Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Dangosodd fod 90% o'r dangosyddion, oedd â thargedau a fonitrwyd yn ystod y chwarter, wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny ac wedi'u graddio'n Wyrdd neu'n Felyn. Roedd y cerdyn sgorio wedi'i adolygu am 2025/26, gydag addasiadau wedi'u gwneud, yn cynnwys cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol newydd. Tynnodd sylw at y ffaith bod Dangosydd Tai 03 - nifer cyfartalog y dyddiau a gymerir i ailosod unedau llety (ac eithrio DTL) - wedi'i ddiwygio i eithrio eiddo newydd, fel ei bod yn cyd-fynd ag arfer darparwyr tai rhanbarthol eraill. Roedd y targed wedi'i addasu i 51 diwrnod i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn realistig ond yn dal yn heriol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at gyfarfod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar 17 Medi, lle trafodwyd adroddiad y cerdyn sgorio’n helaeth a herio dangosyddion tanberfformio.
Adroddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn ôl o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi, gan gadarnhau bod y pwyllgor wedi croesawu'r perfformiad cryf cyffredinol ar ddiwedd y chwarter cyntaf. Roedd y pwyllgor wedi ceisio sicrwydd ynghylch y pum dangosydd tanberfformio oedd yn ymwneud â thai, ailgylchu gwastraff domestig a phrydlondeb ymatebion Rhyddid Gwybodaeth. Gofynnwyd am fwy o eglurhad ynghylch cyflawni gwelliannau yn y meysydd hyn. Rhoddwyd sylw arbennig i'r tanberfformio parhaus wrth ailosod eiddo gwag a thrafodwyd cyflwyno grantiau cyfleusterau i'r anabl a phresenoldeb disgyblion yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Yn dilyn sicrwydd, roedd y pwyllgor wedi penderfynu nodi'r adroddiad ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2025/26, yn cynnwys y meysydd yr oedd y Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio ac yn ymchwilio iddynt i reoli a sicrhau rhagor o welliannau i'r dyfodol, a’u hargymell i’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'r mesurau lliniaru arfaethedig.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Jeff Evans am adborth ac adolygiad cynhwysfawr y pwyllgor craffu. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o'r heriau wrth ailosod eiddo gwag a bod grŵp tasg a gorffen wedi'i gomisiynu i archwilio'r mater. Er bod y duedd yn gwella, câi ymdrechion parhaus eu gwneud i gyrraedd y targed. Nododd, hefyd, gyfarfod oedd ar y gweill gyda Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd i drafod materion a thargedau ailgylchu, gan nodi mai ychydig o awdurdodau yng Nghymru oedd wedi cyrraedd nod ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru. Cafodd pob aelod ei annog i roi gwybod i'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Portffolio dros Dai am unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag eiddo gwag yn eu hardal er mwyn ymchwilio a gweithredu ar unwaith.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a'r perfformiad cyffredinol cadarnhaol. Wrth nodi bod Dangosydd Perfformiad Allweddol 11 o dan Ofal Cymdeithasol a Llesiant, oedd yn ymwneud ag ymweliadau â Chanolfannau Hamdden, ychydig yn is na'r targed, o bosibl oherwydd tywydd da ar y pryd, tynnodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith sylw at y ffaith bod Dangosydd Perfformiad Allweddol 12, a fesurai nifer y bobl a gymerai ran mewn gweithgareddau Môn Actif, wedi rhagori ar ei darged ac yn cael ei ystyried yn adlewyrchiad cywirach o ymwneud y cyhoedd â gweithgareddau hamdden.
Esboniodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol bod y Cyngor, hefyd, yn olrhain gweithgareddau Môn Actif, er bod Dangosydd Perfformiad Allweddol 11 yn fesur statudol. Dywedodd fod 6,000 o blant wedi bod yn ymwneud â Môn Actif yn Sioe Môn a bod 588 wedi cymryd rhan mewn gwersi Nofio Diogel ar draethau Ynys Môn.
Ychwanegodd y Cadeirydd fod sylwadau wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygu Dangosydd Perfformiad Allweddol 11 i gynnwys gweithgareddau cymunedol Môn Actif. Ategodd fod y cerdyn sgorio’n ffynhonnell allweddol o dystiolaeth ar gyfer yr hunanasesiad. Roedd, hefyd, yn offeryn ar gyfer herio perfformiad ar draws portffolios, gan ddylanwadu ar sut y caiff tystiolaeth ei chasglu, ei defnyddio a sut yr adroddir arni, hyn oll i yrru gwelliant.
Penderfynwyd nodi'r meysydd y mae'r Tîm Arweinyddiaeth a'r gwasanaeth perthnasol yn eu harchwilio ac yn ymchwilio iddynt er mwyn rheoli a sicrhau gwelliannau i'r dyfodol. Mae'r rhain yn ymwneud â Thai (ailosod eiddo gwag a chyflwyno Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff domestig) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (prydlondeb ymatebion Rhyddid Gwybodaeth).
Dogfennau ategol: