Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2025/26

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 i 30 Medi 2025, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn rhagweld tanwariant diwedd blwyddyn o £1,707k (0.88%) ar y gyllideb refeniw. Er bod y chwe mis hyd at ddiwedd Chwarter 2 yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch patrymau a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, gall cyfnod y gaeaf ddod â’i heriau, gan gynnwys galw cynyddol am nifer o wasanaethau a allai arwain at gostau uwch i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaethau (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dadansoddiad o sefyllfa’r gyllideb a ragwelir yn ôl gwasanaethau fel y nodir yn Nhabl 4 yr adroddiad yn dangos gorwariant cyffredinol o £404k. Y prif faes sy'n peri pryder yw Gwasanaethau Plant lle rhagwelir, yn seiliedig ar ffigurau Ch2, y bydd gorwariant o £1.462m ar ddiwedd y flwyddyn oherwydd costau cynyddol lleoliadau y tu allan i'r sir, a hynny er bod cyllideb y gwasanaeth ar gyfer 2025/26 wedi cynyddu £2m ynghyd â chwyddiant. Mae problemau recriwtio mewn rhai gwasanaethau hefyd yn cyfrannu at wariant uwch ar staff asiantaeth. Tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw ymhellach at y gorwariant o £3,032k sy'n deillio o’r newid yn y galw am wasanaethau (gweler Tabl 5) gan nodi bod hyn yn adlewyrchu'r pwysau ariannol parhaus ar y Cyngor. Er bod ffactorau fel swyddi gwag, cynhyrchu incwm a grantiau ychwanegol yn helpu i liniaru'r gorwariant yn 2025/26, efallai na fydd y rhain yn cael eu hailadrodd yn y blynyddoedd nesaf. Bydd angen ystyried hyn wrth osod y gyllideb ar gyfer 2026/27.

 

Mae cyllidebau corfforaethol yn perfformio’n unol â’r targed gyda chostau benthyca is ac enillion buddsoddi uwch yn arwain at danwariant. Mae cyllideb y Dreth Gyngor hefyd yn perfformio'n well na'r hyn a broffiliwyd oherwydd y newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer ardrethi busnes ar lety hunanarlwyo. Mae hyn wedi arwain at drosglwyddo nifer o eiddo yn ôl o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor gan olygu y bydd raid iddynt dalu premiwm ar y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd apeliadau yn erbyn yr ailddosbarthiad hwn ac os byddant yn llwyddiannus, byddai gofyn i'r eiddo hynny gael eu tynnu oddi ar gofrestr y Dreth Gyngor, gan leihau incwm a bydd angen ad-dalu'r Dreth Gyngor sydd eisoes wedi'i thalu. Mae cyllid wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â'r risg hon. Daeth y Swyddog Adran 151 â’i sylwadau i ben trwy gadarnhau mai'r prif risg ar y cam hwn yw cyfnod y gaeaf a allai arwain at gostau uwch i'r Cyngor.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith fod Chwarter 3 yn gyfnod allweddol ar gyfer rheoli’r gyllideb, o ystyried y pwysau posibl ym misoedd y gaeaf, yn enwedig y galw cynyddol am wasanaethau fel cymorth digartrefedd a gofal cymdeithasol sydd â'r potensial i newid y rhagolygon ariannol. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod y Cyngor mewn sefyllfa dda ar hyn o bryd wrth iddo wynebu cyfnod y gaeaf.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26, y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.

 

 

 

Dogfennau ategol: