Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2025/26, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 87% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny a'u bod yn Wyrdd neu'n Felyn. Tynnodd sylw at berfformiad da sydd wedi’i gynnwys yn adran 2.3 o'r adroddiad cerdyn sgorio a nododd hefyd y meysydd y mae'r Tîm Arweinyddiaeth a'r gwasanaethau perthnasol yn ymchwilio iddynt i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol. Mae'r meysydd hynny, y manylir arnynt yn adran 2.2 o'r adroddiad ynghyd â mesurau lliniaru cysylltiedig, yn ymwneud â dangosyddion o dan yr adran Tai, Economi, Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyngor Cyfan. Daeth i'r casgliad bod y cerdyn sgorio yn cyflwyno darlun cadarnhaol o berfformiad ar ddiwedd yr ail chwarter.
Adroddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ôl o gyfarfod y pwyllgor ar 18 Tachwedd 2025, a oedd wedi ystyried adroddiad cerdyn sgorio Ch2. Roedd y pwyllgor wedi trafod yr adroddiad yn fanwl ac wedi myfyrio ar berfformiad cadarnhaol cyffredinol y Cyngor yn erbyn amcanion strategol Cynllun y Cyngor yn y cyfnod. Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd ynghylch cynnydd mewn perthynas â dangosyddion sy'n is na'r targed neu sy’n galw am ymyrraeth bellach a nodwyd y meysydd lle mae'r Tîm Arweinyddiaeth a'r gwasanaethau perthnasol yn gweithio i sicrhau gwelliannau. Roedd y pwyllgor wedi argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru a amlinellir ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y drafodaeth fanwl a'r cwestiynu trylwyr ynghylch tanberfformiad gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nodwyd bod y dangosyddion Tai isod bellach yn dangos gwelliant, gyda'r grŵp tasg a gorffen Sgriwtini a'r Gwasanaeth Tai wedi gweithio'n galed i sicrhau cynnydd. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, fel y cyn Aelod Portffolio Tai, fod materion yn ymwneud â'r amser a gymerwyd i ailosod eiddo'r cyngor wedi cael eu nodi beth amser yn ôl a bod camau i wella hyn yn parhau i fynd rhagddynt. Bydd y mater yn parhau i dderbyn sylw gan y gwasanaeth a'r aelod portffolio presennol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Morwrol, Twristiaeth ac Eiddo at ddangosydd Economi 04 sy’n tanberfformio - cyfanswm y cwsmeriaid â chytundeb angori blynyddol ac esboniodd ei fod wedi dweud wrth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y gallai'r targed o 65 fod yn afrealistig o ystyried y newid o ran arferion a pherchnogaeth cychod, disgwyliadau cynyddol a hwylustod ac apêl gynyddol cyfleusterau’r marina.
Hefyd cydnabu'r Pwyllgor Gwaith berfformiad cryf parhaus Môn Actif gyda ffigurau cyfranogiad eto yn uwch na'r targed. Er bod y Cyngor yn mesur perfformiad Môn Actif o dan ddangosydd lleol Gofal Cymdeithasol a Lles DP12, nid yw'r dangosydd statudol a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru – DP11, sy'n cofnodi nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden, yn cofnodi’r data hwn. Nododd y Cadeirydd fod sylwadau wedi'u gwneud o'r blaen i Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o DPA 11 i gynnwys gweithgareddau cymunedol a ddarperir gan Môn Actif.
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2025/26 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a’r gwasanaeth perthnasol yn ymchwilio iddynt er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Thai (ail-osod eiddo gwag a chyflawni Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).
Dogfennau ategol: