Cyflwyno adroddiad blynyddol CGC-GCAGC am 2024/25.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2024/2025 i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi trosolwg o weithgarwch y gwasanaeth yn ystod 2023/24. Mae gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac ymateb i argyfyngau dan y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol ac mae'n brif ymatebydd. Mae’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru. Mae'r adroddiad yn crynhoi gweithgaredd rhanbarthol yn ystod y flwyddyn o ran rheoli digwyddiadau ac ymateb i argyfyngau yn ogystal â gweithgaredd o fewn chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru yn unigol. Nododd fod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cynnwys manylion sylweddol am y gwaith a wnaed a phwrpas y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol.
Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru fod y Gwasanaeth wedi gwneud gwaith sylweddol oherwydd y cynnydd mewn stormydd a rhybuddion tywydd sydd wedi digwydd, yn enwedig Storm Darragh a Storm Amy yn ddiweddar. Nododd fod gwaith sylweddol hefyd wedi'i wneud gan y Gwasanaeth gyda'r Siarter i’r Rheiny mewn Profedigaeth. Mae'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol wedi bod yn rhan annatod o Grŵp Tasg a Gorffen Menai sy'n canolbwyntio ar gau'r pontydd ar yr un pryd. Mynegodd fod y Gwasanaeth wedi'i sefydlu'n bennaf i leihau dyblygu ar draws Gogledd Cymru a sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i awdurdodau lleol.
Fe wnaeth aelodau’r pwyllgor drafod y materion a ganlyn wrth ystyried yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y pryderon ynghylch cau Pont Menai yn sydyn yn ddiweddar. Mynegwyd ei bod yn amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon y gymuned leol gan fod y bont wedi cau heb rybudd yn ddiweddar gan achosi oedi sylweddol; mynegwyd pryderon hefyd, pe bai angen cau Pont Britannia hefyd, y gallai hyn achosi amhariadau sylweddol ar yr Ynys i'r Gwasanaethau Brys sy'n cludo cleifion i Ysbyty Gwynedd a phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mynegwyd pryderon hefyd bod busnesau ym Mhorthaethwy yn cael eu heffeithio'n fawr, gyda phobl yn osgoi'r ardal. Codwyd cwestiynau ynghylch a oes diweddariad ynghylch yr amserlen ar gyfer gorffen y gwaith ar Bont Menai.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd nad yw'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yn gyfrifol am gau Pont Menai nac am ddiffyg cynnal a chadw'r bont. Atgoffodd y Pwyllgor mai cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yw cynllunio a rheoli'r sefyllfa pan fydd y ddwy bont ar gau oherwydd stormydd a rhybuddion tywydd. Cyfeiriodd at storm ddiweddar pan gododd y sefyllfa ynghylch yr angen posibl i gau Pont Britannia a'r cyfyngiadau ar Bont Menai. Cyfrifoldeb y Gwasanaeth Brys Rhanbarthol yw rhoi Cynllun Gweithredu ar waith i fynd i'r afael â'r sefyllfa mewn cydweithrediad â'r Fforwm Gwytnwch Lleol a'r Gwasanaethau Brys a sefydliadau eraill i sicrhau bod y Cynllun yn mynd i'r afael ag anghenion a phryderon trigolion yr Ynys.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai rôl y Gwasanaethau Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yw cydweithio â phartneriaid, ymateb i faterion ac effeithiau a sicrhau gwybodaeth gymunedol effeithiol gyda thrigolion i sicrhau nad yw bywydau pobl mewn perygl. Nododd fod gwaith sylweddol wedi'i wneud gyda'r Awdurdod a'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol i lunio Cynllun Gweithredu Drafft a fydd yn cael ei ystyried gan y Fforwm Gwytnwch Lleol fis nesaf. Nododd mai ased a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw Pont Menai. Mynegodd fod y mater yn ymwneud â chau ac agor Pont Menai yn rhannol yn fater i'w drafod yng Nghyfarfod Arbennig Cyngor Ynys Môn a drefnwyd ar gyfer 28 Hydref, 2025.
· Cyfeiriwyd at gau Porthladd Caergybi o 7 Rhagfyr, 2024 i 15 Ionawr, 2025 oherwydd y difrod a achoswyd gan Storm Darragh. Codwyd cwestiynau a oedd trafodaethau wedi digwydd gyda Llywodraeth Iwerddon ynghylch effaith y ffaith nad oedd y fferïau’n gallu croesi Môr Iwerddon o Gaergybi.
Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda Gweinidogion a Swyddogion Iwerddon ynghyd â Stena ac Irish Ferries a sawl sefydliad amlasiantaeth arall oherwydd cau Porthladd Caergybi. Mynegodd nad oedd yn ystyried bod y mater yn berthnasol i'r Adroddiad Blynyddol hwn.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen i'r Pwyllgor hwn ymgymryd â gwaith a hyfforddiant ar y Ddeddf Cydraddoldeb gan ei bod yn ymddangos bod proses gydraddoldeb wahanol yn ystod sefyllfaoedd brys.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwahaniaeth wrth ddelio â phobl yn ystod argyfwng. Mynegodd fod nifer o bobl agored i niwed yn byw ar yr Ynys ac yn dibynnu ar wasanaethau a gwirfoddolwyr y Cyngor mewn argyfwng. Dywedodd mai nod yr Awdurdod a'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yw sicrhau, pan fydd argyfwng yn digwydd, fod pobl yn ddiogel ac yn cael cymorth pan fo angen.
· Codwyd cwestiynau ynghylch gwydnwch seiberddiogelwch y Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod ymosodiadau seiberddiogelwch yn un o'r prif risgiau y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu'n ddyddiol a bod dau Swyddog yn ymdrin â seiberddiogelwch yn y Cyngor i sicrhau bod y feddalwedd gywir ar waith a bod yr hyfforddiant gofynnol i staff ar waith. Mae'r Awdurdod yn gweithio tuag at gydymffurfio â'r Fframwaith Asesu Seiber a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ar ôl craffu ar yr adroddiad diweddaru ac ystyried ymateb y Swyddog i'r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru yn 2024/25.
Dogfennau ategol: