Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2024/2025

Cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2024/2025.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Monitro Blynyddol 2024/2025.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ei bod yn ofynnol monitro Cynlluniau Datblygu Lleol yn flynyddol a rhaid cyflwyno adroddiad sy’n crynhoi’r monitro hwnnw i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno drafft o’r seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol, sydd yn adrodd ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a gyda threigl amser gall yr Adroddiadau Monitro Blynyddol amlygu tueddiadau, cadarnhau pa bolisïau sy’n cyflawni, neu ddim, ac amlygu p’un a oes unrhyw fylchau mewn polisïau. Roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru’r prif ganfyddiadau a nodir yn yr adroddiad. Dengys y prif ganfyddiadau fod mwy o dai wedi’u cwblhau yn ystod y cyfnod nag mewn blynyddoedd a fu, ond mae cyfanswm cyffredinol y tai a gwblhawyd yn parhau i fod yn is na’r ffigyrau targed a nodir yn y Cynllun. Ychwanegodd fod llai o unedau preswyl wedi cael eu hadeiladu na’r targed yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ac efallai bod hynny oherwydd nad oes gorsaf bŵer yn cael ei datblygu yn Wylfa ar hyn o bryd. O ran arallgyfeirio’r economi wledig, mae’r polisïau'n hwyluso sefydlu amrywiaeth o fusnesau bach. Wrth ystyried yr apeliadau cynllunio, ymddengys bod y polisïau'n perfformio’n dda, ac mae bron i 70% o apeliadau’n cael eu gwrthod. Eleni, mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn adrodd ar y data ar gyfer Ynys Môn yn unig, gan fod y trefniadau cydweithio ar faterion polisi cynllunio gyda Chyngor Gwynedd wedi eu dirwyn i ben ym mis Ebrill 2023. Mae’n dilyn yr un ffurf ag adroddiadau blaenorol ac mae’n dogfennu perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd mewn perthynas ag Ynys Môn.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans pa ganran o apeliadau cynllunio a wrthodwyd ac a ganiatawyd, gan fod yr adroddiad yn amlygu fod 1 ym mhob 3 apêl wedi cael eu caniatáu.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ei bod yn anodd gwneud sylw ar yr apeliadau a ganiatawyd heb wybod manylion y datblygiadau arfaethedig hynny. Nodwyd fod penderfyniadau ar apeliadau cynllunio’n cael eu rhannu gydag Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod pob cais cynllunio’n cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, a phan fydd apêl yn cael ei ganiatáu mae Swyddogion Cynllunio’n edrych yn ofalus ar benderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jackie Lewis pam nad yw deiliadaeth tai fforddiadwy yn cael ei fonitro yn yr Adroddiad Monitro.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr Adroddiad Monitro yn adrodd ar y math o unedau, yn hytrach na’r math o ddeiliadaeth. Fodd bynnag, roedd yn cytuno y dylai’r math o ddeiliadaeth mewn perthynas â thai fforddiadwy gael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd, h.y. eiddo rhannu ecwiti neu eiddo rhent. 

 

Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod rhaid i Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru gyhoeddi Cynllun Rhanbarthol erbyn 2030. Gofynnodd a fydd Cynllun Rhanbarthol y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael blaenoriaeth dros Gynlluniau Datblygu Lleol awdurdodau lleol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod hierarchaeth yn bodoli o ran y Cynlluniau Datblygu, Cynlluniau Rhanbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Os bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gyhoeddi cyn y Cynllun Rhanbarthol, nododd y byddai’n rhaid adolygu polisïau cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cynllun Rhanbarthol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod gan y Cyngor gynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig a rhagwelir y bydd y Cynlluniau Rhanbarthol a Lleol yn cyd-fynd â’i gilydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol 2024/2025 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2025.

 

 

Dogfennau ategol: