Eitem Rhaglen

Adroddiad Hunan Asesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25. Mae’n ofynnol llunio a chyhoeddi’r adroddiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, adroddiad y cerdyn sgorio yn ei rôl flaenorol fel aelod portffolio busnes corfforaethol a phrofiad y cwsmer, a nododd mai’r adroddiad ar gyfer 2024/25 oedd y tro cyntaf i’r Cyngor gyfuno ei adroddiad hunanasesiad, perfformiad a llesiant. Mae’r ddogfen yn dangos fod y Cyngor yn defnyddio dull integredig ar gyfer cynllunio, rheoli perfformiad a hyrwyddo llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n darparu tystiolaeth i ddangos sut y gwnaeth y Cyngor gyflawni ei amcanion strategol a’i flaenoriaethau, sut y bu iddo ddefnyddio adnoddau’n effeithlon a rheoli risgiau’n effeithiol.

 

Mae’r adroddiad yn cynnig trosolwg clir o gynnydd yn erbyn ymrwymiadau 2024/25 yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol, yr amcanion strategol hir dymor a nodir yng Nghynllun y Cyngor hyd at 2028, ac ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hefyd yn adlewyrchu canlyniadau’r broses adolygu gwasanaethau, lle bu i’r naw gwasanaeth o fewn y Cyngor gynnal hunanasesiad yn erbyn pedwar maen prawf - cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio’r gweithlu a llywodraethu - ac mae’n amlygu’r meysydd sydd angen eu gwella. Mae’r adroddiad hefyd yn cofnodi cynnydd mewn perthynas â materion gwella a nodwyd yn yr hunanasesiad blaenorol.

 

Wrth graffu ar yr adroddiad, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Nododd yr aelodau fod yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol 2024 yn dangos fod 32% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn ymddiried yn y Cyngor. Gofynnodd yr aelodau a ddylai hyn fod yn destun pryder a pha gamau y gellir eu cymryd i gryfhau hyder y cyhoedd.

 

Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yn cydnabod fod y ffigwr yn siomedig, er nad yw’n anarferol o gymharu ag awdurdodau eraill. Nododd fod creu ymddiriedaeth yn gallu bod yn heriol, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, gan fod hyder mewn cynrychiolwyr etholedig yn gyffredinol isel ar bob lefel. Pwysleisiodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i arddangos uniondeb a hygrededd ac i wasanaethu pobl yr ynys.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gan y cyhoedd lai o hyder yn y sector gyhoeddus yn gyffredinol, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn dylanwadu ar ganfyddiadau’r cyhoedd. Nododd fod safle’r cyngor yn eithaf cyffredin ac, er bod gwella bob amser yn ddymunol, nid yw’r sefyllfa’n rhy bryderus o ystyried ffactorau a dylanwadau allanol.

 

Trafododd yr aelodau bwysigrwydd hyrwyddo gwaith y Cyngor yn fwy effeithiol. Fe wnaeth yr aelodau dynnu sylw at nifer o ddatblygiadau cadarnhaol, megis y Porthladd Rhydd, cynllun niwclear newydd yn y Wylfa, a nodwyd bod hen safle Alwminiwm Môn wedi cael ei brynu ar gyfer y parc ffyniant. Mae hyn oll yn dangos bod yr ynys yn edrych tua’r dyfodol a’i bod yn ffynnu’n economaidd. Er eu bod yn cydnabod fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhannu camwybodaeth a negyddiaeth, roeddent yn cydnabod hefyd y gall y cyfrwng hwn fod yn arf gwerthfawr ar gyfer cyfathrebu, ymgysylltu a gonestrwydd. Nodwyd hefyd fod consensws gwleidyddol diweddar ynghylch materion o bwys yn adlewyrchu agwedd aeddfed a chyd-ymrwymiad i wasanaethu preswylwyr a’u cymunedau.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor gwestiwn ychwanegol ynghylch sut fyddai’r Cyngor yn gallu cryfhau ei brosesau ymgynghori er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn wybodus a’u bod yn ddigon hyderus i ymateb.

 

Esboniodd y Rheolwr Prosiectau a Pherfformiad fod canllawiau staff ynglŷn ag ymgynghori ac ymgysylltu wedi cael eu hadolygu. Mae’r canllawiau diwygiedig yn darparu cyngor ynglŷn â sut i gyrraedd ystod eang o breswylwyr, a rhoddir pwyslais arbennig ar ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae’r canllawiau wedi cael eu cymeradwyo ac maent wrthi’n cael eu llwytho ar fewnrwyd y Cyngor er mwyn sicrhau eu bod ar gael i staff. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar gynnal asesiadau effaith yn sgil newidiadau polisi neu ddatblygiadau sylweddol, a’r nod yw sicrhau ymgynghoriadau mor effeithiol a chynhwysol â phosib.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor am ddiweddariad ar y Strategaeth Ofal Dydd oedd yn Oren ar y tabl sy’n dangos cynnydd gwaith yn ystod 2024/25.

 

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, fod y cyngor wedi datblygu’r ddarpariaeth gofal dydd yn ardal Caergybi, trwy integreiddio gwasanaethau yn y gymuned a chanolbwyntio ar grwpiau gweithgareddau llai a phwrpasol, a nododd fod defnyddwyr gwasanaeth wedi croesawu’r datblygiadau hyn. Yr uchelgais yn yr hir dymor yw ymestyn y model hwn ar hyd a lled yr ynys. Pwysleisiodd bod gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn bwysig wrth gynllunio gwasanaethau, a nododd fod cyfarfod diweddar gydag unigolion sy’n byw â dementia wedi bod yn werthfawr, a chyfeiriodd at gyfarfod arall sydd ar y gweill gyda gofalwyr.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cyngor yn symud tuag at fodel sy’n canolbwyntio ar y gymuned, lle mae grwpiau llai o bobl yn cymryd rhan mewn ystod ehangach o weithgareddau a ddewisir gan y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain. Trwy brynu bws mini gellir ehangu cyfleoedd cyfranogi ymhellach. Esboniodd fod pontio i ddarpariaeth yn y gymuned yn golygu bod rhaid i staff addasu hefyd, ac mae hyn yn cael ei drafod fel rhan o broses ymgysylltu driphlyg sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff.

 

·      Yn dilyn cyhoeddi y byddai gorsaf bŵer niwclear fechan newydd yn cael ei hadeiladu ar safle’r Wylfa, gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad o’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau darpariaeth addysg a chyfleoedd hyfforddi addas er mwyn caniatáu i bobl ifanc lleol ennill sgiliau angenrheidiol er mwyn manteisio ar gyfleoedd gwaith posib, ynghyd â’r capasiti i ddarparu cyrsiau o’r fath. Cyfeiriwyd hefyd at gynllunio, a nododd yr aelodau fod y Cynllun Datblygu Lleol presennol wedi dyddio bellach ac nid yw’n adlewyrchu amgylchiadau nac anghenion presennol yr ynys.

 

Roedd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, yn cydnabod ei bod yn bwysig sicrhau fod buddiannau’r datblygiad yn yr Wylfa’n cael eu gwireddu er budd trigolion yr ynys. Nododd y byddai’r gofynion penodol yn fwy eglur unwaith y bydd trafodaethau wedi cychwyn gyda phartneriaid y Cyngor fel rhan o’r fenter hon. Pwysleisiodd y byddai gan y bartneriaeth sgiliau ranbarthol rôl allweddol, law yn llaw â phartneriaeth agos y Cyngor â Choleg Llandrillo Menai, wrth sefydlu llwyfan cadarn ar gyfer datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn cefnogi datblygiadau economaidd a’r buddion a ddaw i’r ynys a’i thrigolion yn eu sgil. Mae’r system gynllunio’n diffinio terfynau ac mae’n arfarnu asesiadau effaith mewn perthynas ag anghenion llafur a sgiliau, yn ogystal â dyrannu adnoddau er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc dderbyn hyfforddiant angenrheidiol. Cyn i hyn ddigwydd, ni all y cyngor ond pwyso ar lywodraethau i ddarparu adnoddau, a rhaid cadw mewn cof pa mor bwysig yw amseru, h.y., mae’n rhaid i hyfforddiant arwain at swyddi gwirioneddol neu mae perygl o danseilio hyder y cyhoedd. Gall y cyngor gymryd nifer o gamau ymarferol i gryfhau cyfleoedd trwy weithio gyda’i bartneriaid yn y byd addysg a hyfforddiant, a chyda diwydiant hefyd, er mwyn sicrhau bod y swyddi newydd hyn yn cael eu hysbysebu’n lleol.

 

·      Mynegodd yr aelodau bryderon am amseroedd ateb y ffôn a gofynnwyd hefyd a fyddai’n bosib i aelodau lleol dderbyn diweddariad ar gynlluniau rheoli llifogydd yn eu hardaloedd. Esboniodd y Prif Weithredwr na fu cais y Cyngor am arian gan Lywodraeth Cymru’n llwyddiannus, gan olygu ei bod yn anoddach rhoi’r cynlluniau ar waith, ond sicrhaodd y pwyllgor y byddai aelodau lleol yn derbyn diweddariad.

 

Ar ôl adolygu’r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gymeradwyo’r adroddiad a’i argymell i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Gweithred ychwanegol - darparu diweddariad i aelodau lleol perthnasol ar gynlluniau rheoli llifogydd yn eu hardaloedd.

 

Dogfennau ategol: