Cofnodion:
7.1 OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2025, argymhellodd y Pwyllgor eu bod yn ymweld â’r safle, a chynhaliwyd yr ymweliad ar 30 Gorffennaf, 2025. Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025 penderfynwyd cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrid bod y safle yn ardal heb hanes llifogydd ac yn safle mewnlenwi rhwng eiddo preswyl presennol. Mae'r safle mewn parth llifogydd sydd mewn risg o lifogydd o’r môr, ond mae gan Falltraeth fesurau atal llifogydd sy'n cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais yn bennaf o fewn Parth Llifogydd C2 ar y Map Cyngor Datblygu, at ddibenion TAN 15 (2004). Mae safle’r cais cyfan hefyd yn dod o fewn Moroedd Parth Llifogydd C3, ar y Mapiau Llifogydd ar gyfer Cynllunio mwy diweddar y cyfeirir atynt yn y TAN 15 (2025) diweddar. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru TAN 15 newydd yn ystod cyfnod y cais hwn. Mae'r ddogfen yn cadarnhau y dylid ei darllen ar y cyd â Pholisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru sy’n cymryd lle’r TAN 14 a'r TAN 15 blaenorol. Fodd bynnag, bydd y Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol dyddiedig 31 Mawrth, 2025, a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r TAN newydd, yn parhau i gael ei asesu yn erbyn y fersiwn flaenorol. Diffinnir Parth Llifogydd C2 fel ardaloedd o'r gorlifdir heb isadeiledd amddiffyn rhag llifogydd sylweddol ac mae TAN 15 (2004) yn datgan yn glir na ddylid caniatáu 'datblygiad bregus iawn' sy'n cynnwys pob adeilad preswyl, mewn parthau o'r fath. Mae'r egwyddor hon yn arbennig o bwysig o ystyried newid hinsawdd, sydd yn ôl Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12) yn debygol o gynyddu'r risg o lifogydd oherwydd cynnydd yn lefel y môr. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fod yn rhagofalus ac osgoi datblygu mewn ardaloedd sy’n wynebu llifogydd o'r môr neu o afonydd. Mae'r egwyddorion hyn yn cael eu hadlewyrchu ym mholisi PS6 o'r Cynllun Datblygu Lleol sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio sicrhau nad yw datblygiadau’n cael eu lleoli mewn ardaloedd lle mae risg o lifogydd, er mwyn addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae datblygiad bregus iawn yn cael ei ddosbarthu fel pob safle preswyl, adeiladau cyhoeddus, yn enwedig datblygiadau diwydiannol arbennig o fregus a safleoedd gwaredu gwastraff. Mae paragraff 7.4 yn Nodyn Cyngor Technegol 15 yn datgan bod rhaid gwneud astudiaeth gynhwysfawr o lifogydd cyn penderfynu a all datblygiad fynd yn ei flaen. Dylai hyn edrych ar beth sy’n achosi’r llifogydd a sut fyddai’r llifogydd hynny yn effeithio ar y datblygiad. Rhaid i'r astudiaeth fod yn briodol ar gyfer maint a graddfa’r datblygiad a gynigir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu'r cais gan nad yw'r Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn dangos y gellir rheoli risgiau a chanlyniadau llifogydd i lefel dderbyniol yn unol â TAN 15. Mae’n methu â dangos bod y safle cyfan wedi’i ddylunio i fod yn gwbl rydd o lifogydd pe byddai digwyddiad morol 0.5% (1 mewn 200 mlynedd) yn ogystal â sgil effaith newid hinsawdd. Mae’r
asesiad llifogydd hefyd wedi dyddio gan ei fod wedi cael ei ysgrifennu 19 mlynedd yn ôl gyda dim ond un adendwm diweddar yn unig. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bryderon sylweddol ynglŷn â’r ffordd i gerbydau fynd i mewn ac allan o’r safle, a allai gael ei heffeithio’n sylweddol mewn achos o lifogydd, a’r diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r llwybr i gerddwyr i’r gogledd o’r safle datblygu. Dylai unrhyw Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig ystyried asesiadau priodol o’r posibilrwydd o fethiant yn yr amddiffynfeydd, yn benodol y cyflymderau disgwyliedig o ystyried bod y datblygiad yn agos at y cob. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn
ymwybodol bod Afon Cefni wedi gorlifo’i glannau ar sawl achlysur a dylai unrhyw ddogfennau diwygiedig ystyried hyn. Rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd ddiwygio’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn sgil sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth bellach ac, o’r herwydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r datblygiad ar sail llifogydd.
Er y daw’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd i’r casgliad y gellir rheoli’r risg llifogydd i’r datblygiad arfaethedig ac y gellir bodloni holl argymhellion Cyfoeth Naturiol Cymru a TAN 15, mae Nodyn Cyngor Technegol 15 (2004) yn nodi’n glir na ddylid caniatáu defnydd preswyl, sydd yn ddatblygiad bregus iawn. Mae paragraff 11.7 o TAN 15 (2004) yn nodi, pan fo'r awdurdod cynllunio yn ystyried mynd yn groes i gyngor Asiantaeth yr Amgylchedd, y dylai roi gwybod i'r Asiantaeth cyn rhoi caniatâd, gan ganiatáu digon o amser i wneud sylwadau pellach, er mwyn sicrhau y gellir rheoli canlyniadau'n dderbyniol. Os bydd yr Aelodau'n rhoi eu caniatâd, er gwaethaf argymhelliad y Swyddog, rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfeirio'r penderfyniad at Cyfoeth Naturiol Cymru cyn rhyddhau unrhyw benderfyniad, fodd bynnag, nid oes angen cyflwyno'r cais i Weinidogion Cymru, fel y byddai angen ei wneud pe bai'n cael ei gyflwyno ar ôl 1 Ebrill 2025.
Yr argymhelliad o hyd yw y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Arfon Wyn, Aelod Lleol, pan gyflwynwyd y cais ym mis Mawrth 2025, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi defnyddio'r Mapiau Cyngor Datblygu i gategoreiddio'r perygl o lifogydd yn y safle datblygu arfaethedig. Roedd y safle wedi'i ddosbarthu o fewn parth llifogydd C2. Nododd fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Malltraeth a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal y llifddorau’n barhaus. Dosbarthwyd yr ardal yn barth llifogydd C1 yn 2006 sy'n cael ei ddiffinio fel ardal a warchodir rhag llifogydd. Cwestiynodd beth sydd wedi newid a phe bai llifogydd yn yr ardal mewn cannoedd o flynyddoedd y gallai'r preswylwyr ddelio â'r sefyllfa. Roedd o'r farn y gellid defnyddio Stryd Dewi fel llwybr dianc. At hyn, dywedodd y Cynghorydd Arfon Wyn fod angen ystyried y cais ar hyn o bryd. Roedd o'r farn fod yr amddiffynfeydd yn ddigonol i atal unrhyw lifogydd. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod angen asesu safle’r cais ar hyn o bryd, a bod y safle o fewn parth llifogydd C2.
Dywedodd y Cynghorydd John Ifan Jones fod Cors Malltraeth wedi bodoli ers dros 200 mlynedd, a bod y mapiau parth llifogydd yn cyfeirio at y perygl o lifogydd o'r môr. Nododd na fu unrhyw lifogydd o'r môr ac mai pwrpas Cors Malltraeth yw amddiffyn unrhyw lifogydd gyda’r llifddorau. Mae lleoliad yr annedd arfaethedig 300 llath i fyny ar y lôn rhwng dau eiddo arall. Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod cais tebyg yn ardal y Fali, gyda Chapel yn cael ei addasu’n annedd a oedd wedi'i hamgylchynu gan anheddau eraill. Roedd o'r farn bod y cais hwn hefyd wedi'i amgylchynu gan anheddau eraill, a chwestiynodd pam fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu y dylid gwrthod y cynnig gan ei fod mewn parth llifogydd C2. Eiliodd y Cynghorydd Williams y cynnig i gymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts Ll Jones ei fod o'r farn bod angen gwrthod y cais gan fod posibilrwydd y bydd yr amddiffynfeydd yn methu. Mae lefel y môr yn codi bob blwyddyn oherwydd newid hinsawdd. Cynigiodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig i’w wrthod a nododd y bydd unrhyw gymeradwyaeth yn cael ei hanfon ymlaen i Lywodraeth Cymru, a’i bod yn debygol y bydd y cais yn cael ei wrthod.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, pan gyhoeddwyd y TAN 15 diweddaraf ar 31 Mawrth 2025 fod safle'r cais o fewn C3 a bod angen iddo gael ei asesu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, cyflwynwyd y cais cyn cyhoeddi'r TAN 15 diweddaraf, felly nid oes unrhyw ddyletswydd ar yr Awdurdod Cynllunio Lleol i gyfeirio'r cais at Lywodraeth Cymru. Dywedodd ymhellach fod yn rhaid ystyried, er nad oes llifogydd wedi bod yn yr ardal, y gallai hyn newid yn y dyfodol a bod angen cydymffurfio â barn Cyfoeth Naturiol Cymru. Nododd fod yr ymgeisydd wedi cael cyfle i gyflwyno Asesiad Canlyniadau Llifogydd a’i fod wedi gwrthod. Gallai hwnnw fod wedi mynd i'r afael â'r gofynion llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn cefnogi'r cais ar sail cysondeb gan fod nifer o dai wedi'u hadeiladu ym mhentref y Fali sydd â meini prawf tebyg o ran parth llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd John Ifan Jones fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn rheolaidd yng Nghob Malltraeth er mwyn amddiffyn yr ardal rhag y môr. Nid yw trigolion sy'n byw ger yr afon wedi profi unrhyw lifogydd ers degawdau ac nid oes ganddynt unrhyw broblemau wrth gael yswiriant tŷ.
Gofynnodd y Cynghorydd Robert Ll Jones am bleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig. Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.
Yn dilyn roedd 2 o blaid pleidlais wedi'i chofnodi a 9 yn erbyn, felly ni chafwyd pleidlais wedi'i chofnodi.
PENDERFYNWYD ailddatgan y penderfyniad i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
7.2 OP/2025/1 – Cais amlinellol ar gyfer codi 9 annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion llawn y fynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa’r tir ger Ffordd Llanfawr, Caergybi
Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi sef yr ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu i’r Cynghorydd Trefor Ll Hughes MBE ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi sef yr ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025 argymhellodd y Pwyllgor eu bod yn ymweld â’r safle, a chynhaliwyd yr ymweliad ar 17 Medi, 2025.
Siaradwyr Cyhoeddus
Dywedodd Ms Charolette Morrison, a oedd yn gwrthwynebu'r cais, ei bod yn cynrychioli 32 o drigolion lleol a fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol gan y cais i adeiladu ar barc Cae Braenar. Dywedodd ei bod wedi siarad â 33 o drigolion ym Morawelon, Cae Braenar, Ffordd Llanfawr a bod 32 o bobl yn erbyn y cynlluniau i adeiladu cartrefi ar y cae. Mynegwyd pryderon ynglŷn â ble fyddan nhw'n parcio eu ceir? A yw'n mynd i fod yn ddiogel? Mae'r parc chwarae hwn yn angenrheidiol i'r bobl leol. A fydd hyn yn golygu y bydd draeniau yn gorlifo hyd yn oed yn fwy? Ble fydd y plant yn chwarae? Mae'n ardal fawr, a fyddai'r mwyafrif ddim yn credu bod y lleoliad cyfan yn cael ei ddefnyddio, ond fel rhywun sy’n byw yn yr ardal, mae'n ymwybodol fod yr holl fan gwyrdd hwn yn cael ei ddefnyddio bob dydd. Yr ardal hon yw un o'r ychydig fannau gwyrdd sydd ar ôl yn ardal Morawelon sydd eisoes yn ardal adeiledig. Mae'n ardal sy'n cael ei defnyddio gan drigolion o bob oedran, a hynny’n gyson ar hyd y flwyddyn, gan fwy na 100+ o bobl bob dydd yn ystod y misoedd sych. Gan ei bod hi'n byw gyferbyn â’r safle, gall weld y cae a'r ardal chwarae hon yn cael eu defnyddio bob dydd. Mae'n hybu iechyd a llesiant trigolion yr ardal. Heb yr ardal hon, byddai'n rhaid i'r plant ifanc a'r teuluoedd gerdded i Ffordd Llundain i ddefnyddio parc chwarae, ac i'r mwyafrif dydi hynny ddim yn hwylus gan fod ffordd hynod brysur rhwng eu cartrefi a'r parc chwarae hwn. Nododd y byddai rhai pobl yn dweud y gellid defnyddio cae Beibio. Mae cae Beibio yn gae gwlyb iawn, ac mae'r parc chwarae yn addas i blant sy'n gallu dringo coed yn unig. Nododd fod ei mab 4 oed yn un o nifer o blant sy'n chwarae ym mharc Cae Braenar bob dydd, yn cyfarfod plant eraill o'i ddosbarth yn yr ysgol, sy’n hybu eu datblygiad cymdeithasol. Mae parc Cae Braenar yn fan cyfarfod i'r rhan fwyaf o ddisgyblion ysgol ei mab a'u teuluoedd a'u ffrindiau, mae’n ffordd i rieni ymlacio gan wybod bod eu plant yn chwarae'n ddiogel. Maen nhw'n defnyddio'r cae pêl-droed i fyny'r top, y cae y tu ôl i hen dai yr heddlu a'r parc chwarae islaw. Cae Braenar cae yw un o'r unig fannau gwyrdd sydd ar gael i'r plant ifanc a'r teuluoedd yn yr ardal adeiledig hon. Ble fyddan nhw'n mynd pan fydd yr ardal hon ddim ar gael? Mae'r lleoliad arfaethedig ar gyfer y ffordd yn bryder arall gan drigolion, gan eu bod yn byw ger ffordd brysur, ac eisoes yn cael eu heffeithio ganddi. Mae'r rhan fwyaf o drigolion eisoes yn ei chael hi'n anodd mynd i lawr y ffordd hon yn ystod cyfnodau prysur, sy'n achosi damweiniau. Bu nifer o ddamweiniau'n ymwneud â cheir a phlant eraill ar y ffordd hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gan y rhan fwyaf o drigolion sy'n byw ar y ffordd luniau o'r damweiniau hyn fel tystiolaeth ac mae'n debyg bod adroddiadau gan yr heddlu amdanynt. Hysbyswyd trigolion y gellid rhoi twmpathau cyflymder ar y stryd ond yn yr achos hwn, nid y cyflymder, ond nifer y ceir yn yr ardal hon sy'n golygu nad yw’n ddiogel. Bydd yr ystâd newydd a adeiladir yng Nghae Braenar yn arwain at gerbydau ychwanegol ar y ffordd hon sydd eisoes yn brysur. Roedd y defnydd o ddraeniau hefyd yn destun pryder gan fod y draeniau o 10 Heol Llanfawr yr holl ffordd i lawr i ben y stryd ger Tafarn Tywysog Cymru eisoes yn llawn ac yn gorlifo yn ystod y misoedd gwlypaf, ac mae dŵr yn gorlifo i erddi. A fydd hyn yn gwaethygu pan fydd yr ystâd arfaethedig a'i system ddraenio yn cael ei chreu? Deellir bod problemau’n gysylltiedig â dŵr i'r ystâd newydd yng Nghae Braenar sydd eisoes wedi'i hadeiladu, roedd Dŵr Cymru ym mhen draw Cae Braenar tua 4 wythnos yn ôl yn trwsio pibellau. A yw'r system ddraenio’n gallu ymdopi ag ystâd arall yn yr ardal hon? Mynegodd fod angen tai cymdeithasol, ond oherwydd y pryderon niferus am ddiogelwch, draenio a thraffig, ystyrir nad yw'r lleoliad hwn yn addas ar gyfer y cais hwn, mae'r man gwyrdd hwn yn ardal ddiogel i deuluoedd lleol ymgynnull a thyfu.
Holodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ers faint o flynyddoedd mae'r cae chwarae wedi bodoli ar y safle a beth yw oed y plant sy'n chwarae ar y cae. Mewn ymateb, dywedodd Ms Morrison fod y cae chwarae wedi bodoli ar y safle ers nifer o flynyddoedd a bod plant o amrywiol oedrannau yn chwarae bob dydd ar y cae chwarae. Dywedodd fod y cae chwarae yn cael ei ddefnyddio gan gymuned gyfan Morawelon.
Wrth gefnogi'r cais, dywedodd Mr Ian Roberts ei fod yn cynrychioli'r Cyngor Tref a dywedodd fod y cais hwn yn gynnig pwysig sy'n ceisio mynd i'r afael â'r angen am dai diogel a gwirioneddol fforddiadwy o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae'r safle arfaethedig yn eiddo i'r Cyngor Tref ac yn cael ei gynnal ganddo. Mae wedi'i nodi fel lleoliad addas ar gyfer y datblygiad hwn ar ôl ystyried yn ofalus, ymgysylltu â'r gymuned, a chadw at y polisïau a'r prosesau a nodir gan fframweithiau cynllunio lleol a chenedlaethol. Cynhaliodd y Cyngor Tref ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr 12 wythnos, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses hon, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a chyflwynwyd llythyr o fwriad i'r holl eiddo cyfagos, gan sicrhau bod trigolion yn cael gwybodaeth lawn am y cynnig. O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw, derbyniwyd 15 o ymatebion ffurfiol gyda mwyafrif y pryderon yn canolbwyntio ar y potensial ar gyfer mwy o draffig ar Ffordd Llanfawr. Fodd bynnag, mae'n werth nodi, yn ystod y broses gyn-gynllunio, nad oedd yr Adran Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad na phryder am y cynnydd posibl mewn traffig sy'n gysylltiedig â'r cynnig hwn. Mae lefel y traffig yn yr ardal wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gan fod llai o weithgarwch yn Kempston Controls Manufacturing, sef M.E.M. Electrics gynt. Mae ôl troed y cwmni cyflogi mawr lleol ar lif traffig dyddiol bellach wedi lleihau'n sylweddol. Ar hyn o bryd nid yw sawl cartref ar hyd Ffordd Llanfawr yn defnyddio eu llefydd parcio oddi ar y stryd, eu rhodfeydd a'u garejys, ac yn hytrach yn dewis parcio ar y ffordd. Gall hyn roi’r argraff fod tagfeydd ac nid yw efallai’n ddarlun cywir o gapasiti neu realiti'r sefyllfa draffig ar y ffordd hon. Nid yw'r Cyngor Tref yn gwrthod sylwadau’r gymuned, ond mae'n bwysig eu gosod mewn cyd-destun, wedi’u cefnogi gan wybodaeth broffesiynol a data lle bo hynny ar gael. Mae'r tir dan sylw yn ddarn o brysgdir, ac er ei fod yn edrych fel man gwyrdd, nid yw wedi cael ei ddynodi fel man agored cyhoeddus, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol at ddibenion hamdden neu amwynder. Mae'n cael ei gynnal gan y Cyngor Tref a thros amser, mae wedi dod yn amlwg bod y tir yn cael ei danddefnyddio yn ei ffurf bresennol. Trwy ddatblygu'r safle hwn, ystyrir ei fod yn darparu budd gwirioneddol, hirdymor i'r gymuned, gan ddarparu cartrefi, gwella isadeiledd yr ardal, a chyfrannu at lesiant cymdeithasol cyffredinol.
Ar draws y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, mae’n dra hysbys bod argyfwng tai. Mae awdurdodau lleol ym mhob man yn cael trafferth bodloni'r galw am gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy, ac nid yw'r ardal hon yn eithriad. Mae rhestrau aros yn yr ardal leol ar eu huchaf erioed gyda theuluoedd yn aros misoedd, weithiau blynyddoedd, am lety diogel, fforddiadwy. Ni fydd y datblygiad hwn yn datrys y broblem dros nos, ond mae'n gam ystyrlon i'r cyfeiriad cywir. Mae'n cyd-fynd â'r targedau tai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae'n ateb cyfrifol, cynaliadwy a dan arweiniad lleol. Fel Cyngor Tref, ystyrir ei bod yn ddyletswydd foesol, yn ogystal ag yn ymarferol, i gymryd camau cadarnhaol sy'n cefnogi'r preswylwyr ac yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn angen. Yn ogystal â'r cartrefi arfaethedig, mae'r Cyngor Tref yn ymrwymo i fuddsoddi £30,000 yn yr ardal chwarae leol a'r mannau gwyrdd cyfagos sy'n fudd clir ac uniongyrchol i'r gymuned ehangach. Bydd y cyllid hwn yn helpu i wella cyfleusterau hamdden awyr agored, hybu bioamrywiaeth, a darparu mannau diogel a deniadol i blant a theuluoedd eu mwynhau. Credir ei bod yn bwysig bod y datblygiad hwn yn sicrhau enillion net nid yn unig o ran tai ond o ran llesiant cymunedol. Mae'r Cyngor Tref wedi gweithio'n agos gyda swyddogion cynllunio, sydd wedi argymell cymeradwyo'r cynllun hwn sy'n adlewyrchu cryfder y cais, ei gydymffurfiaeth â pholisi, a'r budd cyhoeddus clir y mae'n ei gynnig. Mae'r cais hwn yn bodloni'r meini prawf a amlinellir yn y Cynllun Datblygu Lleol, y polisi tai fforddiadwy, egwyddorion datblygu cynaliadwy a safonau ymgysylltu â'r gymuned.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn gais amlinellol ar gyfer codi 9 annedd fforddiadwy (rhent cymdeithasol) gyda'r mynediad i'r safle, edrychiad, graddfa a gosodiad yn cael eu hystyried fel rhan o'r cais presennol. Mae'r cynnig ar gyfer codi 6 byngalo, un pâr o eiddo pâr deulawr ac un annedd ar wahân. Bydd mynediad i'r safle ar hyd Ffordd Llanfawr a bydd yn mynd ar hyd talcen yr eiddo a elwir yn 32 Ffordd Llanfawr. Mae'r safle wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu Caergybi ac ar dir sydd wedi'i ddyrannu fel man agored o fewn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd. Mae'r safle rhwng Ffordd Bryn Glas ac Ystâd Cae Braenar gyda chymysgedd o dai o amgylch y safle. Mae'r cais yn cydymffurfio â'r Cynllun Datblygu Lleol gan ei fod o fewn ffin ddatblygu Caergybi ac mae capasiti o fewn y cyflenwad dangosol ar gyfer tai yng Nghaergybi. Mae'r Adran Dai wedi cadarnhau bod y cymysgedd o dai yn briodol ac yn cydymffurfio â TAI 8, a gan fod rhai yn fforddiadwy mae hefyd yn cydymffurfio â gofyniad polisi TAI 15. Er mai’r bwriad yw darparu 100% o anheddau fforddiadwy, gan fod y polisi yn gofyn am 10% yng Nghaergybi, bydd 1 annedd yn fforddiadwy o fewn cytundeb Adran 106, a bydd y 90% sy'n weddill yn ôl disgresiwn y datblygwyr. Mae'r safle wedi'i ddynodi'n fan agored a warchodir o dan Bolisi ISA 4 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ac mae ymrwymiad i wella cyfleusterau chwarae yn yr ardal a bydd amodau llawn ynghlwm wrth unrhyw gymeradwyaeth i'r cais. Mae'r Cyngor Tref wedi pennu'r gyfradd flynyddol o £30,000 tuag at wella'r cyfleusterau presennol. Dywedodd ymhellach fod gogledd-ddwyrain y safle, sydd wedi'i leoli rhwng Cae Braenar a'r arfordir, yn fan agored. Er nad yw'r cynnig yn cydymffurfio'n llawn â gofynion Polisi ISA 4, bydd y cynnig yn darparu tai cymdeithasol fforddiadwy i'r gymuned a bydd yn gwella'r cyfleusterau chwarae presennol. Mae pryderon wedi cael eu codi y bydd y fynedfa i'r anheddau arfaethedig yn mynd ar hyd talcen 32 Ffordd Llanfawr. Darperir sgrinio trwy blannu coed ar hyd ffin y safle gyda'r eiddo a fydd yn gweithredu fel rhwystr gweledol a rhag sŵn, a bydd cynllun tirweddu manwl yn cael ei osod fel amod gydag unrhyw gymeradwyaeth i'r cais. Ni ystyrir y bydd y cais yn cael effaith negyddol ar amwynderau eiddo preswyl cyfagos, ac mae'r pellteroedd yn cydymffurfio â'r Canllawiau Cynllunio perthnasol. Ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig. Er y cydnabyddir y gallai codi 9 annedd newydd arwain at draffig ychwanegol, mae'r safle o fewn ffin ddatblygu Caergybi sydd wedi'i dynodi'n Ganolfan Gwasanaethau Trefol. Ni fydd y 9 annedd ychwanegol yn creu traffig ychwanegol sylweddol ar un o'r prif ffyrdd i'r dref, sy'n mynd o Ysbyty Penrhos Stanley i'r Porthladd ar yr ochr arall. Mae Aelod Lleol wedi codi pryderon am effaith y cynllun arfaethedig ar ecoleg. Mae'r Cynghorydd Ecolegol wedi derbyn copi o'r materion a godwyd ac wedi cadarnhau nad oedd unrhyw wrthwynebiad i'r cynllun.
Nid yw safle'r cais yn ymwthio i'r tir prysg cyfagos i'r gorllewin i safle'r cais. Mae'r cynllun tirweddu a'r Datganiad Seilwaith Gwyrdd wedi'u cyflwyno yn nodi nifer y coed i'w plannu fel rhan o'r cynnig, fodd bynnag, ystyrir y bydd angen cynllun tirweddu manwl i ddangos nifer pob rhywogaeth frodorol a bydd angen lleoliad y blwch gwenyn arfaethedig fel rhan o unrhyw gais manwl neu lawn yn y dyfodol. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106 fod angen i un o'r eiddo fod yn fforddiadwy.
Er y bydd cyfran fach o'r ardal chwarae yn cael ei golli fel rhan o'r datblygiad, dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill, Aelod Lleol, ei fod yn cefnogi'r cais gan fod angen tai cymdeithasol ac angen gwirioneddol am fyngalos gan fod 118 o bobl ar y rhestr dai am dai. Dywedodd y bydd unrhyw fioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol a gollir fel rhan o'r datblygiad wedi’u cyfyngu. Dywedodd ymhellach, yn dilyn ymgynghori ar y datblygiad, fod cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu a phrif bryderon trigolion oedd problemau traffig ychwanegol yn yr ardal. Roedd o'r farn y dylid ystyried twmpathau cyflymder ac yn enwedig gyda'r datblygiad ychwanegol o fewn ystâd Cae Braenar.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans, ac Aelod Lleol ei fod yn cael ei dderbyn bod angen datblygiad o'r fath, fodd bynnag, mae Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd caeau chwarae ac yn nodi bod chwaraeon a hamdden yn cyfrannu at ansawdd bywyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu chwaraeon a hamdden ac ystod eang o weithgareddau hamdden sy'n hybu gweithgarwch corfforol er iechyd a llesiant plant ac oedolion. Dylai Awdurdodau Lleol gydnabod pwysigrwydd ardal chwarae at ddefnydd cymunedol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid diogelu pob maes chwarae rhag cael eu datblygu. Nododd fod trigolion yn pryderu ynghylch y ffaith y bydd mwy o draffig oherwydd y datblygiad, y collir mannau agored, y bydd llwybr troed yn mynd trwy'r safle, problemau draenio, a’r effaith ar werth eiddo cyfagos yn ogystal â’r effaith ar ecoleg a bioamrywiaeth. Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod o'r farn fel Aelod Lleol y dylid codi datblygiad o'r fath ar safle arall heb yr effaith ar y mannau agored a'r caeau chwarae cyfyngedig. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) a nododd, er y bydd rhan o'r cae chwarae yn cael eiddefnyddio, y bydd cae chwarae ar y safle o hyd. Dywedodd y bydd cyfraniad o £30k gan Gyngor Tref Caergybi yn cael ei ddefnyddio i wella'r cyfleusterau chwarae ar y safle. Cyfeiriodd at y pryderon ynglŷn â materion traffig a nododd, er bod mannau parcio y tu allan i'r annedd gyferbyn â'r safle, fod y trigolion yn parcio eu cerbydau ar ochr y ffordd.
Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol mai rôl y Pwyllgor hwn yw ystyried y polisïau cynllunio mewn perthynas â’r cais ac nid y rheoliad cae chwarae.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jackie Lewis at y ffaith fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r draenio ar y safle a gofynnodd a yw'r datblygiad yn cael effaith negyddol ar y tir.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu'r cais i ddechrau gan y byddai’r system ddraenio’n cael ei chysylltu â system garthffosiaeth breifat. Cadarnhaodd Asiant y cais fod y ffurflen gais wedi'i chwblhau'n anghywir, a bod yr anheddau arfaethedig i'w cysylltu â'r brif system garthffosiaeth, a diwygiwyd y ffurflen gais. Nid yw Dŵr Cymru wedi gwrthwynebu'r cais. Dywedodd hefyd y bydd y dŵr wyneb yn cael ei ystyried gan Ddŵr Cymru o dan y broses Corff Cymeradwyo SDCau cyn adeiladu ar y safle ac mae'r ddeddfwriaeth yn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar eiddo cyfagos a'r safle cyfan. Ailadroddodd nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu'r cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans ei bod yn amlwg yn ystod yr ymweliad â’r safle fod y safle yn agos at ffordd brysur a bod ceir wedi'u parcio ar y ffordd. Holodd faint o ddamweiniau a gofnodwyd yn yr ardal. Mewn ymateb, dywedodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig nad oes unrhyw ddamweiniau wedi'u cofnodi yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn yr ardal. Fodd bynnag, dywedodd nad yw hyn yn golygu nad oes unrhyw ddamweiniau wedi digwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn siomedig bod Cyngor Tref Caergybi wedi cyflwyno'r cais gan y bydd hanner y cae chwarae yn cael ei golli. Nododd fod angen diogelu cae chwarae i blant. Eiliodd y Cynghorydd Hughes y cynnig i wrthod y cais.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er ei fod yn derbyn y bydd hanner y cae chwarae yn cael ei ddefnyddio, ei bod yn ofynnol ystyried yr angen am anheddau fforddiadwy yn hytrach na cyfleusterau cae chwarae a bod cyfiawnhad dros ddynodi'r safle ar gyfer datblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod yntau hefyd yn siomedig bod Cyngor Tref Caergybi wedi cyflwyno'r cais gan y bydd datblygu cynnig o'r fath yn cymryd mwy na hanner y cae chwarae. Cyfeiriodd at Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 a nododd fod angen i awdurdodau lleol ddiogelu caeau chwarae er lles plant mewn amgylchedd diogel. Roedd o'r farn bod safleoedd eraill yn yr ardal a fyddai'n fwy addas ar gyfer datblygiad o'r fath.
Ailadroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y cae chwarae yn dal i fodoli ar y safle ac nad yw Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 yn berthnasol fel rhan o'r cais. Nododd fod ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos, ynghyd â chyfarfod cyhoeddus wedi'i gynnal gan y Cyngor Tref, nad oedd yn ofyniad statudol.
Holodd y Cynghorydd Geraint Bebb a fydd y cyfraniad o £30k gan y Cyngor Tref yn benodol ar gyfer y cae chwarae ar y safle neu a fydd yn cael ei rannu â chaeau chwarae eraill yn yr ardal. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod yn ystyried y bydd y cyfraniad o £30k ar gyfer yr ardal hon ond bydd angen cynnal trafodaethau pan fydd y cais llawn yn cael ei gyflwyno.
Holodd y Cynghorydd John Ifan Jones am y llwybr troed ar y safle ac a fydd yn rhaid i blant gerdded i'r ffordd i fynd at y cae chwarae, a holodd ymhellach sut y datblygir yr ardal chwarae. Nododd nad oes ymateb i'r cais gan y Swyddog Amgylchedd na'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Dangoswyd cynllun y safle ar y sgrin i'r Pwyllgor a chyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y ddau lwybr troed mewn glas ar gynllun y safle gydag un llwybr troed yn arwain o Heneb Stanley ac yna’n ymuno â'r llwybr troed newydd tuag at yr ardal chwarae. Nododd y bydd manylion yr ardal chwarae arfaethedig ar gael pan fydd y cais llawn yn cael ei gyflwyno a bydd angen i'r ymgeisydd gyflwyno amod fel rhan o'r gymeradwyaeth.
Holodd y Cynghorydd John Ifan Jones ymhellach a yw'r elfen fforddiadwy o'r cais arfaethedig ar gyfer y safle cyfan. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, gan fod y safle o fewn ffin ddatblygu Caergybi, ei bod yn ofynnol i 10% o'r anheddau fod yn rhai fforddiadwy. Felly, dim ond un uned y gellir ei diogelu fel uned fforddiadwy trwy gytundeb cyfreithiol Adran 106, a bydd gweddill yr anheddau yn ôl disgresiwn y datblygwr.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, er bod y Cyngor Tref yn dymuno i 9 annedd fod yn fforddiadwy, a bod hyn wedi'i gytuno â'r Adran Dai, nad yw polisïau cynllunio yn gallu gosod amod fod yr holl anheddau yn rhai fforddiadwy. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Tref yn trafod gyda'r Adran Dai a Chymdeithasau Tai eraill a bydd yr holl anheddau yn cael eu rhentu.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan fod y cynnig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.
Pleidleisiodd 5 o blaid a 5 yn erbyn y cais, a gyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd cymeradwywyd y cais.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: