Eitem Rhaglen

Cyfrifon Terfynol Drafft 2024/25 a defnydd o Gronfeydd Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft ar gyfer 2024/25 a'r Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad yn amlinellu'r prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor, y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, balansau ysgolion a chronfa wrth gefn y CRT

a'u defnydd arfaethedig yn 2025/26 a'r blynyddoedd dilynol. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi barn Swyddog Adran 151 y Cyngor ar ddigonolrwydd y cronfeydd wrth gefn ac a ydynt yn cynnig digon o wydnwch ariannol a darpariaeth ar gyfer y risgiau sy'n wynebu'r Cyngor. Gan fod risgiau’n gallu newid, bydd lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu dros y misoedd nesaf. Nododd y Cynghorydd Robin Williams nad yw'r ffigurau wedi'u harchwilio ac y gallant newid yn dilyn y broses archwilio. Bydd adroddiad ar y Datganiad terfynol o'r Cyfrifon yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cyngor Llawn ar ôl cwblhau'r archwiliad.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad o'r Cyfrifon yn ddogfen dechnegol gymhleth sy'n cael ei pharatoi yn unol â safonau a rheoliadau cyfrifyddu. Er efallai nad dyma'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf hygyrch i drethdalwyr ynghylch sut mae'r Cyngor yn rheoli arian cyhoeddus, gall rhai adrannau, fel y nodiadau, fod yn ddefnyddiol. O ran yr amserlen, cyhoeddodd y Cyngor ei Ddatganiad drafft ddiwedd mis Mehefin, erbyn y dyddiad cau diwygiedig o 30 Mehefin yn lle’r dyddiad cau gwreiddiol ar 31 Mai sydd bellach yn cael ei ystyried yn anymarferol. Mae'r cyfrifon drafft wedi'u cyflwyno i'w harchwilio gyda'r nod o gael eu llofnodi erbyn diwedd mis Hydref, 2025. Mynegodd Swyddog Adran 151 werthfawrogiad i staff y Gwasanaeth Cyfrifyddu a’i gwnaeth yn bosibl cydymffurfio â'r amserlen.

 

Er bod y CIES yn dangos bod gan y Cyngor warged o £45m ar gost gwasanaethau, mae hyn yn adlewyrchu'r gost gyfrifyddu yn hytrach na'r swm a ariennir gan grantiau a threthiant a phan fydd yr addasiadau angenrheidiol wedi'u gwneud mae'r gwir warged yn cael ei ostwng i £3.74m. Mae wedi'i ychwanegu at y Balansau Cyffredinol. Mae Tabl 2 o'r adroddiad yn crynhoi'r gwahanol gronfeydd wrth gefn a’r balansau sydd gan y Cyngor gan gynnwys symudiadau i mewn ac allan o'r cronfeydd wrth gefn hynny - manylir yn llawnach arnynt yn Atodiad 4. Crynhoir cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn Nhabl 5 gyda manylion pellach yn Atodiad 5. Mae cronfeydd wrth gefn newydd a glustnodwyd ac y gofynnwyd amdanynt, a'u diben, wedi'u rhestru yn Nhabl 4 o'r adroddiad. Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at y gostyngiad ym malansau ysgolion ar gyfer 2024/25 ond cadarnhaodd fod y sector ysgolion yn parhau i fod yn ariannol sefydlog yn gyffredinol ac yn cymharu'n dda ag ysgolion mewn awdurdodau lleol eraill. Dim ond pedair ysgol gynradd sydd mewn sefyllfa o ddiffyg, ac mae gan dair ohonynt fân ddiffygion. Mae gan bob un o'r pedair ysgol gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r diffygion.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith i staff y Gwasanaeth Cyfrifyddu am eu hymrwymiad a’u gwaith gofalus wrth gwblhau'r cyfrifon drafft o fewn yr amserlen ofynnol.

 

Penderfynwyd

 

·      Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2024/25 ar y ddolen a ganlyn - https://www.ynysmon.llyw.cymru/documents/Dogfennau-Cy/Cyllid/Datganiad-or-cyfrifon/2024-i-2025/datganiad-o-cyfrifon-2024-i-2025-drafft.pdf?nocache=1

·      Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor, sef £15.705m.

·      Nodi balans y cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sef £18.295m, a chymeradwyo creu £1.958m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd.

·      Cymeradwyo yn ffurfiol, trosglwyddo £0.094m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·      Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £5.074m.

·      Nodi balans cronfa wrth gefn y CRT, sef £7.978m.

 

Dogfennau ategol: