Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith rhoi sylw iddo, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 hyd at 30 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Yn yr adroddiad, rhagwelwyd tanwariant diwedd blwyddyn ar y gyllideb refeniw o £1,551k (0.79%). Rhybuddiodd y Cynghorydd Robin Williams ei bod yn anodd rhagweld canlyniad diwedd blwyddyn mor gynnar gan y gallai’r sefyllfa newid yn sylweddol wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Ffactorau oedd yn gyfrifol am hyn oedd y galw am wasanaethau, yn enwedig lleoliadau gofal plant, cyllid grant ychwanegol, gwariant untro annisgwyl, swyddi gwag, dyfarniadau cyflog a chyllido costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cynyddol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dyfarniadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad oeddynt yn addysgu bellach yn hysbys ac y caent eu hadlewyrchu yn ffigurau Chwarter 2. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid grant rhannol i gefnogi costau cynyddol cyflog athrawon a gâi eu cynnwys yn setliad y flwyddyn nesaf. Tynnodd sylw at y ffaith fod gorwario mewn gwasanaethau Plant yn parhau i fod yn bryder ac yn her ar draws awdurdodau lleol ar hyn o bryd, er gwaethaf cynnydd o £2 filiwn yn y gyllideb flynyddol. O ran incwm, roedd ffioedd o geisiadau cynllunio a rheoliadau adeiladu wedi gostwng ond caent eu gwrthbwyso gan lefelau incwm uwch na'r disgwyl yn y gwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd. Rhagwelid y byddai incwm craidd y Dreth Gyngor yn fwy na'r gyllideb o £514k, er y gallai hyn newid yn ystod y flwyddyn wrth i eithriadau gael eu gosod. Roedd disgwyl i gyllideb premiwm Treth y Cyngor gynhyrchu gwarged o £333k yn dilyn newidiadau i reolau defnyddio trethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Roedd hyn wedi peri i nifer o eiddo orfod talu Treth y Cyngor a dod yn atebol am y premiwm ail gartrefi. Rhagwelid apeliadau yn erbyn yr ailddosbarthiad hwn. Roedd y rhagolygon ariannol cynnar yn gadarnhaol ac os gwireddid y tanwariant a ragwelid, byddai’n cryfhau balansau'r Cyngor ac yn rhoi mwy o opsiynau wrth gynllunio at gyllideb 2026/27.
Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o'r ffactorau a allai gael effaith ar y sefyllfa ddiwedd y flwyddyn. Er enghraifft, roedd cronfa wedi'i chlustnodi i liniaru risg ad-daliadau Treth y Cyngor oherwydd apeliadau llwyddiannus. Er bod costau cynyddol mewn lleoliadau gofal plant y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, roedd rhaglen Cartrefi Clyd yn parhau i ehangu. Roedd yn fodd i blant gael gofal yn eu cymunedau eu hunain, gan gefnogi eu haddysg a'u lles wrth gynnig dewis arall mwy cost-effeithiol yn lle lleoliadau y tu allan i'r sir.
Penderfynwyd –
· Nodi'r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig am 2025/26.
· Nodi crynodeb o gyllidebau wrth gefn am 2025/26 a nodir yn Atodiad CH.
· Nodi gwaith monitro costau asiantaeth ac ymgynghori am 2025/26 yn Atodiadau D ac DD.
Dogfennau ategol: