Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, oedd yn amlinellu’r ymatebion i’r hysbysiad gwella rheolaeth adeiladu.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu'r Cyngor, fis Ebrill 2025, fod ymchwiliad wedi’i ei ddechrau wedi iddynt dderbyn honiad fod Tîm Rheoli Adeiladu’r Cyngor yn torri Rheolau Gweithredu Safonol (Cymru) 2024. Cynhaliwyd ymchwiliad mewnol brys i bennu a oedd yr honiad yn wir a chymerodd y Cyngor gamau brys a amlygwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ei bod yn bwysig fod gan y Cyngor wybodaeth am y gwendidau sydd wedi digwydd, a bod yr argymhellion yn yr adroddiad eisoes wedi derbyn sylw cyn derbyn cyngor gan yr Arolygiaeth, a bod gwelliannau wedi’u gwneud i wella’r gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod ymateb cynhwysfawr wedi’i ddarparu ar gyfer yr hysbysiad gwella rheolaeth adeiladu. Gofynnodd a oedd y gwaith sy’n cael ei gwblhau gan y Tîm Rheoli Adeiladu yn cydymffurfio â safonau perthnasol y blynyddoedd blaenorol, a pha sicrwydd ellir ei gynnig na fydd materion eraill yn codi yn y dyfodol mewn perthynas â diogelwch adeiladau.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r newidiadau i’r Rheolau Safonau Gweithredu o fewn yr amserlen. Mae staff y Tîm Rheoli Adeiladu yn brofiadol ac yn meddu ar y wybodaeth ofynnol o ran deddfwriaeth rheoli adeiladu, ac mae hyfforddiant bellach yn cael ei gynnig i sicrhau cydymffurfiaeth lawn gyda’r safonau newydd.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod capasiti’r Tîm Rheoli Adeiladu wedi’i gryfhau dros dro i sicrhau bod gan y tîm y sgiliau a’r gallu priodol. Mae Swyddog profiadol wedi cynnal adolygiad ar geisiadau rheoli adeiladu hanesyddol rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, ac nid oes unrhyw faterion wedi’u codi mewn perthynas â’r penderfyniadau a wnaed gyda’r ceisiadau rheoli adeiladu. Dywedodd ei fod yn hyderus fod y penderfyniadau cywir wedi’u gwneud a bod y Tîm yn gweithio’n effeithiol ac yn cydymffurfio gyda cydymffurfiaeth statudol.
Gofynnodd Arweinydd y Cyngor a oes cynllun hyfforddi a gweithlu ar waith mewn perthynas â’r gwasanaeth hwn.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod hyfforddeion a’r Swyddog Cymorth Technegol yn y gwasanaeth wedi dechrau rhaglen hyfforddiant i gael y sgiliau a’r cymwysterau gofynnol i gwblhau gwaith yn unol â deddfwriaeth newydd.
Dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir, ar lefel genedlaethol, fod diffyg arbenigedd a sgiliau yn y maes rheoli adeiladu. Oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ymhellach er mwyn creu gweithlu proffesiynol. Mae Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant i hyfforddeion, ond weithiau bydd y staff hyn yn gadael yr awdurdod ac mae’n broses gyson o orfod hyfforddi staff newydd. Dywedodd fod cadw staff yn bwysig er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth.
PENDERFYNWYD :-
· I gymeradwyo ymateb y Cyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Hysbysiad Gwella Rheoli Adeiladu.
· gyda chymeradwyaeth blaenorol Cadeirydd y Cyngor, i atal hawl y Pwyllgor Sgriwtini i alw’r penderfyniad hwn i mewn. Byddai gohirio’r penderfyniad i ganiatáu cyfnod galw i mewn gan y Pwyllgor Sgriwtini yn niweidiol gan ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ymateb i Lywodraeth Cymru erbyn 14 Hydref, 2025, a dangos sut mae’n cydymffurfio â’r Hysbysiad.
Dogfennau ategol: