Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2024/25 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r adroddiad ar gyfer y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol o ran cyflawni gweithdrefnau dyddiol y Cyngor i gefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer adroddiad cyntaf y flwyddyn ar gyfer y cerdyn sgorio, gan amlygu dangosyddion newydd eu hychwanegu ar gyfer 2025/26 sy’n adlewyrchu perfformiad a gwella gwerth. Mae mwyafrif y dangosyddion (90%) gyda thargedau penodol wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, gan gyflawni statws CAMG Gwyrdd neu Felyn. Mae sawl enghraifft o berfformiad da wedi’u nodi yn adran 2.3 yn yr adroddiad. Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at bump dangosydd sy’n Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd, fel yr amlinellir yn adran 2.2. ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig. Roedd y dangosyddion hyn yn ymwneud â Gwasanaethau Tai (ail osod eiddo gwag a darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), Newid Hinsawdd (gwastraff ailgylchu’n benodol) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (amserlen ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth), gyda’r cyfan yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth.
Adolygodd y pwyllgor y cerdyn sgorio corfforaethol yng nghyd-destun amcanion strategol y Cyngor - Iaith Gymraeg, Addysg, Gofal Cymdeithasol a Llesiant, Tai, Economi a Newid Hinsawdd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y materion canlynol dan y meysydd thematig:
· Addysg a’r Iaith Gymraeg
Roedd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd yn cydnabod fod presenoldeb dal i fod yn her genedlaethol ar ôl y pandemig. Mae ysgolion yn defnyddio data presenoldeb yn effeithiol i adnabod disgyblion sydd mewn risg, ac i ymyrryd yn briodol. Mae salwch, amhariadau yn sgil y pandemig, materion iechyd meddwl a chymdeithasol, dim diddordeb yn y cwricwlwm, amrywiad tymhorol a phwysau teuluol, megis caledi ariannol a chyfrifoldebau gofalu i gyd yn cyfrannu at hyn. Mae presenoldeb dal yn brif flaenoriaeth ar gyfer y Gwasanaeth Dysgu oherwydd ei gysylltiad agos gyda llesiant, cyrhaeddiad a chanlyniadau tymor hir disgyblion. Er na chyrhaeddwyd y targed, mae’r tuedd yn gwella. Mae Swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion a theuluoedd i fynd i’r afael â beth yw’r rhesymau dros absenoldebau, gan wneud mwy o ddefnyddio o gynlluniau presenoldeb personol ar gyfer y disgyblion dan sylw.
Yn ystod cwestiynau dilynol, gofynnodd y pwyllgor am y berthynas rhwng gwaharddiadau ac absenoldebau, ac a yw disgyblion sydd wedi’u gwahardd neu’r rheiny sydd wedi’u tynnu o’r ysgol gan eu teuluoedd wedi’u cynnwys yn y data. Dywedodd yr Uwch Swyddog Addysg Gynradd, yn amodol ar gadarnhad, nid yw disgyblion sydd wedi’u gwahardd wedi’u cynnwys yn y data. Mae Swyddogion Lles yn cadw cysylltiad agos gyda phlant sydd wedi’u gwahardd ac yn eu cefnogi i fynd yn ôl i addysg, yn enwedig disgyblion oed cynradd.
Mewn perthynas â phlant sydd wedi’u tynnu o’r ysgol, mae’r Gwasanaeth Dysgu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cefnogaeth holistig er mai barn y gwasanaeth yw mai addysg ffurfiol yw’r dull mwyaf buddiol. Mewn ymateb i gwestiwn am osgoi ysgol ar sail emosiynau. Cyfeiriodd Swyddogion at y gwaith sy’n mynd rhagddo gydag ysgolion gwybodus am drawma, unedau cynhwysiant disgyblion a mentrau cefnogi teuluoedd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y pump ysgol uwchradd wedi sefydlu rhaglenni sydd bellach yn eu trydydd blwyddyn, er mwyn cefnogi disgyblion sy’n cael trafferth gyda lleoliad prif ffrwd. I fynd i’r afael â gwaharddiadau, mae’r Awdurdod wedi buddsoddi mewn ddulliau gwybodus am drawma, hyfforddiant staff ac wedi codi ymwybyddiaeth gyda chynlluniau tebyg er mwyn cefnogi plant iau mewn addysg gynradd. Mae’r system cofnodi presenoldeb yn cynnwys categori ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu ar safleoedd eraill, sy’n helpu i adnabod y plant hynny sy’n derbyn addysg gartref ac a ydynt yn cadw cysylltiad gyda’r ysgol a’r Gwasanaeth Dysgu.
Eglurodd y Pennaeth Democratiaeth fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan weithio’n agos gydag un neu ddau diwtor er mwyn bod yn gyson a chynnal perthynas agos. Mae amrywiaeth o gyrsiau - o lefel dechreuwr i uwch - ar gael ac wedi’u haddasu er mwyn bodloni anghenion penodol y gweithlu.
Mewn ymateb i hynny, pwysleisiodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod disgyblion gyda lefel presenoldeb gwael fel arfer ymhlith y mwyaf bregus a thynnodd sylw at y gwaith sy’n digwydd rhwng y Gwasanaeth Dysgu, y Gwasanaeth Ieuenctid (drwy swyddogion Lles), a’r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn hybiau ysgol i gefnogi’r dysgwyr hyn. Cyfeiriodd at ddigwyddiad diweddar yn M-Sparc i ddathlu cynnydd yr ynys mewn perthynas â bod yn wybodus o drawma, a chyfeiriodd at lwyddiant Ysgol Gyfun Llangefni o ran bod yr unig ysgol uwchradd yn y DU sydd wedi derbyn dyfarniad gwybodus am drawma. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod y rhesymau cymhleth dros bresenoldeb gwael, a thynnodd sylw at bwysigrwydd empathi a dealltwriaeth wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Dywedodd fod Estyn yn rhagweld y gall gymryd hyd at 10 mlynedd i lefelau presenoldeb fynd yn ôl i’r lefelau arferol cyn y pandemig. Mae’r sefyllfa ar Ynys Môn yn gwella, ac mae cymorth yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi dysgwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd, nad oedd tystiolaeth i awgrymu fod dirywiad wedi bod o ran siarad Cymraeg mewn ysgolion. Mae ail ddynodi ysgolion yng Nghaergybi wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn Ynys Cybi, gan roi hwb i’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi dros y ddwy flynedd gyntaf. Nid oes unrhyw ysgol arall wedi newid dynodiad o statws ddwyieithog. Pan ofynnwyd am effaith cau ysgolion bach ar yr iaith Gymraeg ac ar gymunedau, ac a ddylai Sgriwtini ymchwilio hyn ymhellach, dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod holl benderfyniadau’r Cyngor, yn cynnwys penderfyniadau’n ymwneud ag addysg, yn ystyried yr iaith Gymraeg.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod data o’r cyfrifiad ac yn ymwneud â’r boblogaeth, sydd wedi cael eu trafod mewn sesiwn friffio i aelodau yn y gorffennol, yn cael effaith ehangach ar y gymuned, sydd y tu hwnt i addysg. Dywedodd y dylid cynnal sesiwn friffio newydd i adolygu tueddiadau diweddar a all amrywio yn ôl bob cymuned, gyda mewnfudo yn fwy amlwg mewn ardaloedd arfordirol. Bydd hyn yn helpu Sgriwtini i ddeall beth y dylai unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol ganolbwyntio arno, gan gynnwys mewn perthynas ag effaith ar ysgolion ac addysg.
Tynnodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard sylw at drafodaethau yn y Fforwm Iaith Gymraeg am gefnogi dysgwyr o gartrefi di-Gymraeg, neu lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg yn ogystal â’r rheiny sy’n symud i Gymru. Cyfeiriodd at yr Uned Drochi Iaith Gymraeg, a gafodd ei ganmol yn ddiweddar yn yr Eisteddfod am helpu ffoaduriaid o Wcrain i ddod yn rhugl.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Panel Sgriwtini Addysg wedi ymweld ag Ysgol Cybi ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn ddiweddar i asesu datblygiad yr iaith Gymraeg. Roedd y canfyddiadau’n gadarnhaol yn Ysgol Cybi, ac roedd gwell ymdrech gan staff a mwy o ffocws yn yr ysgol uwchradd yn cyfrannu at fwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Gall hyn arwain y trywydd ar gyfer craffu ysgolion newydd eraill ar yr ynys yn y dyfodol.
· Gofal Cymdeithasol a Llesiant
· Gofynnodd aelod gwestiwn am y diffyg darpariaeth mewn canolfannau hamdden y tu hwnt i oriau agor cyffredin sy’n effeithio ar oedolion sy’n gweithio yn ystod y dydd, gan gynnwys y rheiny ar gynlluniau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff (e.e. unigolion gyda diabetes). Gwnaed argymhellion am wella hyblygrwydd, gan gynnwys ar y penwythnos a sesiynau cynnar/hwyr.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod darpariaeth yn dibynnu ar alw, lle ac a oes hyfforddwr ar gael. Cytunodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, i drafod trefnu gweithgareddau gyda’r Rheolwr Môn Actif, ac adrodd yn ôl ar hyn.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol fod y DPA yn cofnodi’r holl ymweliadau i ganolfannau hamdden, waeth beth yw’r diben. Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd, fod y dangosydd yn adlewyrchu meini prawf mesur Llywodraeth Cymru, ac yn eithrio gweithgareddau Môn Actif sy’n cael eu darparu yn y gymuned. Cysylltwyd â Llywodraeth Cymru yn gofyn am adolygu DPA er mwyn adlewyrchu ymgysylltiad ehangach.
· Economi
Eglurodd y Prif Weithredwr mai bwriad y DPA yw rhoi sicrwydd fod adfywio economaidd yn cael ei flaenoriaethu. Mae’r DPA hefyd yn cynnwys gwariant refeniw, gan adlewyrchu’r cyllid grant refeniw sylweddol a dderbynnir gan y Cyngor. Mae hyn yn galluogi aelodau i fonitro tueddiadau ac asesu gallu’r Cyngor i gefnogi’r economi. Gan fod hwn yn faes anstatudol, bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid grant yn cyfyngu gallu’r Cyngor i fuddsoddi a chefnogi’r economi, yn enwedig o ystyried y pwysau ariannol ehangach ar y Cyngor. Er ei fod yn gyson ag adroddiadau monitro cyfalaf, mae’r DPA yn cynnig golwg fwy manwl ar a yw gallu’r Cyngor i gefnogi adfywiad economaidd yn sefydlog neu’n gwaethygu.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y dangosydd yn adlewyrchu’r gefnogaeth a ddarperir cyn gwaith e.e, hyfforddiant, ond nid yw’n olrhain canlyniadau ar ôl hynny. Gellir edrych ar y posibilrwydd o fonitro canlyniadau a’u hadrodd yn ôl. Cadarnhaodd y byddai unrhyw ostyngiad mewn cyllid SPF yn cyfyngu gallu’r Cyngor i ymyrryd yn effeithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd mai’r rheswm dros fethu’r targed oedd ôl-groniad ar ôl y pandemig a chyfyngiadau ar gapasiti. Cadarnhaodd bod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r materion hyn tra’n glynu wrth yr amserlen archwilio gyfredol. Nodwyd bod lefelau risg bwyd yn amrywio yn dibynnu ar y math o fwyd a’r dull paratoi, sy’n golygu nad yw pob busnesu yn cael eu hystyried yn risg uchel.
· Newid Hinsawdd
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod dangosyddion newid hinsawdd o fewn y cerdyn sgorio yn ffurfio rhan hollbwysig o’r Cynllun, ac mae pob penderfyniad yn y Cyngor yn ystyried effeithiau hinsawdd a’r nod o ddod yn garbon niwtral. Er bod y Cynllun wedi’i ymgorffori ar draws weithdrefnau’r Cyngor, nid oes modd mesur gweithgaredd sy’n ymwneud â hinsawdd drwy’r cerdyn sgorio.
O ystyried pwysigrwydd newid hinsawdd a diddordeb y cyhoedd yng ngwaith y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gwnaed cynnig bod adroddiad ar weithgareddau a chynnydd y Cyngor tuag at dargedau sero net yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd chwarterol y Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Weithredwr, oedd yn cydnabod newid hinsawdd fel un o flaenoriaethau strategol y Cyngor, fod adroddiadau hefyd yn cael eu darparu drwy sianeli eraill, nid Sgriwtini yn unig e.e., y Bwrdd Gwella. Gan fod y Cynllun Tuag at Sero Net presennol yn dod i ben eleni, mae adolygiad ar ganlyniadau, wedi’i gefnogi gan arbeniged allanol, yn mynd rhagddo. Bydd y canfyddiadau hyn, ynghyd â drafft o’r cynllun pum mlynedd nesaf yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, ac yn cael eu trafod mewn sesiwn friffio i aelodau. Mae adroddiad ar gynnydd yn erbyn Cynllun y Cyngor, sy’n cynnwys amcanion yn ymwneud â hinsawdd, hefyd yn cael ei baratoi. Rhybuddiodd, oherwydd yr amrywiaeth o faterion newid hinsawdd a’u cymhlethdod, gall eitem sefydlog gymryd amser sylweddol oddi wrth y Pwyllgor. Awgrymodd y dylai’r mater gael ei ystyried y tu allan i’r cyfarfod, a dywedodd bod cyfarfod misol yr Arweinyddion Grŵp a chyfarfod misol y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yn fforymau priodol ar gyfer trafod sut i wella ymgysylltiad a dealltwriaeth mewn ffordd sydd yn ychwanegu gwerth. Cynigiodd hefyd y gallai gysylltu â swyddogion perthnasol i ddewis y dull adrodd mwyaf addas.
Gwnaed argymhelliad arall i ehangu’r cerdyn sgorio corfforaethol er mwyn cynnwys mwy o ddangosyddion newid hinsawdd er mwyn adlewyrchu cynnydd y Cyngor at sero net yn well. Awgrymodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid y dylai unrhyw newidiadau i’r cerdyn sgorio corfforaethol ddod i rym o 2026/2027, oherwydd gall newid dangosyddion yng nghanol blwyddyn effeithio ar gysondeb a’i gwneud yn anoddach i gymharu canlyniadau.
Yn dilyn trafodaeth bellach, cytunwyd ar gynnig diwygiedig - bod adroddiad chwarterol ar weithgareddau’r Cyngor, sy’n ymwneud â newid hinsawdd, a’i gynnydd tuag at gyflawni statws net sero yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar agenda’r pwyllgor, yn amodol ar y mater yn cael ei ystyried gan Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn gyntaf, ac ar ôl derbyn adborth.
· Cyfeiriwyd at DPA 20 - canran y gwastraff domestig sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu eu gompostio, a nodwyd bod y berfformiad yn is na’r targed. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn cyfeirio at gyfraniad gan Fwrdd Rhaglen a sefydlwyd er mwyn ystyried unrhyw fesurau lliniaru pellach sydd angen eu cyflwyno. Gofynnod y Pwyllgor pryd fydd y Bwrdd Rhaglen yn adrodd ar gynnydd i’r pwyllgor hwn.
Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard fod y tanberfformio’n siomedig ond nododd nad y Cyngor oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i fethu’r targed. Mae’r Bwrdd Rhaglen wedi bod yn adolygu arferion ailgylchu’r Cyngor ac mae arbenigwyr allanol wedi darparu argymhellion wedi’u targedu ar gyfer gwella’r gyfradd ailgylchu. Mae cynlluniau peilot wedi’u cynnal mewn cymunedau penodol, ac mae’r canlyniadau wedi’u gwerthuso. Mae’r argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith yn peri goblygiadau ariannol ac mae trafodaethau’n parhau. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cael cyfarfod gyda Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol a newid hinsawdd, yr wythnos nesaf er mwyn trafod y mater. Bydd unrhyw benderfyniadau o ganlyniad i hyn yn dilyn prosesau statudol y Cyngor, ac fe adroddir ar gynnydd i’r pwyllgor hwn bob chwarter.
· Aeth y Pwyllgor ati i drafod DPA 12 dan Iechyd y Cyngor Cyfan - canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen, gan nodi fod perfformiad o 74% yn is na’r targed o 90%, a bod 55 o’r 214 cais Rhyddid Gwybodaeth yn hwyr. Gofynnodd y Pwyllgor, a ddylid adolygu’r targed.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer fod y targed o 90% yn cael ei osod gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Fel rheol, mae’r rheolydd yn ymyrryd pan fydd y perfformiad yn disgyn yn gyson dan 70%. Mae SIRO y Cyngor yn credu bod cyfradd o 80% yn dderbyniol, o ystyried y cyd-destun cenedlaethol. Nodwyd, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod cyfradd cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor wedi bod yn uwch na’r trothwy o 70% y byddai’r ysgogi sylw rheoleiddiol bob blwyddyn oni bai am un. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, oherwydd heriau capasiti a recriwtio mae trefniadau cyfredol yn cael eu rheoli ar sail dros dro gan staff asiantaeth. Bydd y Swyddog Dros Dro ar gyfer Gwybodaeth, Cwynion a Llywodraethu Corfforaethol yn cynnal sesiynau hyfforddi gydag adrannau er mwyn gwella arferion ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Dywedodd fod y Cyngor yn ceisio gweithredu system ar-lein newydd ar gyfer rheoli ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth erbyn Ch3, a gobeithir y bydd y newid yn cefnogi perfformiad gwell yn y dyfodol.
· Tai
Cafodd y DPA Tai eu hystyried ar y cyd ag eitem 4 ar yr agenda - Argymhellion gan y Grŵp Tasg a Gorffen Sgriwtini Corfforaethol ar Eiddo Gwag a Dyraniadau. Roedd yr adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai yn darparu diweddariad ar gynnydd Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag y Gwasanaeth Tai, a chyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a Thai.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y DPA sy’n mesur nifer y dyddiau a gymerir i ail-osod unedau llety wedi’i adolygu ar gyfer 2025/2026. Mae’r dangosydd bellach yn adlewyrchu’r gwaith o ail-osod eiddo presennol, ac eithrio eiddo newydd, ac mae’n cyd-fynd ag arferion a fabwysiadwyd gan bartneriaid rhanbarthol a darparwyr tai ledled gogledd Cymru. Mae’r amserlen darged ar gyfer ailosod eiddo gwag wedi’i haddasu i 51 diwrnod calendr. Ddiwedd mis Medi 2024, roedd nifer yr eiddo gwag dros 100; erbyn canol mis Awst 2025, roedd y ffigwr wedi gostwng i 57. Mae’r data am y perfformiad rhwng y cyfnod 1 Ebrill i 18 Awst 2025, fel y nodir yn y tabl yn yr adroddiad, yn dangos gwelliant o ran amser trosiant. Cyflawnwyd hyn drwy wneud gwaith sylweddol gan gynnwys penodi Goruchwyliwr Eiddo Gwag, peintwyr mewnol a rhyddhau contractwyr allanol dan fframwaith contractwyr newydd ei gweithredu.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel arwydd o gynnydd. Fodd bynnag, awgrymwyd mewn achosion o oedi oherwydd pwysau llwyth gwaith neu drefnu llithriant, efallai bydd y fframwaith contractwyr yn galluogi contractwyr i adnewyddu eiddo cyfan yn hytrach nag ar sail masnach fesul masnach.
Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y sicrwydd a ddarparwyd ond cododd bryder am dai sy’n eiddo i’r Cyngor mae’n ymwybodol ohonynt, oedd wedi bod yn wag am dros ddwy flynedd, ac sydd wedi dirywio ers hynny. Nododd fod eiddo gwag yn cynrychioli colled refeniw i’r Cyngor, a chyfle na fanteisiwyd arno i letya tenantiaid posibl.
Mewn ymateb, anogodd y Cynghorydd Robin Williams y Cadeirydd, ac unrhyw aelod arall sy’n ymwybodol o eiddo gwag hirdymor, i rannu manylion penodol gydag ef ei hun neu Pennaeth y Gwasanaethau Tai er mwyn gwybod pwy sy’n berchen yr eiddo, pam bod oedi wrth eu hailosod ac unrhyw waith adferol sydd ei angen. Pwysleisiodd ni fyddai’n bosibl cymryd unrhyw gamau heb wybodaeth gadarn. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai nad oedd yn ymwybodol o unrhyw eiddo sydd wedi cael eu hamlygu y mae wedi methu ag ymateb iddynt, a phwysleisiodd ei fod yn barod i fynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau cyn belled a bod y wybodaeth berthnasol ar gael.
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard fod y ffigyrau a gyflwynwyd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Os bydd unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb, dylid ei codi gyda’r Aelod Portffolio a Phennaeth y Gwasanaethau Tai ar unwaith.
Gwnaeth y Pwyllgor hefyd drafod y dangosyddion digartrefedd. Er bod aelodau’n croesawu’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau digartrefedd (DPA10), amlygwyd dirywiad yn y canran o aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag dod yn ddigartref (DPA19) o gymharu â Ch4 y flwyddyn faenorol, a gofynnwyd am y rhesymau am hyn. Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai sicrwydd fod y canlyniad yn adlewyrchu natur yr achosion yr ymdriniwyd â nhw yn chwarter 1, ac nad oeddynt yn amlygu unrhyw achos i bryderu.
Wedi adolygu’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 2025/26 (eitem 3), ac wedi ystyried y diweddariad ar Gynllun Gweithredu Eiddo Gwag y Gwasanaethau Tai (eitem 4), penderfynwyd –
· Nodi adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2025/26, yn cynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Mae’r rhain yn gysylltiedig â Thai (ail-osod eiddo gwag a darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff domestig), Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen).
· Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru sydd wedi’u cynnwys ynddo i’r Pwyllgor Gwaith.
· Nodi’r diweddariad ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor ar 19 Chwefror 2025 ar gasgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen Eiddo Gwag.
Gweithredoedd ychwanegol:
· Fod y data diweddaraf mewn perthynas â thueddiadau poblogaidd yn cael eu cyflwyno mewn sesiwn briffio i aelodau yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu Sgriwtini i ddeall beth y dylai unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol ganolbwyntio arno, gan gynnwys mewn perthynas ag effaith ar ysgolion ac addysg.
· Bod yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol yn trafod amserlennu gweithgarwch gyda Rheolwr Môn Actif, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnal sesiynau dros y penwythnos a rhai buan/hwyr, ac adrodd yn ôl ar hynny.
· Bod adroddiad chwarterol ar weithgareddau’r Cyngor, sy’n ymwneud â newid hinsawdd, a’i gynnydd tuag at gyflawni statws net sero yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar agenda’r pwyllgor, yn amodol ar i’r mater gael ei ystyried gan gyfarfod Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn gyntaf, a derbyn adborth.
Dogfennau ategol: