Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r Rhaglen Cysylltu â Gwaith ar Ynys Môn, i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, yr adroddiad gan nodi bod y rhaglen Cysylltu â Gwaith yn rhaglen genedlaethol ac yn rhan o agenda Get Britain Working y DU. Nod y rhaglen yw cael mwy o bobl yn ôl i waith cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd a chyflyrau iechyd, ac unigolion sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i weithio, gan weithio mewn ffordd ddatganoledig gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Eglurodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel y corff atebol ar ran awdurdodau lleol Gogledd Cymru. Sefydlwyd gweithgor o swyddogion awdurdodau lleol ac mae'n cyfarfod bob pythefnos i ddatblygu'r rhaglen gyda'r bwriad o gyflwyno Cynllun Darparu i'r Adran Gwaith a Phensiynau gyda'r nod o'i gymeradwyo erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025. Disgwylir i'r rhaglen ddechrau ym mis Ionawr 2026 a bydd yn cael ei chynnal tan fis Mawrth 2030. Y targed ar Ynys Môn yw cefnogi 31 o gyfranogwyr erbyn mis Mawrth 2030 ac mae disgwyl y bydd 50% yn cael swydd barhaol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd hyn yn heriol oherwydd anghenion cymhleth cyfranogwyr. Er bod model cyffredinol y rhaglen yn cael ei osod yn genedlaethol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae sut mae'n cael ei chyflawni, yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol i benderfynu beth fydd yn gweithio orau yn eu hardal leol eu hunain.
Cynigir bod y Cyngor yn ymrwymo i gytundeb gyda Môn CF i gyflawni'r rhaglen ar Ynys Môn, o ystyried hanes llwyddiannus Môn CF fel prif ddarparwr gwasanaethau cyflogaeth a chymorth busnes ar Ynys Môn. Bydd y strwythurau llywodraethu ac adrodd presennol a ddefnyddir ar gyfer y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, sydd hefyd yn cael eu darparu gan Môn CF yn cael eu defnyddio i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau’n glir ac i fonitro cynnydd. Bydd y Cyngor a Môn CF yn cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i lunio a chwblhau'r Cynllun Darparu ar gyfer Ynys Môn.
Mewn ymateb i gwestiwn am lywodraethu, cadarnhaodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd trefniadau llywodraethu yn adlewyrchu'r rhai sydd ar waith ar gyfer rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Môn CF, gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd bob pedair i chwe wythnos i fonitro cynnydd a phrosesu hawliadau.
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd hyd yma o ran datblygu cynllun darparu rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Rhaglen Cysylltu â Gwaith 2025-2030.
· Cytuno i lunio Cytundeb Cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych sy’n gweithredu fel corff arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru.
· Cytuno i gyflwyno rhan Ynys Môn o Gynllun Darparu Gogledd Cymru i Gyngor Sir Ddinbych er mwyn ei gyflwyno wedyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
· Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Swyddog Adran 151 dderbyn y cytundeb cyllido Cysylltu â Gwaith.
· Gwneud cytundeb grant gyda Môn CF Ltd i gyflawni’r Rhaglen Cysylltu â Gwaith ar ran yr Awdurdod.
Dogfennau ategol: