· I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Jeff Evans: -
‘Rydym ni fel Grŵp Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gymryd pob cam posibl er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail agor Pont y Borth fel mater o frys.
Cafodd y cau ei wneud heb ymgynghori ymlaen llaw ac heb hysbysu’r Cyngor Sir’.
· I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Sonia Williams: -
‘Mae’r Cyngor yna yn pryderu yn ddybryd am ddiffyg gwytnwch y ddau groesiad presennol dros Y Fenai sydd wedi eu amlygu eu hunain unwaith eto wrth i Pont y Borth orfod cau yn gyfan gwbl unwaith yn rhagor gan adael un croesiad yn unig.
Rydym hefyd yn datgan siom yn Llywodraeth Cymru am eu diffyg i ddal
y contractwyr i gyfrif ac am eu amharodrwydd i ystyried y cysylltiadau
rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau yr Ynys.
Gofynnwn i Llywodraeth Cymru gamu i mewn i gynnig cymorth i
fusnesau tref Porthaethwy sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl
broblemau efo'r Bont dros y 3 mlynedd diwethaf. Mae busnesau
lletygarwch yn enwedig yn dioddef yn enbyd gan fod y bont ar gau dros
nos.’
Cofnodion:
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-
‘Rydym ni fel Grŵp Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gymryd pob cam posibl er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail agor Pont y Borth fel mater o frys.
Cafodd y cau ei wneud heb ymgynghori ymlaen llaw a heb hysbysu’r Cyngor Sir’.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod pethau wedi symud yn eu blaen ers i Grŵp Annibynwyr Môn gyflwyno’r cynnig. Dywedodd bod y Grŵp yn cefnogi’r Rhybudd a gyflwynwyd gan y cynghorydd Sonia Williams fel y nodir isod.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Derek Owen.
Roedd y gwelliannau i’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sonia Williams fel a ganlyn:-
‘Rydym ni fel Cyngor yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gyfathrebu â’r Cyngor Sir a dinasyddion ynglŷn â gwaith cynnal a chadw ar y bont ac i beidio â chau’r bont heb rybudd yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dal y contractwyr i gyfrif ac am eu hamharodrwydd i ystyried y cysylltiadau rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau’r Ynys.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a chynnig cymorth i fusnesau tref Porthaethwy, sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl broblemau efo'r Bont dros y 3 blynedd diwethaf. Mae busnesau, yn enwedig busnesau lletygarwch, wedi dioddef yn sgil cau’r bont dros nos.’
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
Derbyniwyd y Cynnig diwygiedig yn unfrydol.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed W Jones ei fod yn derbyn nad oedd dewis ond cau Pont y Borth yn ddiweddar am resymau diogelwch, fodd bynnag, mae’r ansicrwydd yn achosi problemau i bobl sydd angen croesi’r bont i’r tir mawr i weithio, ac mae busnesau hefyd wedi cael eu heffeithio yn sgil cau’r bont yn ddirybudd. Nododd bod nifer o sesiynau briffio wedi cael eu cynnal ers 2022 i drafod cynnal a chadw a chau’r bont ond mae diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyngor o hyd. Mynegodd yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru a’r Contractwyr a benodwyd i wneud y gwaith cynnal a chadw ar y bont gyfathrebu’n llawn â’r Cyngor i osgoi sefyllfaoedd lle mae’n rhaid cau’r bont yn sydyn heb rybudd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn falch o weld bod y pleidiau gwleidyddol yn unedig ynglyn â mater sy’n bwysig i’r Cyngor a thrigolion Ynys Môn sy’n rhwystredig ac yn poeni oherwydd yr ansicrwydd ynglyn â Phont y Borth a’r pryder y gallai gau’n ddirybudd eto, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Dywedodd mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y bont ac y dylai fod yn atebol am yr aflonyddwch parhaus i drigolion a busnesau lleol. Mae’r Cyngor, yr Aelod o’r Senedd a’r Aelod Seneddol wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwytnwch y croesiad dros y bont i’r tir mawr. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â’r Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru - Mr Ken Skates AS ynglyn â’r ansicrwydd ynglyn â’r bont. Mae trafodaethau hefyd wedi cael eu cynnal â Phennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gan fod de’r Ynys yn ddibynnol ar y criwiau tân o Fangor.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn cytuno â sylwadau ei gyd-Aelodau a nododd ei fod yn ymwybodol o’r pwysau y mae’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelodau Lleol wedi’i roi ar Lywodraeth Cymru ac UK Highways Ltd., ynglyn â gwytnwch y bont. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru angen darparu amserlen ar gyfer y gwaith cynnal a chadw ar Bont y Borth gan fod pobl angen croesi’r bont i fynychu apwyntiadau yn yr ysbyty, mynd i’r gwaith a’r ysgol a chyrraedd yr orsaf drenau ym Mangor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod Pont y Borth bron yn 200 oed a bod monitro strwythurau o’r fath yn ofyniad statudol. Mae’n rhaid eu harchwilio pob 10 mlynedd a chynnal gwiriadau eraill pob blwyddyn ac felly dylai adroddiad ar strwythur y bont fod ar gael.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod llythyr wedi cael ei anfon at y Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gofyn am fanylion y gwaith sydd ei angen ar y bont ac i weld beth sydd wedi mynd o’i le o ran y bont. Nododd bod y llythyr yn gofyn am sicrwydd bod y gwiriadau gofynnol wedi cael eu cwblhau. Aeth ymlaen i ddweud bod yr Aelod Seneddol wedi codi’r mater yn Nhŷ'r Cyffredin ac y dylid adolygu’r amserlen o 10 mlynedd ar gyfer gwirio strwythurau fel y bont.
Dywedodd y Cynghorydd Sonia Williams ei bod hi’n bwysig bod Pont y Borth yn ddiogel ond mae busnesau ym Mhorthaethwy yn poeni y bydd yn rhaid cau’r bont unwaith eto. Nododd bod Gweinidogion Cymru, yn ystod cyfarfod diweddar, wedi methu â rhoi ateb pendant pan ofynnwyd iddynt gadarnhau’r amserlen ar gyfer y gwaith cynnal a chadw a phryd y bydd y bont yn ailagor yn gyfan gwbl.
Roedd y Cynghorydd Douglas Fowlie yn dymuno cael gwybod a fyddai’r Cyngor yn barod i ddigolledu busnesau ym Mhorthaethwy drwy ad-dalu eu trethi busnes.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod y Cyngor yn gweithredu fel asiant ar ran Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag ardrethi busnes. Mae’r cyllid a gesglir drwy’r ardrethi busnes yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ac mae’r cyllid hwnnw’n cael ei dalu’n ôl i lywodraeth leol yn unol â’r fformiwla a ddefnyddir ar gyfer y setliad ariannol blynyddol. Nododd nad yw mwyafrif y busnesau’n talu ardrethi busnes gan eu bod o dan y trothwy. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda busnesau lleol ers 2022 a bod modd parcio’n rhad ac am ddim ym meysydd parcio Porthaethwy er mwyn helpu i annog pobl i ymweld â Phorthaethwy a chefnogi’r busnesau hyn.
Aeth y Cynghorydd Robin Williams ymlaen i ddweud bod angen gofyn cwestiynau difrifol i’r contractwr a benodwyd i gwblhau’r gwiriadau ar y bont gan fod y gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers 2022; caewyd y bont yn ddirybudd oherwydd bod bolltau ar goll o dan y bont ac fe ddylai’r bont fod wedi cael ei harchwilio’n drwyadl pan gaewyd y bont am y tro cyntaf yn 2022 i weld beth yn union oedd y problemau. Roedd yr Aelodau’n poeni’n arw bod y bont wedi cau’n sydyn oherwydd bod bolltau ar goll o dan y bont a bod cerbydau trwm wedi bod yn teithio dros y bont dros y 3 blynedd diwethaf. Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff bod y bolltau o dan y bont angen eu newid oherwydd eu bod wedi rhydu ac nid oherwydd bod bolltau ar goll. Nododd bod llythyr wedi cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd bod asesiad o’r bont wedi cael ei gwblhau pob 2 flynedd fel bod y Cyngor yn hyderus bod proses asesu drylwyr ar waith. Dywedodd bod cwestiynau wedi cael eu codi â Llywodraeth Cymru ynglyn a ddylai cerbydau trymion fod yn croesi’r bont; ar hyn o bryd mae cyfyngiad a dim ond cerbydau sy’n pwyso hyd at 7.5 o dunelli gaiff groesi’r bont.
Roedd y Cynghorydd Derek Owen yn dymuno cael gwybod os oes asesiad wedi cael ei gwblhau ar Bont Britannia. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff mai Network Rail yw’r perchennog a bod cais wedi cael ei wneud am dystiolaeth bod asesiadau manwl wedi cael eu cwblhau ar Bont Britannia.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi wedi bod yn anodd i fusnesau lleol dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru pan gaewyd Pont y Borth y tro cyntaf. Byddai’n rhaid i’r busnesau brofi eu bod wedi colli incwm, a dim ond pan oedd y bont a gau. Gan fod y bont bellach ar agor yn rhannol ystyrir bod y bont yn weithredol. Rhoddodd sicrwydd y byddai’r Cyngor yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i fusnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd y Cynghorydd Pip O’Neill bod Fforwm Fusnes Cybi wedi derbyn cymorth ariannol yn sgil cau Porthladd Caergybi yn dilyn difrod i’r strwythur angori. Dywedodd yr Arweinydd bod Fforwm Fusnes Cybi wedi casglu’r dystiolaeth angenrheidiol i brofi’r caledi ariannol a wynebwyd gan fusnesau yn sgil cau Porthladd Caergybi. Nododd bod gwaith tebyg yn digwydd yn Ward Aethwy i edrych ar yr effaith ar fusnesau lleol yn sgil cau Pont y Borth yn sydyn yn ddiweddar.
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn poeni’n arw am gyflwr Pont y Borth a’r ffaith ei bod wedi gorfod cau’n sydyn oherwydd bod y bolltau oddi tani wedi rhydu. Holodd a oes gan fusnesau ffydd yn yr Ynys yn enwedig gyda dyfodiad y Porthladd Rhydd. Dywedodd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod trydedd bont yn angenrheidiol. Mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ac Achub leoli injan dân ychwanegol ym Mhorthaethwy oherwydd yr ansicrwydd gyda’r pontydd. Dywedodd yr Arweinydd bod y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymwybodol o’r pryderon dros wydnwch y pontydd dros y Fenai. Mae’n rhaid i’r Awdurdod fod yn hyderus bod busnesau eisiau buddsoddi ar yr Ynys, a bydd y Porthladd Rhydd ynghyd â datblygu safle Wylfa yn gwella’r sefyllfa economaidd. Codwyd cwestiynau pellach ynglyn â stacio lorïau HGV ar yr Ynys pan fo’r pontydd ar gau. Dywedodd yr Arweinydd bod cynllun stacio ar waith, ond nid yw’r Awdurdod yn credu bod y cynllun hwnnw’n ddigon gwydn ac mae trafodaethau ar y gweill i atgyfnerthu’r cynllun stacio fel ei fod yn dderbyniol i gymunedau Ynys Môn. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill â Chyngor Gwynedd ynghylch eu gweithdrefnau hwy ar gyfer stacio cerbydau ar y tir mawr.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod trydedd bont dros y Fenai wedi cael ei gynnwys yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ac y bydd yn ysgogi buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y rhanbarth. Eglurodd yr Arweinydd bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor hwn a’r Bwrdd Rhanbarthol; mae gwytnwch y pontydd wedi cael ei nodi fel un o’r prif heriau yn y Cynllun. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn Aelod o Dasglu Gwytnwch Môr Iwerddon sy’n cael ei arwain gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Mr Ken Skates AS ynghyd â’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ms Rebecca Evans AS a Gweinidog Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ranbarthol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Mr Sean Canney ynghyd â swyddogion o’r ddwy Lywodraeth. Bydd y Tasglu’n gwella gwytnwch y cysylltiadau dros y môr a’r seilwaith ffyrdd.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sonia Williams ailadrodd y pwynt bod angen i Lywodraeth Cymru ddwyn y contractwyr sydd wedi cael eu penodi i archwilio a chynnal a chadw Pont y Borth i gyfrif a’r effaith y mae hyn wedi’i gael ar fusnesau ym Mhorthaethwy.
Cafodd y gwelliant i’r cynnig ei dderbyn fel a ganlyn:-
· Mae Grŵp Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gymryd pob cam posibl er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail agor Pont y Borth fel mater o frys.
· Caewyd y bont heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw a heb hysbysu’r Cyngor Sir.
· Mae gan y Cyngor bryderon dybryd ynglyn â diffyg gwytnwch y ddau groesiad presennol dros Y Fenai sydd wedi dod i’r amlwg unwaith eto yn sgil cau Pont y Borth yn gyfan gwbl gan adael un croesiad yn unig.
· Mae’r Cyngor hefyd yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dal y contractwyr i gyfrif ac am eu hamharodrwydd i ystyried y cysylltiadau rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau’r Ynys.
· Gofynnir i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a chynnig cymorth i fusnesau tref Porthaethwy, sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl broblemau efo'r Bont dros y 3 mlynedd diwethaf. Mae busnesau, yn enwedig busnesau lletygarwch, wedi dioddef yn sgil cau’r bont dros nos.