Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Rhan 9:Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol) 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau oedolion a Diogelwch Cymunedol mai nod Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru yw gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i gefnogi cymunedau gwydn a sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael i gynnig unigolion y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt. Dywedodd fod y Bwrdd yn cynnwys aelodau o’r 6 awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a sefydliadau’r trydydd sector. Dywedodd bod y Bwrdd wedi datblygu’n sylweddol ers ei sefydlu i fod yn bartneriaeth cyfartal effeithiol ledled y rhanbarth. Sefydlwyd gweithdai er mwyn trafod elfennau gwahanol o waith y Bwrdd sydd wedi ychwanegu gwerth. Mae'r 6 Aelod Portffolio sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru hefyd yn cyfarfod yn fisol.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn elwa o'r gwaith a wneir yn rhanbarthol gan fod yr Awdurdod yn bartner cyfartal o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Cyfeiriodd at y prosiectau lleol i Ynys Môn fel y nodir yn yr adroddiad. Fel partner yn y Bwrdd Partneriaeth, mae'r Awdurdod yn gallu sicrhau cyllid grant ychwanegol ar gyfer prosiectau er budd trigolion Ynys Môn. Mae hyn yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Aeth ymlaen i ddweud y gall y sefydliadau partner ddysgu gwersi o ran gwahanol brosiectau oddi wrth ei gilydd, gyda phob sir bellach wedi sefydlu prosiect tebyg i brosiect Cartrefi Clyd, a sefydlwyd gan yr Awdurdod hwn. Gwnaed buddsoddiadau gwerth £4 miliwn i’r prosiectau hyn ledled Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Jospeh Griffiths o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru fod nifer o brosiectau wedi cael eu sefydlu ar Ynys Môn. Mae Canolfan Glanhwfa yn Llangefni yn enghraifft sydd â chyfleuster cymorth Dementia. Mae cyfleuster Gofal Ychwanegol hefyd wedi cael cefnogaeth ym Mhorthaethwy. Cyfeiriodd at Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol sy'n cael ei rhannu rhwng y 6 awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd ac amlygwyd enghreifftiau o'r prosiectau sydd wedi elwa o'r cyllid yn yr adroddiad.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith ei fod wedi'i nodi yn yr adroddiad bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cwestiynu ei strwythur llywodraethu ei hun. Nodwyd bod diffyg proses graffu ranbarthol o fewn y Bwrdd. Awgrymwyd y dylai pob awdurdod lleol graffu ar un o'r 6 model o ddarpariaeth gofal a amlygwyd yn yr adroddiad neu fod angen sefydlu Pwyllgor Craffu Rhanbarthol.
· Nodwyd nad yw'r adroddiad yn glir ynghylch gwerth y gefnogaeth a roddir gan y Bwrdd i bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol o fewn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
· Cyfeiriwyd at y Cynllun Gweithredu a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod diffyg costio sy'n gysylltiedig â'r prosiectau yn y Cynllun.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiadau’n tynnu sylw at sawl llwyddiant a gyflawnwyd gan y Bwrdd, fodd bynnag, codwyd cwestiynau ynghylch y prosiectau nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ac a yw gwersi wedi’u dysgu.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion ei fod yn cytuno bod heriau a bod angen mynd i'r afael â meysydd penodol. Nododd fod y Bwrdd yn canolbwyntio ar y tymor hir nag o'r blaen. Cytunodd fod meysydd angen eu cryfhau a bod angen dysgu o brosiectau nad ydynt wedi dod i’r amlwg fel y disgwyliwyd.
Dywedodd Mr Joseph Griffiths, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru, ei fod yn cytuno y gellir gwella'r Cynllun Gweithredu, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, gydag amcan o gostau wrth ymyl pob prosiect. Nododd fod y Bwrdd yn canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd o brosiectau sydd wedi bod yn heriol.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y cyfleuster Dementia sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Glanhwfa, Llangefni yn enghraifft o’r gefnogaeth a roddir i'r trigolion. Gofynnwyd sut fydd y Bwrdd yn mynd i'r afael â'r pellter y mae’n rhaid i bobl deithio o ogledd yr Ynys ac o ardaloedd gwledig i'r cyfleuster a gynigir.
· Cyfeiriwyd at y Cynllun Peilot ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 mewn Ysgolion Uwchradd i ddenu pobl ifanc i fod â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai'r cynllun yn parhau i gael ei gynnig o fewn yr Ysgol Uwchradd.
Dywedodd Mr Joseph Griffiths, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru, fod y Bwrdd yn ceisio cyllid i gefnogi pobl i deithio o ardaloedd gwledig i Ganolfan Glanhwfa, Llangefni. Nododd y byddai'n rhoi manylion y prosiect a manylion cyswllt i'r Pwyllgor wedi hynny.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod yr Awdurdod wedi penodi tri Swyddog sy'n ymweld ag unigolion yn eu cartrefi a’u cymunedau o ran cefnogaeth i bobl â Dementia. Nododd fod angen annog a chefnogi pobl i integreiddio â phobl eraill. Mae Hwb Dementia wedi'i ddatblygu yng Nghanolfan Glanhwfa lle bydd arbenigwyr yn cefnogi unigolion sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai Ynys Môn oedd yr Awdurdod cyntaf i ddarparu cwrs gofal cymdeithasol ac iechyd i ddisgyblion Blwyddyn 9. Nododd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda Phenaethiaid yr Ysgolion Uwchradd, yn gyntaf, cyn cynnig cyfle i ddisgyblion, a bod yr adborth wedi hynny yn arbennig. Roedd y bobl ifanc yn gwerthfawrogi’r cyfle i fynychu’r cyrsiau hyn a oedd hefyd yn tynnu sylw at y llwybrau gyrfaol o fewn gofal cymdeithasol a’r sector iechyd. Dywedodd y bydd y cwrs yn cael ei gynnig eto eleni i ddisgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgolion Uwchradd yr Ynys. Nododd y bydd gweithwyr proffesiynol eraill o fewn y sector gofal cymdeithasol hefyd yn mynychu'r Ysgolion Uwchradd i dynnu sylw at y gwaith maen nhw'n ei wneud a'r cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael.
PENDERFYNWYD :-
· Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei gyflawni.
· Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2024/25 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu datblygu drwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.
Dogfennau ategol: