Derbyn cyflwyniad gan Grwp Llandrillo Menai.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai i’r cyfarfod.
Cafwyd cyflwyniad yn ystod y cyfarfod gan Mr Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai yn amlinellu gwaith a wnaed gan y coleg drwy drefniadau cydweithio gyda’r awdurdod lleol i ddarparu prosiectau arloesol ar yr Ynys. Atodwyd copi o’r cyflwyniad i agenda’r cyfarfod hwn.
Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor:
· Nodwyd bod diffyg crefftwyr yn y diwydiant adeiladu. Gofynnwyd gwestiynau am gyfanswm y bobl ifanc sy’n mynychu cyrsiau adeiladu yn y Coleg, ac a oes unrhyw enethod yn dangos diddordeb yn y cwrs. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod gostyngiad wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau adeiladu yn y Coleg, gan ei bod yn heriol cael prentisiaethau ar gyfer y bobl ifanc hyn. Dywedodd fod denu genethod i’r diwydiant yn her. Cynigiwyd cwrs STEM gyfochr â chwrs adeiladu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol. Dywedodd y byddai’n rhannu niferoedd y bobl sy’n dilyn cyrsiau adeiladu i aelodau’n fuan. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw Grŵp Llandrillo Menai yn mynychu ysgolion uwchradd i dynnu sylw at y cwrs adeiladu sydd ar gael. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r awdurdod lleol a Chonsortia Addysgiadol Gwynedd a Môn, mewn perthynas â darpariaeth 14 i 16. Cyfeiriodd at y Dystysgrif Alwedigaethol fydd ar gael yn 2027, fydd yn galluogi myfyrwyr i astudio pynciau galwedigaethol ynghyd â TGAU. Nododd fod y cyfleusterau ar gael yn y Coleg heb i ysgolion uwchradd orfod buddsoddi mewn darpariaeth o’r fath.
· Gofynnwyd cwestiynau am weledigaeth Grŵp Llandrillo Menai mewn perthynas ag addysg ôl-16 ar Ynys Môn. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau’n parhau gyda’r awdurdod lleol i sicrhau fod mynediad at gyrsiau galwedigaethol, lefel A a phrentisiaethau yn y Coleg. Nododd fod modelau gwahanol mewn perthynas ag addysg ôl-16 ledled y wlad, gyda nifer o opsiynau ar gael. Mae nifer o gyrsiau lefel A ar gael ar gampws Llangefni ar gyfer myfyrwyr, gyda’r mwyafrif yn cael eu darparu drwy’r Gymraeg. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch canran y bobl ifanc sy’n dilyn cyrsiau lefel ‘A’ yng Ngholeg Menai ac a all y Coleg fod yn gyfrifol am ddarparu addysg ôl-16 ar Ynys Môn. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod 30 myfyriwr yn astudio cyrsiau UG a bod 20 myfyriwr yn astudio cyrsiau lefel A yn Coleg Menai eleni. Dywedodd bod lle ar gyfer cyfleuster addysg ôl-16 ar gampws Coleg Menai, Llangefni a byddai Grŵp Llandrillo Menai’n barod i drafod unrhyw opsiynau eraill pe byddai darpariaeth bellach yn dod i’r Ynys. Gall y Coleg gynnig astudiaethau galwedigaethol ynghyd â chyrsiau lefel A i fyfyrwyr.
· Cyfeiriwyd at safle Wylfa a’r posibilrwydd am gyfleoedd gwaith os gwneir cyhoeddiad y bydd darpariaeth niwclear ar y safle. Nodwyd bod Rolls-Royce, y partner a ffafrir ar gyfer SMRau posibl ar y safle, wedi dweud y byddant yn hyfforddi gweithwyr posibl yn fewnol yn hytrach na’u hyfforddi mewn Colegau lleol. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt gyda Rolls-Royce yn pwysleisio’r angen i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant yn lleol drwy Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai.
· Cyfeiriwyd at ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg i bobl ifanc mewn perthynas â chyfleoedd gwaith lleol posibl. Nodwyd y bydd hyn yn cefnogi pobl ifanc lleol i aros ar yr Ynys. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch faint o amser a gymerir i hyfforddi pobl ar gyfer y swyddi posibl hyn. Dywedodd Mr Jones-Griffith ei fod yn cymryd oddeutu 3 mlynedd i hyfforddi pobl ac mae gan fusnesau megis Rolls-Royce eu rhaglenni hyfforddi eu hunain.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch faint o fyfyrwyr sy’n astudio Peirianneg Forwrol a Thechnoleg Forwrol. Dywedodd Mr Jones-Griffith y byddai’n darparu’r wybodaeth i Aelodau’n fuan. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch cludo myfyrwyr i ddilyn cyrsiau ar gampws Grŵp Llandrillo Menai. Dywedodd Mr Jones-Griffith bod cludiant ôl-16 ar gael i fyfyrwyr fynychu cyrsiau. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gall pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed deithio am £1 bob ffordd ledled Cymru er mwyn mynychu cyrsiau coleg o fis Medi 2025 ymlaen.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Alwed Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai am fynychu’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: