Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr.
Cofnodion:
Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Môn Actif a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Biwmares ym mis Hydref.
· Dymuniadau gorau i Glwb Henoed Bodffordd ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar sef 50 mlynedd ers sefydlu’r clwb. Mae’r Clwb wedi parhau drwy gydol y cyfnod o dan arweiniad medrus Mr Ellis Wyn Roberts.
· Llongyfarchiadau i Jac Hughes, un o ddefnyddwyr yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn ymddangos ar y rhaglen deledu, “Y Cyfweliad” yn y flwyddyn newydd. Mae Jac yn adnabyddus i bawb sy’n mynychu’r fforwm Anableddau Dysgu am ei gyfraniad treiddgar.
· Llongyfarchiadau i’r Tîm Cymunedol o fewn ein Gwasanaethau Tai am ennill gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Cymunedol Mwy Diogel Cymru 2025 a hynny yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant. Mae ennill y wobr hon yn gamp aruthrol ac yn dyst i’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd y tu ôl i Hwb Cymunedol Amrywiol Môn. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant, diogelwch a llesiant cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o’n hynys.
· Llongyfarchiadau i Elen Gwen Williams, sydd bellach yn byw ar Ynys Môn, am ennill gwobr goffa Dai Jones am ei phrosiect “Calon Cefn Gwlad”. Cafodd ei gwaith ei ganmol am ei ffocws ar gymuned a threftadaeth amaethyddol Cymru.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at wobrau twristiaeth gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar. Roedd yn braf gweld cymaint o fusnesau o Ynys Môn yn cael llwyddiant, gan gynnwys Chateau Rhianfa, y Ribride, a Distyllfa Llanfairpwll. Anrhydeddwyd Cyngor Tref Caergybi hefyd am eu gwaith arbennig yn croesawu ymwelwyr teithiau llongau i’r dref.
· Llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant yn Eisteddfod CFfi Cymru yn Sir Drefaldwyn ym mis Tachwedd.
· Llongyfarchiadau i Kenan Davies-Zorlu o Gaergybi y myfyriwr Peirianneg o Goleg Menai sydd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei gynnydd rhagorol mewn mathemateg.
· Llongyfarchiadau, i Steffan Lloyd Owen am ennill un o gystadlaethau Opera mwyaf yn y byd, ym Mharis yn ddiweddar.
· Llongyfarchiadau i Cari Hughes (Clwb Menai Track & Field) a enillodd y ras Liverpool Cross Challenge 2025 - Ras 8km traws gwlad - mewn 27 munud 17 eiliad ym mis Tachwedd.
· Llongyfarchiadau i Mrs Susan Jones, Tregarnedd, Star, Llanfairpwll ar gael ei hethol yn llywydd etholedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2027.
· Llongyfarchiadau i Mari Llion Jones ar gael ei hethol yn llysgennad etholedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2027.
· Llongyfarchiadau i Undeb Amaethwyr Cymru sy’n dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu ym 1955.
· Llongyfarchiadau i Ganolfan Hen Ysgol Bodorgan am dderbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am eu gwasanaeth gwirfoddol.
· Dymuniadau gorau i Mr Magee o’r Fali a ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar.
* * * * *
Cydymdeimlodd y Cadeirydd yn ddwys â theulu’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE a fu farw’n ddiweddar yn dilyn cyfnod o salwch.
Cafwyd teyrngedau i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE gan Arweinydd y Cyngor, yr Aelodau Etholedig sy’n cynrychioli ward Ynys Cybi ac Aelodau eraill o’r Cyngor. Fe wnaethant gyfeirio at ei hiwmor, ei wybodaeth a’i gyfeillgarwch. Cydymdeimlwyd yn ddwys â’i wraig, Janet ai fab, Gareth a’i deulu. Prif ddiddordeb y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes oedd pêl-droed. Roedd yn angerddol dros y bêl gron ac wedi gwirfoddoli â Chlwb Pêl-droed Bodedern ers ei fod yn ifanc. Wedi hynny bu’n cefnogi clybiau pêl-droed ar hyd a lled Ynys Môn am flynyddoedd lawer. Daeth yn Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012. Treuliodd chwe mlynedd fel Cynrychiolydd Pêl-droed Rhyngwladol, rôl ag aeth ag ef i stadiymau pêl-droed ym mhob cwr o’r byd, cyn iddo roi’r gorau iddi yn 2019. Derbyniodd yr MBE yn 2016 am ei wasanaeth i bêl-droed a chafodd hefyd yr anrhydedd o gael ei urddo i’r Orsedd yn 2007.
* * * * *
Cydymdeimlwyd ag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.