I dderbyn cyflwyniad gan Jennie Downs ar Gynefin a datblygiad ysbrydol ym maes y Dyniaethau.
Cofnodion:
Derbyniwyd cyflwyniad gan Jenny Downs o Brifysgol Bangor ar yr effaith a gafodd cyfieithiad 1588 o’r Beibl i’r Gymraeg ar ysbrydolrwydd yng Nghymru, ei diwylliant ieithyddol a’i thirwedd. Dywedodd iddi archwilio naratif y cyfieithiad trwy ‘Cynefin’ a’i bod wedi ceisio deall ei ystyr dyfnach a sut mae’n cefnogi datblygiad ysbrydol dysgwyr yn y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru.
Esboniodd Ms Downs fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi bod yn arwyddocaol o ran codi proffil y Gymraeg ac mae wedi esgor ar y newidiadau a arweiniodd at ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Dywedodd bod y pedwar pwrpas yn hyrwyddo’r newid, a’u bod yn paratoi cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer byw mewn byd ansicr. Amlygwyd pwysigrwydd elfen fandadol CGM hefyd fel rhan o’r daith hon.
Cyfeiriodd Ms Downs at y fethodoleg a ddefnyddiodd yn ei hymchwil, gan ddefnyddio ‘Cynefin’ fel cyfrwng i archwilio chwe dimensiwn yn naratif y cyfieithiad. Mae pob adran yn cael ei rhannu’n dair rhan: hanes cyfieithu’r Beibl; sut oedd y cyfieithwyr wedi cael gafael ar lawysgrifau hynafol; barddoniaeth y beirdd oedd yn sylfaen i’r iaith. Dywedodd fod y cysylltiadau â’r cwricwlwm a’r ‘Hyn sy’n Bwysig’ mewn Dyniaethau yn cael eu harchwilio ac mae’n dangos sut y gall datblygiad ysbrydol dysgwyr ddatblygu trwy ddefnyddio cyd-destun y cyfieithiad fel thema. Er enghraifft, ystyried beth oedd wedi cymell William Morgan - ac yn benodol, dylanwad y dirwedd naturiol o’i amgylch, yn enwedig yn Nhŷ Mawr a Llanrhaeadr ym Mochnant, y lleoedd lle bu’n byw ac a ddylanwadodd ar ei feddyliau. Nodwyd y gall y gair ‘Cynefin’ ddisgrifio synnwyr o’r ysbrydol, y cyfrin, cydblethiad o dreftadaeth, hunaniaeth a diwylliant.
Dywedodd Ms Downs fod ei hadolygiad o lenyddiaeth wedi dechrau gan ddefnyddio ‘Cynefin’ yn y Cwricwlwm ac esblygiad ‘Cymreigrwydd’. Mae hi wedi cynnal ymchwil pellach ar agweddau byd-eang ‘Cynefin’, gyda chysylltiadau penodol â Chwricwlwm Seland Newydd, sydd yn canolbwyntio ar naratif diwylliannol, ieithoedd a thraddodiadau tebyg.
I orffen, rhannodd Ms Downs y canfyddiadau canlynol o’i hymchwil:
• Mae’n hanfodol creu amgylchedd ddysgu ddiogel sy’n meithrin archwiliad
mwy manwl o gwestiynau CGM a chefnogi datblygiad ysbrydol
trwy hynny.
• Gellid defnyddio cyd-destun dilys y cyfieithiad ar draws y continwwm dysgu
a Chymru;
• Pwysigrwydd galluogi ymarfer i esblygu mewn CGM;
• Bydd cam nesaf ymchwil Ms Downs yn edrych ar naratif a ‘Cynefin’.
Gofynnodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd a fyddai’n bosib addasu gwybodaeth o’r cyflwyniad, sydd ar lefel academaidd, i lefel a fyddai’n addas ar gyfer yr ystafell ddosbarth a’i rannu gydag ysgolion? Mewn ymateb dywedodd Ms Downs yn sicr bod darn o waith y gallai ysgolion ei ddefnyddio sydd yn edrych ar stori’r Beibl Cymraeg a dywedodd y byddai’n hapus i helpu mewn unrhyw ffordd.
Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod yn gwneud cais am gyllid ar hyn o bryd, gan Culham St Gabriels, er mwyn ariannu prosiect ‘Cynefin’ gydag athrawon fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau, er mwyn gweld beth allai Hanes, Daearyddiaeth a CMG eu cynnig gyda’i gilydd.
Diolchodd y Cadeirydd i Ms Downs ar ran y CYS am ei chyflwyniad hynod o ddiddorol ac addysgiadol.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.