Eitem Rhaglen

Cynllun Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy – Achos Busnes Llawn (ABLl)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen a roddodd ddiweddariad yn cadarnhau bod y cynllun bellach wedi'i ddatblygu'n dda. Roedd dyluniad manwl wedi'i gwblhau a phrif gontractwr wedi'i benodi o dan gontract dylunio ac adeiladu dau gam. Disgwylir y bydd y gwaith tendro ar gyfer pecynnau isgontractwyr yn digwydd dros y tri mis nesaf. Mae trafodaethau wedi bod yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar broses ar gyfer cyflwyno, herio a chymeradwyo'r Achos Busnes Llawn. Mae amserlen arfaethedig yn cynnwys cyflwyno'r ABLl drafft i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf yn seiliedig ar gostau amcangyfrifedig gyda diweddariad ym mis Tachwedd ar ôl derbyn y prisiau tendro. Bydd yr ABLl terfynol yn cael ei ystyried gan Banel Buddsoddi Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2025, ac os derbynnir yr ABLl disgwylir yr anfonir llythyr yn cymeradwyo grant ym mis Ionawr 2026. Yn amodol ar y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r argymhellion, bydd y dyddiadau'n cael eu trafod gyda Llywodraeth Cymru. Y rheswm dros gytuno ar y broses hon yw sicrhau bod cyllid grant yn cael ei sicrhau o fewn y cyfnod y mae'r pris tendro ar gael o hyd. Mae’r achos busnes yn ceisio cyllid tuag at y gost gyfunol o ddatblygu elfennau tîm adnoddau cymunedol y cynllun a’r cartref gofal preswyl. Bydd cais ar wahân yn cael ei gyflwyno am grant tai cymdeithasol/tai gyda chyllid gofal tuag at y costau gofal ychwanegol. Bydd costau sy'n weddill yn cael eu hariannu trwy fenthyciadau'r CRT.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bwysigrwydd gwneud cynnydd amserol er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd cyllido grant sydd ar gael.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu'r Achos Busnes Llawn ac yn cydnabod bod y cynllun yn fuddsoddiad strategol o bwys i'r Cyngor. Yn sgil y newid mewn demograffeg a phoblogaeth sy'n heneiddio, cydnabuwyd bod y cynllun yn gam pwysig o ran darparu gofal cymdeithasol i oedolion.

 

Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn ag awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiwygio a diweddaru'r ABLl, eglurodd y Rheolwr Rhaglen y byddai awdurdod o'r fath yn berthnasol i fân newidiadau’n unig.

 

Penderfynwyd -

 

·      Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol/Cartref Gofal Preswyl Aethwy.

·      Cymeradwyo cyflwyno’r ABLl i Lywodraeth Cymru.

·      Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio Cyllid a Thai, y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio a/neu ddiweddaru’r ABLl fel y bo angenos nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau o bwys (yn nhermau polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol [ar wahân i gyfraniad CRT – os yw’r prosiect yn elwa ar NPV cadarnhaol], risgiau, a niwed i drydydd parti.

·      Ymrwymo i ariannu gofyniad y Cyngor o ran cyfalaftuag at gost y prosiectdrwy’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

*Bydd gwireddu’r cynllun yn amodol ar benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio a chaniatadau statudol eraill a fynnir.