Eitem Rhaglen

Cynllun Datblygu CYS Ynys Môn 2025/26

I drafod y ffordd orau y gall y CYS gefnogi ei ysgolion: -

 

·      Hybu CYS(AG) 

·      Datblygu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

·      Datblygu Gwasanaeth Ymgynnull 

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM bod rhaid i bob CYS ddarparu adroddiad blynyddol i adlewyrchu ar ei fusnes.  Bydd y CYS yn cynghori Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob CYS ei gynllun datblygu ei hun.

 

Nodwyd bod y drafodaeth ledled Cymru wedi canolbwyntio ar y posibilrwydd o ganiatáu i’r CYSau ddatblygu eu hamcanion eu hunain, ac o ganlyniad bydd camau gweithredu mewn adroddiadau blynyddol yn canolbwyntio ar gynnydd y CYSau tuag at gyflawni eu cynlluniau datblygu.  Yr amcan gyntaf i CYS Ynys Môn fydd sicrhau bod aelodaeth y CYS yn cwrdd â’r gofynion.  

 

Amlygwyd mai prif gyfrifoldeb y CYS yw cefnogi ysgolion a datblygu CGM, a gellid defnyddio hyn fel amcan arall ar gyfer y CYS, drwy gymryd camau i gefnogi a datblygu ysgolion.   Awgrymwyd y gallai’r cynrychiolwyr ffydd rannu cofnodion y CYS, adroddiadau blynyddol ayb., i barhau â’r drafodaeth ynglyn â’r modd y gallai’r sefydliadau sy’n cefnogi’r CYS gefnogi CGM mewn ysgolion.

 

Yn drydydd, gofynnwyd sut y gallai’r CYS gefnogi addoli ar y cyd mewn ysgolion?  Awgrymwyd y byddai Cylchlythyr yn un ffordd dda o symud ymlaen ynghyd â Rhwydwaith ar gyfer Penaethiaid Adran yn y sector Uwchradd, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu i gefnogi dysgu proffesiynol.  

 

Nodwyd bod aelodau’r CYS wedi arsylwi sesiynau addoli ar y cyd ac y gallai ystyried arsylwi gwasanaethau neu wersi CGM?   Byddai cael banc o adnoddau a rhestr o bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy’n fodlon mynd i ysgolion i gynnal gwasanaethau hefyd yn ffordd dda o gefnogi ysgolion.  

 

Trafodwyd a ddylai CCYSAGauC gynhyrchu templed i annog y CYSau i fabwysiadu amcanion cenedlaethol ac ychwanegu amcanion lleol yn eu cynlluniau datblygu er mwyn nodi arfer da ar gyfer ardaloedd eraill?   Cynigwyd a derbyniwyd y dylai’r CYS ysgrifennu’n ffurfiol at CCYSAGauC i ofyn i’w Weithrediaeth drafod y mater maes o law.

    

Cyfeiriodd un o’r cynrychiolwyr athrawon at bwynt gweithredu posib ar gyfer y dyfodol yn gysylltiedig â chydweithio rhwng y CYS ac ysgolion uwchradd yn benodol.   Dywedodd bod disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn cwblhau gwaith cwrs a thasg nad yw’n arholiad, sy’n cael ei chyflwyno ar gyfer athrawon a disgyblion.   Pob mis Medi, mae CBAC yn cyflwyno dau gwestiwn i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ac mae’n rhaid iddynt chwilio am dystiolaeth, sy’n heriol iddynt, gyda’r athrawon yn eu harwain drwy’r gwaith.   Awgrymodd y gallai’r CYS roi ei farn ar y pwnc a gyflwynir yn flynyddol.  

 

Awgrymodd y CYS y gallai fod yn bwynt cyswllt diddorol ar gyfer safbwyntiau crefyddol ac y gellid ei rannu ag ysgolion Ynys Môn sy’n cwblhau’r dasg.  Gellid hefyd ei gynnwys yn y Cylchlythyr a’i ddefnyddio fel ffynhonnell wybodaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a’i ymgorffori i waith y cynrychiolwyr ffydd.

 

Estynnwyd gwahoddiad i’r CYS i Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yng Nghaergybi i arsylwi sesiwn addoli ar y cyd.   Awgrymwyd y gallai’r aelod CYS ysgrifennu erthygl fer yn dilyn yr ymweliad a’i gynnwys yn y Cylchlythr.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cefnogi cynllun datblygu’r CYS.

  Bod yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd (Clerc y CYS) yn ysgrifennu at

   CCYSAGauC i ofyn i’w Weithrediaeth ystyried darparu templed i

   annog pob CYS i fabwysiadu amcanion cenedlaethol, lle gellid

   ychwanegu amcanion lleol i gynlluniau datblygu’r CYSau i nodi a

   rhannu arfer da.

Dogfennau ategol: