Eitem Rhaglen

Adroddiad gwrthwynebu ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i: Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghyd â’r adroddiad gwrthwynebu ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, yr adroddiad ac amlinellodd y cefndir. Mabwysiadodd y Cyngor ei Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2023 ac, ym mis Mawrth 2024, paratowyd Cynllun Strategol Amlinellol oedd yn blaenoriaethu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi oherwydd bod problemau yn gysylltiedig â choncrid RAAC yn yr ysgol.  Ar 22 Mai 2025, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 5 Mehefin ac 17 Gorffennaf 2025 a chyflwynwyd adroddiad ar y canlyniad i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Hydref 2025. Cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig, yn ogystal ag awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 6 Tachwedd 2025 ac, yn dilyn hynny, roedd cyfnod statudol o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebu’r cynnig. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Esboniodd yr Arweinydd Strategol (Sector Uwchradd) bod rhaid i’r Cyngor, sef y cynigydd, gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd, ynghyd â’i ymateb iddynt, a hynny er mwyn cydymffurfio ag adran 49 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Derbyniwyd dau wrthwynebiad dilys i’r cynnig, gyda’r ddau’n codi mwy nag un mater, a barnwyd bod y gwrthwynebiad arall a dderbyniwyd yn annilys. Mae’r gwrthwynebiadau hyn, ynghyd ag ymateb y Cyngor, wedi’u crynhoi yn adrannau 3 a 4 yn yr adroddiad. Yn unol ag adran 5.2 o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan fod y cynnig yn effeithio ar addysg chweched dosbarth, bydd angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynnig ac mae’n rhaid eu hysbysu cyn pen 35 diwrnod i ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, sef 23:59 ar 7 Ionawr 2026. Mae disgwyl penderfyniad gan y gweinidogion erbyn diwedd Mawrth 2026.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno fod ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ddilys a thrylwyr ac roeddent yn fodlon â chasgliadau’r swyddogion. Roeddent yn pwysleisio mai’r prif reswm dros y cynnig oedd cyflwr gwael adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi, a’r concrid RAAC sydd yn bresennol yn yr adeilad yn arbennig, ac oherwydd hynny adeilad newydd ar y safle arfaethedig yw’r ateb mwyaf ymarferol. Nododd yr aelodau hefyd y gwelwyd ymgysylltu cryf yn ystod yr ymgynghoriad statudol, yn enwedig gan ddysgwyr a disgyblion, ac roeddent o’r farn fod hynny’n galonogol.

     

Penderfynwyd –

 

·      Ar ôl ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, i barhau gyda’r cynnig i “adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.”

·      Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Gwrthwynebu i Weinidogion Cymru am y penderfyniad terfynol ar y cynnig i “adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.”

·      Awdurdodi swyddogion i roi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad (yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 011/2018) yn dilyn cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

·      Ymrwymo i ariannu cyfraniad y Cyngor tuag at gostau’r prosiect, fel yr amlinellir yn rhan 7 o’r Papur Cynnig gan gynnwys costau trosiannol (rhan 7.6 o’r Papur Cynnig) fydd yn weithredol o 2025/26 ymlaen.

 

Dogfennau ategol: