Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, oedd yn ymgorffori canlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar ganlyniad y broses ymgynghori ar y cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd. Mae gan y Cyngor ddyletswydd dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth ystyried cynigion ad-drefnu ysgolion. Cynhaliwyd proses ymgynghori rhwng 5 Mehefin, 2025 a 17 Gorffennaf, 2025 i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i safle newydd. Cynhaliwyd ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc, rhieni ac Estyn ynghylch y cynnig i adleoli'r ysgol i safle newydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod heriau wedi bod o ran cyflwr adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi oherwydd RACC. Cwblhawyd yr ymgynghoriad statudol er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau. Ystyriwyd opsiynau eraill hefyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi, a daethpwyd i’r casgliad mai adleoli’r ysgol oedd yr opsiwn mwyaf addas. Dywedodd, mewn perthynas â materion trafnidiaeth i ysgolion, fod y cynnig yn cydymffurfio gyda’r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau sy’n Dysgu ac y bydd llwybrau teithio llesol yn cael eu hystyried. Roedd 70% o’r ymatebwyr yn cytuno gyda’r cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed. Nododd fod 20% o'r sylwadau a dderbyniwyd gan randdeiliaid yn ystyried bod y safle arfaethedig i adleoli'r ysgol yn rhy bell o ganol y dref, y dylid diweddaru neu ailadeiladu'r adeilad presennol ar y safle presennol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd yn sicrhau addysg i ddisgyblion yn nalgylch Caergybi, ac yn bodloni gofynion yn y dyfodol. Mae’r costau cynnal a chadw ar gyfer yr adeilad presennol wedi cyrraedd £29m, a bydd codi ysgol newydd yn arwain at arbedion i’r Cyngor pan fydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod. Nododd fod asesiad ar effaith wedi’i gwblhau mewn perthynas â chydraddoldeb a’r iaith Gymraeg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y trafodaethau a gynhaliwyd ar yr eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Hydref 2025. Dywedodd, ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad statudol mewn perthynas ag adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi, bod y pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith dderbyn yr argymhellion fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cadeirydd fod mwy na 1,000 o ymatebion wedi’u derbyn yn ystod y broses ymgynghori i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi. Mynegodd 21% o’r ymatebwyr hynny bryder ynghylch lleoliad y safle arfaethedig, fodd bynnag, mae Atodiad 1 yr adroddiad yn darparu atebion clir i’r pryderon hynny a’r rhesymau dros adleoli’r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod ymatebion sylweddol wedi’u cyflwyno yn dilyn y broses ymgynghori ar y cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i safle newydd. Roedd yr ymatebion gan Gynghorau Ysgol o fewn y dalgylch yn galonogol mewn perthynas â’r cynnig, ac maent wedi argymell sylwadau i’w ystyried ar gyfer y darpar ysgol.
PENDERFYNWYD: -
• Cymeradwyo'r cynnig (yn dilyn yr adroddiad ar ganlyniad yr
ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar y cynnig) i “Adleoli dysgwyr
Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion
11–18 oed”.
• Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol mewn
perthynas â'r cynnig.
Dogfennau ategol: