Derbyn cyflwyniad gan Prifysgol Bangor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd yr Is-Ganghellor Edmund Burke, yr Athro Paul Spencer, yr Athro Enlli Thomas a Mr Chris Drew i’r cyfarfod.
Rhoddodd gynrychiolwyr o Brifysgol Bangor gyflwyniad cryno i weddill y cyfarfod yn amlinellu gwaith y Brifysgol a’r trefniadau gwaith gyda’r awdurdod lleol i ddarparu prosiectau arloesol ar yr Ynys. Atodwyd copi o’r cyflwyniad i agenda’r cyfarfod hwn.
Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor:
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r cyfyngiadau ariannol presennol yn effeithio ar amrywiaeth o gyrsiau’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor, ac i ba raddau mae gostyngiad yn nifer y cyrsiau’n cael eu hystyried, yn enwedig y cyrsiau hynny yn y maes Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd yr Is-ganghellor, er bod arbedion cyllidebol wedi’u gwneud, nid oes unrhyw Ysgol nag Adran wedi cau yn y Brifysgol. Nid effeithiwyd fawr ddim ar gyrsiau yn yr Ysgolion Meddygaeth ac Iechyd, Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y cyrsiau sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau, Dyniaethau ac Ieithoedd Modern (mae gostyngiad yn astudiaethau rhai ieithoedd wedi’u gwneud oherwydd nifer y myfyrwyr sydd eisiau dilyn y cyrsiau hyn). Rhoddodd yr Athro Enlli Thomas sicrwydd nad oes gostyngiad wedi bod yn nifer y cyrsiau dwyieithog sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol, ac mae ymrwymiad i sicrhau bod cyrsiau dwyieithog yn dal i gael eu cynnig.
· Cyfeiriwyd at yr angen am gyrsiau Therapi Galwedigaethol a Seicoleg Addysgol gan fod prinder staff dwyieithog cymwys yn ymgeisio am swyddi gydag awdurdodau lleol. Cyfeiriodd yr Athro Enlli Thomas at y prinder gweithwyr Seicoleg Addysgol a Therapi Galwedigaethol proffesiynol cymwys, dwyieithog, ac er bod angen buddsoddiad ariannol i gynnal y cyrsiau hyn, mae’r Brifysgol yn barod i drafod gydag awdurdodau lleol yn y rhanbarth.
· Er y croesewir yr Ysgol Feddygol a Hylendid Deintyddol ym Mhrifysgol Bangor, codwyd cwestiynau ynghylch a yw’r myfyrwyr sy’n hyfforddi yn aros yn yr ardal leol. Dywedodd Mr Chris Drew o hanner y myfyrwyr, sef 20, fod 10 wedi cael gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod 10 wedi cael gwaith gyda’r GIG yng Nghymru. Nododd fod Cwrs Sylfaen wedi’i sefydlu er mwyn cyflwyno llwybr i fyfyrwyr o Gymru ymuno â’r rhaglen feddygaeth. Mae’n fwy heriol cadw myfyrwyr i weithio yn y sector deintyddol o fewn y GIG gan fod y sector preifat yn gallu fforddio buddion ar gyfer deintyddion. Dywedodd yr Is-ganghellor fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno Ysgol Deintyddiaeth yn y rhanbarth.
· Holwyd am ganran y myfyrwyr o ogledd Cymru sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor. Dywedodd yr Is-ganghellor fod cynnydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr o ogledd Cymru sy’n dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor, o ganlyniad i gynrychiolwyr o’r Brifysgol yn mynychu ysgolion a cholegau lleol i amlygu’r buddion o astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae bron i 1,500 o fyfyrwyr o ogledd Cymru a 781 o ogledd-ddwyrain Cymru.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Brifysgol yn alinio’r cryfderau ymchwil gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc a chyflogwyr lleol. Dywedodd Paul Spencer fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda chyflogwyr mawr mewn perthynas â’r budd cyflenwi a drwy’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r diwydiant Morwrol. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â datblygiadau mawr posibl yn y rhanbarth.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut all y Brifysgol a Grŵp Llandrillo Menai weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth yn enwedig yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a chyfreithiol. Dywedodd yr Is-ganghellor fod gwaith sylweddol wedi digwydd rhwng y Brifysgol ac ysgolion lleol, Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Wrecsam a Choleg Cambria i drafod y llwybr sydd ar gael i fyfyrwyr tuag at ofynion sgiliau ymhlith cyflogwyr lleol. Bydd angen cyllid er mwyn datblygu llwybrau myfyrwyr.
· Cyfeiriwyd at y ffaith y gall DA (Deallusrwydd Artiffisial) drawsnewid y ffordd mae llywodraeth leol yn gweithio yng Nghymru, ond mae’n hollbwysig fod yr iaith Gymraeg yn rhan o dechnoleg DA. Dywedodd yr Athro Paul Spencer y cwblheir ymchwil mewn perthynas â sut ellir darparu technegol DA yn ddwyieithog. Dywedodd y bydd trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â darpariaeth ddigidol. Gobeithir y bydd technegol DA yn cael ei ymgorffori yn y cyrsiau sydd ar gael yn y Brifysgol, ac i weithio yn agos gyda chwmnïau megis Msparc.
· Cyfeiriwyd at ffaith fod y Brifysgol wedi gorfod gwneud arbedion ariannol, gyda 200 o staff yn colli eu swyddi. Gofynnwyd a fydd datblygiad technoleg DA yn arwain at gyflogi staff cymorth yn y dyfodol. Dywedodd yr Athro Paul Spencer y bydd technoleg DA yn trawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol, ond ei fod yn hollbwysig nad yw data sy’n cael ei fewnbynnu i system DA yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth a llywodraethiant data, a bod rhaid rhoi strwythur ar waith. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Awdurdod yn edrych ar ddyfodol DA mewn gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor, yn ogystal â buddsoddi yn y meysydd hynny fydd yn cael effaith ac yn cynnig buddion hirdymor. Er y derbynnir y buddion, mae risgiau ynghlwm â seiberddiogelwch wrth golli data personol. Roedd yn croesawu trafodaethau gyda’r Brifysgol mewn perthynas â dyfodol DA.
· Gofynnwyd a oes gan y Brifysgol bolisi recriwtio a chanran y siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio i’r Brifysgol. Dywedodd yr Athro Enlli Thomas fod 43% o weithwyr yn siaradwyd Cymraeg rhugl a bod 20% ychwanegol yn meddu ar sgiliau iaith Gymraeg ac yn dysgu Cymraeg. Mae gan y Brifysgol bolisi recriwtio gyda thair strwythur gwahanol yn amlinellu’r gallu ieithyddol ar gyfer bob swydd. Nododd fod y polisi recriwtio yn cael ei adolygu ei mwyn cryfhau’r polisi o ran sgiliau iaith Gymraeg.
· Gofynnwyd sut mae colli cyllid o Ewrop wedi effeithio ar y Brifysgol. Dywedodd yr Is-ganghellor fod y Brifysgol wedi colli £10m o gyllid strwythurol Ewropeaidd. Dywedodd yr Athro Paul Spencer fod rhan helaeth o’r gronfa strwythurol Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith adeiladu ac adnewyddu, a diweddaru offer yn Msparc, Gaerwen. Dywedodd ei fod wedi dod yn fwy cystadleuol i ddod o hyd i gyllid gan y Llywodraeth ar gyfer Prifysgolion.
· Gofynnwyd sut mae’r Brifysgol yn alinio ei gyrsiau er mwyn cefnogi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer swyddi’n ymwneud â’r Porthladd Rhydd. Dywedodd yr Athro Paul Spencer fod hynny’n dibynnu ar y math o fusnesau fydd yn cael eu denu i’r Porthladd Rhydd. Mae cyrsiau datblygu sgiliau digidol a sgiliau’r sector ynni ar gael yn y Brifysgol. Bydd gwaith yn mynd rhagddo gyda Cholegau lleol fydd yn gallu fforddio prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd cyfleoedd ar gael yn y maes Peirianneg a Technegol. Dywedodd fod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi ar gyfer statws y Porthladd Rhydd gyda chyfanswm o £25 miliwn yn cael ei gyfrannu a’i ddefnyddio i adeiladu ar Safleoedd Msparc a Peboc, ac i wneud gwelliannau ar strwythur y ffordd yng ngogledd yr Ynys. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghyd a fydd DA yn effeithio ar gyfleoedd gwaith sy’n gysylltiedig â’r Porthladd Rhydd. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd Canolfannau Data’n cael eu codi ledled Prydain, a bydd parc technegol yn dod i hen safle Anglesey Aluminium yng Nghaergybi.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-ganghellor a’r cynrychiolwyr o’r Brifysgol am fynychu’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: