Eitem Rhaglen

Crynodeb ymgynghoriad: Adroddiadau Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi Cynllunio at y gofyn statudol i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o lunio’r cynllun datblygu a’r angen i gynnal Arfarniadau Cynaliadwyedd ac Asesiadau Amgylcheddol Strategol o’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Nodir y gofynion hyn yn adran 39 (2) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2024 a Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol Strategol 5 (2) a 5 (4), yn y drefn honno. Mae’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn argymell dull integredig ar gyfer y gofynion hyn trwy gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig oherwydd ei fod yn darparu asesiad mwy tryloyw, cyfannol a chyflawn o oblygiadau cynaliadwyedd opsiynau twf, amcanion, polisïau a chynigion. Mae’r Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn gosod cyd-destun a phenderfynu ar gwmpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r Cynllun Datblygu Lleol ac mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer cyflawni camau diweddarach yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.  Mae’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu’n cynghori y dylid ymgynghori ar yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig gydag awdurdodau statudol (CNC a CADW) dros gyfnod o 5 wythnos, ond ystyrir mai’r arfer orau fyddai sicrhau bod yr adroddiad cwmpasu ar gael i’r cyhoedd hefyd. Fel y cyfryw, roedd y Cytundeb Cyflawni yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi’r Adroddiad Cwmpasu er mwyn ymgynghori arno gyda’r cyhoedd.  Yn ei ymateb, roedd CNC yn gwneud sylwadau am risg llifogydd, safleoedd gwarchodedig, ansawdd dŵr a thirweddau dynodedig ac roedd ymateb CADW yn nodi nad oedd rhai dogfennau yn gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol wedi cael eu cynnwys, yn ogystal â chyfeirio at y sefyllfa ddeddfwriaethol ddiweddaraf a’r angen i ddarparu meini prawf asesu priodol er mwyn asesu tirweddau hanesyddol o safbwynt eu gwarchod a’u gwella. Yn ychwanegol i’r ymgyngoreion statudol, roedd ymateb Heneb yn cynnwys sylwadau ynglŷn â newidiadau deddfwriaethol, ac roedd yn nodi nad oedd nodwedd bwysig wedi’i chynnwys, sef Safle Treftadaeth y Byd Biwmares, ac roedd yn awgrymu newid rhai adrannau o’r adroddiad cwmpasu er mwyn adlewyrchu cyd-destun Cymreig y pwnc yn fwy cywir. Roedd copïau o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

Nododd y Rheolwr Polisi Cynllunio hefyd ei bod yn ofynnol i gynlluniau datblygu fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yn y diwygiadau i Reoliadau Cynefinoedd 2007; a’r fersiwn berthnasol gyfredol yw Rheoliadau Cynefinoedd 2017, fel y’i diwygiwyd. O ystyried cynnwys a natur dechnegol yr Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, ymgynghorwyd â CNC yn unig ar yr Adroddiad Cwmpasu. Ymatebodd CNC i’r ymgynghoriad mewn llythyr dyddiedig 22 Awst (oedd ynghlwm i’r adroddiad), ac roedd yn datgan eu bod yn cytuno fod y dull arfaethedig ar gyfer cynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn rhesymol a bod y safleoedd a’r materion sensitifrwydd cywir wedi eu nodi yn y rhan fwyaf o achosion, ond cyflwynwyd gwybodaeth bellach sydd angen ei ystyried ymhellach cyn paratoi adroddiad sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a chynnal asesiad priodol ble bydd angen. 

 

Ychwanegodd fod yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Adroddiadau Cwmpasu Asesiad Cynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cefnogi’r dull a amlinellwyd ar y cyfan, a heblaw am wneud mân newidiadau ar ôl ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, ystyrir bod yr adroddiadau cwmpasu yn gadarn ac yn addas i bwrpas. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: