Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adolygiad blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 i'w ystyried. Mae'r adroddiad yn rhoi diweddariad economaidd, yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ynglŷn â benthyca, yn adolygu perfformiad buddsoddi ac yn mesur sefyllfa bresennol y Cyngor yn erbyn y dangosyddion perfformiad sydd yn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys flynyddol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad fel sy'n ofynnol gan God Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a nododd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad ar 16 Gorffennaf ac y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 25 Medi, 2025. Roedd ffurf symlach yr adroddiad yn cael ei groesawu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 brif elfennau’r adroddiad sef trosolwg o'r ffactorau economaidd sy'n effeithio ar benderfyniadau rheoli trysorlys y Cyngor, gwariant cyfalaf y Cyngor a'i effaith ar waith rheoli trysorlys a sefyllfa fenthyca'r Cyngor. Dywedodd fod strategaeth y Cyngor wedi parhau i osgoi benthyca allanol oherwydd cyfraddau llog uchel yn hytrach defnyddio cronfeydd wrth gefn mewnol y Cyngor i ariannu gwariant cyfalaf fel y dangosir yn Nhabl 5 o'r adroddiad. Efallai y bydd angen ystyried benthyciad allanol tua diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol er mwyn cynnal llif arian digonol. Os bydd angen benthyca allanol, bydd ar sail tymor byr a rhagwelir ail-ariannu hyn yn 2026/27 pan fydd disgwyl i gyfraddau llog ostwng. O ran buddsoddiad, arweiniodd balansau uwch ym mis Ebrill yn sgil cyllid Llywodraeth Cymru, grantiau a derbyniadau'r Dreth Gyngor at gynnydd o ran buddsoddi. Wrth i falansau arian parod gael eu defnyddio a lleihau yn ystod y flwyddyn, mae'r gallu i fuddsoddi yn gostwng. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod cyfraddau llôg yn dal yn dda ac incwm grant ychwanegol wedi arwain at ddychweliadau uwch nag y cyllidebwyd ar eu cyfer, gan roi hwb i gyllid y Cyngor.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi cydymffurfio'n llawn â'r dangosyddion perfformiad a'r terfynau awdurdodedig a nodir yn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 (gweler Tabl 7). Mae'r adroddiad yn gadarnhaol ac yn dangos rheolaeth ariannol ddarbodus a chyfrifol.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a chymeradwyodd ddull synhwyrol y Cyngor o reoli’r trysorlys a defnyddio arian cyhoeddus.
Cododd y Cynghorydd Dafydd Roberts gwestiwn ynglŷn â'r cynnydd sydyn mewn ad-daliadau benthyciadau yn 2052/53 (Atodiad 1 - Cyfanswm y Benthyciadau sy'n ddyledus ar 31 Mawrth 2025 yn ôl blwyddyn ad-dalu) a sut mae hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod rhai o'r benthyciadau ar yr atodlen yn hanesyddol sy'n dyddio'n ôl nifer o flynyddoedd, ac mai'r nod wrth fenthyca yw lledaenu'r ad-daliadau yn gyfartal dros nifer o flynyddoedd. O ran 2052/53, bydd angen cynllunio yn nes at yr amser naill ai i gymryd benthyciad newydd i ad-dalu rhywfaint neu'r holl ddyled neu drwy ail-ariannu mewn modd amserol pan fo cyfraddau llôg yn ffafriol. Gall ad-daliad cynnar arwain at gosbau sy’n gallu bod yn fwy na'r llôg a arbedwyd.
Penderfynwyd nodi’r adroddiad ar Adolygiad o Reoli’r Trysorlys am 2024/25 ac argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 25 Medi 2025.
Dogfennau ategol: