Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 - 2028/29

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2026/27 i 2028/29. Nodai’r Cynllun strategaeth gyllidebol y Cyngor dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys y rhagdybiaethau a gâi eu dwyn ymlaen i'r broses flynyddol o osod cyllideb.

 

Cyflwynwyd y cynllun gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Ynddo nodwyd gofynion adnoddau tebygol y Cyngor am y tair blynedd ariannol nesaf ac amlinellwyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofynion adnoddau â'r cyllid oedd ar gael. Roedd y Cynllun Ariannol yn ystyried yr holl newidiadau hysbys yr oedd angen eu cynnwys yn y gyllideb sylfaenol am 2026/27 ac yn gwneud rhagdybiaethau ar y prif ffactorau a gâi effaith ar gyllideb refeniw'r Cyngor – costau cyflogau, pensiynau, chwyddiant cyffredinol, cyllid Llywodraeth Cymru, pwysau demograffig a galw.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 gyd-destun ar ragolygon economaidd ehangach y DU gan nodi mai llywodraeth y DU oedd yn rhoi holl gyllid Llywodraeth Cymru iddi, er bod cyllid canolog y Cyngor yn dod o Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, roedd cyflwr economi'r DU a phenderfyniadau cyllidebol yn cael effaith uniongyrchol ar gyllid Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Roedd amseriad etholiadau'r Senedd, hefyd, yn cael effaith ar setliad llywodraeth leol. Roedd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid wedi cyhoeddi y byddai cyllideb 2026/27 yn seiliedig ar ddyraniad 2025/26, wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant a amcangyfrifir ar oddeutu 2%. Câi cronfa wrth gefn o £400m ei chadw yn ôl i'w dyrannu gan y Llywodraeth newydd. Fodd bynnag, gallai’r cyllid gwirioneddol y byddai’r Cyngor yn ei dderbyn yn y pen draw fod yn is, gan ddibynnu ar y fformiwla ddosbarthu.

 

Ymhelaethodd y Swyddog Adran 151 ar y pwysau cyllidebol cenedlaethol a lleol oedd yn wynebu'r Cyngor dros gyfnod y Cynllun, fel y manylir yn adran 5 o'r adroddiad. Drwy ystyried yr holl faterion hyn, ochr yn ochr â rhagolygon incwm y Cyngor (adran 6) a chymhwyso'r rhagdybiaethau a nodir yn atodiad 2 yr adroddiad, roedd yn bosibl amcangyfrif y gyllideb refeniw am y tair blynedd hyd at 2028/29 (cyfeirir at hyn yn Nhabl 8). Roedd y gyllideb refeniw net amcangyfrifedig yn adlewyrchu cynnydd o 11.2% dros y cyfnod hwn. O dan y senario mwyaf tebygol, byddai angen £12.63m ychwanegol yn 2026/27 i fynd i'r afael â phwysau chwyddiant darparu'r gwasanaeth presennol a bodloni pwysau galw. Gan dybio cynnydd o 2% yn yr AEF o £4.98m a chynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor (2.853m), roedd bwlch cyllidebol o £4.796m yn parhau. Wrth ystyried y £2.46m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i gydbwyso cyllideb y flwyddyn flaenorol, roedd y diffyg yn cynyddu i £7.256m. Roedd gwasanaethau'n adolygu eu cyllidebau i nodi arbedion posibl ac roedd pwysau gwleidyddol yn cael ei roi ar Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ailystyried ei chynnydd cyllido arfaethedig o 2% yn unig.

 

Roedd y Cyngor yn cadw'r opsiwn i ddefnyddio balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn i helpu i fynd i'r afael â'r diffyg a ragwelid yn 2026/27. Fodd bynnag, roedd hwn yn fesur tymor byr ac nid oedd yn dileu'r angen i ddatrys y bwlch ariannu yn y tymor hir. Roedd y Cynllun Ariannol Canolig yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cyngor, ar hyn o bryd, yn wynebu ei sefyllfa ariannol fwyaf heriol ac y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd wrth osod cyllideb gytbwys yn 2026/27 a thu hwnt. Fel gyda blynyddoedd blaenorol, byddai angen cyfuniad o arbedion yn y gyllideb, cynnydd uwchlaw chwyddiant yn Nhreth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ofalus i gyflawni cyllideb gytbwys. O ran ysgolion, nododd y Swyddog Adran 151 bod balansau ysgolion yn dirywio ac roedd nifer gynyddol o ysgolion mewn perygl o fynd i gyflwr critigol yn y tymor byr i ganolig, er eu bod, at ei gilydd, mewn sefyllfa ariannol sefydlog.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod sylwadau'n cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eu hannog i ailystyried ei dull o ymdrin â chyllideb y flwyddyn nesaf. Roedd yn debygol y byddai’r cap arfaethedig o 2% ar y cynnydd mewn cyllid yn peri heriau sylweddol i bob cyngor yng Nghymru. Pwysleisiodd fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau setliad ariannol tecach i Ynys Môn. Tynnodd y Cadeirydd sylw, hefyd, at y ffaith bod gofyn i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys o fewn amserlen dynn iawn, gan atgyfnerthu her y dasg sydd o'i flaen.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 i 2028/29 a chymeradwyo'r rhagdybiaethau a wnaed ynddo.

 

Dogfennau ategol: