Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2025/26

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2025/26 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol sy’n gysylltiedig â chyflawni gweithredoedd dyddiol y Cyngor er mwyn cefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, adroddiad y cerdyn sgorio yn ei rôl flaenorol fel aelod portffolio busnes corfforaethol a phrofiad y cwsmer. Nododd bod mwyafrif y dangosyddion (87%) sydd â thargedau penodol wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Roedd enghreifftiau nodedig o berfformiad da y cyfeirir atynt yn adran 2.3 yn yr adroddiad yn cynnwys gosod 11 system wresogi carbon isel yn adeiladu’r Cyngor fel rhan o brosiectau’r cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i ymrwymiad i fod yn gyngor sero net. Nododd hefyd fod rheolaeth ariannol gadarn, gan gynnwys monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yn effeithiol, yn holl bwysig er mwyn caniatáu i’r Cyngor ddarparu gwasanaethau a chyflawni ei nodau strategol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at saith dangosydd sy’n Goch neu’n Oren yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd, fel yr amlinellir yn adran 2.2, ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Thai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol a chanran y busnesau risg uchel a archwiliwyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref yn benodol) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen). Cadarnhaodd fod yr holl feysydd hyn yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth.

 

Wrth adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer yr ail chwarter, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·      Mynegodd aelod o’r pwyllgor bryderon am dipio anghyfreithlon yn ardal Ynys Gybi a Chaergybi. Dywedodd yr aelod fod Biffa yn ymateb yn brydlon i ddigwyddiadau o’r fath a’i fod yn gwerthfawrogi hynny, ond gofynnod a oedd y sefyllfa wedi gwella.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio, Priffyrdd a Gwastraff, fod y dangosydd sy’n mesur nifer y diwrnodau gwaith a gymerwyd ar gyfartaledd i glirio digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn Wyrdd ac yn unol â’r targed, ac mae’n dyst i effeithlonrwydd ymateb Biffa. Nododd, fodd bynnag, fod 70% o dipio anghyfreithlon yn digwydd mewn un ardal benodol yng Nghaergybi. Codwyd y mater gyda’r Prif Swyddog Rheoli Gwastraff a chadarnhaodd fod pob ateb posib yn cael ei ystyried. Gwelwyd rhywfaint o welliant, ac mae llai o eitemau mawr yn cael eu tipio’n anghyfreithlon, er bod digwyddiadau dros nos yn parhau i greu heriau o ran darganfod pwy sy’n gyfrifol ac o safbwynt gorfodaeth. Cynhelir cyfarfod pellach i drafod y mater hwn.

 

Mewn cwestiwn dilynol, gofynnodd y pwyllgor pa mor debygol yw’r Cyngor o gyflawni’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef ailgylchu 70%, a ph’un a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi arwydd y byddai’n dirwyo’r cyngor os nad yw’n cyrraedd y targed.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor fod perygl y gallai’r Cyngor wynebu dirwyon ariannol oni bai y gall ddangos ei fod yn cymryd camau positif i gyrraedd y targed. Nodwyd fod perfformiad tua 3.7% o dan y targed ar hyn o bryd. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cyflwynir adroddiad sy’n nodi’r gweithredoedd a’r opsiynau i’r Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd, a’r bwriad yw derbyn caniatâd i ymgynghori ar yr opsiynau hynny. Y Cyngor Llawn fyddai wedyn yn cymeradwyo a mabwysiadu’n derfynol, gan roi cyfle i bob aelod fynegi ei farn.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, ei fod wedi cyfarfod â Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, a nododd fod Llywodraeth Cymru yn tynhau ei safbwynt ar ailgylchu a’i fod yn rhoi pwysau cynyddol ar gynghorau i gydymffurfio. Dywedodd fod y cyfarfod â’r Dirprwy Brif Weinidog yn un cynhyrchiol, ac roedd yn pwysleisio bod angen i gynghorau ddangos eu bod wedi ymrwymo i gyflawni’r targed uchelgeisiol hwn. Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu a rhannu canllawiau ar sut i wneud hynny. Y bwriad yw cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni’r targed ac osgoi dirwyon posib, yn ogystal â sicrhau grantiau er mwyn gwella cyfleusterau ailgylchu ar yr ynys. Derbyniwyd awgrymiadau ar gyfer gwella prosesau ailgylchu ar y cyfryngau cymdeithasol a byddant yn cael eu cynnwys fel rhan o’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ychwanegol ynglŷn â pham fod cyfraddau ailgylchu wedi gostwng o fewn adeiladu’r cyngor a ph’un a ddylai’r Cyngor ystyried treialu dulliau ar gyfer casglu gwastraff plastig meddal nad oes modd ei ailgylchu (megis bagiau, deunydd lapio a ffilm plastig), fel y gwneir gan rai awdurdodau lleol eraill, er mwyn cynorthwyo i gyflawni targed Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod rhai archfarchnadoedd yn casglu’r math yma o wastraff ac awgrymwyd y gallai’r Cyngor ystyried cymryd rhan mewn cynlluniau o’r fath. Gofynnwyd a yw’r Bwrdd Rhaglen yn edrych ar y mater hwn.

 

Esboniodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd a Gwastraff, nad oes targed ar gyfer ailgylchu gwastraff o adeiladau’r Cyngor ar hyn o bryd gan fod hwn yn ddangosydd newydd. Roedd yn cydnabod bod angen gwneud rhagor i hyrwyddo ailgylchu ac addysgu staff am ailgylchu o fewn eu sefydliadau, gan gynnwys ysgolion a chanolfannau hamdden, a thynnwyd sylw at yr angen i fuddsoddi mewn biniau ailgylchu pwrpasol ar gyfer adeiladau’r cyngor. Sicrhaodd y pwyllgor y byddai’n codi’r mater hwn gyda’r gwasanaeth yn ystod ei gyfarfodydd rheolaidd gyda’r adran ac y byddai’n adrodd yn ôl ar gynnydd cyn pen chwe mis. Mewn perthynas â gwastraff plastig na ellir ei ailgylchu, nododd mai lleiafrif o gynghorau’n unig sy’n treialu casglu’r math hwn o blastig gan fod angen adnoddau arbennig i’w brosesau ac megis dechrau datblygu mae’r maes hwn. Er hynny, addawodd y byddai’n codi’r mater gyda’r gwasanaeth ac yna’n adrodd yn ôl.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Arweinydd, fod hyn yn gysylltiedig â’r angen ehangach y cyfeiriwyd ato’n gynharach, o ran buddsoddi yng nghyfleusterau ailgylchu’r Cyngor er mwyn gallu casglu gwahanol fathau o ddeunydd gwastraff. Y pwyslais yw bod y Cyngor yn datblygu cynllun clir, ac mae’n gwneud hynny mewn trafodaeth â WRAP Cymru (Rhaglen Weithredu ar Wastraff ac Adnoddau) Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau fod yr amodau ar waith i gyflawni targed Llywodraeth Cymru a thrwy hynny sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol yn ei ganolfannau ailgylchu er mwyn rheoli gwastraff o’r fath.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod WRAP Cymru’n dewis awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn cynlluniau peilot, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dystiolaeth a gynhyrchir yn sgil y cynlluniau peilot hyn yn sail i weithredoedd a phenderfyniadau mewn awdurdodau eraill.

Awgrymodd y byddai’n ddoeth disgwyl i WRAP Cymru gyhoeddi canlyniadau ei gynlluniau cyn gweithredu yma ym Môn.

 

·      Mae dangosydd Economi DPA 04 (cyfanswm nifer y cwsmeriaid sydd â chytundebau angori blynyddol) yn tanberfformio, a nododd y pwyllgor mai un rheswm am hyn yw’r system bresennol lle mae darn o wely’r môr yn cael ei osod ar brydles. Mae hyn yn golygu fod rhaid i’r deiliaid prydles wedyn brynu cyfarpar angori a threfnu iddo gael ei osod gan drydydd parti, ond nid yw’r trefniant hwn yn un deniadol. Holwyd p’un a fyddai, yn y tymor hwy, yn well i’r Cyngor fuddsoddi yn y cyfarpar ei hun, ac efallai y byddai wedyn yn denu mwy o gwsmeriaid, a chynyddu nifer y bobl sy’n prynu contractau angori er mwyn cyrraedd y targed.

 

Esboniodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo, fod 51 contract angori wedi’u cymeradwyo yn ystod Chwarter 2, yn erbyn targed o 65, ond mae angen ystyried p’un a yw’r targed yn realistig o dan yr amodau presennol, gan fod arferion perchnogion cychod wedi newid a’u bod yn ffafrio cyfleusterau a ddarperir mewn marinas. Ychwanegodd y byddai angen buddsoddiad sylweddol gan y Cyngor ac nid yw hynny’n bosib o fewn y gyllideb bresennol, ac efallai na fyddai’n gwireddu’r buddion a ddisgwylir, o gymharu â pha mor gyfleus yw’r marinas a’r adnoddau sydd ganddynt i’w cynnig.

 

·      Nododd y pwyllgor fod y cyngor wedi derbyn 2,467 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth erbyn diwedd Chwarter 2 a bod yr ymatebion i 111 ohonynt yn hwyr. Gan fod y ceisiadau mor niferus, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw batrymau, tueddiadau neu feysydd ffocws yn dod i’r amlwg.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod y Swyddog Diogelu Data Dros Dro yn adolygu trefniadau ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a’i fod yn bwriadu cyflwyno prosesau newydd. Oherwydd yr adolygiad, a’r angen i gydymffurfio â gofynion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gohiriwyd trefniadau i gyflwyno’r system CRM, sef system y mae disgwyl iddi wella’r amseroedd ymateb. Er nad oedd data ar dueddiadau ar gael ar y pryd, byddai’n bosib ei ddarparu tu allan i’r cyfarfod, a phan fydd y system CRM yn weithredol bydd modd defnyddio’r system i gynhyrchu gwybodaeth o’r fath.

 

Hysbyswyd y pwyllgor hefyd fod swyddogion ar ddeall, yn anffurfiol, fod asiantaethau newyddion a lobïwyr yn defnyddio ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn gynyddol er mwyn cefnogi straeon ac ymgyrchoedd. Mae ffactorau eraill sydd wedi effeithio ar berfformiad y dangosydd yn cynnwys cymhlethdod y ceisiadau, gan eu bod yn aml yn cynnwys nifer o gwestiynau sy’n gofyn am ymateb gan fwy nag un gwasanaeth, diffyg capasiti o ran adnoddau cefnogi canolog, a’r angen i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, gan olygu bod rhaid ystyried a dadansoddi pob cais yn ofalus. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn edrych ar sefydliadau sydd â chyfradd gydymffurfio o lai na 70%, a nodwyd mai unwaith yn unig y mae cyfradd cydymffurfio’r Cyngor wedi disgyn yn is na’r trothwy hwnnw yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cynnal sesiwn friffio i aelodau ymhen blwyddyn er mwyn adolygu effaith y system CRM ac asesu’r data a’r wybodaeth a ddarperir gan y system mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

·      Nododd y pwyllgor fod perfformiad y DPA Tai wedi gwella, yn enwedig o ran lleihau’r amser a gymerir i ailosod eiddo gwag a gwireddu grantiau cyfleusterau i’r anabl. Holodd yr aelodau ynghylch cynlluniau yn y tymor hwy i wella perfformiad er mwyn cyrraedd y targed.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sef yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol newydd, ei fod yn trefnu cyfarfodydd gyda rheolwyr a swyddogion tai er mwyn adolygu cynnydd a nodi pa gymorth sydd ei angen i gynnal y gwelliannau. Mae prosesau newydd yn dechrau dwyn ffrwyth ac mae nifer y diwrnodau a gymerir ar gyfartaledd i ailosod unedau wedi gostwng bellach i 54 diwrnod. Nododd hefyd fod trefniadau caffael newydd wedi cynyddu capasiti ac fe addawodd y byddai’n parhau i ymdrechu i wella perfformiad. Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd a’r cyn Aelod Portffolio Tai, fod y sefyllfa’n gwella hefyd.

 

Codwyd pryderon gan un aelod ynglŷn ag eiddo gwag yn ardal Aberffraw a dywedodd nad oes neb yn byw ynddyn nhw er mai’r bwriad oedd eu hailosod. Cyfeiriodd yr aelod hefyd at broblemau sy’n codi wrth i denantiaid mewn ardaloedd arfordirol poblogaidd gyfnewid eu heiddo gyda thenantiaid mewn trefi yn Lloegr, trwy sianelau megis Facebook, a dywedodd fod hynny’n cael effaith ar y Gymraeg.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Gary Pritchard y dylai aelodau roi gwybod i’r Aelod Portffolio Tai neu’r Pennaeth Gwasanaethau Tai am eiddo cyngor gwag yn eu hardaloedd er mwyn i’r cyngor ymchwilio’r mater. Esboniodd fod angen mwy o amser i ddod ag eiddo sy’n cael prynu gan y Cyngor yn ôl i ddefnydd gan fod rhaid iddynt gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru. Cadarnhaodd hefyd fod deddfwriaeth bresennol y llywodraeth ganolog yn rhoi’r hawl i denantiaid tai cymdeithasol gyfnewid eiddo mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, neu gymdeithasau tai, ar yr amod fod y ddau barti yn cytuno, ac ni all y Cyngor reoli hynny.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y pwyllgor ei fod wedi cael cyfarfod â’r Pennaeth Gwasanaethau Tai yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Roeddent wedi cael trafodaeth gynhyrchiol a chadarnhaol. O ganlyniad, argymhellwyd trefnu sesiwn friffio i aelodau er mwyn rhoi sylw i holl agweddau’r Gwasanaethau Tai, er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am faterion megis amserlenni ar gyfer gosod eiddo a phrynu eiddo.

 

·      Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y dangosydd Economi DPA 07, sydd yn mesur canran y busnesau risg uchel sy’n destun archwiliadau a drefnwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth Hylendid Bwyd.

 

Esboniodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, fod cyfyngiadau capasiti yn un o’r rhesymau bod y dangosydd yn tanberfformio. Nododd fod y rheoliadau newydd ar gyfer trwyddedu ac archwilio safleoedd megis stiwdios tatwio a salonau harddwch yn golygu fod swyddogion wedi gorfod blaenoriaethu’r gwaith hwn. Cadarnhaodd fod yr holl fusnesau yn y categori risg uchaf wedi cael eu hasesu a bod swyddog dros dro yn cael ei gyflogi er mwyn helpu i glirio’r archwiliadau sydd angen eu cwblhau. Dylai hyn olygu fod y ffigyrau yn yr adroddiadau Chwarter 3 a 4 yn well.

 

·      Nododd y pwyllgor fod y dangosydd Gofal Cymdeithasol a Llesiant DPA 11, sydd yn mesur nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden, yn is na’r targed yn Ch2 a bod tuedd ar i lawr yn dod i’r amlwg. Gofynnodd yr aelodau am esboniad.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod y cyfnod yn cynnwys misoedd yr haf pan gynhelir nifer o weithgareddau mewn lleoliadau yn y gymuned ar hyd a lled yr ynys, yn hytrach nag yn y canolfannau hamdden. Yn hytrach na dehongli’r ffigyrau fel rhai sy’n dangos bod llai o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, dylid edrych arnynt fel rhai sy’n adlewyrchu newid o ran lleoliad y gweithgareddau. Nodwyd hefyd bod yr ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi a’r neuadd chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur wedi bod ar gau er mwyn eu hadnewyddu yn ystod y cyfnod, a gallai hynny fod wedi cael effaith ar y niferoedd. Efallai bod y tywydd da wedi annog mwy o bobl i wneud gweithgareddau yn yr awyr agored.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Arweinydd, fod DPA 12, sef nifer y bobl sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau Môn Actif, yn adlewyrchu cyfranogiad cyffredinol yn well. Bu’r Cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu DPA 11 er mwyn cynnwys cyfranogiad ehangach, a bydd yn parhau i bwyso am newid.

 

Mynegodd y pwyllgor ei werthfawrogiad o’r hyn y mae Môn Actif yn parhau i’w gyflawni ac roedd yn cydnabod manteision iechyd ac ataliol cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Roedd yr aelodau hefyd yn croesawu’r dangosydd Tai DPA 02, oedd yn adrodd ar sgôr boddhad tenantiaid o 88% mewn perthynas â’r gwasanaeth trwsio ymatebol.

 

Ar ôl adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch2 2025/26 ac ystyried yr ymatebion i’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i –

 

·      Nodi adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2025/26, yn cynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Thai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).

·      Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru a gynhwysir ynddo i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Gweithred ychwanegol:  Cynnal sesiwn friffio i aelodau ymhen blwyddyn er mwyn adolygu effaith y system CRM ac asesu’r data a’r wybodaeth y mae’r system yn gallu eu darparu mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

Dogfennau ategol: