Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch y Cyngor ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y pwyllgor. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o weithgarwch iechyd a diogelwch yn y Cyngor yn ystod y cyfnod, gan gynnwys dadansoddiad o ddamweiniau a digwyddiadau ynghyd ag ymateb y Cyngor i'r materion hynny. Roedd hefyd yn rhestru’r prif bethau a gyflawnwyd ac yn amlinellu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd i roi sicrwydd i'r pwyllgor ynghylch perfformiad Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Gofynnodd y pwyllgor faint o'r damweiniau a'r digwyddiadau a adroddwyd a oedd i’w priodoli i hyfforddiant annigonol neu fethu â dilyn protocolau iechyd a diogelwch.

 

Esboniodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, er nad yw'r ystadegyn penodol hwn yn cael ei gofnodi, fod trefn o ymchwilio i bob damwain a digwyddiad i bennu ei achos. Nododd fod mwyafrif y staff wedi derbyn yr hyfforddiant iechyd a diogelwch angenrheidiol, ac nad yw cyfran sylweddol o ddigwyddiadau yn y data yn gysylltiedig â gweithwyr sy'n ymwneud â disgyblion mewn ysgolion neu gleientiaid mewn cartrefi gofal. Ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud yn benodol â gweithwyr, adolygir pa mor ddigonol yw’r hyfforddiant a ph’un ai a oes asesiadau risg priodol yn bodoli. Er nad yw'r union ffigurau ar gael, yn y rhan fwyaf o achosion mae hyfforddiant wedi bod yn ddigonol ac mae protocolau wedi'u dilyn.

 

Mewn cwestiwn dilynol, gofynnodd y pwyllgor a ddylid olrhain ac adrodd gwybodaeth o'r fath, gan y gallai trefn o nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio neu hyfforddiant annigonol helpu i atal damweiniau yn y dyfodol.  Cydnabu Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd y pwynt a dywedodd y gallai fod yn bosibl dadansoddi a nodi patrymau fel bylchau hyfforddi, yn seiliedig ar y data digwyddiadau a dderbyniwyd gan y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Cadarnhaodd fod awgrym y pwyllgor wedi'i nodi.

 

·      Cyfeiriodd y pwyllgor at gynllun gweithredu strategol iechyd a diogelwch 2025/26 a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ar ffurf tabl. Nododd yr Aelodau fod y camau gweithredu arfaethedig wedi'u diffinio'n eang iawn, gan ei gwneud hi'n anodd monitro cynnydd yn effeithiol. Awgrymwyd y dylai pob gweithred fod yn rhai CAMPUS h.y. Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd fod y gwasanaeth ar hyn o bryd yn datblygu cynllun strategol tair i bedair blynedd fwy manwl a fydd yn cynnwys targedau penodol a chanlyniadau mesuradwy. Y bwriad yw cyflwyno’r cynllun i'r bwrdd rheoli corfforaethol.

 

Croesawodd y pwyllgor y wybodaeth a chynigiodd fod y cynllun strategol tair blynedd gorffenedig sy'n cynnwys camau gweithredu CAMPUS yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn i'w adolygu maes o law.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a oedd y ffaith bod llai o adroddiadau Rheoliadau Adrodd ar

 

Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) yn ystod 2024/25 yn ganlyniad i gam bwriadol gan y Cyngor i liniaru'r risg neu a oedd yn fater o lwc.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod y gostyngiad yn deillio o gyfuniad o'r ddau ffactor. Eglurodd, ers y pandemig, fod y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi cymryd agwedd ragweithiol wrth rannu gwybodaeth gyda staff a'u helpu i ail-ymgyfarwyddo â systemau iechyd a diogelwch. Mae hyn wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff o'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn, wedi’i gefnogi gan ymgysylltu parhaus gan y tîm Iechyd a Diogelwch. Er y gallai'r cynnydd o ran ymwybyddiaeth fod wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn digwyddiadau y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt, pwysleisiodd y gall damweiniau ddigwydd ar unrhyw adeg. Nododd fod yn rhaid parhau i gadarnhau pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn gyson ar draws y sefydliad.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a oes adroddiadau o fewn y flwyddyn ar gael i nodi sut mae'r flwyddyn 2025/26 bresennol yn mynd rhagddi.

 

Dywedodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod adroddiadau'n cael eu darparu i'r gwasanaethau unigol ac i'r tîm rheoli corfforaethol. O’r hyn y gallai ei gofio, mae ffigyrau digwyddiadau ar hyn o bryd ychydig yn is na rhai'r flwyddyn flaenorol er bod patrymau hanesyddol yn awgrymu bod digwyddiadau yn tueddu i godi yn y trydydd chwarter. Cadarnhaodd y gellid darparu ffigurau os oes angen.

 

·      Mewn perthynas â gallu’r Cyngor o ran rheoli iechyd a diogelwch, gofynnodd y pwyllgor am eglurhad ynghylch sut mae'r sefydliad yn dynodi ei hun yn hyn o beth. Hefyd holodd y pwyllgor a yw'r duedd sylfaenol mewn ystadegau sy'n gysylltiedig â gweithwyr yn achos pryder.

 

Roedd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd yn cydnabod bod agweddau tuag at staff y Cyngor yn bryder a byddant yn cael sylw eleni. Mae prosesau ar gyfer casglu, monitro a rhannu data yn cael eu hadolygu ar y cyd â'r gwasanaethau Trawsnewid a TG i fabwysiadu dull mwy digidol a gwella hygyrchedd.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a yw digwyddiadau lle ceir ymddygiad heriol neu dreisgar lle mae staff yn absennol oherwydd effaith feddyliol yn hytrach na chorfforol, yn cael eu cofnodi.

 

Cadarnhaodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod digwyddiadau o'r fath yn cael eu cofnodi. Eglurodd, pan fo anaf yn hysbys a bod yr aelod o staff i ffwrdd o'r gwaith yn dilyn digwyddiad, byddai hynny'n cael ei gofnodi a gallai olygu bod adroddiad RIDDOR yn cael ei baratoi. Er mai anafiadau corfforol yw achos absenoldeb yn gyffredinol, mae absenoldebau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl sy'n para saith diwrnod neu fwy o bosibl yn rhai y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt mewn adroddiad RIDDOR a byddent hefyd yn cael eu hadrodd i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

 

·      Nododd y pwyllgor fod angen ymatebion wedi'u teilwra a chynlluniau iechyd a diogelwch unigol ar wahanol leoliadau fel ysgolion. Gofynnwyd a yw gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn cael eu mesur yn erbyn y cynlluniau hyn.

 

Dywedodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, er bod y tîm yn anelu at fabwysiadu dull mwy strategol eleni, mae cynlluniau gweithredu gwasanaeth-benodol wedi'u paratoi yn hanesyddol. Nododd fod ysgolion yn wahanol iawn i wasanaethau fel priffyrdd, gwastraff ac eiddo gyda mesurau rheoli wedi'u teilwra i bob amgylchedd. Disgwylir i wasanaethau gynnal cynlluniau gweithredu iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i wasanaethau i fonitro cynnydd ar hyd y flwyddyn.

 

Penderfynwyd, ar sail yr amod ym mhwynt bwled tri isod, bod y pwyllgor yn -

 

·      Derbyn bod gweithgareddau'r Cyngor ynghylch Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn mynd i'r afael â risg a blaenoriaethau'r Cyngor yn ddigonol.

·      Cymryd sicrwydd bod mesurau rhesymol ar waith i reoli risgiau iechyd a diogelwch i lefel dderbyniol.

·      Nodi ac yn croesawu bwriad y gwasanaeth i baratoi cynllun strategol tair blynedd sy'n cynnwys camau gweithredu CAMPUS a’u bod yn gofyn i'r cynllun gorffenedig gael ei gyflwyno i gyfarfod y pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: