o gyflwr stoc a oedd yn gosod stoc dai'r Cyngor ymhlith y gorau o'r holl awdurdodau sydd â stoc dai yng Nghymru o ran ansawdd, gan roi'r Cyngor mewn sefyllfa gref.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor raglen dai uchelgeisiol o ran datblygu tai newydd a buddsoddi yn y stoc dai bresennol. Fodd bynnag, bydd cynnal y rhaglen hon ar ei lefel bresennol yn anodd, os nad yn amhosibl, heb newidiadau. Bydd angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â blaenoriaethu. Mae'r Cyngor, trwy'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yn parhau i geisio dylanwadu i sicrhau y gellir cynnal y lefel bresennol o fuddsoddiad.
Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25.
Dogfennau ategol: