Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig

·     I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Aled M Jones: -

  “Mae Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio adolygiad

  barnwrol ar y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i roi caniatâd cynllunio i’r

  datblygiad Fferm Solar, Alaw Môn.

 

    Mae’r datblygiad arfaethedig hwn wedi achosi llawer iawn o bryder i’n

    cymunedau ac mae’n rhaid i ni fel Cyngor Sir geisio’r holl ddulliau posibl o

    herio’r penderfyniad hwn.”

·      I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Gary Pritchard: -

 

     “Mae'r Cyngor yn datgan siom a rhwystredigaeth ym mhenderfyniad

     Llywodraeth Cymru i ganiatau datblygiad fferm solar Alaw Môn yn groes i'w

     polisiau ar ddefnydd o diroedd amaethyddol ffrwythlon ac amrywiol. 

 

Gofynir i'r Cyngor archwilio pob llwybr posib, gan gynnwys llwybrau cyfreithiol, i herio'r penderfyniad.” 

Cofnodion:

·     Cyflwynwyd Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd Aled M Jones: -

 

   'Mae Annibynwyr Ynys Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio

   adolygiad barnwrol ar y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i roi

   caniatâd cynllunio i ddatblygiad Fferm Solar, Alaw Môn.

 

 

   Mae'r datblygiad arfaethedig hwn wedi achosi llawer o bryder yn ein

   cymunedau ac mae'n rhaid i ni fel Cyngor Sir geisio herio'r penderfyniad

   hwn ym mhob ffordd bosibl'.

 

   Eiliodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y cynnig. 

 

   Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod pryder sylweddol ynghylch y

   penderfyniad i gymeradwyo Fferm Solar Alaw Môn gan Lywodraeth Cymru

   a pheidio â chaniatáu i'r Cyngor Sir wneud penderfyniad o'r fath.  Mynegodd

   yn gryf bod angen i'r Cyngor wneud cais am Adolygiad Barnwrol o’r

   penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y gobaith y gellid

   gwyrdroi'r penderfyniad.  Mae'r Ynys eisoes yn cynhyrchu digon o ynni ar

   gyfer Cymru gyfan ac ni ddylid defnyddio tir amaethyddol da i ddatblygu

   ffermydd solar.  Dywedodd hefyd fod Cadw Tir Môn wedi gofyn drwy e-bost

   os nad yw'r Cyngor yn gallu gwneud cais am adolygiad barnwrol y dylid rhoi

   cymorth ariannol i helpu'r Grŵp Cymunedol i fynd ar drywydd adolygiad

   barnwrol o'r penderfyniad. 

 

  Cyflwynwyd Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd Gary Pritchard: -

 

   'Mae'r Cyngor yn mynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch penderfyniad

   Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn yn groes i'w

   polisïau ar ddefnydd o diroedd amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.

 

   Gofynniri'r Cyngor ymchwilio i bob opsiwn posibl, gan gynnwys opsiynau

   cyfreithiol, i herio'r penderfyniad.'

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard, y byddai'n tynnu ei Hysbysiad o Gynnig yn ôl, yn amodol ar welliant gan fod y grwpiau gwleidyddol yn gytûn ynghylch y rhwystredigaeth a'r siom o ddeall bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cymeradwyo Fferm Solar Alaw Môn.  Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu eu polisïau eu hunain ar ddefnyddio tir amaethyddol da a bod y Cyngor hwn wedi mynegi ei wrthwynebiad ers dechrau'r datblygiad hwn.

 

Amlinellodd yr Arweinydd ei welliant i'r Cynnig gan y Cynghorydd Aled M Jones fel a ganlyn: -

 

  'Bod y Cyngor yn mynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch penderfyniad

   Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn yn groes i'w

   polisïau ar ddefnydd o diroedd amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas;

  Bod y datblygiad arfaethedig wedi achosi llawer o bryder yn ein cymunedau

   yn ogystal â chreu pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch bwyd yn y

    dyfodol;

  Gofynnir i'r Cyngor ymchwilio i bob opsiwn posibl, gan gynnwys ceisio

   Adolygiad Barnwrol, i herio'r penderfyniad hwn yn ogystal â cheisio gweithio

   ochr yn ochr â Grwpiau Cymunedol eraill sy'n gweithio tuag at nod tebyg;

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y gwelliant i'r Cynnig. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y diwygiad i'r Cynnig yn briodol a chynhaliwyd pleidlais.  Pleidleisiodd 28 Aelod o blaid y gwelliant i'r cynnig, a bu i 3 Aelod ymatal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, ar ran y Grŵp Annibynnol, fod angen i'r Cyngor herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo Fferm Solar Alaw Môn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Llio Angharad Owen fod y datblygiad fferm solar hon wedi arwain at gryn wrthwynebiad yn y gymuned y mae'n ei chynrychioli ac ar draws yr Ynys.  Nododd ei bod wedi cymryd rhan mewn protest yn erbyn datblygiad fferm solar sy'n niweidio natur a dyfodol amaethyddol Ynys Môn.  Dywedodd fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo Fferm Solar Alaw Môn yn siomedig gan eu bod yn anwybyddu eu polisïau eu hunain.  Wrth dderbyn bod angen ynni cynaliadwy a glân ar gyfer y dyfodol, ni fydd yr Ynys yn elwa o'r datblygiad, ac mae angen i'r Cyngor herio penderfyniad Llywodraeth Cymru. 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Jackie Lewis sylwadau ei chyd-aelodau lleol a diolchodd i'r rhai sydd wedi ymgyrchu yn erbyn y datblygiad yn y cymunedau lleol ynghyd â chefnogaeth yr Aelod Seneddol a'r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn.  Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu pobl Ynys Môn sydd yn erbyn y datblygiad hwn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y byddai'n pleidleisio yn erbyn y gwelliant i'r Cynnig gan ei fod o'r farn bod angen lleihau'r ôl troed carbon ac y dylid cefnogi datblygiad o'r fath.  Dywedodd fod pori o amgylch paneli solar yn lleihau allyriadau carbon ac yn hybu bioamrywiaeth.  Dywedodd ymhellach fod ffermwyr defaid ledled y byd wedi dweud bod caniatáu i anifeiliaid bori o dan y paneli solar yn gwella cynhyrchiant ac yn cynyddu eu hincwm fel ffermwyr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen fod pryderon ynglŷn â difrod posibl i Lyn Alaw sy'n cyflenwi dŵr i dros 30,000 o bobl.  Cwestiynodd a ddylid diystyru hyrwyddo Ynys Ynni, a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safle Wylfa.  Dywedodd fod cwmnïau ynni o'r farn bod yr Ynys yn croesawu unrhyw ddatblygiad fel ffermydd solar yn lle datblygiad Wylfa.  Dywedodd y Cynghorydd Owen ymhellach fod pobl ifanc yn gorfod gadael yr Ynys i gael gwaith a bod hynny’n cael effaith ar yr iaith Gymraeg.  Bydd colli 650 erw o dir amaethyddol da ar safle Alaw Môn yn cael effaith enbyd ar gynhyrchu bwyd ac mae angen gwrthod y datblygiad.  Cwestiynodd a yw'r Cyngor wedi ceisio Cyngor Cyfreithiol i herio'r penderfyniad hwn.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Rhaglen Ynys Ynni wedi'i sefydlu i gefnogi prosiectau sydd â buddion economaidd i gymunedau lleol.  Nid oes gan Fferm Solar Alaw Môn unrhyw fudd economaidd i'r Ynys.  Nododd fod y Cyngor wedi ymateb ym mis Tachwedd 2019 i'r ymgynghoriad ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a'i fod wedi darllen paragraff o'r ohebiaeth a oedd yn nodi bod 'y Cyngor wedi adolygu'r ddogfen gefndir sy'n cefnogi'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwynt a solar, mae gwybodaeth mewn perthynas â'r meini prawf, y cyfiawnhad a mwyafrif y tiroedd a ddewiswyd fel ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar yn aneglur.  Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae’n peri pryder sylweddol. Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu'r dynodiad hwn.'  Nododd fod y datblygiad hwn yn cael ei yrru gan bolisi a rhoddwyd ymateb cryf gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach fod Cyngor Cyfreithiol arbenigol wedi'i geisio, a bydd angen ystyried y cyngor cyfreithiol hwnnw a dderbyniwyd. Bydd angen i Swyddogion Cyfreithiol ac Ariannol ystyried a yw'n ddoeth ceisio adolygiad barnwrol o fewn yr amserlen ac a yw'n ddefnydd priodol o adnoddau ariannol y Cyngor. Ar ôl hynny, cynhelir ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelodau Portffolio perthnasol a gwneir penderfyniad ffurfiol gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol statudol lle bydd datblygiad o'r fath yn cael effaith aruthrol ar gymuned.  Gallai'r Cyngor gyfrannu tuag at sefydliad trydydd parti i symud ymlaen a cheisio adolygiad barnwrol.  Nododd y byddai angen gwelliant i'r Cyngor gymeradwyo cyfraniad ariannol i gorff trydydd parti, a byddai angen gwelliant i'r Cynnig.  Byddai angen ystyried hefyd gyfanswm y cyfraniad ariannol y bydd y Cyngor yn ei roi a bod y penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn egwyddor yn unig, ac i roi pŵer statudol i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i drafod swm y cyfraniad y byddai'r Cyngor yn ei roi pe bai'n cael ei benderfynu na fyddai'r Awdurdod yn bwrw ymlaen ag Adolygiad Barnwrol.  Nododd mai'r dyddiad cau ar gyfer cychwyn yr achosion yw 6 Hydref, 2025.

 

Ar y pwynt yma, cymerwyd toriad i drafod y gwelliannau sy'n ofynnol i'r Cynnig gydag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a'r Prif Swyddogion.

 

Yn dilyn y toriad darllenodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr ail welliant i'r Cynnig fel a ganlyn:-

 

  Bod y Cyngor yn mynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch penderfyniad

   Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn yn groes i'w 

   pholisïau ar ddefnyddio'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas;

  Bod y datblygiad arfaethedig wedi achosi llawer o bryder yn ein cymunedau

   yn ogystal â chreu pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch bwyd yn y

   dyfodol;

  Gofynnir i'r Cyngor ymchwilio i bob opsiwn posibl, gan gynnwys ceisio

   Adolygiad Barnwrol, i herio'r penderfyniad hwn yn ogystal â cheisio gweithio

   ochr yn ochr â Grwpiau Cymunedol eraill sy'n gweithio tuag at nod tebyg;

 

  Os nad yw penderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen ag Adolygiad Barnwrol,

   bydd y Cyngor, mewn egwyddor, yn ystyried rhoi cyfraniad ariannol i Grŵp

   Tir Môn, yn amodol ar ymgynghori â'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr

   Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddfa Adran 151 a'r Cyfarwyddwr

   Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Eiliodd y Cynghorydd Aled M Jones y gwelliant i'r Cynnig fel y nodwyd uchod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill fod defnyddio ynni adnewyddadwy gwyrdd yn hanfodol i ddiogelu newid hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Fodd bynnag, roedd o'r farn nad yw Fferm Solar Alaw Môn wedi'i gweithredu'n gywir wrth iddo gefnogi datblygiadau ffermydd solar.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Williams fod yn rhaid ystyried yr Ardal o Harddwch Eithriadol a bod denu twristiaid i'r Ynys yn hanfodol. 

 

Cydnabu Arweinydd y Cyngor y sylwadau ynghylch yr angen am ynni gwyrdd ac effaith newid hinsawdd.  Dywedodd nad yw'r Cyngor yn gwrthwynebu ynni solar.  Mae'r gwrthwynebiad i'r datblygiad hwn yn Alaw Môn yn seiliedig ar ei raddfa a’r ffaith y byddai’n bosibl gosod paneli solar ar safle tir llwyd a thoeau adeiladau.  Bydd y safle arfaethedig yn cymryd erwau o dir amaethyddol ffrwythlon ar adeg lle mae pryderon ynghylch diogelwch bwyd.  Dywedodd y Cynghorydd Pritchard yn gadarn nad yw'r Awdurdod yn gwrthwynebu ynni adnewyddadwy nac yn gwrthod cydnabod heriau newid hinsawdd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod yna heriau y mae'r wlad yn eu hwynebu oherwydd diogelwch bwyd ac ynni.  Dywedodd nad yw'r ynys yn gallu colli tir amaethyddol gwerthfawr, ac mai camsyniad yw meddwl ei bod yn bosibl ffermio a phori defaid o dan fframiau'r paneli solar.  Dywedodd nad yw yn erbyn paneli solar, ond bod angen eu codi mewn llefydd priodol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M Jones at Gynllun Solar Borthwen lle achoswyd ddifrod difrifol yn ystod Storm Dara. Mae'r cwmni'n parhau i ddelio â'r difrod a achoswyd ar y safle.  Gallai'r difrod o ganlyniad i stormydd o faint Fferm Solar Alaw Môn fod yn fygythiad i fywyd.   

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 o'r Cyfansoddiad, gofynnodd y nifer gofynnol o aelodau am bleidlais wedi'i chofnodi ar yr argymhelliad fel y nodwyd uchod.

 

Roedd y bleidlais a gofnodwyd fel a ganlyn:-

 

I gefnogi'r gwelliant i'r Hysbysiad o Gynnig :-

 

Y Cynghorwyr Geraint Bebb, Non Dafydd, Jeff Evans, Neville Evans, Douglas M Fowlie, Kenneth P Hughes, Trefor Ll Hughes MBE, Aled M Jones, Carwyn Jones, Dyfed W Jones, Gwilym O Jones, John Ifan Jones, Jackie Lewis, Derek Owen, Gary Pritchard, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, Margaret M Roberts, Nicola Roberts, Ken Taylor, Dafydd Rhys Thomas, Ieuan Williams,  Robin Williams, Sonia Williams, Liz Wood.    CYFANSWM 26

 

Yn erbyn y gwelliant:-

 

Y Cynghorydd Robert Ll Jones,                                             CYFANSWM 1

 

Ymatal: Y Cynghorwyr Glyn Haynes, Pip O'Neill, Keith Roberts

                                                                                                CYFANSWM 3

 

Yn dilyn Pleidlais a Gofnodwyd:

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Cyngor yn mynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch

   penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar

   Alaw Môn yn groes i'w polisïau ar ddefnydd o diroedd amaethyddol

   gorau a mwyaf amlbwrpas;

  Bod y datblygiad arfaethedig wedi achosi llawer o bryder yn ein

   cymunedau yn ogystal â chreu pryderon gwirioneddol ynghylch

   diogelwch bwyd yn y dyfodol;

  Gofynnir i'r Cyngor ymchwilio i bob opsiwn posibl, gan gynnwys

   ceisio Adolygiad Barnwrol, i herio'r penderfyniad hwn yn ogystal â

   cheisio gweithio ochr yn ochr â Grwpiau Cymunedol eraill sy'n

   gweithio tuag at nod tebyg;

  Os nad yw penderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen ag Adolygiad

   Barnwrol, bydd y Cyngor, mewn egwyddor, yn ystyried rhoi cyfraniad

   ariannol i Grŵp Tir Môn, yn amodol ar ymgynghori â'r Prif Weithredwr,

   Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddfa Adran 151 a'r

   Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.