Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi diweddariad ar 30 Medi, 2025 ynghylch yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad blaenorol ar 30 Mehefin 2025 i'w ystyried gan y pwyllgor. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a'i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig yn y dyfodol. Darparwyd copïau o'r adroddiadau sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod mewn perthynas â Rheoli'r Risg Tlodi (YM11) (Sicrwydd Rhesymol), Monitro Parhaus – y Gyflogres (Sicrwydd Rhesymol), a Monitro Parhaus – Credydwyr (Sicrwydd Rhesymol), a Monitro Parhaus – Credydwyr (Sicrwydd Rhesymol).
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a ddarparodd drosolwg o'r tri adroddiad sicrwydd a gwblhawyd yn y cyfnod ynghyd â'r materion a nodwyd. O ran yr adolygiad archwilio Monitro Parhaus – Credydwyr, tynnodd sylw at y ffaith y llwyddwyd i adennill oddeutu £60,000 o daliadau dyblyg a nodwyd yn flaenorol ers yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2024. Mae'r Tîm Taliadau yn parhau i geisio adennill y £65,000 sy'n weddill. Nododd ymhellach fod yr ymarfer blynyddol hwn yn cael ei gynnal ar y cyd â'r Tîm Taliadau. Mae hyn yn dilyn derbyn pris o £53k gan gyflenwr meddalwedd arweiniol, sy’n gweithio â chynghorau cyfagos, am gontract tair blynedd i gynnal ymarfer tebyg.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad diweddaru, cododd y pwyllgor y materion canlynol -
· Cwestiynodd y pwyllgor y rhesymeg y tu ôl i bennu sgôr "Sicrwydd rhesymol" i'r adolygiad Rheoli'r Risg Tlodi. Awgrymodd y pwyllgor fod y materion a nodwyd, sydd wedi'u categoreiddio fel rhai cymedrol, mewn gwirionedd yn rhai mwy sylweddol ac felly dylid diwygio’r sgôr yn unol â hynny.
Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod matrics asesu risg y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i werthuso risg, gan bwyso a mesur tebygolrwydd yn erbyn effaith a bod yr archwilydd wedi ystyried bod y risg yn gymedrol (Melyn). Er bod prosesau a mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer rheoli'r risg o dlodi, mae angen gwelliannau sy'n cynnwys sicrhau bod camau gweithredu yn rhai CAMPUS a chryfhau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o fewn y Strategaeth Trechu Tlodi, yn enwedig trwy roi mwy o sylw i groestoriadedd. Mewn ymateb i ymholiadau pellach ynghylch y cynlluniau gweithredu sydd ar gael, eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Cynllun Strategol Trechu Tlodi y Cyngor yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredol sydd ar wahân i'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r chwe mater/risg a nodwyd yn yr adolygiad archwilio. Gofynnodd y pwyllgor am gopïau o'r ddau gynllun.
· Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad ynghylch y sylw yn adolygiad archwilio Rheoli'r Risg Tlodi fod ymgysylltu â staff yn parhau i fod yn gyfyngedig. Cwestiynodd yr aelodau a oedd hyn yn arwydd o risg systemig ddyfnach y dylid rhoi sylw ffurfiol iddo.
Esboniodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y mater yn deillio o gynlluniau darparu gwasanaethau'r Cyngor. Er bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cael ei chydnabod o fewn cynlluniau strategol ehangach, nid yw wedi'i chynnwys yn ddigonol yn y Strategaeth Trechu Tlodi ac mae angen mwy o integreiddio rhwng y ddau gynllun gweithredu. Hefyd nid yw’r strategaeth yn rhoi ystyriaeth ddigonol i groestoriadedd lle gall pobl yr effeithir arnynt gan anfantais economaidd-gymdeithasol hefyd wynebu heriau oherwydd hil, rhyw neu rywioldeb. Nid yw'r dimensiwn hwn wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn y Strategaeth Trechu Tlodi. Hefyd eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg, er bod y strategaeth dan berchnogaeth ffurfiol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, ei bod yn berthnasol ar draws holl wasanaethau'r cyngor ac mae gan bob adran rôl i'w chwarae wrth fynd i'r afael â thlodi.
· Cododd y pwyllgor bryderon ynghylch a yw adolygiad Rheoli'r Risg Tlodi yn ystyried ffactorau ehangach, yn benodol canran y plant sy'n dal i fyw mewn tlodi a nifer yr ymosodiadau yn erbyn staff yn y sector ysgolion cynradd, fel y trafodwyd yn flaenorol yn yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch. Holodd yr Aelodau a oedd cysylltiad rhwng y materion hyn, gan awgrymu y gallai'r risg o dlodi fod yn amlwg mewn ymddygiadau o'r fath ac y dylai'r adolygiad dynnu'r llinynnau hyn at ei gilydd.
Cydnabu'r Pennaeth Archwilio a Risg y pwynt, gan nodi ei fod yn atgyfnerthu'r angen am berchnogaeth ar y cyd o'r Strategaeth Trechu Tlodi. Cadarnhaodd y byddai'n cyfleu'r sylw i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gyfrifol am y Strategaeth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y risg o dlodi yn ddeublyg: yn gyntaf, rôl y Cyngor wrth gefnogi dinasyddion Ynys Môn yr effeithir arnynt gan dlodi; ac yn ail, yr effaith ar wasanaethau'r Cyngor. Wrth i nifer y bobl sy'n profi tlodi gynyddu, pwysleisiodd fod y galw am wasanaethau hefyd yn cynyddu, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, tai a budd-daliadau i oedolion a phlant, felly mae'r risg yn cael ei chynnwys ar y gofrestr risg strategol, gan y gallai effeithio'n sylweddol ar adnoddau'r Cyngor.
Penderfynwyd nodi canlyniad gwaith Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a'i flaenoriaethau yn y dyfodol.
Camau gweithredu ychwanegol: Pennaeth Archwilio a Risg i ddosbarthu Cynllun Gweithredol y Strategaeth Trechu Tlodi a chynllun gweithredu adolygiad archwilio Risg Tlodi i aelodau'r pwyllgor.
Dogfennau ategol: