Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 Gorchymyn Rheoleiddio Traffic

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastaff a Eiddo.

Cofnodion:

13.1 Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

 

Adroddodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig fod yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu sawl Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer nifer o leoliadau mewn perthynas â rhannau o ffyrdd sydd wedi'u heithrio o'r terfynau cyflymder 20mya gorfodol a gyflwynwyd ym mis Medi, 2023.  Nododd fod yr Awdurdod wedi paratoi 7 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gan gynnwys 25 o newidiadau i ardaloedd sy'n troi’n ôl i fod yn 30mya neu 40mya.  Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ynglŷn â'r cynigion sydd wedi golygu bod angen

cyflwyno'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w penderfynu. Dywedodd ymhellach, ar ôl cyflwyno'r terfynau cyflymder gorfodol 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, bod yr Awdurdod wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffyrdd A a B a'r prif ardaloedd adeiledig yn bennaf.  Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ym mis Gorffennaf, 2024 gyda newidiadau i'r geiriad o dan Feini Prawf Lle fel bod mwy o hyblygrwydd, ac i’w gwneud yn gliriach ar ba ffyrdd y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn fwy priodol.  Rhwng Ebrill 2024 a Thachwedd 2024, rhoddodd yr awdurdod wahoddiad i aelodau lleol, cynghorau tref/cymuned a'r cyhoedd roi adborth ar ba ffyrdd yr hoffent i'r awdurdod eu hasesu a rhoi rhesymau dilys dros y cais, yn seiliedig ar y canllawiau oedd wedi'u diweddaru.  Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o'r ffyrdd a awgrymwyd ar wefan y Cyngor sy’n cynnwys cyfanswm o 47 o ffyrdd.  Aseswyd pob rhan o'r ffyrdd gan ddefnyddio fframwaith/taflen asesu fanwl yn seiliedig ar y canllawiau a oedd wedi'u diweddaru.  Cyflwynwyd rhestr fer o ffyrdd priodol i'w hystyried i’w troi’n ôl i fod yn ffyrdd 30mya i Grŵp Llywio o Aelodau Etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac Uwch Swyddogion o fewn yr Adran Priffyrdd.  Cynhaliwyd cyfanswm o 3 cyfarfod rhwng Awst a Hydref 2024 er mwyn adolygu'r holl gynigion ac i gwblhau rhestr o'r 27 safle; cafodd dau safle eu tynnu oddi ar y rhestr gan adael 25 o safleoedd i’w hystyried.  Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol gyda chynghorau tref/cymuned lleol, aelodau etholedig, gwasanaethau brys a’r gymdeithas trafnidiaeth cludo nwyddau rhwng 14 Chwefror, 2025 a 4 Ebrill, 2025.  Derbyniwyd 103 o sylwadau o blaid ac yn erbyn y cynigion yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mai 2025 a Mehefin, 2025. Roedd crynodeb o'r ymatebion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. 

 

Roedd y 7 Gorchymyn Rheoliadau Traffig fel a ganlyn:

 

  • Ward Twrcelyn

 

Amlwch A5025

Amlwch – Lôn Parys i Ffordd Madyn

Porthllechog – A5025

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Ward Twrcelyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, ac eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

·       Wardiau Canolbarth Môn a Chefni

 

A5 Ffordd ddynesu Bodffordd

Llangefni – Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol

B5111 Rhosmeirch - Ffordd ddynesu Coedana

Talwrn – Ffordd yr Hen Ysgol

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, ac eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig i’w gymeradwyo.

 

·       Wardiau Bro’r Llynnoedd/Crigyll/Aberffraw/Talybolion

 

Bryn Du – ffordd ddynesu o Lanfaelog

A5 Caergeiliog – ffordd ddynesu Bryngwran o gyffordd Dalar

A5025 Llanfachraeth

Llanfinhangel yn Nhywyn, Awyrlu'r Fali., Ffordd Minffordd

Rhosneigr A4080 – ffordd ddynesu Llyn Maelog – peidio â bwrw ymlaen â'r cais oherwydd pryderon am ddiogelwch yn yr ardal.

 

A4080 Niwbwrch – ffordd ddynesu Malltraeth – peidio â bwrw ymlaen â'r cais oherwydd y fenter Teithio Llesol yn yr ardal.

 

A4080 Rhosneigr – ffordd ddynesu Llyn Maelog

 

Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Aelod Lleol, nad oes unrhyw fanteision o newid y 20mya i 30mya yn yr ardal gan fod nifer fawr o gerddwyr yn cerdded tuag at y llwybr bordiau yn Llyn Maelog ac y byddai cynyddu'r terfyn cyflymder yn niweidiol i ddiogelwch ar y ffordd.  Nododd fod Cyngor Cymuned Llanfaelog yn gwrthwynebu'r argymhelliad. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Neville Evans, ac Aelod Lleol y byddai newid y terfyn cyflymder yn niweidiol oherwydd dwysedd uchel o gerddwyr sy'n defnyddio'r ffordd tuag at Lyn Maelog.  Cynigiodd y Cynghorydd Evans na ddylid bwrw ymlaen â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig oherwydd pryderon am ddiogelwch yn yr ardal.

Eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i beidio â bwrw ymlaen â'r Gorchymyn Traffig. 

 

·       Gorchymyn Traffig – Ward Bodowyr

 

Llanddaniel, ffordd ddynesu’r A5

Llanddaniel, ffordd ddynesgu Llanedwen

Llanddaniel, ffordd ddynesu’r groesfan wastad

 

Gaerwen – Lôn Groes – Ystâd Ddiwydiannol

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gohirio'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig mewn perthynas ag Ystâd Ddiwydiannol Gaerwen – Lôn Groes oherwydd pryderon ynghylch diogelwch newid y terfyn mya drwy'r ardal a bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda Chyngor Cymuned Llanfihangel Esgeifiog gan eu bod wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r cynnig.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w ohirio.

 

·       Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Ward Cybi

 

A5153 Caergybi – Parc Cybi

A5154 Caergybi – Ffordd Fictoria

Bae Trearddur, B4545 Lôn Sain Ffraid Ddwyreiniol

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.  Eiliodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynnig.

 

·       Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Wardiau Seiriol ac Aethwy

 

Llandegfan – Ffordd yr Eglwys

Llanfaes – lôn Dosbarth 3 heb ei henwi o'r B5109

Llanfairpwll – A5025 ger y cyfleuster Parcio a Rhannu

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.  Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.

 

·       Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Ward Lligwy

 

A5025 - Benllech

B5109 Pentraeth Ffordd ddynesu Biwmares

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig. 

 

 

Penderfynwyd :-

 

·       Gorchymyn Traffig – Ward Twrcelyn

 

 

A5025 Amlwch

Amlwch – Lôn Parys i Ffordd Madyn

A5025 - Porthllechog

 

Cymeradwyo'r tair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

·     Gorchymyn Traffig – Wardiau Canolbarth Môn a Chefni

 

Bodffordd – Ffordd yr A5

Llangefni – Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol

B5111 Rhosmeirch – ffordd ddynesu Coedana

Talwrn – Ffordd yr Hen Ysgol

 

Cymeradwyo'r pedair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

 

·     Gorchymyn Traffig – Wardiau Bro’r Llynnoedd/Crigyll/Aberffraw/Talybolion

 

Bryn Du – ffordd ddynesu o Lanfaelog

Caergeiliog – ffordd ddynesu Bryngwran o gyffordd Dalar

Llanfachraeth A5

Llanfihangel yn Nhywyn Awyrlu’r Fali, Ffordd Minffordd

 

 

Cymeradwyo'r pedair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

 

 

Niwbwrch A4080– ffordd ddynesu Malltraeth – peidio â bwrw ymlaen â'r cais oherwydd y fenter Teithio Llesol yn yr ardal.

 

Rhosneigr A4080 – ffordd Llyn Maelog – peidio â bwrw ymlaen â'r cais oherwydd pryderon am ddiogelwch yn yr ardal.

 

 

·     Gorchymyn Traffig – Ward Bodowyr

 

Llanddaniel, ffordd ddynesu’r A5

Llanddaniel, ffordd ddynesu Llanedwen

Llanddaniel, ffordd ddynesu’r groesfan wastad

 

Cymeradwyo'r tair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

Gaerwen – Lôn Groes – Ystâd Ddiwydiannol – peidio â bwrw ymlaen â'r cais oherwydd pryderon am ddiogelwch o ran newid y terfyn mya drwy'r ardal. 

 

·     Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Ward Cybi

 

Caergybi A5153 – Parc Cybi

Caergybi A5154 – Ffordd Fictoria

Bae Trearddur, B4545 Lôn Sain Ffraid Ddwyreiniol

 

Cymeradwyo'r tair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

 

·     Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Wardiau Seiriol ac Aethwy

 

Llandegfan – Ffordd yr Eglwys

Llanfaes – ffordd Dosbarth 3 heb ei henwi o'r B5109

Llanfairpwll – A5025 ger y cyfleuster Parcio a Rhannu

 

Cymeradwyo'r tair ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

 

·     Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Ward Lligwy

 

Benllech – A5025

    B5109 Pentraeth Ffordd ddynesu Biwmares

 

Cymeradwyo'r ddwy ardal, fel y nodwyd uchod, ar gyfer cadarnhau'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

Dogfennau ategol: