Croesawodd y Cadeirydd
Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr
Gyfarwyddwr ac Elen Hughes,
Cyfarwyddwr Prosiect – Menter Môn i'r cyfarfod i
gyflwyno trosolwg o'r
gwasanaethau a ddarperir gan Fenter
Môn.
Fel wnaeth Arweinydd y Cyngor, fel y deilydd portffolio perthnasol, gyflwyno’r
eitem a throsglwyddo i swyddogion Menter Mon.
Dywedodd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr fod Menter
Môn wedi ei sefydlu gan y Cyngor Sir yn 1995 ac eleni
mae’r cwmni yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 mlwydd oed. Yn 1996
cafodd penderfyniad ei wneud i’w sefydlu fel cwmni 'nid er
elw' i ddarparu rhaglen LEADER yr UE, oedd yn ceisio datblygu
atebion i’r heriau’n wynebu ardaloedd
gwledig.
Mae'r fenter wedi esblygu dros y blynyddoedd, gan
gyflawni prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae amrywiaeth
a phwyslais y gwaith ar Ynys Môn wedi aros yn gyson. Maent
erbyn hyn yn cyflogi oddeutu 80 aelod o staff gyda’r oed
cyfartalog yn 35. Mae gwerthoedd y cwmni wedi aros ‘run fath.
Mae’u blaenoriaeth wedi’i roi i ddatblygu potensial er
mwyn cryfhau’r economi a’r diwylliant.
Canolbwyntiai’r cwmni ar dri phortffolio penodol, sef Y
Gymuned, Yr Economi ac Egni. Maent yn canfod, creu a gweithredu
cyfleoedd i gefnogi a datblygu pobl, gryfhau’r economi,
wella'r amgylchedd a bywiogi eu diwylliant.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y berthynas rhwng
Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn wedi cryfhau. Mae
cyfarfodydd cyson yn cael eu cynnal gyda Phrif Weithredwr y Cyngor,
ac mae Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn aelodau ar fwrdd
Menter Môn.
Yn
dilyn y cyflwyniad, codwyd y
pwyntiau trafod a ganlyn
gan y Pwyllgor:
Gofynnwyd cwestiynau ynghylch effaith ansicrwydd
cyllid cyhoeddus (grantiau) ar allu’r sefydliad i gyflawni ei
flaenoriaethau/amcanion allweddol.
- Gofynnodd Cynghorydd Margaret Roberts o ystyried yr
ansicrwydd ynghylch cyllid cyhoeddus, pa effaith mae hyn yn ei gael
ar allu Menter Môn i gyflawni ei phrif flaenoriaethau
a’i hamcanion? Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wrth ddweud fod
llawer o raglenni cynlluniau grantiau mawr ar gael oddeutu 10
mlynedd yn ôl, erbyn hyn mae’r arian mwy ansicr gyda
chynlluniau cymunedol. Nid ydynt yn drawsnewidiol i’r gymuned
ond yn cadw’r olwyn i droi. Disgwyliai’r fenter i gael
gweld be ddigwyddai gyda Balchder Bro. Dywedodd y Prif Weithredwr
nid yw’n tanseilio faint o waith sydd yno i’r
corff weithio
drwy’r gwahanol weithdrefnau cyllid, mae’n newid yn
aml. Mae sefydlogrwydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i allu prosiectau
cyfalaf er mwyn eu gwireddu. 5 miliwn oedd dyraniad Gronfa Ffyniant
Lleol Ynys Môn dros y 4 mlynedd diwethaf (500 miliwn i Gymru
gyfan). Yn anffodus mae’n edrych fel bod llai o gyllid grant
am fod ar gael yn y dyfodol sydd yn ei gwneud yn hollbwysig i
ganolbwyntio ar iaith, ynni a bywyd gwyllt.
- Cyfeiriodd Cynghorydd Gwilym Jones at waith aruthrol
cyn-gyfarwyddwr Menter Môn, Gerallt Llywelyn. Gofynnodd pa
gyfran o’r cyllid sydd yn cael ei wario’n Sir
Fôn, a faint sydd yn cael ei wario dros y bont? Atebodd
Dafydd Gruffydd fod rhai cynlluniau yn berthnasol i’r ddwy
sir, a rhai cynlluniau yn berthnasol i un sir, mae’n rhaid
adrodd yn union beth sydd yn cael ei wario yn lle i’r
cyllidwyr. Ar adegau mae amheuaeth fod arian Ynys Môn yn cael
ei wario dros y bont, ac weithiau mae amheuaeth i’r
gwrthwyneb hefyd, cadarnhaodd nid yw hynny’n wir. Os
bysai’r cwmni dim ond wedi parhau i weithio ym Môn yn
unig, efallai ni fysai Menter Môn bodoli heddiw. Budd i gael
cwmni mentrus gyda 80 o bobl ifanc yn gweithio yno.
- Diolchodd Cynghorydd Douglas Fowlie i Dafydd Gruffydd
am ei gyflwyniad. Dywedodd ei fod yn cynrychioli Cyngor Cymuned
Aberffraw a bod hanes fod Menter Môn wedi gwerthu Cegin Llys
Llywelyn i gyllido diffyg arian mewn pensiynau. Holodd pa wir sydd
yn hynny, a pha sicrwydd sydd yno i sicrhau na fydd Menter
Môn yn gwerthu asedau cymunedol i gyllido unrhyw
ddiffyg eto?
Cadarnhaodd Dafydd Gruffydd fod Cegin Llys Llywelyn wedi’i
werthu nôl yn 2013 dan arweiniad Gerallt Llywelyn Jones, gan
ei fod yn ased heb ddefnydd. Cawson gyllideb gan Ewrop i’w
adnewyddu i fod yn fusnes lletygarwch a thŷ golchi, ac mi
redwyd am 10 mlynedd. Y teimlad oedd nad Menter Môn oedd y
cerbyd gorau i redeg y fath yno o sefydliad felly cafodd ei werthu
a defnyddiwyd rhan o’r arian i gychwyn y Prosiect Morlais
(oddeutu 100 mil). Atgyfnerthodd fod Menter Môn yn gwmni
dielw sydd yn nofio mewn dyfroedd eithaf heriol, yn sicr ni chafodd
ei wario ar ddiffyg pensiynau. Gwaith Gerallt Llywelyn Jones yn
glod i Ynys Môn ac mae wedi gwireddu rhywbeth
anhygoel.
Gofynnwyd cwestiynau ynghylch monitro datblygiadau,
cyflawniadau a heriau allweddol ers i Fenter Môn ymddangos o
flaen y Pwyllgor Sgriwtini ddiwethaf ym
mis Hydref 2024.
- Gofynnodd Cynghorydd Euryn Morris pa fesurau neu
ddangosyddion perfformiad sydd ar waith i asesu effaith
gymdeithasol ac economaidd prosiectau Menter Môn ar
gymunedau’r ynys? Pa gamau mae Menter Môn yn cymryd i
gadw staff profiadol a denu staff newydd? Dywedodd Dafydd Gruffydd
fod yno fynegeion
perfformiad allweddol gyda phob cynllun a’u bod yn casglu ac yn
adrodd ar rheini. Hwn ar y rhestr ‘i wneud’ er mwyn
arddangos sut mae Menter Môn yn cyfoethogi Ynys Môn. O
ran cadw a denu staff, teimlai eu bod wedi proffesiynoli wrth
recriwtio aelod staff Adnoddau Dynol i dynhau polisïau a
phrosesau.
- Gofynnodd Cynghorydd Non Dafydd pa gamau mae Menter
Môn yn ei gymryd i fynd i’r afael a’r her o gadw
staff profiadol a denu doniau newydd i’r sefydliad? Atebodd y
Rheolwr Gyfarwyddwr eu bod eisiau cyfleu fod y fenter yn le difyr i
weithio gyda digon o amrywiaeth yn y gwaith. Telerau da iawn ar
gael ar gyfer aelodau staff gyda swm cadarnhaol o bobl yn cael eu
cyfweld am y swyddi.
- Yn gysylltiedig gyda’r Hwb Hydrogen, gofynnodd
y Cynghorydd Pip O N’eill pa
heriau allweddol bydd Menter Môn yn eu hwynebu wrth symud
ymlaen. Dywedodd Dafydd Gruffydd bod achos
busnes drafft ac
achos busnes terfynol
i’w orffen, a bod angen arwyddo cytundeb gyda ‘EDF
Dynamics’. Dim yn cael arian i wneud y gwaith felly
mae’r arian yn gyfalaf i gyd. Her i ariannu’r holl
waith paratoi.
- Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor ei bod hi’n
braf gallu gweld y fenter yn dathlu ei holl lwyddiant. Nododd fod y
Cyngor Sir wedi cyflogi 4 o fyfyrwyr ifanc a gofynnodd a yw
hynny’n rhywbeth mae Menter Môn yn ei gynnig? Ymatebodd
Dafydd Gruffydd fod y cynllun Llwyddo’n Lleol yn rhywbeth
sydd yn agos iawn at eu calonnau. Nid yw’r math o waith
mae’r sefydliad yn ei wneud ar hyn o bryd yn cynnig ei hun i
brentisiaethau. Llawer o waith wedi’i wneud efo Morlais wrth
ymgysylltu gyda’r bobl ifanc, efallai bydd gwaith ar eu cyfer
yn y dyfodol. Pwysig nodi efo cynlluniau ynni, cynlluniau adfywio
ydyn nhw. Cadw’r bobl ifanc yn yr ardal a gallu cynnal yr
iaith Gymraeg.
- Nododd y Cadeirydd fod cysylltiadau cryf amlwg
strategol rhwng Menter Môn a’r Cyngor, pryderodd nad
oedd gymaint o gysylltiad rhwng Menter Môn a’r wardiau.
Efallai angen ffurfioli’r broses. Atebodd Elen Hughes fod
cyfarwyddyd i aelodau staff Menter Môn i ymgysylltu gydag
Aelodau Lleol pan mae gweithgareddau yn digwydd, yn enwedig gyda
Balchder Bro. Ar hyn o bryd yn gweithio gyda 30 o leoliadau ar
draws yr ynys. Dim bob amser yn monitro’r cysylltiadau
gyda’r aelodau ond yn hapus i ystyried gwneud hynny ac adrodd
yn ôl. Gwerthfawrogodd bod cryfhau cysylltiadau yn fudd
i’r fenter.
Gweithred
1
Monitro
a
gwerthuso effeithiolrwydd y broses gydweithio rhwng Menter
Môn ac Aelodau Lleol i
gryfhau a ffurfioli'r broses, gan
nodi meysydd i'w gwella.
- Hoffai Cynghorydd Gwilym Jones ddiolch am y wybodaeth
a rannwyd am Barc Solar Traffwll ac am y gwaith rhagorol
oed-gyfeillgar, Balchder Bro sydd yn cael ei wneud. Cyfeiriodd at y
Parti Paned yng Nghanolfan Glanhwfa
a’r digwyddiadau Heneiddio’n Dda dros y gaeaf, dywedodd
heb y cyd-weithio gyda Menter Môn ni fysai hynny yn gallu
digwydd.
- Cynghorydd Non Dafydd yn ymwybodol fod yno deimladau
gwahanol ynglŷn â solar ym Môn. Dywedodd mai rhai
o’i phryderon oedd y gwelededd a’r swyddi, gofynnodd sut mae modd
argyhoeddi pobl Bryngwran a Caergeiliog ei fod yn beth da fod
Menter Môn yn ei ddatblygu i’r ardal a’r bobl?
Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wrth ddweud fod Traffwll wedi cael
caniatâd cynllunio a bod arian wedi’i wario, felly yn
bendant am ddigwydd. Cais wedi’i wneud iddynt werthu’r
Parc i Fenter Môn fel bod y buddion yn aros yn lleol. Derbyn
pwynt o ran swyddi, ond yn beth da os oes modd defnyddio’r
arian. Sgwrs i’w gael efo aelodau lleol ynglŷn sut
fysai’n edrych o ran model.
- Credodd Cynghorydd Douglas Fowlie dylai cynghorwyr
gymryd cyfrifoldeb os ydynt angen rhywbeth wedi’i wneud yn eu
maes eu hunain. Gofynnodd beth hoffai Menter Môn weld gan
gynghorwyr i wneud y berthynas yn un cryfach? Atebodd Dafydd
Gruffydd efallai ei bod hi’n fater o godi’r ffôn
neu yrru e-bost. Mae croeso i unrhyw un gysylltu ag ef neu unrhyw
aelod staff. Ychwanegodd Elen eu bod wrthi’n trefnu cyfres o
gyfarfodydd wyneb i wyneb gyda phob ward. Gwerthfawrogai’r
cydweithrediad er mwyn symud ymlaen gyda rheini.
- Dymunodd Cynghorydd Gary Pritchard egluro ychydig o
bwyntiau oedd wedi codi yn ystod y drafodaeth. Dywedodd ei fod yn
ymwybodol eu bod yn cael llai o arian eleni nag llynedd, ac yn
edrych fel eu bod am gael llai eto blwyddyn nesaf. Mae’n her
sydd yn cael ei drafod yn gyson gyda Dafydd ag Elen â’r
Pwyllgor Gwaith. Mae’r elfen gymunedol yn hollbwysig. Fel
rhan o’i rôl fel yr Arweinydd ac fel Deilydd, cydnabyddir fod yno sawl fudd i’r
fenter sydd ddim yn cael eu cofnodi o dan y mynegeion
perfformiad allweddol. Mae yno her ariannol ond angen canu clodydd Menter
Môn. Hoffai ddiolch yn fawr iddynt am eu holl waith ac am
greu gwir wahaniaeth i Ynys Môn.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad a’r cynnwys yn
gynwysedig.