Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2025/108 – Canolfan Penrallt, Plas Arthur, Llangefni

FPL/2025/108

 

12.2 – LBC/2025/24 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

LBC/2025/24

 

12.3 – CAC/2025/3 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi

CAC/2025/3

 

12.4 – ADV/2025/7 – 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi

ADV/2025/7

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2025/108 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu Canolfan Penrallt yn westy bwtîc 13 ystafell wely a lleoliad priodasau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yng Nghanolfan Penrallt, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.    

 

Siarad Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Owen Evans, a oedd yn cefnogi’r cais, bod y cais ar gyfer creu  gwesty bwtîc a lleoliad priodasau yn yr hen ysgol ym Mhenrallt, Llangefni.   Mae’r cais yn sicrhau cydbwysedd rhwng treftadaeth, cadwraeth ac adfywio’r economi.  Y nod yw dod ag un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Llangefni yn ôl i ddefnydd a dathlu ei hanes a’i gymeriad.  Mae safle Penrallt wedi bod yn wag ers cau campws Coleg Menai yn 2019.   Mae’r safle mewn lle amlwg oddi mewn i Ardal Gadwraeth Llangefni ac mae Cofeb Restredig Gradd II ar y safle a fydd yn cael ei chadw fel rhan o’r prosiect.   Bydd y gwaith cadwraeth yn cael ei gynnal gyda’r parch mwyaf, gan sicrhau bod arwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol y gofeb yn cael ei gydnabod a’i ddeall o hyd.  Bydd y datblygiad yn cynnwys 13 ystafell wely en-suite, neuadd briodasau ac achlysuron i hyd at 200 o bobl, gwelliannau sensitif i’r dirwedd a’r maes parcio, a ffocws cryf ar gynaliadwyedd, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, storfa beiciau, a systemau ynni effeithlon.  Nododd y bydd gan y gwesty le i 26 o westeion dros nos ac y bydd priodasau ac achlysuron yn denu ymwelwyr ychwanegol i’r dref.  Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau lleol megis gwestai, bwytai a siopau.   Bydd cydweithio’n digwydd gyda Chanolfan Hamdden Plas Arthur i annog gwesteion i ddefnyddio cyfleusterau lleol.  Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud y bydd y datblygiad yn creu 14 swydd lawn amser a 6 swydd ran-amser o leiaf, ynghyd â chyfleoedd pellach i gyflenwyr lleol, cogyddion, siopau blodau a ffotograffwyr.   Bydd y gwaith adeiladu ac addurno yn rhoi blaenoriaeth i gontractwyr lleol, gan sicrhau bod y buddsoddiad yn cefnogi’r economi leol.  Mae’r cynllun wedi’i ddylunio’n ofalus i barchu a gwella cyd-destun hanesyddol y safle.  Bydd strwythur carreg gwreiddiol yr adeilad - gyda’i ffenestri nodedig a’i dalcen arddull Iseldiraidd - yn cael ei gadw a’i adnewyddu.   Bydd yr estyniadau arfaethedig yn gymedrol ac yn gydnaws, gan sicrhau bod cymeriad yr adeilad yn parhau i gyfrannu’n gadarnhaol i’r Ardal Gadwraeth.  Mae’r cynllun tirwedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y coed aeddfed o amgylch y safle a’r ardal o amgylch y gofeb.   Bydd y gwelliannau yn adfer y berthynas hanesyddol rhwng yr adeilad a’r gofeb yn unol ag arferion gorau ym maes cadwraeth.  Aeth ymlaen i ddweud bod y prosiect yn cynnig dyfodol cynaliadwy i adeilad sy’n bwysig i’r gymuned leol, gan ddiogelu hanes Penrallt, creu swyddi yn lleol a helpu’r economi leol.  

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y cais ar gyfer ailddatblygu hen adeilad Ysgol y Sir ym Mhenrallt, Llangefni a gafodd ei ddefnyddio yn ddiweddarach fel campws ategol ar gyfer Coleg Menai cyn dod yn wag.   Mae'r adeilad wedi'i leoli o fewn yr Ardal Gadwraeth ac mae cofeb rhyfel rhestredig Gradd II ar y lawnt o flaen yr adeilad.  Mae’r safle wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu Llangefni ac mae’r Awdurdod Cynllunio yn credu mai polisi CYF6 yw’r un mwyaf perthnasol wrth ystyried y cais.  Mae Polisi TWR2 hefyd yn addas oherwydd bod gwestai yn cael eu hystyried o dan y polisi hwn.  Mewn ymateb i bolisi CYF6 ystyrir bod graddfa a natur y datblygiad yn dderbyniol yn y lleoliad hwn.   Rhaid ystyried y defnydd presennol a'r defnydd a wnaed ddiwethaf o'r adeilad, sef canolfan ddysgu i fyfyrwyr. Mae'r defnydd hwn yn dod o fewn Dosbarth D1.  Mae'r defnydd diwethaf o'r adeilad yn bwysig ac yn ystyriaeth o bwys. Mae dosbarth defnydd D1 yn cynnwys gwasanaethau meddygol neu iechyd, safleoedd gofal plant, meithrinfeydd dydd, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, neuaddau cyhoeddus neu fannau addoli.  Nid oes dosbarth defnydd penodol ar gyfer lleoliadau priodas a byddai'n cael ei ystyried fel 'defnydd unigryw'.   Wrth ystyried y defnydd diwethaf o'r adeilad, ni ystyrir y byddai’r defnydd fel Lleoliad Priodas yn achosi dim mwy o effaith na'r defnydd presennol ac unrhyw ddefnyddiau eraill y gellid eu cyflawni o dan ddefnydd D1.  Ni ystyrir y byddai'r defnydd arfaethedig yn gwrthdaro â defnyddiau cyfagos, sy'n cynnwys anheddau preswyl, ysgol a chanolfan hamdden.   O ganlyniad, mae'r cynnig yn cydymffurfio â maen prawf 2 o bolisi CYF 6.   Mae'r cynnig yn cynnwys defnyddio adeilad sy’n bodoli’n barod.  Bydd rhan ohono’n cael ei ddymchwel a bydd estyniad yn cael ei godi yn ei le.  Mae strwythur yr adeilad yn ymddangos yn gadarn, ac yn bwysicaf oll, bydd yn dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd.  Ystyrir bod yr adeilad yn addas ar gyfer y defnydd penodol hwn a’i fod yn cydymffurfio â maen prawf 2 ym mholisi CYF6.   Mae’r ystyriaethau ym Mholisi TWR2 yn debyg iawn i’r ystyriaethau ym Mholisi CYF6.    Mae rhan olaf y polisi yn nodi na ddylai datblygiadau achosi gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal ac yn ôl y data ar gyfer eleni dim ond 1.73% o lety o’r fath sydd yn ardal Llangefni.    Ystyrir felly bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TWR2.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod yr adeilad wedi bod yn wag ers tro, ac felly mae wedi dadfeilio’n raddol ac mae hynny’n amharu ar gymeriad yr ardal gyfagos, gyda bordau pren dros y ffenestri a gordyfiant yn y cefn.     Byddai ei ailddatblygu yn gyfle gwerthfawr i sicrhau bod yr adeilad yn dod yn ôl i ddefnydd, gan wella edrychiad yr ardal, cefnogi'r economi leol a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r Ardal Gadwraeth.   Bydd y cynnig yn creu 14 swydd lawn amser a 6 swydd ran-amser.   Fel rhan o’r cynnig bwriedir dymchwel yr estyniad deulawr modern i'r De-ddwyrain sy’n mesur 198 metr sgwâr.   Bydd yr estyniad arfaethedig i’r De-ddwyrain yn mesur 373 metr sgwâr, sy’n gynnydd o 175 metr sgwâr.  Mae'r estyniad yn un modern ond mae’n parchu’r adeilad trwy sicrhau y cedwir y nodweddion gwreiddiol yn nrychiad blaen yr adeilad.  Mae'n bwysig nodi mai'r drychiad blaen yw'r rhan bwysicaf o'r adeilad a’i bod yn hollbwysig cadw’r nodweddion presennol, a sicrhau bod yr estyniad ar ddrychiad ochr yr adeilad yn fodern ond parchus.   Er y bydd yr estyniad yn 175 metr sgwâr yn fwy na'r estyniad presennol, ystyrir bod digon o le o fewn y safle a bydd deunyddiau o ansawdd uchel yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd â'r safle a'r ardal gerllaw.   Mae safle’r cais wedi’i leoli o fewn Ardal Gadwraeth Llangefni ac mae Cofeb ar dir yr hen ysgol sydd yn Strwythur Rhestredig Gradd II.    Mae'r cynnig yn sicrhau bod y nodweddion gwreiddiol yn cael eu cadw ac mae'r estyniad newydd wedi'i gynllunio i ychwanegu at nodweddion presennol yr adeilad gwreiddiol  Bydd rhaid ystyried yr effaith y datblygiad ar amwynderau tai cyfagos yn unol â pholisi PCYFF 2.  Mae'r Adran Gynllunio wedi ymgynghori â'r Adran Iechyd yr Amgylchedd mewn perthynas â'r pryderon yn ymwneud â sŵn a niwsans a godwyd gan breswylwyr cyfagos.  Nid yw'r adran Iechyd yr Amgylchedd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac mae wedi cadarnhau na fydd angen Asesiad Sŵn.    At hynny, bydd rhaid cael trwydded digwyddiadau ar wahân a gall Iechyd yr Amgylchedd ymchwilio i unrhyw gwynion ynglŷn â sŵn o dan y darpariaethau Niwsans Statudol.  Mae'n bwysig nodi'r defnydd presennol o'r adeilad a'r defnyddiau posibl y gellid eu gwneud o'r adeilad heb yr angen am ganiatâd cynllunio.   Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i leoliad yr adeilad yn ogystal â defnyddiau eraill gerllaw sy'n cynnwys priffordd brysur iawn i’r Gogledd a’r Dwyrain o’r safle, canolfan hamdden a chae pob tywydd 3G ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, sydd ar agor yn hwyr, parc sglefrio i’r Gorllewin ac       Ysgol Gyfun Llangefni.  Ar sail y lleoliad prysur yma, y defnyddiau cyfagos a'r defnydd presennol o'r adeilad, ni ystyrir y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar eiddo neu ddefnyddiau cyfagos.   Derbyniwyd Arolwg Ecolegol gyda’r cais ac ni sylwyd ar unrhyw dystiolaeth o ystlumod yn mynd i mewn i unrhyw ran o'r adeilad.    Mae’r bwriad yn hybu bioamrywiaeth ac yn cynnwys dôl blodau gwyllt, blychau adar, ystlumod a gwenyn. Bydd y mannau gwyrdd presennol yn cael eu cadw a  bydd 80 o lwyni yn cael eu plannu.  Aeth ymlaen i ddweud y bydd y fynedfa bresennol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y datblygiad a bydd lle parcio wedi'i leoli yng nghefn y safle.  Ni fydd y cynnig yn effeithio ar y fynedfa bresennol i gerddwyr i'r Gorllewin o'r safle.  Cyflwynwyd Asesiad Trafnidiaeth gyda'r cais cynllunio sy'n cadarnhau y bydd y cynnig yn darparu 44 o lefydd parcio, mae hyn yn cynnwys 20 o lefydd parcio i staff, 13 i westeion y gwesty ac 11 o lefydd eraill.   Mae'r Asesiad Trafnidiaeth yn nodi y bydd disgwyl i bobl deithio yn bennaf mewn bysiau a cheir preifat ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis realistig arall.   Rhagwelir y bydd lle i 200 o westeion ar adegau prysur, sy'n debygol o fod ar benwythnosau a gyda’r nos.   Mae'r safle wedi'i leoli mewn lleoliad cynaliadwy iawn ac mae’n hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r trefniadau parcio a’r fynedfa ac maent wedi argymell darparu amodau priodol.  Ystyrir bod y cynnig i newid defnydd y ganolfan ddysgu bresennol o Ddosbarth  Defnydd D1 i Leoliad Priodasau yn cydymffurfio â'r holl bolisïau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.   Ni fydd y cynnig yn effeithio ar y Gymraeg nac eiddo cyfagos.   Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â’r fynedfa a’r trefniadau parcio, ac ni fydd y cynnig yn effeithio ar y strwythur rhestredig gerllaw.   Mae'r cynnig yn parchu arddull bensaernïol yr adeilad a bydd yn dod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd gan gyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at yr ardal a'r Ardal Gadwraeth.   Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys gwelliannau bioamrywiaeth digonol yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol.  Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Roedd y Cynghorydd Geraint Bebb, sydd hefyd yn Aelod Lleol, yn dymuno cael gwybod pwy sy’n gyfrifol am y Gofeb ar y safle a p’un a oes modd gosod amod fel bod yn rhaid i’r perchnogion gynnal a chadw’r Gofeb.    Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol bod rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried p’un a fydd y cynnig yn effeithio ar y Gofeb a p’un a fyddai’n rhesymol gosod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir.    Roedd y Pwyllgor o’r farn bod angen cynnal a chadw’r Gofeb ac y dylai teuluoedd yr ymadawedig allu dod i dalu teyrnged.  

 

Roedd y Cynghorydd Bebb hefyd yn dymuno cael gwybod p’un a oes digon o lefydd parcio ar gyfer y datblygiad gan fod yr adroddiad yn nodi y bydd y lleoliad yn gallu darparu ar gyfer 200 o bobl.   Nododd nad oes lle i barcio ceir ychwanegol yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.  Aeth ymlaen i ddweud nad oes sôn am warchod y wiwer goch yn y gwelliannau bioamrywiaeth.   Dywedodd yr Arweinydd Tîm y bydd 44 lle parcio ar gael ar y safle a bod rhaid ystyried bod y defnydd blaenorol o’r safle.   Nododd bod y lleoliad yn gynaliadwy, bod disgwyl i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r trefniadau parcio ar gyfer y safle.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Euryn Morris ei fod yn croesawu’r cynnig i adfer adeilad sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd.  Roedd yn dymuno cael cadarnhad p’un a fyddai modd gosod amod ar unrhyw ganiatâd yn gysylltiedig â niwsans sŵn oherwydd pryderon y cymdogion.   Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm bod yr Adain Iechyd yr Amgylchedd wedi cadarnhau y bydd angen trwydded digwyddiadau ar wahân ar berchnogion yr adeilad ac y bydd yr Adain Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio i unrhyw gwynion yn ymwneud â sŵn o dan y darpariaethau Niwsans Statudol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. 

 

Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12. 2  LBC/2025/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod plac ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r datblygiad ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod hwn yn  gais am ganiatâd adeilad rhestredig i osod plac glas ar yr adeilad i nodi man geni’r Capten John Fox-Russell MC VC a’r Capten Henry Thornbury Fox-Russell MC, a frwydrodd yn y Rhyfel Mawr.   Bydd y plac yn tynnu sylw at yr adeilad a’i ran yn hanes Caergybi.  Bydd y plac cylch yn cael ei osod rhwng y ffenestr ar y llawr isaf a’r llawr cyntaf a bydd yn mesur tua 950mm.  Mae Swyddog Treftadaeth y Cyngor yn hapus na fydd y bwriad yn niweidio cymeriad yr adeilad rhestredig.  Rhaid i bob cais am ganiatâd adeilad rhestredig, a gyflwynir gan y Cyngor yn gysylltiedig â thir yn ei feddiant, gael ei gymeradwyo gan Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd adeilad rhestredig gan Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y tir ym meddiant y Cyngor.

 

12.3 CAC/2025/3 - Cais Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad a chodi palis dros dro ynghyd â chreu man cyhoeddus newydd yn cynnwys tirlunio caled a meddal, systemau draenio cynaliadwy ac isadeiledd a gwaith ategol yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm bod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor am Ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel yr adeilad a chodi palis dros dro ynghyd â chreu man cyhoeddus newydd yn cynnwys tirlunio caled a meddal, systemau draenio cynaliadwy ac isadeiledd a gwaith ategol.    Mae safle’r cais yn cynnwys rhif 97 Stryd y Farchnad, Clwb Unedig y Cyn-Filwyr, sydd wedi’i leoli ar y gyffordd rhwng Stryd y Farchnad a Heol Fictoria sydd o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref Caergybi.     Cais yw hwn i ddymchwel 97 Stryd y Farchnad, ond mae cais arall wedi cael ei gyflwyno (FPL/2025/208) i ailddatblygu’r safle cyfan a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio maes o law.  Nid yw’r adeiladau presennol o bwys hanesyddol sylweddol ac maent o ansawdd gwael o ran pensaernïaeth ac adeiladwaith.  O ganlyniad, nid oes gwrthwynebiad i’r egwyddor o ddymchwel yr adeilad cyn belled bod yr hyn a ddaw yn ei le yn gwarchod neu wella cymeriad yr ardal gadwraeth a pharchu gosodiad yr adeiladau rhestredig gerllaw.   Bydd rhaid i’r cais gael ei gymeradwyo gan Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y safle ym meddiant y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd gan Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y cais mewn ardal gadwraeth a chan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

12.4 ADV/2025/7 - Cais i osod paneli hysbysebu dros dro mewn perthynas ag ail ddatblygu'r safle yn 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn cynnwys datblygiad fydd yn cael ei gwblhau gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm mai cais yw hwn i osod paneli hysbysebu dros dro yn gysylltiedig ag ailddatblygu’r safle.   Mae’r cynnig ar gyfer gosod palisau o amgylch y safle cyfan, gyda 10 panel hysbysebu yr un fath wedi’u gosod ar hyd y palisau.  Bydd y palisau tua 2.4m o uchder ac 1.2m o led.   Bydd y palisau’n felyn a bydd pob un yn hysbysebu’r prosiect, gyda llun o’r ardal amwynder cyhoeddus arfaethedig a thestun dwyieithog yn amlinellu’r datblygiad arfaethedig.  Mae’r bwriad yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PS1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Mae hwn yn ganiatâd dros dro yn gysylltiedig ag ailddatblygu’r safle, a bydd amod i sicrhau bod y palisau hysbysebu’n cael eu tynnu cyn 1 Tachwedd, 2028 neu ar ôl cwblhau’r datblygiad.  Bydd y palisau’n cael eu codi o amgylch y safle, ond ni fyddant yn effeithio ar y palmantau o amgylch y safle.  Nid oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig gan na fydd yn effeithio ar y rhwydwaith priffyrdd a cherddwyr yn yr ardal.  Bydd y palisau’n diogelu’r cyhoedd tra bydd y safle’n cael ei ail ddatblygu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: