Eitem Rhaglen

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r cyfarfod.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r cyfarfod gan Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn amlinellu rôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r berthynas waith agos â Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â Sgriwtini a hynny drwy amrywiaeth eang o ffyrdd a thrwy'r Bwrdd Gweithredol Strategol.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y cyflwyniad gan Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu.  

 

Adroddodd y Prif Weithredwr fod gan yr Heddlu a'r Cyngor Sir bartneriaeth gadarn a’u bod yn cydweithio'n effeithiol ar nifer o lefelau, er bod adnoddau’n brin.  Dywedodd fod Ynys Môn yn lle diogel i fyw a bod diogelu cymunedau yn bwysig iawn i'w thrigolion.  Cyfeiriwyd at gynllunio ac ymateb i argyfyngau o ystyried y cynnydd mewn traffig trwy borthladd Caergybi, sy'n golygu bod mwy o risg, a’r cydweithio ehangach â Llu’r Ffiniau a'r awdurdod porthladd yn ogystal â'r Heddlu.  Cyfeiriodd at y Gymraeg, sy'n un o nodau strategol y Cyngor - bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn Ynys Môn a dywedodd ei fod yn falch bod yr Heddlu wedi ymrwymo i flaenoriaethu'r Gymraeg.

 

Yn dilyn y ddau gyflwyniad gan Heddlu Gogledd Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor: -

 

·         Cyfeiriwyd at gerbydau, gan gynnwys lorïau HGV sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ar y llinellau igam-ogam wrth ddod at y groesfan pelican yn y Fali, sy'n broblem barhaus.  Yr wythnos diwethaf cyfarfu dau aelod o'r Cyngor â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) o Gaergybi i drafod ffyrdd o ddatrys y mater hwn.  Mae aelodau'r cyhoedd hefyd wedi anfon lluniau o gerbydau wedi'u parcio at Gan Bwyll a Heddlu Gogledd Cymru ond nid ydynt wedi derbyn unrhyw adborth hyd yn hyn. 

 

Gofynnwyd a oedd modd i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu lobïo Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eraill ledled y wlad a Llywodraeth y DU i newid y gyfraith i roi mwy o bwerau i'r Heddlu fynd i'r afael â'r materion hyn?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod parcio anghyfreithlon ar linellau igam-ogam yn drosedd sy’n gyfystyr â chosb benodedig, a bod pwerau gan Gwnstabliaid i ddelio â nhw, ond nid felly Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.  Nodwyd bod rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi'i hadolygu i wneud y mwyaf o'u pwerau i ddelio â materion cymunedol lleol, a gellid ailedrych ar hyn i sicrhau eu bod wedi derbyn yr holl hyfforddiant angenrheidiol.  Yn achos materion parcio cyffredinol, cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw gorfodi'r gyfraith a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig.

 

Dywedodd yr Uwcharolygydd ei fod yn siomedig bod problemau’n parhau yn y Fali, gan fod ei staff wedi gweithio'n galed i ddatrys y rhain trwy gynnal arolygon a chyfarfodydd lleol.  Cytunodd i edrych ar achosion unigol a rhoi adborth maes o law.

 

·         Gofynnwyd cwestiwn am ‘Ymgyrch Stack', a ph’un ai a yw cynlluniau 'parcio cerbydau' yn cyfeirio at ddefnyddio tir ar Ynys Môn neu'r tir mawr pan fydd Pont Britannia ar gau?

 

Dywedodd yr Uwcharolygydd fod Heddlu Gogledd Cymru’n gweithio'n agos gyda'r Cyngor Sir a bod safleoedd ar y tir mawr wedi’u clustnodi yn ogystal â safleoedd penodol ar Ynys Môn.

     

Adroddodd y Prif Gwnstabl fod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Fforwm Gwydnwch Lleol i roi cynlluniau ar waith sy'n gweithio, sy'n her wirioneddol i'r Heddlu ac yn fater y mae'r Heddlu’n awyddus iawn i’w ddatrys.

 

·         Mynegwyd pryderon nad yw SCCH yn gweithio yn yr un ardaloedd am hir.

Unwaith y maen nhw wedi datblygu perthynas waith o fewn y cymunedau y maen nhw’n eu cynrychioli, cânt eu hadleoli i weithio mewn gwahanol ardaloedd.

 

      Nodwyd bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi neilltuo cyllid ychwanegol i bob

Heddlu yn y DU gyda phwyslais ar blismona cymunedol.  Gofynnwyd a fydd rhagor o gyllid ar gael ar gyfer Gorllewin Cymru, yn enwedig Ynys Môn?

 

Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl fod cyllid wedi’i neilltuo i Ynys Môn a rhanbarth y gorllewin yng nghynllun adnoddau'r Uwcharolygydd. Dywedodd fod unrhyw ymateb neu gymorth ychwanegol gan Wynedd a’r rhanbarth y

      gorllewin wedi bod yn destun craffu gofalus.  Mae'r Heddlu’n cydnabod bod materion troseddu gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, ac mai pwrpas Plismona Cymunedol yw sicrhau bod swyddogion lleol sy’n gyfarwydd â’r problemau yn gweithio ynddynt.  Dywedodd y Pennaeth y byddai’n ystyried y sylwadau ynghylch swyddogion sy'n ymuno â'r Heddlu fel SCCH ac yn symud ymlaen i symud ymlaen i fod yn gwnstabliaid.  Nodwyd bod llawer o waith yn cael ei wneud i sefydlogi symudiadau staff a chadw swyddogion cymunedol mewn ardaloedd lleol.  O ran cynllunio'r gweithlu, nodwyd bod angen i'r Heddlu sicrhau bod gwasanaeth da a chyson yn cael ei ddarparu i gymunedau lleol: mae angen i bobl wybod gyda phwy i gysylltu yn yr Heddlu, bod ganddynt hyder ynddynt, a’u bod yn gallu ymddiried ynddynt.  Cadarnhawyd y bydd cynnydd yn sicr yn nifer y swyddogion newydd sy'n ymuno â'r Heddlu, a bydd eu ffocws ar sicrhau cysondeb o fewn cymunedau.

   

·         Cyfeiriwyd at gerbydau’n goryrru rhwng Engedi a Rhosneigr.  Nodwyd bod Andrew Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi bod mewn cyfarfod gyda'r cyngor lleol ychydig yn ôl.  Nodwyd ymhellach nad oes unrhyw swyddogion eraill wedi mynychu unrhyw gyfarfodydd cyngor lleol ers hynny.  Pwysleisiwyd y byddai mwy o gefnogaeth gan yr Heddlu ynglŷn â'r mater hwn yn cael ei werthfawrogi.

 

Codwyd cwestiwn p’un ai gallai'r Heddlu roi pecyn ariannol at ei gilydd i osod camerâu cyflymder cyfartalog rhwng Engedi a Rhosneigr? 

 

      Mewn ymateb, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n codi’r mater gyda'r Comisiynydd i weld a oes angen gwneud ymholiadau pellach, ac y byddai’n rhoi adborth iddynt.

 

      Adroddodd yr Uwcharolygydd fod Rhingyll Cymunedol newydd wedi'i benodi, sy'n gweithio i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol yn yr ardaloedd cywir a bod swyddogion yn mynychu cyfarfodydd cymunedol.  Nodwyd y byddai sylwadau'r aelod yn cael eu hystyried, a byddai'r sefyllfa bresennol yn cael ei hadolygu.  

     

·         Gofynnwyd p’un ai a yw uno Lluoedd yr Heddlu yn ôl ar yr agenda?

Cyfeiriodd aelod at erthygl yn y Sunday Times oedd yn dweud bod Mark Rowley, Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan wedi datgan bod y Prif Gwnstabliaid yn unedig o safbwynt bod angen uno ar frys.

       

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod plismona wedi dod yn fwy cymhleth, a bod gan Benaethiaid gyfrifoldebau cenedlaethol gwahanol ar draws ardaloedd enfawr yn ogystal â’u hardaloedd Heddlu lleol.  Cyfeiriwyd at drefniadau datganoledig Cymru, a’r ffaith nad yw Plismona a'r system Cyfiawnder Troseddol wedi’u datganoli. Mae’n debygol nad yw hyn yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall gan bartneriaid Lloegr.  Mae’r system yn Lloegr yn wahanol ac yn seiliedig ar fodelau Maer, ac mae’n debygol na fyddai'n gweithio yn effeithiol ledled Cymru.  Pan nad yw plismona yn cael ei ddatganoli, mae'n fater cymhleth pan nad oes modd dylanwadu yr un fath ar blismona, cyfiawnder troseddol, iechyd ac awdurdodau lleol.  Mae'r materion i'w hystyried yn cynnwys deall beth sydd orau i Gymru a'i chymunedau lleol a sut i gyflawni hyn.  Nodwyd bod y system bresennol yn gweithio'n effeithiol yng Nghymru gan fod dealltwriaeth gyffredin rhwng Prif Gwnstabliaid a Phrif Weithredwyr Cynghorau lleol.  Er nad yw plismona wedi cael ei ddatganoli yng Nghymru, mae'n cael ei drin bron yn yr un modd, a dyna pam fod gan yr Heddlu berthynas mor gadarnhaol o ran diogelwch cymunedol wrth geisio ailgynllunio. Mae llawer o waith i'w wneud yn y maes hwn.

 

·         Dywedodd aelod nad yw 'Ymgyrch Stack' yn gweithio ym Mhorthaethwy a

Llanfairpwllgwyngyll.  Gofynnwyd a oes gan yr Heddlu gynlluniau ar hyn o bryd i ymateb i sefyllfaoedd pan fydd tywydd mawr a’r pontydd yn cau ar Ynys Môn?  Gofynnwyd hefyd a ellid ystyried safle Heddlu’r Ffiniau yng Nghaergybi fel opsiwn?

     

      Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl ei bod yn anodd iawn cyfathrebu â 

gyrwyr loriau i roi gwybod iddynt bod pontydd wedi cau unwaith eu bod ar yr A55 yn mynd i gyfeiriad Ynys Môn.  Mae'r Heddlu yn gweithio'n agos gyda’r gwasanaeth rheoli traffig i ddiweddaru gyrwyr am arwyddion sy'n dangos terfynau cyflymder a chyflymder y gwynt.  O ran parcio lorïau HGV, bydd angen adolygu hyn i ystyried yr holl opsiynau ar gael.

 

·         Gofynnwyd sut i godi ymwybyddiaeth o cetamin a chydweithio â'r Awdurdod Lleol i addysgu pobl ifanc am beryglon y cyffur hwn?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod swyddogion yn parhau i fynd i ysgolion i gyflwyno negeseuon pwysig i blant mor ifanc â phosibl.  Cyfeiriwyd at raglen 'Y Llinell Las' ar S4C, a dynnodd sylw at y defnydd o cetamin a'i beryglon a'i effaith hirdymor.  Nodwyd bod gan Gaergybi un o'r grwpiau cymorth cyntaf ar gyfer defnyddwyr cetamin.  Mae dull aml-asiantaeth wedi’i fabwysiadu i gefnogi'r mater hwn: gall yr Heddlu weithredu o safbwynt materion gorfodi; gall yr Awdurdod Lleol ddelio â'r ochr addysg. Mae angen i'r gwasanaethau iechyd ddod ynghyd i fynd i'r afael â'r mater hwn, fel y gall pobl ifanc wneud y penderfyniad cywir pan fyddant yn mynd ar noson allan neu pan fyddant yn cael cynnig sylweddau peryglus.

       

·         Cyfeiriwyd at Iona Beckman, cyn-SCCH, a gafodd ei chanmol am ei gwaith. Dywedodd un aelod mai un o'i chryfderau oedd ei bod yn adnabod pawb yn yr ardal leol a’i bod yn berson hawdd mynd ati. Awgrymwyd y byddai cymorthfeydd yn ffordd dda o uno cymunedau gyda'i gilydd. Hefyd cafodd SCCH Kaitlin McGonigle ei chanmol gan aelodau am ei gwaith arbennig. 

 

      Codwyd cwestiwn ynglŷn â pha fesurau sydd ar waith i sicrhau bod

      cyfathrebu effeithiol rhwng aelodau etholedig a'r SCCH? 

   

Mewn ymateb, dywedodd yr Uwcharolygydd fod cyswllt a chyfathrebu yn hanfodol o fewn cymunedau.  Nodwyd y bydd y Rhingyll Cymunedol newydd yn neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer cysylltiadau cymunedol, gan gynnwys gweithio gyda recriwtiaid newydd i wella eu sgiliau.  Hefyd mae’r amser y mae swyddogion yn ei dreulio y tu allan i orsafoedd yr heddlu yn cael ei fonitro, i wella cyswllt yr Heddlu o fewn cymunedau. 

 

·         Gofynnwyd a oes gan yr Heddlu gynlluniau i wneud newidiadau i Wefan a

      thudalen Facebook Heddlu Gogledd Cymru?

 

Dywedodd aelod ei bod wedi derbyn cwynion bod tudalen Facebook Heddlu Gogledd Orllewin Cymru yn anhygyrch, gan nad oes pwynt cyswllt wedi'i gynnwys ar y wefan.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl na fyddai’n cynghori pobl i geisio cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar Facebook, gan mai cyfrwng i rannu gwybodaeth yw Facebook ac nid yw'n cael ei fonitro drwy'r amser.      

 

·         Gofynnwyd sut mae'r broblem cyffuriau yn Ynys Môn yn 2025 o gymharu â 2 neu 3 blynedd yn ôl?

 

Dywedodd yr Uwcharolygydd nad yw'r broblem yn waeth eleni nag yn y blynyddoedd blaenorol. Dywedodd ei fod yn targedu'r problemau cyffuriau yn Ynys Môn yn benodol ac yn gweithio i atal y rhai sy’n delio cyffuriau rhag dod i Ynys Môn yn y lle cyntaf. 

 

·         Gofynnwyd a yw Llinellau Sirol yn dal i fod yn broblem ar yr Ynys?

     

Dywedodd yr Uwcharolygydd fodproblemau yn dal i barhau ond, nad ydynt wedi mynd yn waeth. Mae'r Heddlu’n targedu grwpiau ar-lein, gan fod dulliaudelwyr o gyflenwi cyffuriau’n newid yn gyson. 

     

·         Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â datganoli pwerau'r Heddlu i Gymru?

 

Dywedodd y Prif Gwnstabl fod plismona’n cael ei gefnogi gan seilwaith cenedlaethol sylweddol, y byddai angen ei efelychu er mwyn gwneud newidiadau o safbwynt datganoledig. Dywedodd ei bod nid yn unig yn aelod o fwrdd heddlu rhanbarth Cymru ond bod ganddi hefyd gysylltiadau â rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr gyda phartneriaid yng Nglannau Mersi a Swydd Gaer. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig sefydlu’r perthnasoedd gwaith hyn, gan fod troseddwyr yn teithio a bod y defnydd o gyffuriau yn deillio o'r ardaloedd hynny. Nodwyd bod pob ardal yr Heddlu yn dibynnu ar ardaloedd eraill i gydweithio pan oedd anhrefn cenedlaethol i gynnig cymorth i’w gilydd, a châi swyddogion o Ogledd Cymru  eu defnyddio ledled y wlad. Nodwyd ymhellach bod llawer o ymchwil academaidd wedi’i wneud a sawl safbwynt ynglŷn â datganoli plismona yng Nghymru, sy'n bwynt gwleidyddol i'w ddatblygu. Dywedodd y Prif Gwnstabl mai ei rôl yw sicrhau bod plismona yn gweithio'n ymarferol ar lawr gwlad mewn cymunedau lleol. Cyfeiriwyd at yr iaith Gymraeg, a'i phwysigrwydd i bobl sy'n byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd y Prif Gwnstabl, er mwyn cael disgrifiad cywir gan ddioddefwr trosedd, bod angen sicrhau bod siaradwr Cymraeg ar gael i sgwrsio â'r dioddefwr. Tynnwyd sylw at y ffaith bod proses recriwtio Heddlu Gogledd Cymru yn Saesneg ar hyn o bryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Coleg Plismona i recriwtio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

·         Mynegodd yr Aelodau siom nad oedd yr Heddlu wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Llangefni yn ddiweddar, lle’r oedd cynrychiolaeth o 5 Cyngor Tref a Chymuned i drafod teledu cylch cyfyng.  Gofynnwyd pryd y bydd y gwaith teledu cylch cyfyng yn cael ei gwblhau?

 

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fod y cyfnod tendro ar gyfer y contract yn cau ddiwedd y mis hwn.  Bydd diweddariad pellach yn cael ei roi i Banel yr Heddlu a Throseddu, ac yna i’r holl randdeiliaid, a fydd yn cael eu diweddaru mewn proses ymgynghori helaeth, fel rhan o Gylch Gorchwyl y Panel.

 

Bu aelod o'r Panel Heddlu a Throseddu yn nigwyddiad gwobrau cymunedol CHTH yn ddiweddar i ddathlu pobl sy'n gwneud gwahaniaeth.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod ethos y Panel yn Saesneg, er bod elfennau Cymraeg wedi'u cynnwys yn y drafodaeth.  Pwysleisiwyd bod angen gwaith pellach i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a’r Saesneg ar y Panel.

 

Mewn ymateb, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fod mwy o elfennau dwyieithog wedi'u cyflwyno yn y gwobrau cymunedol, a bydd sylwadau'r aelod yn parhau i gael eu hystyried. Cyfeiriwyd at y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr sy’n cynnig cymorth amhrisiadwy i ddioddefwyr troseddau. Caiff ei gomisiynu gan yr heddlu ac mae’n dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu yr wythnos nesaf. 

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y ddeddfwriaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n gyrru tractorau ar ffyrdd A a B?

 

Adroddodd yr Uwcharolygydd fod ei staff yn gweithio gyda'r Tîm TroseddauGwledig i addysgu pobl ifanc sy'n gyrru tractorau. Bydd ei dîm yn ymchwilio pam fod cymaint o yrwyr ifanc ar dractorau’n defnyddio eu ffonau wrth yrru. Nodwyd bod y rheolau'n amrywio’n fawr, yndibynnu ar yswiriant;i ba ddiben y defnyddir y tractor; faint o filltiroeddi ffwrdd o'r fferm y caiff ei ddefnyddio; lled y tractor. Tynnwyd sylw at y ffaith mai diogelwch sydd dan sylw yma, a phwysigrwydd addysgu pobl ifanc a chyfleu'r neges. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod gan y Cyngor fynediad i ysgolion ac y gall gydweithio â Choleg Menai i gyfleu negeseuon i bobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth drwy glybiau ieuenctid, ffermwyr ifanc ac ati.

 

·         Gofynnwyd faint o glybiau ieuenctid, ffermwyr ifanc, clybiau rygbi ac ati sydd wedi elwa o grantiau drwy'r cynllun grantiau 'Eich Llais, Eich Cymuned'?

 

Mewn ymateb, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fod tri chlwb ar yr Ynys wedi elwa o'r gronfa chwaraeon haf yr wythnos ddiwethaf.  Y cyntaf oedd pêl-fasged, ac yna cynllun chwaraeon a gemau’r ffermwyr ifanc a'r clwb pêl-droed ar gyfer pobl ag anableddau.

 

·         Gofynnwyd a yw cŵn synhwyro yn mynd gyda Swyddogion yr Heddlu pan fyddant yn ymweld ag ysgolion i addysgu disgyblion?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod yr Heddlu’n mynd â chŵn i ysgolion, yn fwy o safbwynt addysg yn hytrach nac ar gyfergwaith, i ddangos beth all y cŵn ei wneud, fel bod pobl ifanc yn deall i beth maen nhw'n cael eu defnyddio a'r risgiau maen nhw'n eu cymryd os ydyn nhw'n cario cyffuriau eu hunain.

 

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd fod cŵn synhwyro wedi cael eu defnyddio mewn colegau lleol i gyfleu’r neges yn y gorffennol, ond mae peryglon wrth fynd â chŵn i mewn i golegau, ac mae'n rhaid sicrhau’r cydbwysedd cywir.

 

·         Gofynnwyd a yw cymorth a gynigir ar y cyd yn gweithio'r ddwy ffordd? 

 

Adroddodd y Prif Gwnstabl fod yr Heddlu yn codi tâl am gymorth a gynigir ar y cyd. Esboniodd fod yr Heddlu  yn cael llawer o gefnogaeth a chymorth gan heddlu GlannauMersi, yn enwedig pan fydd achosion yn ymwneud â Llinellau Sirol. Caiff swyddogion eu secondio o Lannau Mersi i'r rhanbarth i weithio ar droseddu cyfundrefnol rhanbartholsy'n effeithio ar Ogledd Cymru. Mae system glir ar waith o ran codi tâl gan y ddwy ochr ac mae cŵn yn dod i mewn ac allan o'r ardal yn ôlarbenigedd pob ci.

 

·       Ydi Heddlu Gogledd Cymru yn fodlon â'i weithdrefnau cofnodi a monitro ar gyfer delio â thrais yn erbyn menywod?

 

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fod y Bwrdd Gweithredol Strategol wedi craffu ar drais yn erbyn menywod a genethod 5 neu 6 gwaith yn ystod y ddwy flynedd a hanner i dair blynedd diwethaf ac wedi cael sicrwydd bod y mater hwn wedi cael sylw dyledus ynghyd â’r cyflwyniadau a roddwyd ar y pwnc hwn.  Mae Gwasanaethau’r Comisiwn yn siarad â dioddefwyr cam-drin domestig ac ymddygiad gorfodol ac yn darparu adborth.  Nodwyd bod yr Heddlu wedi cael asesiad rhagorol ar gyfer cofnodi troseddau, gan roi sicrwydd annibynnol pellach.  Nodwyd bod y Comisiynydd wedi cytuno i ariannu swydd ran-amser ar gyfer gweithiwr achos stelcian annibynnol ar gyfer cynllun peilot 12 mis o fewn y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod Arolygwyr Ei Fawrhydi yn cofnodi pa mor effeithiol y cofnodir troseddau ac ymchwiliadau i gam-drin domestig ac ymddygiad gorfodol a rheolaethol.  Daeth yr Arolygwyr i'r casgliad fod yr Heddlu wedi perfformio'n rhagorol o ran y maes penodol hwn, gydag adnoddau’n cael eu targedu’n bennaf ar gyfer hyfforddi swyddogion i ddelio’n effeithiol â throseddau o'r natur yma.  Mae swyddog o Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei secondio i weithio gyda Heddlu Swydd Gaer i ddysgu o'u harferion da.  Mae swyddogion yn canolbwyntio ar stelcian ac aflonyddu ac yn edrych ar yr holl wahanol droseddau i'w deall yn iawn a chynnig y cymorth gorau i ddioddefwyr i sicrhau bod y cylch o gam-drin yn cael ei dorri.

 

·         Gofynnwyd cwestiwn a yw cam-drin domestig yn y cartref ar gynnydd?  A oes

      rheswm y tu ôl iddo yn Ynys Môn?

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod y cynnydd ledled Gogledd Cymru yn ymwneud ag adnabod achosion yn well a chynnig sicrwydd, gyda phobl yn teimlo'n hyderus i gysylltu â'r Heddlu.  Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i sicrhau bod euogfarnau'n cael eu rhoi ar y cyfryngau fel bod pobl yn gallu gweld bod euogfarnau am yr ymddygiad hwn.  Rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd addysgu pobl ifanc mewn ysgolion sy'n datblygu’n oedolion, a’u bod yn gwybod beth yw perthynas hapus, sefydlog.

 

Croesawodd y Prif Gwnstabl yr adroddiadau am drais domestig, gan nad yw’r adroddiadau wedi bod yn ddigonol ers blynyddoedd lawer, cyn belled â bod yr Heddlu yn gallu gweithredu i dorri'r cylch o gam-drin mewn perthynas â'r unigolion.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Uwcharolygydd fod y ffigurau wedi gostwng.  Os nad yw unigolyn yn gallu symud ymlaen, bydd yr Heddlu yn ymyrryd ac yn cymryd camau i gymryd y baich oddi ar yr unigolyn a gweithio trwy orchmynion sifil, lle bynnag y bo modd.

 

·         Gofynnwyd a yw HeddluGogledd Cymru yn hapus â'r ffordd y mae'r heddlu a'r Cyngor Sir yn gweithio gyda'i gilydd i atal troseddau cyllyll mewn ysgolion?

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Uwcharolygydd nad yw Ynys Môn yn wynebu'r un heriau ag ardaloedd eraill.  Mae'r ffocws ar rannu gwybodaeth rhwng y Prif Gwnstabl, y Cyngor a Swyddogion yr Heddlu ac ymateb i wybodaeth a ddarparwyd gan y gwasanaeth Cudd-wybodaeth.  Mae llawer o graffu ar droseddau cyllyll, a gweithredir ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir ar unwaith. 

 

·         Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â ffigyrau ar gyfer cam-drin domestig yn erbyn dynion yn Ynys Môn?

 

Dywedodd yr Uwcharolygydd nad yw dealltwriaeth yr Heddlu o gam-drin domestig yn erbyn dynion gystal ag ar gyfer benywod.  Mae'n her i'r Heddlu a gwasanaethau eraill, ac mae'n faes lle bydd angen i'r Heddlu edrych i mewn iddo.

 

Dywedodd y Prif Gwnstabl nad yw cam-drin domestig yn benodol i ryw ac anogodd unrhyw unigolyn mewn perthynas lle mae cam-drin domestig yn digwydd i roi gwybod.  Mae yna bobl o fewn yr Heddlu sy'n gallu helpu a darparu cymorth i ddioddefwyr gefnu ar y cylch hwnnw o gamdriniaeth.

 

Adroddodd y Prif Gwnstabl ei bod wedi croesawu 19 SCCH i Heddlu Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf.  Mae o leiaf 2 neu 3 yn dod o Ynys Môn sydd â sgiliau arbennig ar ôl gweithio’n flaenorol mewn pob math o amgylcheddau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Gwnstabl, yr Uwcharolygydd a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu am eu gwybodaeth werthfawr iawn, a werthfawrogir yn fawr.  Canmolodd yr Heddlu am eu gwaith rhagorol. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: