Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – VAR/2025/16 – Marian, Talwrn

VAR/2025/16

 

12.2 – OP/2025/1 – Ffordd Llanfawr, Caergybi

OP/2025/1

 

12.3 – FPL/2025/66 – Mandarin Royale, Ffordd Victoria, Caergybi

FPL/2025/66

Cofnodion:

12.1  VAR/2025/16 – Gwneir y cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (01) (caniatâd dros dro) ac amrywio amod (03) (Oriau Defnydd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod VAR/2022/37) (codi caban symudol ar gyfer busnes arlwyo) er mwyn diwygio’r oriau defnydd ym Marian, Talwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelodau lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Wrth gefnogi ei gais, dywedodd Dr. Ieuan Jones, fod y caban symudol yn Uned Containex sydd wedi'i gosod ar sylfaen goncrit ar y lôn sy'n arwain at ei eiddo Marian, Talwrn.  Adeiladwyd y sylfaen goncrit gan y perchennog blaenorol ar gyfer busnes magu ieir ac roedd dŵr a thrydan gerllaw ac fe'i hailgysylltwyd heb drafferth.  Cais yw hwn i addasu’r caniatâd cynllunio yn strwythur parhaol ar gyfer uned storio a chegin paratoi bwyd.  Dywedodd fod y caban ar gyfer ei ferch sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus fel cogydd preifat.  Cyfeiriodd at broblemau iechyd ei ferch a’i bod yn dymuno parhau â'i busnes.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at lythyr yn gwrthwynebu'r cais, gan yr eiddo cyfagos, a e-bostiwyd at Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cynghorwyr Non Dafydd a Dylan Rees wedi datgan y byddent yn tynnu'n ôl eu cais y dylid cyfeirio'r cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion pe bai'r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo.  Ymddiheurodd i'r Aelodau Lleol a'r ymgeisydd gan fod camgymeriad gweinyddol wedi digwydd, a chyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor i'w ystyried.  Dywedodd fod y cais wedi'i gymeradwyo i ddechrau ar gyfer codi caban symudol ar gyfer busnes arlwyo ar 16 Rhagfyr, 2020 am gyfnod dros dro o 5 mlynedd.  Diwygiwyd amod (03) y caniatâd sy'n ymwneud â'r oriau y caniateir defnyddio'r caban symudol ym mis Gorffennaf 2022 o dan gais Adran 73A.  Cais yw hwn i ddileu'r amod cyfnod dros dro (01) i ganiatáu defnydd parhaol o'r caban symudol ac amrywio amod (03) i ddiwygio'r oriau defnydd a ganiateir ymhellach.  Gosodwyd Amod (01) oherwydd pryderon y gallai’r cynnig achosi niwsans a thrwy hynny fod yn niweidiol i amwynder eiddo cyfagos er mwyn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ailystyried y sefyllfa ar ôl 5 mlynedd.  Bydd y cyfnod dros dro yn dod i ben ar 16 Rhagfyr, 2025.  Er bod sylwadau wedi'u derbyn yn gwrthwynebu'r cais, nid oes unrhyw bryderon wedi'u codi mewn perthynas â'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r busnes.  Mae maen prawf 4 polisi cynllunio PS 13 yn cefnogi ffyniant economaidd a chynaliadwyedd cymunedau gwledig drwy hwyluso twf mentrau gwledig ar raddfa briodol, ehangu busnesau presennol ac arallgyfeirio drwy gefnogi ymdrechion i ailddefnyddio adeiladau presennol, datblygu unedau 'lle gwneir gwaith', gweithio gartref, a thrwy hybu’r defnydd o safleoedd ac adeiladau mewn lleoliadau hygyrch priodol sy'n gyson â Strategaeth Ofodol y Cynllun ac yn unol â Pholisïau Strategol PS5 a PS6.  Ystyrir bod y cynnig yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y polisïau gan ei fod yn sicrhau cynaliadwyedd y gymuned wledig.  Ystyrir bod y cynnig o faint priodol o ystyried ei leoliad.  Ni fu unrhyw newid mewn polisi ers i'r caniatâd gael ei roi yn wreiddiol, felly, mae egwyddor y datblygiad yn parhau i fod yn dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio CYF6. Mae Polisi Cynllunio PCYFF 2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi y bydd cynigion yn cael eu cefnogi ar yr amod nad ydynt yn cael effaith negyddol ar amwynder preswyl eiddo cyfagos.  Mae'r cymydog agosaf dros 35m i ffwrdd o’r cynnig, sy'n cael ei ystyried yn bellter digonol, sy'n fwy na'r holl isafswm pellteroedd a argymhellir yn y Canllawiau Atodol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod.  Bydd y caban symudol yn cael ei ddefnyddio gan ferch yr ymgeisydd yn unig, fel unig fasnachwr ar gyfer paratoi bwyd. Bydd hyn yn arwain at draffig a gwastraff cyfyngedig o ystyried graddfa fach y busnes.  Ar ben hynny, ni ystyriwyd y byddai niwsans arogl i'r fath raddau a fyddai'n cyfiawnhau gwrthod y cais gan nad yw’r eiddo cyfagos yn llwybr y  prif wynt. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y ffaith bod y cais hefyd yn ceisio amrywio Amod (03) o'r caniatâd i ddiwygio'r oriau defnydd a ganiateir er mwyn caniatáu defnydd llawn o'r caban rhwng 8.00am a 9.30pm.  Mae'r amod presennol yn cyfyngu ar ddefnyddio'r caban symudol i’r cyfnod rhwng 8.00am a 6.00pm, ac eithrio at ddibenion danfon a chasglu na chaniateir cyn 7.00am neu ar ôl 11.00pm.  O ystyried graddfa fach a natur y busnes, a weithredir gan un person, nid ystyrir bod defnyddio'r caban symudol yn ystod yr oriau diwygiedig yn afresymol neu'n debygol o achosi effeithiau annerbyniol ar amwynderau eiddo cyfagos.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Roedd y Cynghorwyr Non Dafydd a Dylan Rees yn cefnogi'r cais a nododd fod y gymuned leol a Chyngor Cymuned Llanddyfnan yn gefnogol i'r cais.  Dywedon nhw ymhellach y dylai merch yr ymgeisydd gael ei chefnogi i barhau â'i menter busnes bwyd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

12.2  OP/2025/1 – Cais amlinellol ar gyfer codi 9 annedd fforddiadwy sy’n cynnwys manylion llawn y fynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa’r tir ger Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi sef yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu i’r Cynghorydd Trefor Ll Hughes ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi sef yr ymgeisydd.  Gadawodd y Cynghorydd Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans, ac Aelod Lleol, y dylid cynnal ymweliad safle oherwydd pryderon ynghylch mwy o draffig, draenio a materion ecolegol.  Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig i ymweld â’r safle.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3  FPL/2025/66 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd cyn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn hwb cymunedol defnydd cymysg (Dosbarthiadau Defnydd D1 a D2 ym Mandarin Royale, Ffordd Fictoria, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cynghorydd Pip O'Neill yw Cadeirydd Pwyllgor Hwb Cybi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli yn nhref Caergybi a'i ffin ddatblygu gysylltiedig, ar ochr y ffordd ger Ffordd Victoria.  Mae'r safle wedi'i leoli o fewn ardal Gadwraeth Ganolog Caergybi ac mae hefyd o fewn parth risg llifogydd 3 (Afonydd a Moroedd) a Pharth 2 (cyrsiau dŵr bach a dŵr wyneb).  Cais yw hwn ar gyfer newid defnydd y safle o gyfleuster bwyd poeth A3 i hwb cymunedol defnydd cymysg o dan ddosbarthiadau defnydd D1 a D2.  Bydd y cynllun yn darparu hwb ieuenctid/ystafell gyfarfod/man cyfarfod ar y llawr cyntaf, ac ar y llawr gwaelod darperir cegin a pheiriant efelychu golff.  Nid oes unrhyw newidiadau allanol wedi’u cynnig dan y cais, ac felly, cais ar gyfer addasiadau mewnol a newid materol i ddefnydd yr adeilad yw hwn.  Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at brif ystyriaeth y cynllun o ran egwyddor y datblygiad, risg llifogydd, effaith ar amwynder preswyl, ecoleg a phriffyrdd fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog.  Nododd fod yr Uned Polisi Cynllunio wedi cadarnhau y dylid ystyried y newid defnydd o dan bolisi cynllunio ISA 2 ac mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon bod egwyddor y newid defnydd yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddorion polisi cynllunio ISA 2.  Cyfeiriodd ymhellach at y ffaith bod y cynllun wedi'i gyflwyno cyn mabwysiadu’r polisi TAN 5 a ddiweddarwyd, felly bydd y cais yn cael ei ystyried dan y Mapiau Cyngor Datblygu a pholisi TAN 5 a ddisodlwyd, yn hytrach na’r Mapiau Llifogydd Newydd ar gyfer Cynllunio.  Mae'r safle o fewn parth llifogydd C2 ac mae'n cael ei ystyried yn ddatblygiad agored iawn i niwed fel y nodir o dan y TAN 15 a ddiweddarwyd, fodd bynnag, mae gan y safle ddefnydd cyfreithlon presennol fel bwyty ac felly ni ystyrir y byddai'n effeithio ar y safle.  Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw bryderon wedi cael eu derbyn gan yr Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â'r cynllun oherwydd bod digon o le parcio ar gael yng nghyffiniau'r safle a gan fod y lleoliad yn gynaliadwy o ran mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.   Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill, Aelod Lleol, y dylid croesawu'r cais yn nhref Caergybi gan y bydd yn ganolfan aml-ddefnydd i bobl ifanc a gall y gymuned gyfan elwa o ganolfan gymunedol o'r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Roberts Ll Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: