Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddibenion gosod sylfaen y dreth gyngor ar gyfer 2026/27, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn nodi'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2026/27. Rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn, fel awdurdod bilio, gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal ac ar gyfer gwahanol rannau o’i ardal a rhaid rhoi gwybod am y symiau hyn i’r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2025. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth i bwrpas gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 14 Tachwedd 2025, ac i bwrpas gosod y dreth (gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith) erbyn 9 Ionawr 2026. Y ffigur a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2026/27 yw 31,705.675, sy'n gynnydd o 0.80% ar y flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddir gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B a C (nid yw hyn yn effeithio ar y Cyngor yn Ynys Môn gan nad oes gostyngiadau o'r fath yn cael eu rhoi). Cyfanswm y sylfaen dreth a gynigir ar gyfer 2026/27 at ddibenion gosod y dreth sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,887.44 ac mae'n gynnydd o 1.24% ar y flwyddyn flaenorol.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnodd)/Swyddog Adran 151 y broses lle cyfrifir Sail y Dreth Gyngor at ddibenion Llywodraeth Cymru wrth bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd at ddibenion gosod treth leol a'r ffactorau dan sylw.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd sylfaen y Dreth Gyngor a ddefnyddiwyd ar gyfer gosod y Dreth Gyngor wedi newid yn sylweddol yn dilyn penderfyniad y Prisiwr Dosbarth i ailddosbarthu eiddo penodol o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor oherwydd newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer llety hunanarlwyo.
Cadarnhaodd y Swyddog Adran 15 fod eiddo a drosglwyddwyd yn ôl i'r Dreth Gyngor o ardrethi busnes bellach yn gorfod talu’r Dreth Gyngor safonol sy'n cyfrannu at gyfrifiadau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r eiddo hwn yn gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi sy'n cyfrannu i gyfrifiadau'r Cyngor yn unig. Byddai apeliadau llwyddiannus yn erbyn ailddosbarthu yn arwain at dynnu'r eiddo hynny oddi ar gofrestr y Dreth Gyngor a thrwy hynny leihau sylfaen y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. Er y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu grant cymorth refeniw ychwanegol i wrthbwyso'r gostyngiad hwn, byddai'r Cyngor yn colli'r incwm ychwanegol a gynhyrchir gan y premiwm. Yn hanesyddol, mae sylfaen y Dreth Gyngor wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i ddatblygiadau tai newydd ymddangos.
Pwysleisiodd y Cadeirydd ymhellach, er bod data eiddo a ddefnyddir i gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor a'r grant cynnal refeniw yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol, nid yw data poblogaeth sef y prif ffactor wrth benderfynu ar setliad llywodraeth leol wedi'i ddiweddaru ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu bod heriau arbennig i gynghorau gwledig fel Ynys Môn sydd, oherwydd bod setliad cyllid yn cael ei ddyrannu yn ôl maint y boblogaeth, wedi derbyn setliadau is yn gyson.
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2026/27, sef 31,705.67 (Rhan E6 - Atodiad A i’r adroddiad).
· Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben gosod Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2026/27 (Rhan E5 - Atodiad A i’r adroddiad)
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2026/27, sef 33,887.44, ac am y rhannau hynny o'r ardal mae fel a restrir yn yr adroddiad o dan argymhelliad 3.
Dogfennau ategol: