Eitem Rhaglen

Diweddariad Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys diweddariad hyd at 21 Tachwedd, 2025, ar yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf ar 30 Medi 2025, i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu llwyth gwaith presennol y gwasanaeth Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig wrth symud ymlaen. Darparwyd copïau ar wahân i’r aelodau o’r adroddiadau sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod dan sylw yn gysylltiedig â rheoli Perfformiad (Sicrwydd Rhesymol) a Diogelwch TGCh mewn Ysgolion uwchradd (Sicrwydd Cyfyngedig).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a roddodd grynodeb o’r ddau adolygiad sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod ac fe amlygodd y materion a nodwyd.  O ran yr adolygiad a dderbyniodd Sicrwydd Cyfyngedig, fe adroddodd bod y Cyngor wedi rhoi nifer o fentrau ar waith a’i fod wedi sefydlu tîm prosiect i fynd i’r afael â’r risgiau a godwyd.  Mae’r rheolwyr a’r ysgolion wedi cytuno ar gynllun gweithredu. Mae disgwyl i’r holl gamau gweithredu gael eu cwblhau erbyn mis Gorffennaf 2026 a bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad dilyn i fyny ym mis Ebrill 2026. Bydd y pwyllgor yn derbyn adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.  Oherwydd natur y pryderon a godwyd yn ystod yr archwiliad, bydd rhaid trafod yr adroddiad sicrwydd cyfyngedig yn ystod sesiwn breifat, yn amodol ar brawf budd cyhoeddus. Cytunodd y pwyllgor y dylai ystyried yr adroddiad a’r cynllun gweithredu yn gysylltiedig â Diogelwch TGCh mewn Ysgolion Uwchradd (Sicrwydd cyfyngedig) yn fanwl yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026, yn dilyn Adolygiad Cynnydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol, a gofynnwyd i Brif Swyddog Digidol y Cyngor fod yn bresennol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y Gwasanaeth Dysgu, y gwasanaeth TGCh a’r ysgolion uwchradd wrthi’n cydweithio i roi’r argymhellion hyn ar waith, a bod nifer ohonynt wedi cael eu cwblhau eisoes.   Bydd diweddariad mwy cynhwysfawr yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2026 fel y cytunwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y pwyntiau a ganlyn gan y pwyllgor - 

 

·      Roedd gan Aelodau amheuaeth ynglŷn â pha mor effeithiol a rhagweithiol yw fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor yn sgil canlyniadau’r archwiliad, yn enwedig y sicrwydd cyfyngedig a roddwyd yn gysylltiedig ag ansawdd data ar lefel gwasanaeth a chorfforaethol, sy’n peri risg i gywirdeb y canlyniadau a adroddir.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y gwasanaeth archwilio mewnol o’r farn bod y fframwaith yn effeithiol ar y cyfan a’i fod wedi ei ymgorffori ar hyd a lled y sefydliad ac mai’r prif fater yw’r anghysondeb o ran y modd y caiff perfformiad ei reoli ar draws gwasanaethau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Perfformiad Strategol a Phrosiectau bod yr archwiliad yn cefnogi’r farn bod y tîm Rheoli Perfformiad yn gweithio’n agos â gwasanaethau ar gynllunio busnes a monitro.  Mae’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol wedi cael ei adolygu ar gyfer 2025/26 fel ei fod yn cyd-fynd yn well ag anghenion strategol y Cyngor ac mae’n cael ei fonitro’n rheolaidd.  Roedd yn derbyn bod angen gwella’r modd y caiff data ei reoli a’i ddadansoddi, ond roedd o’r farn bod y broses graidd yn drylwyr a chadarn.

 

·      Gofynnodd yr aelodau p’un a ddylid poeni am nifer y materion sylweddol a chymedrol a nodwyd yn ystod yr archwiliadau Rheoli Perfformiad a Diogelwch TGCh Ysgolion Uwchradd, a p’un a yw’r materion diogelwch TGCh mewn ysgolion yn gritigol.

 

Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod un mater critigol wedi cael ei nodi yn yr adolygiad ar ddiogelwch TGCh mewn ysgolion uwchradd ond mae’r sgôr wedi cael ei leihau i sylweddol yn dilyn gwaith adferol.   Eglurodd bod pob archwiliad yn cael ei asesu’n annibynnol ac nad yw’r lefel sicrwydd yn seiliedig ar nifer y materion a godir. Cadarnhaodd nad oes ganddi bryderon ehangach, gan fod adroddiadau sicrwydd cyfyngedig yn anghyffredin.  Mae’r gwasanaeth archwilio mewnol yn rhoi blaenoriaeth i adroddiadau sicrwydd cyfyngedig ac yn sicrhau eu bod yn cael ei dilyn i fyny yn ffurfiol yn unol â phrotocol y gwasanaeth archwilio mewnol.

 

Penderfynwyd nodi canlyniad y gwaith Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a’r blaenoriaethu wrth symud ymlaen.

 

Dogfennau ategol: