Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged cyllidebol o £6,291k. Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2025/26 yw £24,521k. Mae cyllid grant gwerth £9,173k yn gostwng y gyllideb net i £15,348k. Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu yn rhoi diffyg a gynlluniwyd o £9,057k. Bydd £6,820k yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT, a bydd y balans o £2,237k yn cael ei gyllido gan fenthyca allanol. Mae cyllideb refeniw y CRT ar ddiwedd yr ail chwarter yn £276k, sy’n well o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd a rhagwelir y bydd tanwariant o £404k ar ddiwedd y flwyddyn. Mae cynnydd o £1,492k yn y gwariant cyfalaf, i £24,521k, a rhagwelir tanwariant o £2,465k ar ddiwedd y flwyddyn. Mae incwm grantiau wedi cynyddu i £9,173k, ac mae disgwyl i’r cyllid gael ei wario’n llawn. Mae’r diffyg a ragwelir trwy gyfuno’r cyllidebau refeniw a chyfalaf bellach yn £6,188k, £2,869k yn llai na’r gyllideb. Mae’r CRT wedi’i glustnodi i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian o’i gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol ac ni ellir defnyddio’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i gyllido’r CRT.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod perfformiad cyllideb refeniw y CRT wedi aros yn sefydlog, gan gynhyrchu gwarged diwedd blwyddyn bob blwyddyn sy'n cael ei ail-fuddsoddi mewn stoc bresennol neu ddatblygiadau tai newydd. Mae'r Cyngor wedi defnyddio cronfa’r CRT o'r blaen i gefnogi buddsoddiad wrth iddo barhau i ddatblygu a phrynu tai newydd, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2025/26. O ganlyniad, mae balans wrth gefn y CRT wedi gostwng a disgwylir iddo fod yn oddeutu £1.7m erbyn diwedd y flwyddyn, sy'n cael ei ystyried fel yr isafswm lefel sy'n dderbyniol o dan Gynllun Busnes y CRT. Felly, bydd angen ariannu datblygiadau tai yn y dyfodol drwy fenthyciadau a fydd yn cynhyrchu costau refeniw. Efallai y bydd angen i'r Cyngor adolygu ei gynlluniau datblygu tai yn y dyfodol yng ngoleuni hyn a ffactorau eraill megis Polisi Rhent Llywodraeth Cymru a lefel yr incwm rhent a sicrhawyd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi llwyddo i gynyddu nifer y tai lleol sydd ar gael dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, nid yw'r broses ariannu bresennol yn cael ei hystyried yn addas i'r diben ac os na fydd newid, mae risg y bydd mwy o ddigartrefedd, gan roi pwysau pellach ar gyllideb refeniw y Cyngor. Nid yw rhagamcanion ar gyfer y gyllideb hon yn gwella, gan wneud y mater hwn yn fwy nag ystyriaethau cyfalaf yn unig. Mae'r Cyngor yn gweithio i ddylanwadu ar newid ac i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'n well anghenion awdurdodau lleol sy'n cadw eu stoc dai yn ogystal â'r rhai sydd wedi trosglwyddo stoc i gymdeithasau tai.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y cydbwysedd rhwng polisi rhent a'r gofyniad i gynnal stoc dai i safonau ansawdd. Fodd bynnag, nodwyd bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran trawsnewid a phrynu tai yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Tra bod y Cyngor yn datblygu polisïau i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi, bydd lleihau'r rhestr aros, sydd ar hyn o bryd tua 800, yn dibynnu ar ddatblygiadau newydd. Mae'r cynllun presennol yn cynnwys 155 o gartrefi newydd sy'n tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad pellach os yw'r rhestr aros yn cael ei datrys.
Penderfynwyd nodi'r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2025/26.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
Dogfennau ategol: