Cyflwynwyd adroddiad y
Dirprwy Brif Weithredwr
i'w ystyried gan y
Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau
Oedolion a Diogelwch Cymunedol bod hi’n statudol fod
Partneriaeth Diogelwch yn bodoli o dan Ddeddf Trosedd ac Anrhefn
1998. Mae aelodau’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Ynys
Môn, yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, Bwrdd Iechyd a’r
Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae cyfrifoldebau a meysydd arbennig
yn cynnwys trosedd ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau, lleihau
troseddu, trais difrifol ac yn hynod o bwysig comisiynu adolygiadau
lladdiadau domestig. Maent yn atebol ac yn cydweithio gyda’r
bwrdd rhanbarthol Gogledd Cymru sydd yn cyfarfod yn
chwarterol.
Cychwynnodd Daron Owens drwy grynhoi’r prif
bwyntiau'r adroddiad. Teimlai ei fod yn bwysig nodi eu bod ddim yn
derbyn cyllid parhaol i gomisiynu prosiectau na gwasanaethau yn
uniongyrchol. Yr unig gomisiynu yw ar gyfer adroddiadau
llofruddiaeth ddomestig gan nid oes arian yn cael ei ddyrannu yn
barhaol i ddiogelwch cymunedol. Mae yno bwyslais ar beth gaiff ei
wneud mewn partneriaeth. Gweithiai’r tîm yn agos gyda
bwrdd rhanbarthol Gogledd Cymru gan mai hwythau sydd yn gosod
blaenoriaethau ar gyfer atal troseddu ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Llawer o waith wedi mynd mewn i barhau ar y
strategaeth trais difrifol Gogledd Cymru. Wedi bod yn rhan
o’r bwrdd llywio rhanbarthol dros y 11 mis diwethaf.
Derbyniai’r tîm gyllid gan y Swyddfa Gartref yn
flynyddol sydd yn eu galluogi i barhau gyda’r gwaith
rhanbarthol ataliol.
Wrth ystyried yr
adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion
canlynol:-
Gofynnwyd
cwestiynnau ynghylch
mesur
blaenoriaethau'r Bartneriaeth (sy'n
seiliedig ar broses asesu
anghenion lleol), a nodi unrhyw
anghenion lleol newydd neu
ychwanegol.
- Gofynnodd Cynghorydd Euryn Morris ym mha ffyrdd mae
blaenoriaethau’r Bartneriaeth ar gyfer 2025/26 yn adlewyrchu
anghenion lleol Ynys Môn yn llawn, yn seiliedig ar
dystiolaeth a data diweddar? Atebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol
Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn, fel mae’n nodi yn yr
adroddiad, mae eu blaenoriaethau wedi’u selio ar Strategaeth
y Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru Fwy Diogel. Gweledigaeth y bwrdd
yma yw bod Gogledd Cymru yn lle diogel a chynhwysol i fyw, gweithio
ynddo ac ymweld. Pwrpas y Bwrdd rhanbarthol yw cydweithio i
gyflawni’r weledigaeth hon, drwy fynd i’r afael â
throseddu ac anhrefn ar draws y rhanbarth. Sail y Strategaeth
yw’r asesiad strategol gan yr heddlu, sydd yn adrodd ar risg
a bygythiadau gan feysydd trosedd sydd yn effeithio Gogledd Cymru,
a prif amcan y ddogfen yw hysbysu'r rhai sydd yn gwneud
penderfyniadau strategol a gosod blaenoriaethau. Mae cynllun
Trosedd Comisiynydd yr Heddlu hefyd yn llywio’r meysydd yma,
ac mae’n seiliedig ar ymgynghoriaeth fanwl gyda’r cyhoedd. Felly,
mae Strategaeth y Bwrdd Rhanbarthol yn gosod fframwaith
flaenoriaethu i holl Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol y
rhanbarth, ac maent yn adrodd ar eu gwaith bob chwarter i’r
Bwrdd. Fodd bynnag, mae’n gyfrifoldeb arnynt i gytuno ar eu
camau gweithredu penodol eu hunain mewn ymateb i angen lleol. Gan
fod yr holl flaenoriaethau a gweithredoedd yn seiliedig ar
dystiolaeth, data ac ymgynghori gyda’r cyhoedd, dywedodd
Daron Owens eu bod yn hyderus eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol
Ynys Môn yn llawn, ond yn hollol agored i dderbyn awgrymiadau
ar unrhyw feysydd sydd ar goll.
- Gofynnodd Cynghorydd Euryn Morris
sut
mae’r Bartneriaeth yn
mesur effeithiolrwydd ei
gweithgarwch wrth leihau
trosedd ac anhrefn ar yr Ynys?
Atebodd Daron Owens ei bod hi'n
hanfodol bod strategaethau a gweithgareddau Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
yn seiliedig ar, ac
yn cael
eu gyrru
gan dystiolaeth. Mae dull sy'n seiliedig
ar dystiolaeth yn
eu galluogi
i sicrhau dealltwriaeth gywir o
dirwedd troseddu ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd,
a'r problemau a'r
materion y dylid eu blaenoriaethu. Mae'r
dystiolaeth yn eu galluogi i wneud
penderfyniadau gwybodus ynghylch pa
weithgareddau sy'n debygol o
fod fwyaf
effeithiol wrth leihau ac
atal troseddu ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol, ac i ddeall os yw eu hymyriadau yn
gweithio'n ymarferol. Mae’r
dystiolaeth maent yn ei hystyried
yn cymryd
sawl ffurf,
er enghraifft - data trosedd, y cyfnewid o
wybodaeth strategol a mewnwelediad rheolaidd
a rennir gan yr awdurdodau
cyfrifol gwahanol, y gymuned
leol, ac ymchwil academaidd
ar beth
sydd yn
gweithio. Mae ganddyn nhw
ddadansoddwr partneriaeth, fel y
gellir darparu data trosedd
rheolaidd i gefnogi penderfyniadau
sy'n seiliedig ar
dystiolaeth. Mae'r Heddlu
hefyd yn
edrych ar
ffigurau trosedd yn gyson, ac yn
adolygu pob
newid yn
rhanbarthol ac yn lleol. Mae
unrhyw newidiadau sylweddol
yn destun
dadansoddiad pellach. Yna bydd
meysydd problemus yn
cael eu
hadolygu, gyda chynlluniau
plismona ar
waith i fynd i'r afael arnynt. Mae
dulliau plismona lleol
yn cynnwys
gosod adnoddau bob dydd i
fynd i'r
afael â materion wrth
iddynt ddod
i'r amlwg.
Mae'r data'n newid
yn aml
iawn ac mae'r Heddlu'n
ymateb iddo
bob wythnos i nodi a deall unrhyw
gynnydd a rhoi mesurau
ar waith
os oes
angen. Nododd Daron eu bod
yn cadw
ffocws clir
ar gyflawni
a rhoi gweithredoedd ar
waith, a mesur ei effaith drwy
ymgorffori dull lle mae gan ein cynllun weithgareddau a
chanlyniadau clir a chysylltiedig
fel bod modd mesur a
monitro effeithiolrwydd y ffrwd
gwaith eang
sydd ganddyn nhw.
Gofynnwyd
cwestiynnau ynghylch
asesu
effeithiolrwydd y bartneriaeth statudol
yn unol
â disgwyliadau’r
Ddeddf Trosedd ac Anhrefn
1998.
-
Gofynnodd Cynghorydd Euryn Morris pa mor effeithiol
yw’r cydweithio rhwng yr asiantaethau statudol (Heddlu,
Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub, ac eraill) wrth
gyflawni’r amcanion? Dywedodd Daron Owens ei bod yn statudol
i gael Partneriaeth Diogelwch Cymunedol mewn lle, yn unol
â’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998, a’r syniad tu
ôl i hyn yw bod trosedd yn broblem i bawb nid dim ond yr
heddlu. Maent yn dod a gwasanaethau lleol at ei gilydd i fynd
i’r afael a throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y prif
gyfrifoldeb yw i’r gwasanaethau cyfrifol wneud pob dim y
gallent yn rhesymol wneud i atal trosedd ac anrhefn a datblygu
cynlluniau i wneud hyn. Maent yn gweithredu ar yr egwyddor nad oes
gan unrhyw asiantaeth sengl yr holl alluoedd ar gyfer lleihau ac
atal troseddu, a bod ymateb lleol effeithiol yn gofyn am ymateb
cymunedol cydlynol gan asiantaethau perthnasol. Fodd bynnag,
mae’r problemau maent yn ceisio eu datrys yn aml yn gymhleth,
a bydd gan bob un o'r sefydliadau sy'n ffurfio'r Bartneriaeth eu
blaenoriaethau sefydliadol, eu pwysau a'u cyfyngiadau. Rôl y
bartneriaeth yw gweithio ar draws y ffiniau a'r rhwystrau yma i
bennu a gyrru blaenoriaethau a gweithgareddau yn eu blaen. Mae
llwyddiant yn ddibynnol ar bartneriaid y Bartneriaeth i wneud
ymdrech i flaenoriaethu dull lle maent yn meithrin perthnasoedd
gwaith cadarn ac yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd. Dywedodd Daron
ei bod yn hyderus bod y cydweithio yn effeithiol iawn er mwyn
sicrhau hyn a hefyd yn cyfarch y dyletswyddau statudol sydd arnynt.
Diolchodd Cynghorydd Euryn Morris am yr ymateb, pryderodd am y data
sydd yn cael ei ddefnyddio, dywedodd y bysai’n hapusach os
fysai’n dweud ‘data Ynys Môn’. Hoffai weld
dashfwrdd i weld y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn gweld
gwahaniaeth. Derbyniodd Daron y pwynt a chadarnhaodd ei bod am ei
gynnwys yn yr adroddiad nesaf.
Gweithred
1:
Cynwys
ddangosfwrdd yn yr adroddiad blynyddol
nesaf i fesur a dangos
cynnydd ac effaith prosiectau a
weithredwyd, gan gymharu
perfformiad o ddechrau i ddiwedd y
flwyddynà Uwch Swyddog
Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd ac Ynys
Mon.
-
Gwerthfawrogodd y Prif Weithredwr yr holl wybodaeth
gynhwysfawr a gafodd ei rannu gyda’r Pwyllgor. Dywedodd eu
bod yn cael data cyfrinachol gan yr Heddlu yn rheolaidd.
Mae’r blaenoriaethau yn cyfarch yr anghenion ac mae yno
wahaniaethau, ac mae’r rhaglen waith yn cyfateb i hynny.
Llawer o waith yn ddibynnol ar grantiau. Angen dilyn y prosesau i
sicrhau fod grantiau yn dod. Derbyniodd Cynghorydd Ken Taylor y
pwynt ynglŷn â’r data. Dywedodd ei fod bron yn
sicr bod y Prif Arolygwr wedi adrodd ar ffigyrau yng Nghyngor Tref
Ynys Môn yn ddiweddar, a’u bod yn
galonogol.
-
Dywedodd Gynghorydd Non Dafydd ei bod wedi gwrando ar
y pwyslais ataliol. Mynegodd fod cleifion Benllech, Llanfairpwll,
Biwmares, Gwalchmai er enghraifft am golli mynediad at
wasanaethau
Therapi Galwedigaethol oni bai fod yno ddarpariaeth amgen yn cael ei wneud.
Gofynnod pa effaith fydd colli’r ddarpariaeth yna yn cael?
Ymatebodd Daron Owens ei bod ddim yn ymwybodol o hyn cyn y cyfarfod
hwn a'i bod am godi efo’r bwrdd mewn ychydig o wythnosau.
Bwriedir darparu diweddariad ar ôl 7 Tachwedd.
Gweithred
2:
Darparu
ddiweddariad i Aelodau’r
Pwyllor yn
dilyn cyfarfod y Bwrdd Iechyd
ar 7 Tachwedd ynghylch y
gostyngiadau arfaethedig i wasanaethau Therapi
Galwedigaethol [OT’s]
ar draws yr Ynys oherwydd cyfyngiadau
ariannuà Uwch Swyddog
Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd ac Ynys
Mon.
Gweithred
3:
Y
Prif Weithredwr i ymgysylltu
â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Deiliaid
Portffolio perthnasol i sicrhau
bod pryderon ynghylch effaith y
gostyngiadau arfaethedig i wasanaethau Therapi
Galwedigaethol [OT’s]
ar draws sawl meddygfa
ar Ynys Môn yn cael eu hadlewyrchu
yn y broses ymgynghori.
-
Nododd Gynghorydd Sonia Williams fod cam-drin a
thrais yn y cartref yn cynyddu. Gofynnodd am gael esiamplau
o’r ymyrraeth gynnar sydd yn digwydd. Atebodd Daron Owens nad
ydynt yn derbyn cyllid i fod yn ymyrryd ar brosiectau ond fod y
mater yma yn bwysig iawn iddynt. Llawer o waith wedi digwydd er
mwyn codi ymwybyddiaeth. Llinell gymorth ar gael i weithwyr
proffesiynol, angen codi mwy o ymwybyddiaeth fod hwnnw ar gael.
Diwrnod Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd a llawer o waith yn digwydd yn
rhanbarthol. Derbyniodd Cynghorydd Sonia Williams y pwyntiau ond
hoffai wybod beth sydd yn cael ei wneud i drio arbed y digwyddiad
yn hytrach nag beth yw’r camau sydd yn cael eu cymryd ar
ôl y digwyddiad. Aml iawn ddim yn cael ei nodi fod cam-drin
yn y cartref yn digwydd i ddynion hefyd. Dywedodd Daron Owens fod
cyllid trais difrifol wedi’u galluogi i gynnal sesiynau
‘Dynion Wrth Waith’ er mwyn galluogi staff y Cyngor i
fod yn hyderus i gael y sgyrsiau.
-
Gofynnodd Cynghorydd Pip O’Neill pa gymorth
sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu pobl sy'n gadael y carchar i
ailintegreiddio i'r gymuned, yn enwedig mewn perthynas â
rhaglenni hyfforddi a datblygu, yn ogystal â mynediad at
lety? Atebodd Daron Owens ei bod yn ofyniad bod Gwasanaeth Tai'r
Cyngor yn dilyn llwybr Llywodraeth Cymru pan fydd rhywun yn gadael
y carchar a bod y Gwasanaeth Prawf, Tai a Charchardai yn gweithio
gyda'i gilydd i sicrhau bod gan berson fynediad at wasanaethau gan
gynnwys digartrefedd. Dywedodd ei bod yn ymwybodol bod gan yr adran
Tai lwybr ail-sefydlu carcharorion y maent yn gweithredu ar gyfer
pob rhyddhäwr carchar sydd wedi mynd i mewn i CEF (HMP) heb
breswylfa sefydlog neu ddod o ddim preswylfa sefydlog yn ystod eu
dedfryd. Mae dau swyddog Ailsefydlu Carcharorion wedi'u hariannu
gan HSG. Maent yn cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Ynys Môn ac
yn gweithio o'r Tîm Cymorth Tai mewnol. Mae'r Gwasanaeth Tai
yn gweithio yn agos iawn gyda chydweithwyr yr Heddlu a Phrawf. Un
o'r prif nodau yw lleihau aildroseddu a hyn trwy ddarparu cymorth
llety ochr yn ochr â chymorth emosiynol a lles. Mae’r
swyddogion Ailsefydlu Carcharorion yn mynd i garchardai i gynnal yr
asesiadau tai angenrheidiol. Gallent hefyd fanteisio ar
gysylltiadau fideo. Nod hyn yw lleihau'r risg o ddigartrefedd a
chyflawni cynllun llety da wrth iddynt gael eu rhyddhau. Bydd gan
bob unigolyn gynllun cymorth ar waith ac mae hyn yn cynnwys
mynediad at hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Maent yn
gweithio gyda DWP a Môn CF i sicrhau cymorth cyflogaeth.
Roedd Digartref Cyf yn llwyddiannus gyda chais y Loteri
Ddigartrefedd Wledig ac mae ganddynt 2 swyddog sydd yn
cefnogi’r swyddogion Ailsefydlu Carcharorion yn eu gwaith.
Maent hefyd yn cefnogi mynd â phobl sy'n gadael y carchar i
apwyntiadau iechyd, cyfarfodydd prawf a llawer mwy. Mae rhai
achosion yn gymhleth ac yn anhrefnus, yn aml yn gofyn am
asiantaethau eraill i gefnogi - er enghraifft, Plant, Gwasanaethau
Oedolion, CMHT, a’r Banc Bwyd. Ar hyn o bryd maent yn
gweithio ar beilot o'r grŵp Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM)
ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru a Phrawf. Mae ganddyn nhw
11 nominal ar IOM, a nod y peilot yw
sicrhau cartref parhaol ar ôl eu rhyddhau. Mae astudiaethau
wedi dangos bod llety o ansawdd yn lleihau'r risgiau o aildroseddu.
Maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill os oes ganddyn nhw
ryddhäwr carchar sydd â chyfyngiadau i beidio â
dychwelyd i'r Ynys. Er bod yr achosion hyn yn lleiafrif, maent yn
anodd eu rheoli oherwydd bod y llety yn gorfod bod y tu allan i'r
sir. Ychwanegodd Elliw Llŷr
fod 50 uned ar gael ar gyfer pobl sydd yn gadael carchar. Mae
cymorth budd-daliadau ar gael a 6 uned o letyau wedi’u
cefnogi. Hoffai gyfleu fod Pennaeth y Gwasanaeth Prawf wedi
disgrifio’u perthynas a’r Cyngor fel un
ardderchog.
-
Holodd Cynghorydd Douglas Fowlie os oes yno
gefnogaeth ar gyfer unigolion sydd ddim yn cael dychwelyd i’w
cartref teuluol, ac os yw’r rheolau ‘run peth i ferched
a dynion. Atebodd Elliw Llŷr wrth ddweud os yw rhywun yn
gwneud cais am gymorth mae yno ddyletswydd arnynt i ddarparu eiddo
addas ar eu cyfer. Gallai’r gwasanaeth gyd-weithio
efo’r unigolyn wedi hynny. Caiff merched a dynion eu trin yn
gyfartal.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a’r
dogfennau atodol, a nodi fod y Pwyllgor Sgriwtini yn cefnogi’r blaenoriaethau a
chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.